Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

DALIWCH SYLW

 

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynhadledd ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Roedd pob aelod wedi cael cyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Fe dderbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Melvyn Mile a gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau a oedd wedi ei galw i gyfarfod arall. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a’r Parth Cyhoeddus yn dirprwyo ar ei rhan yng nghyfarfod y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Melvyn Mile.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau - Nicola Stubbins a’r Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a oedd yn anffodus yn methu ag ymuno â'r cyfarfod oherwydd methiant trydanol.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Dim.

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

Codwyd cwestiwn mewn perthynas â chydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgor, yn benodol mewn perthynas â nifer cynrychiolwyr Grŵp y Ceidwadwyr ar y Pwyllgor.  Eglurwyd fod swyddogion yn aros i'r Grŵp Annibynnol i enwebu cynrychiolydd i wasanaethu fel eu trydydd aelod ar y Pwyllgor. Ar ôl derbyn yr enwebiad hwnnw byddai’r Grŵp Ceidwadol yn cael cais i dynnu un o'i gynrychiolwyr o'r Pwyllgor.  

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â chydbwysedd gwleidyddol y Pwyllgor, yn enwedig mewn perthynas â nifer y cynrychiolwyr o’r Blaid Geidwadol ar y Pwyllgor. Esboniwyd bod swyddogion yn aros i’r Grŵp Annibynnol enwebu cynrychiolydd i wasanaethu fel trydydd aelod ar y Pwyllgor. Ar ôl derbyn yr enwebiad hwnnw, byddai gofyn i’r Blaid Geidwadol dynnu un o’i chynrychiolwyr yn ôl o’r Pwyllgor.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 456 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 10 Medi  2020 (copi ynghlwm).

 

10.05 – 10.10 a.m.

 

Penderfyniad:

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd-Davies ei fod wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod a gofynnodd am i hyn gael ei gofnodi yn y cofnodion a’i adlewyrchu yn ei gofnod presenoldeb.

 

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Cynigiwyd ac eiliwyd cywirdeb y cofnodion, yn amodol ar y gwelliant uchod. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar gynnwys yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd-Davies ei fod wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod a gofynnodd bod hynny’n cael ei gofnodi yn y cofnodion ac ar ei gofnod presenoldeb.

 

Penderfynwyd: Yn amodol ar gynnwys yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 10 Medi 2020 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNNIG TWF GOGLEDD CYMRU CAM 2 – CYTUNDEB LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 231 KB

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi ynghlwm) yn cyflwyno dogfennau allweddol i ddod i Gytundeb Bargen Derfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

10.10 – 10.50 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. 

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)           ar ôl ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth a’r dogfennau yn ymwneud â’r Cynnig Twf Terfynol a atodir fel Atodiad 1 i’r adroddiad, i gefnogi ac argymell y cynigion a gaiff eu cynnwys o fewn y dogfennau i’w cyflwyno i'r Cabinet a’r Cyngor i’w cymeradwyo yn ffurfiol; a

(ii)          chadarnhau ei fod fel rhan o’i ystyriaethau wedi darllen, deall ac ystyried cynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Les Cyngor Sir Ddinbych sydd wedi ei atodi fel Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Arweinydd y Cyngor, Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Rhoddodd Swyddog Monitro, Economi a Pharth Cyhoeddus, swyddog Adran 151 a’r Rheolwr Gweithrediadau o Swyddfa Rhaglen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, wybodaeth gefndirol fanwl ynglŷn ag amcanion hirdymor y Fargen Twf, a ddatblygir mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd), a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Rhoddwyd manylion am y goblygiadau ariannol i bob partner, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych, a’r budd hirdymor a rhagwelir yn sgil y buddsoddi arfaethedig yn economi’r sir a’r rhanbarth.  Dylai aliniad clos rhwng y Strategaeth Sgiliau ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru a’r Fargen Twf gefnogi cyflawniad y rhaglenni a’r prosiectau a amlinellir yn y Cynllun Busnes a sicrhau ffyniant economaidd yr ardal i’r dyfodol.  Er bod prosiectau wedi eu lleoli mewn amrywiol ardaloedd ar draws y rhanbarth, rhagwelwyd y byddent i gyd mwy neu lai yn dod â budd i’r rhanbarth cyfan, gyda rhai prosiectau’n dod â budd i rai ardaloedd yn fwy nag eraill. Ond, cai hyn ei gydbwyso drwy brosiectau eraill ddoi â budd i ardaloedd eraill.  Dywedwyd wrth yr aelodau, er mwyn symud y Fargen ymlaen i’r cam gweithredu, sicrhau arian i gyflawni’r prosiectau a gwireddu’r budd economaidd a ragwelir, bod angen i bob partner gytuno ac arwyddo’r Cynllun Busnes Cyffredinol a Chytundeb Llywodraethu 2 cyn diwedd 2020. Roedd dogfen Cytundeb Llywodraethu 2 yn rhoi fframwaith llywodraethu i’r cytundeb fyddai’n manylu ar strwythurau a phrosesau fyddai’n cael eu rhoi yn eu lle i ddiogelu pob partner a sicrhau trefniadau monitro a chraffu agored a thryloyw, er mwyn diogelu atebolrwydd y penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar ran ei holl asiantaethau partner.

 

Er bod gan aelodau’r Pwyllgor bryderon ynglŷn ag effaith posibl pandemig COVID-19, ynghyd ag ansicrwydd ynglŷn â BREXIT ac effaith unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol ar brosiectau a ffurfiwyd fel rhan o’r Cytundeb arfaethedig yn ogystal â ffyniant economaidd a gwydnwch yr ardal, roeddent yn cydnabod fod y Bwrdd wedi adnabod y risgiau hyn ac yn eu monitro.  Sicrhawyd yr aelodau fod y trefniadau llywodraethu a amlygwyd yn y ddogfen Cytundeb Llywodraethu 2 a’r Achos Busnes Cyffredinol yn gosod cap ar gyfraniad ariannol blynyddol pob awdurdod tuag at y Fargen Twf, gyda mesurau diogelu mewn lle a olygai, pe bai angen unrhyw arian ychwanegol, y byddai’n rhaid sicrhau proses ddemocrataidd pob awdurdod i’w gymeradwyo cyn y gellid ei ddarparu.

 

Arweinydd y Cyngor, Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Bu Swyddog Monitro, Economi a Pharth Cyhoeddus, Swyddog Adran 151 a Rheolwr Gweithrediadau'r Bwrdd yn ateb cwestiynau'r aelodau mewn perthynas ag amrywiol agweddau ar waith y Bwrdd hyd yma, y Fargen Twf a'r Cynllun Busnes cysylltiedig a’r amcanion hirdymor, a’r Trefniadau Llywodraethu, gan gynnwys craffu ar y Bwrdd a’r Fargen Twf i’r dyfodol.  Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder:

·         Cafwyd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn nhwf busnesau a symud ymlaen, yn lleol ac yn rhanbarthol. Drwy gydol pandemig Covid-19 roedd yr awdurdod a’r sector preifat wedi dangos hyblygrwydd a chadernid er mwyn goresgyn rhwystrau a phryderon.

·         Nodwyd, gyda phrosiectau Cyfalaf y byddai perygl cyson o orwario. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol mai penderfyniad y Bwrdd fyddai cefnogi gorwario ar brosiectau. Byddai’r gwariant mwyaf yn swm o £240 miliwn. Nododd y Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo mai’r tebygrwydd mwyaf fyddai gweld gorwario mewn prosiectau adeiladu mawr megis colegau. Byddai’r prosiectau rhanbarthol yn fwy syml ac yn aros o fewn eu cyllideb. Roedd gan swyddfa’r rhaglen gyfrifoldeb i fonitro’r prosiectau. Pwysleisiwyd fod gan yr Awdurdod uchafswm cyfraniad o £90K, ac os byddai’n rhaid adolygu hynny, byddai’n rhaid ei gyflwyno nôl i’r awdurdod lleol i gytuno  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Ar y pwynt hwn (11.30 am) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45 a.m.

 

6.

DIGARTREFEDD - EFFEITHIAU COVID 19 a CHYNLLUNIAU ADFERIAD, STRATEGAETH DDIGARTREFEDD A CHYFRIFIAD Y RHAI SY'N CYSGU AR Y STRYD pdf eicon PDF 314 KB

Derbyn adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn rhoi diweddariad ar gynnydd y Cynllun Gweithredu Digartrefedd Strategol a gweithrediad cynllun digartrefedd tri cham Llywodraeth Cymru ac i hysbysu aelodau ynghylch y fethodoleg ar gyfer cynnal y cyfrifiad blynyddol o’r rhai sy'n cysgu ar y stryd.

 

10.50 11.25 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.  Bu i’r Aelodau benderfynu:

 

- yn amodol ar y sylwadau uchod i gadarnhau eu bod wedi eu sicrhau fod Tîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych yn gweithio i gynllun tri cham Llywodraeth Cymru ‘Canllawiau Cynllunio ar gyfer Digartrefedd a Gwasanaethau Cefnogi yn Ymwneud â Thai’ i fynd i’r afael â materion digartrefedd yn y sir ac yn ei ymateb i bwysau a achoswyd gan bandemig COVID-19.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yr adroddiad ac atodiadau (dosbarthwyd yn flaenorol) i aelodau. Roedd Pennaeth y Gwasanaeth eisiau tynnu sylw at y pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn sgil y newidiadau mewn rheoliadau gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Covid-19. Fe nodwyd bod nifer yr aelwydydd digartref wedi dyblu bron yn sgil y newid i reoliadau Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd cadarnhad i’r aelodau bod cyllid cyfalaf wedi cael ei sicrhau er mwyn lleihau’r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer teuluoedd. Fe nodwyd hefyd bod cyllid refeniw wedi cael ei ddyrannu i gefnogi datblygu’r model newydd o gefnogaeth sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.

Yn sgil y newidiadau mewn rheoliadau, mae angen diwygiad i’r strategaeth digartrefedd. Mae’r newidiadau wedi cael eu cynnwys yn atodiadau’r adroddiad.

Dywedodd y Prif Reolwr - Gwasanaethau Cynnal wrth yr aelodau y gofynnwyd iddynt gyflwyno cynllun adfer (a amlinellwyd yn atodiad yr adroddiad).

Clywodd yr aelodau mai cam 2 canllaw Llywodraeth Cymru oedd wedi bod yn gyrru adferiad y gwasanaeth. Nod cyffredinol yr wybodaeth canllaw oedd dod â diwedd i ddigartrefedd a chyflwyno model ailgartrefu cyflym. Rhoddwyd pwyslais ar ddull corfforaethol gyda nifer o wasanaethau yn cydweithio. 

Pwysleisiodd y Prif Reolwr - Gwasanaethau Cynnal bod y gwaith oedd wedi cael ei wneud yn unol â’r canllaw ar bobl oedd yn cysgu ar y stryd, gyda’r nod na fyddai unrhyw unigolyn yn cysgu ar y stryd. Cadarnhawyd na fyddai cyfrifiad cysgu ar y stryd yn cael ei gynnal eleni. 

 

Diolchodd yr Aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad a’r atodiadau. Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Dim ond rhent ar gyfradd rhent tai lleol roedd y Cynllun Prydlesu Rhentu Preifat yn ei warantu, fe allai hynny fod yn llai na’r rhent masnachol allai fod ar gael. Roedd y niferoedd yn derbyn y cynllun 5 mlynedd yn isel, roedd gwaith yn parhau gyda landlordiaid er mwyn ymgysylltu â swyddogion ac ymuno â’r cynllun. Mae’r galw am lety rhent  yn uchel.

·         Roedd y Peilot ar gyfer Cynllun Prydlesu Rhentu Preifat fod i fynd yn fyw ym mis Chwefror 2020, ond yn sgil Covid-19, cafodd y dyddiad lansio ei ohirio tan fis Gorffennaf 2020.

·         Mae’r gwaith o gydweithio’n agos gyda Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar ailddefnyddio eiddo gwag wedi parhau, gan weithio gyda landlordiaid i ddatblygu eiddo i greu eiddo sy’n cyrraedd safon i alluogi pobl i fyw ynddynt. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth Cyhoeddus ei bod yn cymryd amser i ailwampio eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir i safon er mwyn i deulu allu byw yn yr eiddo.

·         Roedd cefnogaeth yn parhau i gael ei darparu i unigolyn cyn iddynt ddod yn ddigartref.  Roedd cefnogaeth ar gael ar bob lefel. Sefydlwyd cynllun gan Lywodraeth Cymru o’r enw Tai yn Gyntaf ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn helpu a chynorthwyo unigolion sy’n cysgu ar y stryd. 

·         Yn aml, defnyddio llety gwely a brecwast yw’r unig ddatrysiad sydd ar gael ar gyfer teuluoedd ac unigolion sydd yn ddigartref. Yn aml, caiff ei ddefnyddio fel darpariaeth argyfwng. Fe fydd y Cyngor yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i brynu eiddo y gellir ei ddefnyddio i ddarparu cefnogaeth, i atal teuluoedd a phlant bach rhag symud i leoliadau gwely a brecwast. Roedd y broses o chwilio am eiddo wedi dechrau, ond pwysleisiwyd eu bod yng nghamau cynnar y broses. Byddai angen cael gafael ar eiddo mwy i leoli unigolion sengl, roedd y cyfan yn y camau cynnar ar hyn o bryd. 

 

Diolchodd yr aelodau i’r swyddogion am yr adroddiad ac roeddynt eisiau diolch i’r tîm am yr holl waith caled  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH EBRILL 2019 – MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 313 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Gwasanaethau Diogelu Gweithredol (copi ynghlwm) sy'n gofyn i'r Pwyllgor adolygu

cynnydd y Cyngor mewn perthynas â threfniadau ac arferion diogelu lleol yn ystod y cyfnod uchod, a’u heffaith ar oedolion diamddiffyn yn y sir.

 

11.40 – 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.  Penderfynodd y Pwyllgor:

 

- yn amodol ar y sylwadau uchod:  

(i)           gydnabod ymdrechion y Cyngor i ddiogelu oedolion diamddiffyn yn y sir; a

(ii)          phwysigrwydd ymagwedd gorfforaethol at ddiogelu oedolion mewn perygl a chyfrifoldeb y Cyngor i ystyried hyn fel maes blaenoriaeth allweddol.

 

 

Cofnodion:

Fe arweiniodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr aelodau drwy’r adroddiad blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar gyfer 2019/20. Roedd elfennau o 2020/21 wedi cael eu cynnwys er mwyn adlewyrchu effaith Covid-19 ar y lefel o atgyfeiriadau diogelu.

Yn yr adroddiad, fe dynnwyd sylw at y sylwadau cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru mewn cysylltiad â diogelu. Roedd hyn yn adlewyrchiad o’r gwaith caled roedd y gwasanaeth wedi’i ddarparu gan roi hwb i ysbryd y tîm. 

Parhaodd y duedd mewn atgyfeiriadau i ddangos cynnydd, er y gwelwyd gostyngiad bychan yn 2020. Pwysleisiwyd y dylid ystyried y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn fesur cadarnhaol gan ei fod yn dangos bod pobl wedi adrodd pryderon oedd ganddynt. Rhoddwyd cadarnhad bod nifer yr atgyfeiriadau a gafodd eu symud ymlaen i gyfarfodydd strategaeth ar gyfer pryderon megis camdriniaeth wedi lleihau. Roedd hyn yn dangos bod ymyrraeth gynnar wedi gweithio’n dda ac wedi atal yr angen am ragor o waith.

 

Cafwyd cadarnhad mai mewn cartrefi gofal y byddai’r ffigurau uchaf o ddigwyddiadau. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol bod yr unigolion mwyaf diamddiffyn fel arfer yn byw mewn cartrefi gofal. Pwysleisiwyd bod y ffigurau’n ymwneud ag atgyfeiriadau, fe ellir gwneud mwy nag un atgyfeiriad mewn cysylltiad ag unigolyn. Gwnaed sylw bod y nifer o bobl o bobl yr honnir sy’n gyfrifol am gamdriniaeth o gyflogaeth am dâl yn uchel. Fe eglurwyd bod y nifer yn uchel am fod gweithwyr a chyflogwyr yn adrodd pob digwyddiad yn unol â’r rheoliadau a pholisïau. Rhoddwyd cadarnhad fod pob atgyfeiriad yn cael ei ymchwilio, ond nid oedd pob un yn cael eu huwchgyfeirio i lefel uwch ar ôl yr ymchwiliad. Cafodd y categorïau o gamdriniaeth honedig, lleoliad y gamdriniaeth honedig a’r cyflawnwyr honedig eu dynodi gan Lywodraeth Cymru.  Rhoddwyd cadarnhad y gallai’r categori ‘eraill’ fod yn gysylltiedig ag unigolion megis cymdogion neu unigolyn anhysbys. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Arbenigol bod y nifer o atgyfeiriadau a dderbyniwyd ychydig yn is na’r flwyddyn flaenorol, ond rhoddodd sicrwydd i aelodau bod gweithwyr yn parhau i fod yn ystyrlon o ddiogelu’r bobl ddiamddiffyn yn y gymuned  a’u bod wedi derbyn llawer o alwadau ffôn ers cyfnod clo Covid-19 yn ceisio cyngor ac arweiniad mewn perthynas â diogelu.

 

Diolchodd yr aelodau i swyddogion am yr astudiaeth achos oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad, gan ddweud ei fod yn ddefnyddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth.   

 

Felly;

Penderfynwyd: -: 

(i)           cydnabod ymdrechion y Cyngor i ddiogelu oedolion diamddiffyn yn y sir; a

(ii)          phwysigrwydd ymagwedd gorfforaethol at ddiogelu oedolion mewn perygl a chyfrifoldeb y Cyngor i weld hyn fel maes blaenoriaeth allweddol.

 

 

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

12.15 – 12.30 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.  Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod ac ar wneud ymholiadau gyda swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar eu hargaeledd i fynychu cyfarfod i drafod yr eitemau a restrir o dan yr adran ‘Materion y Dyfodol’, i gymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd eisoes) yn gofyn i

aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.  

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol –

 

  • Cytunodd aelodau i gynnwys adroddiad ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y cyfarfod nesaf ar 17 Rhagfyr 2020.

 

  • Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion yn cyfarfod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i drafod cynigion.
  • Roedd yr aelodau’n dymuno diolch i’r Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol am yr adroddiadau clir a dealladwy. 

 

Atgoffodd y Cydlynydd Craffu aelodau am y ffurflen cynnig craffu (Atodiad 2 a ddosbarthwyd eisoes) a dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion yn uniongyrchol ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu er mwyn eu cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Gofynnodd aelodau a fyddai modd amlygu cefnogaeth y Pwyllgor i Fargen Dwf Gogledd Cymru ar gyfryngau cymdeithasol. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n trafod unrhyw bwyntiau pellach gyda’r Cydlynydd Craffu ar ôl y cyfarfod. Felly;

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod ac ymholiadau a wneir gyda swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu hargaeledd i fynychu cyfarfod i drafod yr eitemau a restrir o dan yr adran ‘Materion y Dyfodol’, cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chafwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.  Felly:

 

Penderfynwyd: - derbyn a nodi’r wybodaeth a dderbyniwyd, a bod y materion yn ymwneud â'r cynnydd hyd yma gyda chyflawni prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych yn cael ei godi gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd y tro nesaf y byddant yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston ei bod wedi mynychu cyfarfod Grŵp Cyfeirio Budd-Ddeiliaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o bell ar ddiwedd mis Hydref. Hysbysodd y Cynghorydd Marston yr aelodau bod trafodaeth y grŵp wedi canolbwyntio ar dri maes allweddol:

·         Cynllunio ar gyfer y gaeaf

·         Cofnodion clinigol digidol

·         Achos busnes i ddatblygu cyn safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl i fod yn Ysbyty Cymuned newydd i Ogledd Sir Ddinbych

 

Roedd pryderon wedi codi am achos busnes yr Ysbyty gan nad oedd unrhyw gais cynllunio wedi’i gytuno na'i ganiatáu gan Adran Gynllunio Cyngor Sir Ddinbych hyd yma. Hysbysodd y Cynghorydd Marston aelodau’r grŵp cyfeirio budd-ddeiliaid y byddai hi’n ymgynghori â’r Adran Gynllunio a'r Aelod Arweiniol am ddiweddariad. Cadarnhawyd bod Adran Gynllunio Sir Ddinbych a BIPBC wedi parhau i gydweithio’n agos a chyfathrebu.

 

Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu yr aelodau at adroddiad y rhaglen gwaith i’r dyfodol (a ddosbarthwyd eisoes) a oedd yn cynnwys adroddiad i’r dyfodol am ‘Gynlluniau Bwrdd Iechyd ar gyfer gwasanaethau yn Sir Ddinbych’. Pwysleisiwyd y gallai fod yn anodd gofyn i gynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fynychu cyfarfod ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19. Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu y byddai’n holi a fyddai unrhyw un ar gael i fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Rhagfyr.   

 

Penderfynwyd: - derbyn a nodi’r wybodaeth a dderbyniwyd, a chodi’r materion yn ymwneud â chynnydd hyd yma o ran darparu prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd y tro nesaf y byddent yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm