Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Christine Marston a'r Cynghorydd David Williams.

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Christine Marston a’r Cynghorydd David Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu ragfarnllyd mewn unrhyw fusnes a nodir i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau sydd, ym marn y Cadeirydd, i’w hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 450 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 (copi ynghlwm)

 

10.05am – 10.15am

 

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws.  Cynigiwyd ac eiliwyd cywirdeb y cofnodion. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal. 

 

Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 fel cofnod gwir a chywir.

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 eu cyflwyno.

 

PENDERFYNWYD: - derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

 

5.

SEILWAITH – THEMA ADFER TAI pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau Cwsmeriaid (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio Cynllun Adfer ôl COVID-19 y Cyngor ar gyfer Gwasanaethau’n ymwneud a Thai.

 

10.15am – 10.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:- yn amodol ar y sylwadau uchod -

(i)           ei fod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth y gweithgareddau sy’n cael eu dilyn mewn perthynas ag adferiad ‘Gwasanaethau sy’n Gysylltiedig â Thai’ o’r cyfnod clo cyntaf oherwydd pandemig COVID-19; a

(ii)          wedi gofyn i adroddiad, yn amlinellu effeithiau COVID-19 ar ddigartrefedd yn y sir ynghyd â chynlluniau adfer y Cyngor mewn perthynas â mynd i’r afael â materion digartrefedd, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol agos

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad ac atodiadau i’r aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan roi gwybodaeth iddynt am y cynllun adfer ar ôl Covid-19 ar gyfer Isadeiledd y Flaenoriaeth Adfer Tai.

Fe dywysodd Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid yr aelodau drwy’r adroddiad a’r themâu adfer. Cyfeiriwyd at y ddau atodiad, y cyntaf oedd thema Adfer Tai oedd wedi’i lunio a’i gytuno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet ym mis Mai 2020, a’r ail oedd diweddariad am y gwaith a gwblhawyd.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid at Atodiad 2 oedd yn dangos y camau gweithredu a gwblhawyd a diweddariad i’r camau gweithredu yn Atodiad 1. 

 

Cafodd yr aelodau gadarnhad fod y gwaith i leihau’r croniad o waith atgyweirio tai nad yw’n waith brys wedi dechrau ym mis Awst. Yn sgil y cyfyngiadau ar ymweliadau yn ystod y cyfnod clo, mae croniad o’r achosion wedi cynyddu. Roedd y gwaith o ganolbwyntio ar y croniad ac ailafael yn y gwaith yn parhau.

 

Clywodd yr aelodau fod penderfyniad dirprwyedig i newid y broses Un Llwybr Mynediad at Dai dros dro wedi cael ei gytuno, gydag adolygiad wedi’i drefnu at ddiwedd mis Hydref. Y nifer diweddaraf o aelwydydd a oedd wedi cael llety oedd 40, ychydig yn uwch na’r hyn oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad.       

 

Er bod dyledion rhent wedi cynyddu, dywedodd swyddogion fod proses gyfathrebu gyda phreswylwyr a chynnwys Cyngor Ar Bopeth i gynorthwyo a swyddogion cymorth wedi cael eu darparu. Cafwyd cadarnhad fod Sir Ddinbych, ynghyd â Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda phreswylwyr oedd mewn perygl gyda dyledion rhent.

 

Roedd cyfathrebu gyda thenantiaid wedi bod yn hanfodol i’r cynllun adfer, gyda mwy na 3000 o alwadau ffôn cymorth i denantiaid diamddiffyn. Roedd defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon a chynnig cefnogaeth wedi bod yn werthfawr iawn. Cafwyd cadarnhad fod cynllun peilot wedi cael ei gymeradwyo i agor ystafell gymunedol o fewn Dolwen, Dinbych. 

 

Diolchodd yr aelodau i’r Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid am y cyflwyniad manwl drwy’r adroddiad. Yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor, dyma a wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion:

 

·         Cadarnhau fod gwaith wedi parhau gyda thenantiaid a bod swyddogion yn gweithio’n galed i ddatrys unrhyw faterion sydd gan denantiaid os nad oes modd iddynt symud i lety arall. Cynigiwyd cefnogaeth i denantiaid yn enwedig pan roeddynt yn derbyn cwynion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

  • Cafwyd cadarnhad y bu oedi yn prosesu taliadau gan Gredyd Cynhwysol, ac nid gan y tenant. Roedd y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar Gredyd Cynhwysol ac felly, wedi achosi problemau i breswylwyr. Y dyhead oedd galluogi preswylwyr i ddatblygu sgiliau a chael gwaith.
  • Roedd Aelodau’n cefnogi’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo â thenantiaid diamddiffyn. Teimlwyd bod yr agwedd hon o'r adferiad yn bwysig.
  • Rhoddwyd pwyslais ar nifer y preswylwyr yn y sir nad oes ganddynt fynediad at gyfleusterau ar-lein. Clywodd Aelodau y byddai’n rhaid ystyried a darparu cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau ar-lein.
  • Cafwyd cadarnhad fod gwaith ar wahân wedi cael ei gwblhau i fynd i’r afael â phryderon aelodau ynglŷn â digartrefedd yn yr awdurdod.
  • Pryder nad oes gan breswylwyr hŷn yn y gymuned fynediad at gyfryngau cymdeithasol. Roedd y ffôn wedi bod yn hynod werthfawr i’r preswylwyr yma.
  • Roedd y ffurflen Un Llwybr Mynediad at Dai wedi aros yr un fath.
  • Rhoddodd swyddogion sicrwydd fod contractwyr wedi dangos cardiau adnabod cyn gofyn am ganiatâd i gael mynd mewn i eiddo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion a’r Aelodau Arweiniol am yr adroddiad. Felly:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR: - yn amodol ar y sylwadau uchod -

 

(i)   ei fod wedi darllen, deall a chymryd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Ar yr adeg hon (11.10 am) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.20 a.m.

 

6.

CRYFDER CYMUNEDOL – THEMA ADFER pdf eicon PDF 221 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio Cynllun Adfer ôl COVID-19 y Cyngor ar gyfer datblygu a gwella cryfder cymunedol.

 

10.45am – 11.15am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

Penderfynodd yr Aelodau: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod, gefnogi’r cynllun adfer, fel yr amlinellwyr yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes) gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y cynnydd mewn perthynas â’r thema Adfer Cryfder Cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad Ymateb Coronafeirws Cyngor Sir Ddinbych: Adroddiad Cynllunio ar gyfer Adfer.

 

Tywyswyd Aelodau drwy’r adroddiad gan gyfeirio’n arbennig at bedwar amcan a amlinellir yn adran 2 o’r adroddiad eglurhaol.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

  • Roedd aelodau’n teimlo bod y galw gweithredol wedi bod yn boblogaidd iawn ac yn fuddiol i’r Cynghorwyr a oedd yn cysylltu â phreswylwyr. 
  • Rhoddwyd gwybod i Aelodau bod y cynllun cyfeillio ffurfiol wedi dod i ben, byddai’n rhaid i unrhyw gynlluniau ar gyfer y cynllun yn y dyfodol gynnwys adnoddau a chanllawiau.

 

Roedd yr Aelodau’n falch o glywed am y gwaith a oedd wedi'i gwblhau hyd yma ac roedd arnynt eisiau diolch i swyddogion a'r Aelod Arweiniol am y cymorth parhaus gydag aelodau a phreswylwyr lleol.

 

Felly;

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cefnogi’r cynllun adfer, fel yr amlinellir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

 

7.

CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu (copi ynghlwm) sy'n ceisio barn y Pwyllgor ar argymhellion i gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gaffael contract ar y cyd ar gyfer rheoli canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar draws y ddwy sir, a'r oblygiadau sy'n gysylltiedig â hynny o ran polisïau presennol ar reoli gwastraff.

 

11.30am – 12pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.

Penderfynodd y Pwyllgor: -

(i)           yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cefnogi'r egwyddor o gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gaffael contract ar y cyd ar gyfer rheoli Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn y ddwy sir. Mae hyn yn cynnwys y cynnig i alinio polisïau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ac i gymhwyso taliadau cyson ar draws pob safle ar gyfer rhai eitemau nad ydynt yn wastraff cartref; a

(ii)          cadarnhawyd, fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 1).   

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes) sy’n amlinellu cynnig i ymgysylltu â phroses gaffael ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) i reoli Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn y ddwy sir.

 

Rhoddwyd gwybod i’r aelodau fod CSDd a CBSC wedi bod yn awyddus i symud ymlaen â'r cynnig, gyda CBSC yn arwain y rhaglen. Clywodd yr aelodau rhai o fuddion tebygol i’r preswylwyr a’r busnesau. Roedd hyn yn cynnwys galluogi i breswylwyr ddefnyddio'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref (CAGC) agosaf ni waeth ym mha sir yr oedd ynddi, dull cyson gydag awdurdodau cyfagos a buddion ariannol o arbedion maint gan gynnwys cynnydd mewn diddordeb tendro gan gwmnïoedd gwastraff y sector preifat.

 

Hysbysodd Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yr aelodau y byddai angen newid i bolisïau presennol y Cyngor i ganiatáu’r cydweithio.

Cafodd yr aelodau eu cyfeirio at bwynt 4.5 yn yr adroddiad eglurhaol a oedd yn amlinellu elfen gost newydd y polisi.

 

Mae’r system archebu newydd, sydd ar waith ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig Covid-19, wedi bod yn gweithio'n dda, bydd y bwriad o barhau i’w defnyddio yn helpu’r awdurdodau i edrych ar nifer y preswylwyr sy’n defnyddio CAGC ar draws y ffin. Eglurodd Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol y bwriad i agor siop ailddefnyddio i ganiatáu i eitemau sy’n gallu cael eu hailddefnyddio gael eu gwerthu i aelodau’r cyhoedd.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Roedd y tîm gorfodi yn ystyried bod tipio anghyfreithlon yn fater difrifol iawn. Roedd yr holl honiadau o fewn Sir Ddinbych yn cael eu hymchwilio. Dywedodd Swyddogion, fel awdurdod, nad oedd tipio anghyfreithlon yn bryder, fel awdurdodau eraill. Teimlwyd na fyddai'r dull cydweithio yn arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon yn yr awdurdod.

·         Ni fyddai’r cynnig newydd yn cael unrhyw effaith ar gynlluniau ar gyfer cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu a gynigir ar gyfer Dinbych.

·         Byddai’r cynigion newydd yn cynhyrchu arbedion ar gyfer yr awdurdod. Nid oedd modd amcangyfrif yr union swm.

·         Cafwyd cadarnhad fod pob dirwy cosb benodedig heblaw un am dipio anghyfreithlon wedi cael eu hadennill.

·         Gwelwyd y cynnig am siop ailddefnyddio yn ffafriol a siaradodd Swyddogion o blaid y cynnig. Roedd y siop ailddefnyddio yng nghamau cynnar y broses dendro, gyda’r holl ddewisiadau yn cael eu hystyried.

·         Byddai'r cytundeb rhwng Sir Ddinbych a Chonwy yn cael ei lunio gydag Adran Gyfreithiol y Cyngor er mwyn sicrhau y byddai unrhyw anawsterau neu heriau sy'n wynebu Sir Ddinbych yn cael eu datrys yn hawdd neu bydd y Cyngor yn gallu gadael y cytundeb fel dewis olaf.

·         Byddai costau pob awdurdod yn cael eu dosrannu’n deg.

·         Sicrhaodd swyddogion yr aelodau bod y cynnig newydd am ddarparu rhagor o ddewisiadau i breswylwyr gael gwared o unrhyw wastraff cartref.

  

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu hadroddiad manwl a sylwadau i’r aelodau a chwestiynau arsylwyr.

 

Gwnaeth y Pwyllgor;

 

BENDERFYNU: -

(i)        yn amodol ar yr arsylwadau uchod, i gefnogi’r egwyddor o gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i greu cyd-gontract ar gyfer rheoli Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) yn y ddwy sir, gan gynnwys y cynnig i alinio polisïau CAGC ac i daliadau cyson gael eu cymhwyso ar draws pob safle ar gyfer eitemau penodol sydd ddim yn perthyn i'r cartref; a

(i)           cadarnhau, fel rhan o’r ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1).   

 

 

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad o raglen waith y pwyllgor i’r dyfodol ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

12pm – 12.30pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar yr argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol.  Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod yn dymuno ymatal.  

Penderfynwyd: - yn amodol ar yr argymhellion a wnaed yn ystod trafodaethau ar eitemau cynharach ar yr agenda, a chynnwys yr eitemau a awgrymwyd yn ystod y drafodaeth uchod, cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn am adolygiad yr aelodau o raglen waith y Pwyllgor a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol -

 

  • Nodwyd mai dyma’r cyfarfod cyntaf oherwydd pandemig Covid-19. Roedd yr agenda wedi cynnwys themâu adfer a’r adroddiad brys ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
  • Cytunodd yr aelodau i gynnwys adroddiadau ar Gynnig Twf Gogledd Cymru, effeithiau Digartrefedd Covid-19 a Chynlluniau Adfer, Y Strategaeth Ddigartrefedd a Chynllun Gweithredu 2017-2021 a’r Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion 2019/20 yn y cyfarfod nesaf.

·    Cytunwyd i gadw eitemau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

  • Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu i’r aelodau fod y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion yn cyfarfod ar 10 Medi a 12 Hydref i drafod cynigion.     

 

PENDERFYNWYD, y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y manylir arni yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm.