Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Hugh Irving ac Andrew Thomas

Y Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth)

Nicola Stubbins – Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Davies gysylltiad personol ag eitemau 5 a 6 gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 399 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu. Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 eu cyflwyno.

 

Materion yn Codi – Tudalen 9, Eitem 5 Darpariaeth Gorfodaeth Amgylcheddol – Dywedodd y Cadeirydd bod dolen i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet fis Medi 2018 ar y ‘Dewisiadau ar gyfer Gorfodi Rhag Troseddau Amgylcheddol’ wedi’i chynnwys ym Mriff Gwybodaeth y Pwyllgor (a gylchredwyd ymlaen llaw).

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

YSBYTY DINBYCH

Derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau yn Inffyrmari Dinbych yn y dyfodol.

10.10 a.m. – 10.45 a.m.

 

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol – Therapïau a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i drafod dyfodol y gwasanaethau yn Ysbyty Dinbych. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyfarwyddwr Rhanbarth: Canol BIPBC (Bethan Jones).

 

Wrth roi’r cyflwyniad darparodd Gyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol y Bwrdd Iechyd drosolwg bras o gefndir cau’r ward yn Ysbyty Dinbych, gan gynnwys gwybodaeth am yr archwiliadau a’r arolygon tân manwl, a’r canlyniadau a arweiniodd at gomisiynu gwaith i ganfod y costau a’r raddfa amser ar gyfer gwneud y ward yn addas i’r diben eto. Nododd y gwaith hwn wyth dewis posibl ar gyfer dyfodol y gwasanaethau yn yr ysbyty. Sef:

 

·         Ailwampio’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf i ddarparu 14 gwely, a fydd yn costio rhwng £10 ac £11 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd

·         Dymchwel ac ailgodi’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf i ddarparu 16 gwely, a fydd yn costio rhwng £11 ac £12 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd

·         Symud yr Adran Ffisiotherapi i ran arall o’r ysbyty er mwyn creu 4 bae gwely, a fydd yn costio rhwng £1.2 ac £1.4 miliwn ac yn cymryd oddeutu dwy flynedd

·         Codi ward 5 gwely newydd rhwng yr Ystafelloedd MacMillan ac adeilad y clinig, a fydd yn costio rhwng £1.2 ac £1.3 miliwn ac yn cymryd oddeutu 2 flynedd

·         Codi ward 6 gwely newydd, a fydd yn costio rhwng £4.5 a £5 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd

·         Dymchwel y gegin a’r ward uchod a chreu ward 6 gwely newydd, a fydd yn costio rhwng £3.5 a £4 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd

·         Addasu’r ystafell wydr wrth ymyl y ward MacMillan yn uned un ystafell wely heb ystafell ymolchi, a fydd yn costio oddeutu £100,000 ac yn cymryd oddeutu 12 mis

·         Symud yr ystafell mamolaeth i’r llawr gwaelod, a fydd yn costio rhwng £350,000 a £400,000 ac yn cymryd oddeutu 12 mis

 

Mae’r dewisiadau hyn yn destun gwaith pellach.

 

Os gwneir penderfyniad, yn dilyn dadansoddiad manwl o’r dewisiadau, i ail-ddarparu’r ward cyfan yna byddai angen cau’r ysbyty i gyd er mwyn ymgymryd â’r gwaith. I sicrhau bod digon o wlâu cymunedol yn yr ardal yn ystod cyfnod y gwaith adeiladu, ni fydd modd cychwyn y gwaith tan y bydd Ysbyty Gogledd Sir Ddinbych wedi agor. Serch hynny, byddai modd ymgymryd â rhywfaint o waith ar y safle yn y cyfamser. Mae cynghorwyr sir lleol a Chynghrair Cyfeillion yr Ysbyty yn awyddus i sicrhau nad yw’r ward yn wag yn y cyfamser oherwydd y byddai hynny yn lledaenu’r neges anghywir o ran dyfodol y safle. Felly, mae’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Sir wedi cytuno i leoli aelodau o dîm Adnoddau Cymunedol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Cyd Ardal Dinbych ar Ward Lleweni tan y bydd unrhyw waith ailwampio yn barod i’w wneud. Byddai’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn symud i rywle arall cyn i’r gwaith ddechrau.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymunedol bod swyddogion y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd â Grŵp Ardal Aelodau Dinbych yn ddiweddar i drafod dyfodol yr ysbyty. Yn ystod y cyfarfod gofynnodd yr aelodau i’r Bwrdd Iechyd ystyried dewisiadau ehangach ar gyfer y safle gyda Chyngor Sir Ddinbych a sefydliadau partner eraill. Ers y cyfarfod hwnnw mae’r Bwrdd iechyd wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o gyllid y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer gwaith ymchwil i fapio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer gwasanaethau iechyd, lles a gofal cymdeithasol integredig yn ardal Dinbych.

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaethpwyd y sylwadau canlynol gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd –

 

·         Mae ystyriaeth wedi’i roi, pan gaewyd Ward Lleweni, i'r posibilrwydd o ail-ddarparu gwlâu ar sail  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AR BROSIECTAU CYFALAF Y BWRDD IECHYD

Derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran cynnydd gyda phrosiectau cyfalaf yn Sir Ddinbych sy’n ymwneud â Phrosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych, Canolfan Iechyd Corwen, Clinig Rhuthun a datblygu’r Timau Adnoddau Cymunedol.

10.45 a.m. – 11.30 a.m.

 

Cofnodion:

Gwahoddwyd cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar gynnydd prosiectau cyfalaf yn Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol – Therapïau gyflwyniad ar gynnydd y gwaith i ddatblygu Campws Iechyd a Lles ar gyfer gogledd Sir Ddinbych ar ac o gwmpas safle’r hen Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol y Bwrdd Iechyd ar gyfer y campws ym mis Ionawr 2019 a bod y Bwrdd bellach yn cymryd y camau terfynol i ddatblygu Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect. Mae hyn yn cynnwys gwirio cadernid a threfniadau dylunio a thendro'r adeilad a’r modelau gwasanaeth; gyda'r bwriad o gyflwyno'r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth 2020. Yn ystod y cyflwyniad disgrifiodd y model arfaethedig ar gyfer gwasanaethau a’i fudd i’r ardal a’i phreswylwyr, sef –

 

·         Gwaith integredig rhwng gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi gofal brys / yr un diwrnod, a fyddai’n lleihau’r galw ar Adran Frys Ysbyty Glan Clwyd

·         Rhoi’r gallu i bractisiau clwstwr reoli’r galw am ofal sylfaenol

·         Cynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael ar ôl 5pm yn yr ardal

·         Gwella’r cydweithio rhwng partneriaid iechyd, yr awdurdod lleol, y trydydd sector a’r gymuned drwy wneud y mwyaf o’r adnoddau ac integreiddio a chydleoli timau amlasiantaeth neu amlbroffesiwn a gwella’r broses o recriwtio a chadw staff

·         Campws iechyd a lles ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy’n darparu ystod o lwybrau gofal, o hunanreoli i wlâu gofal cleifion mewnol

·         Gwasanaethau addysg, gwybodaeth ac atal

·         Ystod o wasanaethau cleifion allanol symudol gyda phwyslais ar ofal yn agosach at y cartref a darparu profiad gwell i'r cleifion a lleihau nifer y trosglwyddiadau i'r ysbyty cyffredinol dosbarth

·         Dull integredig i gwrdd ag anghenion corfforol ac iechyd meddwl pobl hŷn, gyda golwg ar leihau’r effaith ar wardiau Ysbyty Glan Clwyd a phwyslais ar adferiad ac ailalluogi i gynorthwyo annibyniaeth a lleihau’r angen am ofal mwy sefydliadol

·         Cadw ac ailwampio adeilad gwreiddiol Ysbyty Brenhinol Alexandra

Er bod hyn wedi cynyddu costau’r prosiect ac yn gymhleth, roedd ei gynnwys yn y cynlluniau yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol yr adeilad i’r dref. O’r £40 miliwn sydd wedi’i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r campws cyfan, bydd oddeutu £7 i £8 miliwn yn cael ei wario ar yr adeilad gwreiddiol i osod systemau gwresogi a thrydanol newydd, i adfer y tu allan ac i ailwampio rhywfaint o’r tu mewn i wneud lle i staff cymorth a thimau amlasiantaeth megis y Gwasanaethau Un Pwynt Mynediad a’r Gwasanaethau Iechyd Meddal Plant a’r Glasoed (CAMHS). Mae statws rhestredig yr adeilad yn cyfyngu ar y dewisiadau ar gyfer gwaith ailwampio mawr i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd modern yn yr adeilad.

 

Bydd y campws newydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r canlynol –

 

·         Canolfan ofal yr un diwrnod

·         Clinigau cleifion allanol

·         Gwlâu cleifion mewnol

·         Ystafell therapi mewnwythiennol (ystafell IV)

·         Diagnosteg

·         Gwasanaethau therapi

·         Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol

·         Gwasanaethau Iechyd Rhywiol

·         Gwasanaeth Cleifion Allanol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn

·         Canolfan gymunedol sy’n cynnwys caffi, darpariaeth trydydd sector ac ystafelloedd cyfarfod i gefnogi’r gymuned leol

 

Cynigiwyd y dylai’r Bwrdd Prosiect ailffurfio yn y dyfodol agos i fwrw ymlaen â’r achos busnes terfynol a’i fireinio yn barod ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru fis Mawrth 2020, gyda’r gobaith y bydd yn cael ei gymeradwyo fis Mehefin 2020 er mwyn agor yr adeilad newydd fis Ebrill 2022 a gorffen ailwampio’r hen ysbyty cyn diwedd 2022.

 

Dyma ymateb cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i gwestiynau’r aelodau –

 

·         Bydd yr achos busnes terfynol ar gyfer yr ysbyty yn cynnwys y gofynion o ran y gweithlu a’r staffio

Gan nad yw’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

11.45 a.m. – 12 canol dydd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.

 

Yn ystod y drafodaeth –

 

·         Dywedwyd fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 23 Mai, sef diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop, ac felly bydd yn rhaid aildrefnu’r cyfarfod os oes etholiad i fod yn y DU.

·         Cadarnhawyd eitemau rhaglen cyfarfod mis Mai a chytunwyd i wahodd yr Aelodau Cabinet perthnasol i’r cyfarfod; hefyd, cadarnhawyd y bydd cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bresennol ar gyfer yr eitem ar Wasanaethau Iechyd Meddal Plant a’r Glasoed (CAMHS).

·         Gofynnodd y Cydlynydd Craffu bod ffurflenni cynigion aelodau ar destunau craffu posibl yn cael eu cyflwyno wythnos cyn cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ar 25 Ebrill – awgrymwyd y dylid gwahodd yr Heddlu i gyfarfod craffu er mwyn trafod plismona yn y sir a chytunodd y Cynghorydd Gareth Davies i gyflwyno ffurflen gynnig mewn perthynas â hynny.

·         Cadarnhawyd y byddai diweddariad ar Ysbyty Dinbych a phrosiectau cyfalaf eraill y Bwrdd iechyd, fel y gofynnwyd amdanynt gan y Pwyllgor dan eitemau rhaglen blaenorol, yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer mis Rhagfyr.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

12 canol dydd

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Rhys Thomas ar Herio Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol. Dywedodd fod y cyfarfod yn un da gyda llawer o gwestiynau craff. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y gyllideb, plant sy'n derbyn gofal a chyfrifoldebau rhianta’r Cyngor, materion diogelu a lleoedd ysgolion. Bydd cofnodion manylach y cyfarfod yn cael eu hanfon at aelodau yn y modd arferol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Joan Butterfield, cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas bod y gofyniad i ysgolion wneud arbedion o 2% wedi'i drafod yn y cyfarfod trywydd ymholi a bod y cyfarfod herio yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfrifoldebau’r gwasanaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr fod sicrwydd wedi’i roi o ran rheolaeth ariannol gadarn cyllidebau ysgolion a bod cynlluniau adfer ariannol yn eu lle ar gyfer yr ysgolion hynny mewn diffyg ariannol.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.12 p.m.