Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7 (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad) gan ei fod yn gweithio i BIPBC.

 

Roedd y Cynghorydd Rachel Flynn (arsylwr) yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7 (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad) gan fod ei mab wedi'i atgyfeirio ar gyfer niwroddatblygiad gan CAMHS.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 435 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 eu cyflwyno.

 

Materion yn Codi - 

 

Tudalen 9 – gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ar y cynllun peilot tai.

Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu ei fod ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth a byddai diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ganol-2020, fel rhan o Strategaeth Digartrefedd ac adroddiad Cynllun Gweithredu 2017-2021.

 

Tudalen 13 – Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu bod holl wylanod wedi eu diogelu a bod Cynllun Rheoli wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Gorffennaf 2019 gyda nifer o gamau gweithredu. 

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod i dderbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

 

Trafododd y Pwyllgor yr eitem fusnes ganlynol, eitem rhif 5, yn ei swyddogaeth fel Pwyllgor Archwilio Trosedd ac Anhrefn dynodedig y Cyngor yn unol â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder adrannau 19 a 20.

 

 

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL AR GYFER 2018-19 pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar weithgarwch y Gyd Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn 2018-19 a’r cynllun gweithgarwch lleol a rhanbarthol ar gyfer 2019-20.

 

10.05am – 10.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Diogel, y Cynghorydd Mark Young yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i gael sylwadau’r Pwyllgor ar weithgaredd y Cydbartneriaethau Diogelwch Cymuned yn 2018-19 a’r Cynllun Gweithgaredd Lleol a Rhanbarthol 2019-20.  Roedd y Cynghorydd Young hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru rhanbarthol hefyd.  

 

Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 12 mlynedd yn ôl, unwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd), gyda CBSC yn gweithredu fel y prif gyflogwr.  Roedd yr Adran Gwella Busnes a Moderneiddio yn arwain o ran rheoli’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn Sir Ddinbych.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol eglurhad o’r ystadegau yn yr adroddiad.

 

Roedd trefn cyfarfod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynnwys:

·         Grŵp Llywio Strategol - cyfarfod deirgwaith y flwyddyn

·         Grŵp Tasg Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - a gynhelir yn fisol

·         Grwpiau Tasg a Gorffen – cynhelir fel bo’r angen

 

Roedd y tair blaenoriaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 2018-2019 fel a ganlyn:

·         Blaenoriaeth 1 - lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal leol a rhanbarthol

·         Blaenoriaeth 2 - lleihau aildroseddu – blaenoriaeth genedlaethol/ranbarthol

·         Blaenoriaeth 3 – blaenoriaethau lleol

 

Roedd gan bob maes blaenoriaeth nifer o ddangosyddion perfformiad i fonitro cynnydd a thueddiadau troseddau.   Adolygwyd yr ystadegau yn chwarterol yng nghyfarfodydd y Grŵp Llywio Strategol, gan weithredu ar unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Ailddioddefwyr trosedd – oedd yna dueddiad arbennig?  

Cadarnhaodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol y byddai’n casglu manylion ac yn dosbarthu i aelodau, ond roedd dulliau newydd o adrodd a chyfrif digwyddiadau wedi cael effaith ar y ffigyrau hyn.  

·         Oedd ystadegau ar gael ar gyfer trosedd gwledig – dywedodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol nad oedd ganddi'r ystadegau wrth law ond bu'n gweithio gyda'r tîm trosedd gwledig.   

Byddai’n casglu’r wybodaeth a’i dosbarthu i aelodau.

·         Roedd yna ychydig o feirniadaeth ynglŷn â’r heddlu ac nad oeddent yn ymchwilio bwrgleriaeth preswyl. 

Roedd rhif trosedd at ddibenion yswiriant yn cael ei roi allan ond ddim yn arfer cael ei ymchwilio.   Fodd bynnag, roeddent yn gweithredu nifer o fentrau a anelwyd at helpu trigolion i leihau'r risg o fod yn darged trosedd e.e. y fenter 'Sbarduno’ oedd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol at ddiben atgoffa pobl i gau a chloi pob drws a ffenestr i geisio osgoi bwrglariaid sy’n bachu cyfle.   

·         Problem pobl ifanc heb oruchwyliaeth rhiant rhwng 3.00pm 

(diwedd y diwrnod ysgol) a rhieni yn dychwelyd o’r gwaith fel arfer tua 5.00pm    Gallai hyn achosi problemau. 

·         Cadarnhawyd y byddai'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Mark Young yn cwrdd â'r Prif Arolygydd ac y byddai’n codi’r pryderon gydag ef ac yn gofyn iddo amlygu’r meysydd hyn yn ei gyflwyniad i sesiwn Briffio’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019. 

·          Eglurwyd bod nifer fawr o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu wedi mynychu’r cyfarfodydd CSP a’u bod yn hynod ragweithiol.    

·         Roedd llinellau cyffuriau yn bryder mawr a chadarnhaodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol fod holl asiantaethau ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i liniaru’r mater hwn.

·         Roedd meddiannu cartrefi hefyd wedi’i grybwyll ar gynnydd, ac eto roedd pob asiantaeth yn gweithio gyda’i gilydd mewn perthynas â’r mater hwn. 

·         Roedd trosedd casineb wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ond roedd yn ymddangos fel petai mewn lleoliadau penodol e.e. ysbytai, gorsafoedd heddlu a’r Ganolfan Ddiwylliannol yn y Rhyl.   

Byddai’r cydlynwyr rhanbarthol newydd arfaethedig yn canolbwyntio'n fawr ar eu gwaith o amgylch yr agwedd arbennig hon o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

·         Roedd pobl yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus fel yr adroddwyd, adroddir ar y canlyniadau mwy cadarnhaol.

·          Roedd gwerthu adeilad Neuadd Morfa yn y Rhyl  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2018 – 31 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Gwasanaethau Diogelu Gweithredol (copi ynghlwm) sydd am i’r Pwyllgor adolygu cynnydd y Cyngor o ran trefniadau ac arferion diogelu lleol yn ystod y cyfnod uchod, a’u heffaith ar oedolion diamddiffyn yn y sir.

 

10.45am – 11.30am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych 1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2019 (dosbarthwyd yn flaenorol). 

 

Dros y 12 mis diwethaf, bu ffocws parhaus ar wella cysondeb ac ansawdd gwaith diogelu.  Roedd cryn dipyn o waith wedi’i wneud i wella perfformiad yn erbyn dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru o ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith.  Er hynny, nid oedd ac ni fyddai’r Awdurdod yn llaesu dwylo yn y maes hwn.

 

Cafodd Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 gydsyniad brenhinol ym mis Mai 2019, oedd yn diwygio Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (“MCA”).  Roedd y diwygiadau’n cyflwyno’r Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd (LPS).  Nod y Ddeddf yw lleihau’r straen ar y system trefniadau diogelu rhag colli rhyddid ers dyfarniad Gorllewin Swydd Gaer a adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor Craffu. 

 

Roedd prif gyflawniadau yn 2018-19 fel a ganlyn:

·         Dyddiau penodol wedi eu sefydlu ar gyfer cyfarfodydd strategaeth cychwynnol yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus.

·         Archwiliadau chwarterol ar sampl o achosion diogelu er mwyn sicrhau ansawdd a chysondeb gwaith.

·         Cynllun peilot i sefydlu proses rhwng CSDd a'r bwrdd iechyd yn ymwneud ag adborth ar yr argymhellion a nodwyd o ganlyniad i’r broses ddiogelu. 

Roedd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar ddiogelu adroddiadau/nodweddion yn ymwneud ag Uned Ablett.  Bydd trosolwg o’r cynlluniau gweithredu diogelu hyn yn parhau’n gyfrifoldeb Craffu Diogelu Corfforaethol o fewn BIPBC.  Cytunir ar adolygiadau a rhan arweinwyr diogelu'r awdurdod lleol yn y cyfarfod strategaeth terfynol.

·         Peilota dull o fynd i’r afael ag adroddiadau diogelu yn ymwneud â briwiau pwyso. 

Nod y cynllun peilot oedd sefydlu proses agosach a mwy effeithiol rhwng BIPBC a’r awdurdod lleol.

·         Adolygu systemau i reoli ceisiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a dderbyniwyd.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Arbenigol bod atgyfeiriadau yn parhau ar gynnydd gyda 9.5% o gynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.   Roedd 21% o atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn mynd i gyfarfodydd Strategaeth. 

 

Esgeulustod a cham-drin corfforol oedd y mathau mwyaf cyffredin o gamdriniaeth a nodwyd, a oedd yn debyg i dueddiadau cenedlaethol.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·         Gofal priodol, yn arbennig amser prydau, os nad oedd person diamddiffyn yn gallu agor y bocsys brechdanau a ddarparwyd.  

Roedd hwn yn bryder a godwyd gan aelodau.  Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynnal Cymunedol y byddai’n codi’r pryder hwn gyda BIPBC  

·         Symud preswylydd i le diogel pan oedd problem gyda lleoliad wedi’i nodi yn ystod archwiliad – oedd yna amserlen?  

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynnal Cymunedol os oedd unigolyn yn gallu, gallent ddewis aros yn y lleoliad.    Os nad oeddent yn gallu yna cysylltir â’r Atwrneiaeth os oedd yna un, neu cynhelir Cyfarfod Penderfyniad Budd Pennaf.   Roedd Gweithwyr Cymdeithasol Arbenigol, Seiciatryddion a Seicolegwyr yn asesu pa un a oedd gan unigolyn gapasiti ai peidio

·         Roedd swyddogion yn amlinellu’r broses a ddilynir ar ôl derbyn honiad o gamdriniaeth

·         Roedd perfformiad Sir Ddinbych o ran delio gyda cham-drin honedig yn cymharu ag awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn yr un modd â’i berthynas gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol. 

Roedd dau dîm adnodd cymunedol iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu sefydlu yn Sir Ddinbych hyd yma.  Roedd y berthynas gyda’r timau hyn yn dda yn gyffredinol, gyda staff yn gweithio tuag at gyflawni nodau cyffredin;

·         Cadarnhaodd Swyddogion bod y posibilrwydd o gyflwyno achrediad ‘dyfarniad’ i gartrefi gofal yn cael ei ystyried fel rhan o drefn rheoliad cenedlaethol ar gyfer sefydliadau o’r fath.

·         uchelgais y Gwasanaeth oedd cyflawni canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth, tra’n lleihau’r nifer o achosion o gam-drin honedig.  

Fodd bynnag, roedd y ffaith bod honiadau o gam-drin yn cael eu cofrestru yn ei hun yn gadarnhaol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL PLANT A PHOBL IFANC A GWASANAETHAU NIWRO-DDATBLYGIAD

Derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn Sir Ddinbych, a Gwasanaethau Niwro-Ddatblygiad

 

11.40am – 12.30pm

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7 (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad) gan ei fod yn gweithio i BIPBC.

 

Roedd y Cynghorydd Rachel Flynn (arsylwr) yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7 (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad) gan fod ei mab wedi'i atgyfeirio ar gyfer niwroddatblygiad gan CAMHS.

 

Yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad ar lafar ar Wasanaethau Arbenigol Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAMHS) a Gwasanaethau Niwroddatblygiad o BIPBC oedd:

 

Bethan Jones, Cyfarwyddwr Ardal Canolog

 Sue Wynne, Rheolwr Gwasanaeth Clinigol, Ardal Ganolog, a

 Sara Hammond-Rowley, Pennaeth Seicoleg Plant a Therapïau Seicolegol

 

Cyflwynodd Bethan Jones, Cyfarwyddwr Ardal, Canolog y cyflwyniad ac amlinellodd yr amcanion sef:

·         Rhoi trosolwg o Wasanaethau Arbenigol CAMHS a Niwroddatblygiad i blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych wedi’i gysylltu â dull rhanbarthol BIPBC;

·         Amlinellu’r weledigaeth – dull systemau cyfan – ac amlygu gwaith partneriaeth / cydbrosiectau.

 

Amlinelliad o’r sylw presennol i iechyd meddwl yn y cyfryngau - y budd a'r canlyniadau posibl nas fwriadwyd:

 

Manteision -

Ø  Mwy o ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith y cyhoedd

Ø  Mwy o ymgyrchu

Ø  Llai o stigma, a 

Ø  Mwy o bobl yn dod ymlaen i ofyn am gymorth

 

Canlyniadau posibl nas fwriadwyd - 

Ø  Mwy o bobl yn gofyn am gymorth ar gyfer trallod ‘arferol’ oedd yn arwain at gynnydd yn y galw ar gyfer problemau nad oedd bob amser angen cymorth arbenigol

Ø  Gall y sawl â phroblemau iechyd meddwl sylweddol / salwch meddwl deimlo eu bod yn cael eu heithrio, roedd rhai yn teimlo bod y ffocws cynyddol ar “les” yn tanseilio difrifoldeb y problemau iechyd meddwl “gwirioneddol” a gallai yn anfwriadol leihau mynediad i’r sawl oedd ei angen fwyaf

Ø  Roedd mwy o wasanaethau yn disgrifio eu hunain yn canolbwyntio ar iechyd meddwl o bosibl yn arwain at ormod o wasanaethau yn gorgyffwrdd a dryswch.

 

Roeddent yn egluro’r gwahaniaeth rhwng Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd. 

 

Prif swyddogaethau CAMHS oedd:

·         Integreiddio

ü  Timau Amlddisgyblaethol

ü  Swyddogaethau

·         Un Pwynt Mynediad

·         Asesiad a Thriniaeth

·         Argyfwng

·         Gweithio gyda phartneriaid - Ymyrraeth Gynnar ac Ataliad

 

Roedd dull system gyfan nawr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau CAMHS gan y teimlwyd bod angen canolbwyntio ar bob agwedd o CAMHS i sicrhau fod popeth yn cael ei gymryd i ystyriaeth.    Byddai canolbwyntio’n benodol ar gyflawni targedau yn gwneud anghymwynas â phlant a phobl ifanc oedd angen cymorth mewn argyfwng.

 

Bu heriau yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf o ran recriwtio staff o ganlyniad i’r cynnydd yn y galw.   Roedd hon yn broblem genedlaethol.

 

Roedd ymgyrch recriwtio wedi'i gynnal yn ystod y 12 mis diwethaf a datblygwyd swyddi hyfforddiant newydd i ddenu gweithwyr proffesiynol i CAMHS.  Roedd yr ymgyrch recriwtio hwn wedi bod yn llwyddiannus gyda 30% ychwanegol o staff yn ymuno â’r tîm oedd yn dechrau yn eu swyddi ar hyn o bryd.    Byddai’r staff ychwanegol yn galluogi cyrraedd y 4 wythnos ar draws holl amseroedd aros ac asesiadau arferol.    Roedd ymgyrchoedd recriwtio ychwanegol yn creu diddordeb mewn swyddi a rhagwelir y sefydlir yn llawn erbyn diwedd Mawrth 2020.

 

Yn ystod trafodaeth fanwl, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Os oedd yna argyfwng, cadarnhawyd y byddai’r unigolyn yn derbyn cymorth a thriniaeth ar unwaith ac ni ddisgwylir iddynt aros.   

Byddai atgyfeiriadau nad ydynt yn argyfwng yn amodol ar gael eu rhoi ar restr aros, ond y nod oedd lleihau'r amser yr oedd unigolion yn dreulio ar restr aros. 

·         Ar gyfer gofal sylfaenol, roedd yna nod i leihau’r rhestrau aros. 

Roedd galw ar gynnydd oedd wedi’i gydnabod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

·         Roedd gwaith ar y gweill gyda chlwstwr  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

7 Tachwedd 2019 – 4 eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fyddai nawr yn aros fel y nodwyd. 

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cadeirydd i’r cyfarfod ddod i ben am 1.00pm i ganiatáu digon o amser ar gyfer pob eitem. 

 

Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu bod ffurflen cynnig wedi’i hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ynglŷn â defnyddio chwynladdwr ar draws y sir.    Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi gofyn i’r eitem gael ei chynnwys yn yr eitem ‘Polisïau  Cynnal Llain Las a Gwrychoedd Priffyrdd a Chefnffyrdd y Cyngor ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y pwyllgor ar gyfer y cyfarfod ar 13 Chwefror 2020.   Hefyd gofynnwyd i’r eitem hon gael ei rhestru fel yr eitem gyntaf ar y Rhaglen.

 

Roedd angen dau gynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau i fynychu’r Grŵp Monitro Safonau Ysgol.   Cytunwyd mai’r Cynghorwyr Hugh Irving a Peter Scott fyddai’r cynrychiolwyr. 

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm.