Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1A, County Hall, Wynnstay Road, RUTHIN, LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gareth Davies, Hugh Irving, Pat Jones,
Christine Marston a Melvyn Mile. |
|
Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Joan Butterfield ac Emrys Wynne gysylltiad personol
mewn cysylltiad â'r mater oedd yn cael ei drafod yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Notice of items which, in the opinion of the Chair, should be considered at the meeting as a matter of urgency pursuant to Section 100B(4) of the Local Government Act 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
TAWELFAN I drafod gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ganfyddiadau archwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) (ac ymchwiliadau cysylltiol eraill) i’r gofal a‘r driniaeth a ddarparwyd ar gyfer cleifion ar Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd, yn cynnwys y gwersi a ddysgwyd a chynlluniau’r Bwrdd o ran diogelu unigolion bregus a darparu gwasanaethau dementia yn y dyfodol. Dolenni cyswllt at adroddiad HASCAS: Crynodeb Gweithredol: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/opendoc/324119
Adroddiad llawn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/opendoc/324118 Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r
cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. Fe atgoffwyd yr
aelodau o gasgliadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal
Cymdeithasol (HASCAS) ac ymchwiliadau cysylltiedig eraill mewn i'r gofal a
thriniaeth a roddwyd yn Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd, ac roedd dolenni ar
eu cyfer wedi cael eu cynnwys yn yr agenda ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o’r wyth prif gwestiwn roedd y
Pwyllgor wedi’u paratoi mewn cyfarfod cynharach wedi cael eu rhannu gyda
swyddogion y Bwrdd Iechyd ymlaen llaw i’w galluogi i roi ymatebion cynhwysfawr
iddynt yn y cyfarfod. Yn gynharach ar ddiwrnod y cyfarfod, roedd y Bwrdd Iechyd
wedi darparu dolenni i’r Pwyllgor i nifer o adroddiadau a drafodwyd yng
nghyfarfodydd y Bwrdd Iechyd oedd yn ymwneud â chasgliadau’r adolygiadau, roedd
y rhain yn ddogfennau cyhoeddus ers peth amser ac mae’n debyg y byddai’r
aelodau yn gyfarwydd â’u cynnwys. Cadarnhaodd
swyddogion y Bwrdd Iechyd y byddant yn ateb cwestiynau’r aelodau mor
gynhwysfawr â phosibl yn ystod y cyfarfod ac fe wnaethant addo darparu atebion
ysgrifenedig i’r cwestiynau a holwyd. Cyn ateb
cwestiynau’r Pwyllgor, rhoddodd gynrychiolwyr BCUHB ychydig o gefndir a
chyd-destun i’r ymchwiliadau a gomisiynwyd mewn cysylltiad â Thawelfan. Fe
wnaethant gadarnhau bod y broses wedi bod yn un faith oherwydd y nifer o
ymchwiliadau a gynhaliwyd. Bu dau ymchwiliad gan HASCAS, un ymchwiliad
cyffredinol ac un yn arbennig i deuluoedd oedd wedi cael eu heffeithio. Roedd
yr ymchwiliad diwethaf yn parhau. Yn rhan o’r adolygiad hwn, roedd adroddiadau
108 o gleifion unigol wedi cael eu paratoi a’u hadolygu. Roedd y gwaith yma’n
cynnwys gweithio gyda theuluoedd, os oedd aelodau’r teulu yn bodoli ac yn
fodlon gweithio gyda’r adolygwyr. Os daethpwyd o hyd o niwed i glaf, cafodd
gweithdrefnau cenedlaethol a osodwyd eu dilyn i ymchwilio i’r achosion hynny.
Os oedd angen, roedd yr adolygwyr wedi cwrdd ag aelodau’r teuluoedd ar sawl
achlysur fel rhan o’r broses adolygu. Roedd yr adolygiadau wedi cael eu cynnal ar gyflymder oedd yn addas i’r
teulu ac yn cynnwys agweddau roedd y teulu’n teimlo oedd yn bwysig iddynt. Mewn rhai achosion, roedd cynrychiolwyr o’r
Cyngor Iechyd Cymuned a/neu eiriolwyr o ddewis y teulu wedi bod yn bresennol. Yn dilyn cyhoeddi
adroddiadau HASCAS ac Ockenden, dywedodd y swyddogion ei bod yn bwysig bod y
Bwrdd Iechyd yn ymateb yn briodol iddynt. Fel rhan o’r ymateb, roedd y bwrdd
wedi sefydlu dau fwrdd lefel uchel er mwyn bwrw ymlaen ac i wireddu’r
gwelliannau. Sef: ·
Y
Grŵp Gwella (gyda’r Cyfarwyddwr Nyrsio yn cadeirio); a ·
Y
Grŵp Budd-Ddeiliaid roedd y Bwrdd
Iechyd yn goruchwylio’r ddau ohonynt, gan edrych ar faterion megis gwella
recriwtio staff, gwelliannau i adeiladau a chyfleusterau, a chodi ymwybyddiaeth
o ddementia ymysg staff ar draws y Bwrdd Iechyd. Gan ymateb i
gwestiynau’r Pwyllgor, dyma oedd gan swyddogion y Bwrdd Iechyd i’w ddweud: ·
bod
costau oedd yn gysylltiedig â chau’r ward yn fach a bod yr adeilad yn cael ei
gynnal fel rhan o raglen cynnal a chadw’r ysbyty ei hun. Roedd y brif gost oedd
yn gysylltiedig â chau ward Tawelfan yn ymwneud â gwariant a gafwyd wrth leoli
rhai cleifion dros dro mewn lleoliadau gofal addas y tu allan i ardal y Bwrdd
Iechyd. Yn ogystal â bod yn
gostus, nid oedd lleoliadau o’r fath yn ddelfrydol ar gyfer y claf na’u
teuluoedd; · cafwyd cadarnhad bod trafodaethau ar y gweill gyda Thîm Ystadau Llywodraeth Cymru ynghylch ail-ddylunio hen ward Tawelfan yn rhan o’u cynlluniau ehangach i ail ddylunio Uned Ablett. Nid oedd y cynlluniau hyn, oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer adeilad addas i’r diben cyfeillgar ... view the full Cofnodion text for item 4. |