Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod 4, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 301 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2019 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2019.

 

O ran cywirdeb –

 

·         Amlygodd y Cynghorydd Christine Marston sut y gwnaeth hi ymddiheuro am y cyfarfod ond na chafodd ei nodi, a gofynnodd bod ei hymddiheuriadau’n cael eu nodi.

 

Materion yn Codi -

 

·         Gwnaethpwyd y pwyllgor yn ymwybodol bod Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiswyddo a bod Prif Weithredwr dros dro wedi'i benodi ers y cyfarfod blaenorol.

·         Teimlai'r aelodau nad oedd y trafodaethau a gynhaliwyd yn y cyfarfod diwethaf mewn perthynas ag Ysbyty Dinbych, Prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Dinbych a Phrosiectau Cyfalaf y Bwrdd Iechyd yn Sir Ddinbych yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol i'r pwyllgor. Roedd hyn oherwydd bod y materion wedi’u trafod mewn nifer o bwyllgorau eraill.

·         Tynnwyd sylw at eitem 8 ar y rhaglen a chwestiynau a gafodd aelod gan Swyddog Archwilio Cymru. Teimlai'r aelod nad oedd ganddo yr wybodaeth ddigonol ar gyfer y cwestiynau. Y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Ymatebodd cymunedau i'r pwynt trwy dynnu sylw, fel arweinydd y prosiect, na ellid ateb rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd felly nad oeddent yn adlewyrchu'n wael ar yr aelod.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

POLISÏAU'R CYNGOR A'R ASIANTAETH CEFNFFYRDD AR GYFER CYNNAL A CHADW YMYLON FFYRDD A PHERTHI A GWASGARU PLALADDWYR pdf eicon PDF 335 KB

I dderbyn adroddiad gan Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol ar bolisïau Cyngor Sir Dinbych ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) mewn perthynas â chynnal a chadw ymylon ffyrdd / perthi a gwasgaru plaladdwyr (copi ynghlwm).

 

10:05am – 11:00am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Priffyrdd, Effaith Amgylcheddol, Gwastraff a Theithio Cynaliadwy yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ochr yn ochr â'r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, a'r Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol. Hefyd roedd David Evans, Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth a Mark Watson-Jones, Cydlynydd Amgylcheddol o Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau ar gais y Pwyllgor ar ôl iddo ystyried Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth drafft y Cyngor yn ystod haf 2019. Yn ogystal, gofynnwyd am wybodaeth am ddefnydd y Cyngor o blaladdwyr.  Roedd yr aelodau’n ceisio sicrwydd bod polisïau cynnal a chadw ymylon/gwrychoedd priffyrdd Sir Ddinbych yn cael eu gweithredu’n gyson ledled y sir.  Wrth i dair cefnffordd, a oedd yn gyfrifoldeb Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru groesi’r sir, roedd cynrychiolwyr Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru hefyd wedi'u gwahodd i'r cyfarfod i drafod gyda’r Pwyllgor ei bolisïau mewn perthynas â chynnal a chadw ymylon/gwrychoedd a’r defnydd o blaladdwyr. 

 

Yn ystod y drafodaeth, dywedwyd wrth y Pwyllgor:

·         er y bu cryn sylw a si yn y cyfryngau ynghylch diogelwch Glyffosad a'r defnydd ohono, nid oes unrhyw chwynladdwr systemig effeithiol amgen wedi ei ddarganfod na'i ddatblygu.  Roedd nifer o awdurdodau yn archwilio dulliau amgen ac roedd gwyddonwyr yn ymchwilio i gynhyrchion amgen posibl, ond hyd yma Glyffosad oedd y cynnyrch mwyaf effeithiol o'i fath ar y farchnad.  Pe bai’r Cyngor ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn defnyddio dulliau neu gynnyrch amgen, bydden nhw naill ai’n lafurddwys neu’n ddrud i’w prynu.

·         Caiff Glyffosad ei drwyddedu a’i ddefnyddio gan holl lywodraethau’r DU.  Ar hyn o bryd, dyna’r unig ateb ymarferol ar gyfer delio gyda chwyn ar draws rhwydwaith y priffyrdd.  Roedd y math o chwynladdwr systematig a ddefnyddid gan y Cyngor ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru o safon diwydiannol a barnwyd ei fod yn gwbl ddiogel pe bai'n cael ei gymhwyso gan weithwyr hyfforddedig a chontractwyr a oedd yn cydymffurfio ag arferion gwaith diogel y cawsant hyfforddiant arnynt. Cafodd y plaladdwr ei chwistrellu ddwywaith y flwyddyn ar ffyrdd y sir.

·         Cafodd dulliau eraill, megis triniaeth ewyn poeth, eu defnyddio mewn meysydd penodol o’r sir, h.y. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Fodd bynnag, roedd y defnydd ohono yn gyfyngedig ac felly ni fyddai’n ymarferol i’w ddefnyddio ar draws rhwydwaith y briffordd;

·         Weithiau byddai trigolion yn dychryn wrth weld gweithwyr yn rhoi plaladdwyr mewn mannau cyhoeddus, yn gwisgo dillad amddiffynnol a masgiau wyneb pan oedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol. Fodd bynnag, honnwyd bod y plaladdwyr yn ddiogel i'r cyhoedd.  Y rhesymau pam roedd gweithwyr yn gwisgo'r dillad amddiffynnol oedd i gydymffurfio â rheolau iechyd a diogelwch yn ymwneud â chysylltiad hirfaith i gemegau, gan eu bod yn delio â nhw o ddydd i ddydd.  Nid oedd cysylltiad byrdymor, fel yr oedd y cyhoedd yn ei brofi, yn peri risg i iechyd

·         Roedd Cyngor Sir Ddinbych ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn rhan o Rwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru. Roedd hyn yn sicrhau bod pob asiantaeth a oedd yn gweithredu yn yr ardal yn defnyddio arferion bioamrywiaeth ac iechyd a diogelwch tebyg wrth dorri ymylon glaswellt a chwistrellu plaladdwyr.  Yn ogystal, gosodwyd pob contract cynnal a chadw priffyrdd yn dilyn proses dendro ffurfiol.  Lluniodd yr awdurdodau priffyrdd fanylebau'r contract a oedd yn nodi materion fel amlder toriadau, chwistrellu cemegol a'r mathau o gemegau i'w defnyddio, pob un ohonynt yn seiliedig ar ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol.  Byddai’r holl gontractau yn cael eu monitro er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda manyleb y contract.  Ni fyddai contractau bob amser yn cael eu gosod ar sail pris yn unig, roedd ansawdd y gwaith hefyd yn ffactor.  Roedd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

TRWYDDEDU YCHWANEGOL I DAI AMLFEDDIANNAETH pdf eicon PDF 238 KB

I dderbyn adroddiad gan y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd ac Amgylchedd Adeiladu ar Drwyddedu Ychwanegol i Dai Amlfeddiannaeth ac i gael mewnbwn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau cyn ymgynghori gyhoeddus (copi ynghlwm).

 

11:15am – 12:00pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad yr adroddiad, Trwydded Ychwanegol i Dai Amlfeddiannaeth, ochr yn ochr â swyddogion, Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd, Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Swyddog Gwarchod y Cyhoedd (Iechyd yr Amgylchedd).

 

Roedd Swyddogion wedi gofyn bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried cynnig i adnewyddu Cynllun Trwydded Ychwanegol i Dai Amlfeddiannaeth y Cyngor, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu yn Y Rhyl, yn ogystal ag ymestyn y cynllun i gynnwys eiddo perthnasol ym Mhrestatyn, Dinbych a Llangollen.  Cynghorwyd y Pwyllgor gan yr Aelod Arweiniol fod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch o effeithiolrwydd y cynllun cyfredol sy'n gweithredu mewn ardaloedd o fewn y Rhyl ac yn awyddus i'r cynllun gael ei adnewyddu. Yng ngoleuni llwyddiant y cynllun presennol, roedd y Cyngor yn awyddus i'w ymestyn i dair tref arall yn y sir, Dinbych, Llangollen a Phrestatyn er mwyn sicrhau y byddai tai amlfeddiannaeth nad ydynt yn dod o dan y cynllun gorfodol bellach yn cael eu rheoleiddio'n fwy effeithiol. Pwrpas y cynllun oedd sicrhau bod tai amlfeddiannaeth yn cael eu cynnal i safon resymol, a'u bod yn darparu llety addas a diogel i'r bobl a oedd yn byw yno. Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Craffu, y cam nesaf fyddai mynd â'r Cynllun i bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau perthnasol a chychwyn ymgynghoriad cyhoeddus 10 wythnos ar y Cynllun cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu.

 

Amlinellodd swyddogion y buddion o gael Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, gan ddweud bod y Cyngor wedi archwilio eiddo a gwmpesir gan y cynlluniau gorfodol ac ychwanegol i sicrhau cydymffurfiad. Roedd hefyd yn caniatáu i'r Cyngor weithio gyda landlordiaid preifat i sicrhau gwelliannau, a oedd yn ei dro yn helpu i leihau nifer y gwagleoedd yn y sir, cynyddu nifer yr unedau tai sydd ar gael yn Sir Ddinbych, yn ogystal â gwella perfformiad y Sir yn erbyn nifer yr eiddo gorlawn a gofnodwyd ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

 

Yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor, dyma a wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion:

·         cynghori bod ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn Tai Amlfeddiannaeth yn y sector preifat yn gofyn am gymryd camau monitro a gorfodi mwy llym lle bo angen;

·         cadarnhau bod y Tîm Gorfodaeth Tai yn cynnwys chwe aelod o staff cyfwerth â llawn amser ac yn hyderus, yn seiliedig ar ddata hygyrch cyfredol, y byddai hyn yn ddigon i reoli’r cynllun trwyddedu ychwanegol estynedig arfaethedig.  Elwodd y Tîm hefyd ar incwm a dderbyniwyd gan ffioedd a roddodd ychydig o hyblygrwydd iddynt gyflogi staff ychwanegol os oedd angen;

·         dweud bod erlyn landlordiaid nad oeddent yn cydymffurfio yn broses hir a chymhleth, a dyna'r rheswm am y nifer isel o erlyniadau a gynhaliwyd yn ystod y deng mlynedd y bu'r Cynllun yn gweithredu mewn rhannau o'r Rhyl. Roedd deialog, a chamau gorfodi neu waharddiad os oedd angen, yn offer rheoli llawer mwy effeithiol oherwydd er mwyn sicrhau eu hincwm o'u heiddo byddai landlordiaid yn gweithio gyda'r Cyngor yn y pen draw, gyda'r bwriad o gydymffurfio â'r gofynion;

·         esbonio'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r Rheoliadau Cynllunio, Adeiladu a Thrwyddedu ond yn pwysleisio bod y tri gwasanaeth yn cydweithio'n agos ar faterion sy'n peri pryder;

·         dweud bod y Gwasanaeth yn dibynnu'n helaeth ar wybodaeth adweithiol gan denantiaid, y cyhoedd ac aelodau etholedig ynghylch digwyddiadau posibl o ddiffyg cydymffurfio.  Gweithiodd yn agos hefyd gyda Gwasanaeth Digartrefedd y Cyngor ac asiantaethau allanol mewn perthynas â mynediad at wasanaethau tai a digartrefedd;

·         cadarnhau bod y Gwasanaeth wedi defnyddio data Rhentu Doeth Cymru i gymharu data cofrestru a thrwyddedu â'r hyn a gedwir  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

12:00pm – 12:10pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

2 Ebrill - eglurwyd ei bod yn debygol y bydd Cam 2 Cynnig Twf Gogledd Cymru – Cytundeb Llywodraethu - ar gael ar gyfer y cyfarfod. Eglurwyd mai ar gyfer trafod y gwaith llywodraethu oedd hyn ac nid sut roedd y cyllid yn cael ei ddyrannu.

 

21 Mai - Polisi Cynnal a Chadw Ymylon Glaswellt Priffyrdd y Cyngor wedi'i gynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:53 p.m.