Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem 5 oherwydd ei rôl fel ynad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 491 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2018 (copi ynghlwm).

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a chanmol safon uchel y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DARPARIAETH GORFODI AMGYLCHEDDOL pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Gwarchod Y Cyhoedd a’r Amgylchedd Adeiledig (copi ynghlwm) er mwyn ymgynghori gydag aelodau ar y fanyleb ddrafft ar gyfer y contract er mwyn darparu contract gorfodi troseddau amgylcheddol.  Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu darparu a rheoli'r contract gorfodi amgylcheddol newydd.

 

10.05am – 10.50am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd adroddiad Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw). Mae’r adroddiad yn ymwneud â’r ymgynghoriad ynghylch manyleb ddrafft y contract i ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol yn y sir. Rhoddodd yr Aelod Arweiniol wybodaeth gefndir i’r Aelodau ac egluro pam bod y Cyngor yn chwilio am ddarparwr newydd i ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol, yn dilyn penderfyniad Kingdom Security Limited i ddod â’u contract gyda’r Cyngor i ben ym mis Awst 2018. Cyn penderfyniad Kingdom i ddod â’r contract i ben, roedd yn amlwg bod rhai trigolion yn anhapus gyda dull y cwmni tuag at orfodaeth troseddau amgylcheddol. Yn dilyn ymadawiad Kingdom roedd aelodau etholedig wedi ei gwneud yn glir y dylai ffocws unrhyw gontract yn y dyfodol fod ar weithgareddau gorfodaeth baw cŵn, gyda phwyslais ar addysgu troseddwyr a thrigolion am beryglon baw ci a phwysigrwydd cadw at Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ymwneud â rheoli cŵn. Tra bod y fanyleb ddrafft a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei hystyried yn canolbwyntio ar droseddau yn ymwneud â chŵn, mae hefyd yn cynnwys darpariaeth i benodi contractwr i orfodi yn erbyn troseddau amgylcheddol eraill fel taflu sbwriel, begera ac ati. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol nad yw gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol erioed wedi eu darparu’n fewnol gan y Cyngor, ac felly mae cost sefydlu gwasanaeth mewnol, Sef oddeutu £200,000 a £250,000, yn afresymol. Cynghorodd hefyd bod ymholiadau wedi eu gwneud o ran y posibilrwydd o gydweithio’n rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol. Fodd bynnag nid yw hyn yn hyfyw yn y dyfodol agos ond mae’n bosibl y bydd cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gaffael gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol yn ddewis yn y dyfodol. Mae manyleb ddrafft Sir Ddinbych wedi ei rhannu gyda CBSC er mwyn archwilio hyfywedd tendro am wasanaethau gyda’n gilydd yn y dyfodol.

 

Dywedodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod y dull newydd arfaethedig ar gyfer delio â throseddau amgylcheddol yn cynnwys tair elfen ar wahân, sef:

·         Cyfathrebu gyda’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb personol, gyda’r bwriad o gael ymrwymiad cymunedau i nodau ac amcanion y strategaeth baw cŵn a’r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol

·         Strydoedd glân a thaclus, gwaith y tîm Gwasanaethau Stryd a’u dull rhagweithiol at roi gwybod i’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd am fannau problemus er mwyn i’r gwasanaeth dargedu’r ardal a gosod posteri a dosbarthu taflenni

·         Camau gorfodi (gan gynnwys sesiynau mewn ysgolion ac ar gyfer grwpiau cymunedol ac ati)

 

 Dywedodd Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd y bu i Kingdom ddarparu gwasanaethau gorfodaeth troseddau amgylcheddol am bum mlynedd bron. Yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd contract y cwmni gyda’r Cyngor ei reoli a’i fonitro’n effeithiol gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd: Diogelwch Cymunedol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, eglurodd yr Aelod Arweiniol a Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd y canlynol:

·         Mae’r penderfyniad i roi’r gwaith allan ar dendr a chaffael gwasanaethau gan ddarparwr allanol eisoes wedi ei wneud gan y Cabinet ym mis Medi 2018, pwrpas yr adroddiad i'r Pwyllgor yw ymgynghori ynghylch manyleb y contract

·         Mae Gwasanaeth Addysg y Cyngor o’r farn bod bwlch yn y math hwn o addysg o fewn ysgolion y sir ac y byddai disgyblion yn cael budd o ddysgu am droseddau amgylcheddol a deall eu cyfrifoldebau nhw a’u teulu

·         Tra’r oedd Kingdom yn gweithio yn Sir Ddinbych roedd y sir yn sgorio’n uchel ar y mynegai strydoedd glân

·         Bydd y cwmni llwyddiannus yn cael ei reoli a’i fonitro gan Swyddog Gwarchod y Cyhoedd:

Diogelwch Cymunedol yn yr un modd â Kingdom

·         Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH TELEDU CYLCH CYFYNG SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i roi diweddariad i'r Aelodau ar y Bartneriaeth, ei threfniadau llywodraethu, a'i heffeithiolrwydd wrth ddarparu gwasanaeth.  Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth ac yn ceisio cymeradwyaeth yr aelodau ar gyfer ei ddatblygiad parhaus.

 

10.50am – 11.30am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol adroddiad Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn darparu diweddariad ar y Bartneriaeth TCC, y trefniadau llywodraethu, ynghyd ag asesiad o’i effeithiolrwydd wrth ddarparu’r gwasanaeth, a gwybodaeth am y Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Gorllewin Caer a Chaer i ddarparu’r gwasanaeth a gwaith ar y gweill i ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth. Ynghlwm wrth yr adroddiad mae adolygiad archwilio mewnol diweddar o’r gwasanaeth (Atodiad 2) ac adroddiad gweithrediadol cyfrinachol gan Gyngor Gorllewin Caer a Chaer ar y gwasanaeth.

 

Darparodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wybodaeth i’r Pwyllgor am sefydliad y bartneriaeth. Oherwydd cyfyngiadau ariannol nid oedd y Cyngor yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth TCC, sy’n wasanaeth anstatudol. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi gan gymunedau a Heddlu Gogledd Cymru ac, o ganlyniad, lluniwyd trefniadau amgen ar gyfer ei ddarparu. Felly, dyma sefydlu partneriaeth gyda chynghorau tref Prestatyn, Rhuddlan a’r Rhyl, Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. Roedd y bartneriaeth yn darparu gwasanaeth TCC nad oedd yn cael ei fonitro 24/7, fodd bynnag roedd y partneriaid yn awyddus i archwilio dewisiadau posibl ar gyfer datblygu dyfodol mwy cynaliadwy a chadarn ar gyfer y gwasanaeth. Yn dilyn ystyried nifer o ddewisiadau penderfynwyd ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth 3 blynedd gyda Chyngor Gorllewin Caer a Chaer. Arweiniodd hyn at drosglwyddo lluniau pob camera ym meddiant y bartneriaeth i Gyngor Gorllewin Caer a Chaer at ddibenion monitro ymatebol 24 awr y dydd. Mae gan Gyngor Gorllewin Caer a Chaer sianeli cyfathrebu uniongyrchol gyda Heddlu Gogledd Cymru sydd yn eu galluogi i roi gwybod iddynt yn syth bin am unrhyw ddigwyddiad sy’n datblygu. I hwyluso pethau wrth ddarlledu’r lluniau’n uniongyrchol i Gyngor Gorllewin Caer a Chaer buddsoddwyd mewn gweinydd newydd. Ar gyfer y dyfodol, mae yna gynlluniau i gysylltu â chynghorau tref a dinas eraill i weld a oes diddordeb ganddynt mewn ymuno â’r bartneriaeth er mwyn cael budd o wasanaeth monitro ymatebol. Byddai’n rhaid i bob cyngor tref a dinas benderfynu pa fudd sydd o dderbyn y gwasanaeth am gost gychwynnol a chyfraniad blynyddol yn seiliedig ar nifer y camerâu yn eu hardal. Oherwydd bod y Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn drefniant newydd mae swyddogion wedi gofyn i Adain Archwilio Mewnol y Cyngor gynnal adolygiad o’r trefniant er mwyn cael sicrwydd bod gan y Cyngor drefn lywodraethu a gweithdrefnau rheoli contract cadarn i reoli risgiau a monitro perfformiad ac ati. Mae’r adolygiad hwnnw wedi rhoi sgôr sicrwydd canolig, ac wedi nodi mân wendidau o ran rheoli risgiau a/neu reolaethau, ond dim risg i gyflawni amcanion. Mae’r tair risg a nodwyd yn sgil yr adolygiad wedi ei datrys.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fel a ganlyn i gwestiynau’r Aelodau:

·         Mae’r gwasanaeth a ddarperir dan y Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn gost-effeithiol ac yn cael ei lywodraethu’n dda

·         Mae pob cyngor tref yn y bartneriaeth yn gwneud cyfraniad ariannol tuag at y gwasanaeth yn seiliedig ar nifer y camerâu sydd yn eu hardal.

Hefyd, mae gwasanaethau Cyngor sydd â chamerâu TCC hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol, yn ogystal â Heddlu Gogledd Cymru sy’n defnyddio’r delweddau fel tystiolaeth ar gyfer erlyn

·         Mae’r bartneriaeth yn gweithredu oddeutu 80 o gamerâu ar draws tair tref.

Yn dilyn rhaglen ad-drefnu/blaenoriaethu mae 32 o gamerâu wedi eu dynodi’n gamerâu blaenoriaeth yn seiliedig ar eu pwysigrwydd cymunedol ac i fynd i’r afael â throsedd ac anhrefn. Mae’r 48 camera arall wedi eu categoreiddio’n flaenoriaeth is

·         Mae camerâu newydd, sy’n fwy modern, yn hynod o ddefnyddiol gan eu bod yn helpu’r heddlu i adnabod wynebau

Mae’r camerâu hyn yn andros  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

Yn y fan hon (11.30 a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40 a.m.

 

 

 

7.

CEFNOGAETH I OFALWYR IFANC YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Cymorth Cynnar (copi ynghlwm) sy’n archwilio’r gwaith sy’n cael ei wneud yn gorfforaethol i gefnogi Gofalwyr Ifanc ar draws y Sir er mwyn sicrhau bod dyheadau’r Cyngor a’i weledigaeth ar gyfer Gofalwyr Ifanc, fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth i Ofalwyr, yn mynd i gael eu cyflawni.

 

11.45am – 12.15pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc adroddiad Rheolwr y Rhaglen Cymorth Cynnar (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n amlinellu’r gwaith a wneir yn gorfforaethol i gefnogi gofalwyr ifanc y sir. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar gynnig cardiau hamdden i ofalwyr ifanc a’r gwaith a wneir gan Addysg a Gwasanaethau Plant i gefnogi dyheadau a gweledigaeth y Cyngor ar gyfer pobl ifanc, fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth Gofalwyr. Yn ystod ei gyflwyniad pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod yr wybodaeth yn yr adroddiad yn wybodaeth ychwanegol i’r wybodaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor mewn ‘Adroddiad Gwybodaeth’ a gylchredwyd fis Rhagfyr 2018.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod pob gofalwr ifanc yn Sir Ddinbych sy’n cael ei atgyfeirio at Ofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych yn cael cynnig Cerdyn Hamdden. Er bod yna oddeutu 350 o ofalwyr ifanc yn Sir Ddinbych, sy’n hysbys i ni, wedi cael cynnig Cerdyn Hamdden does dim un wedi manteisio ar y cynnig hwnnw. Bu iddynt wrthod y cynnig oherwydd nad oedd arnynt eisiau hynny.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant a Rheolwr y Rhaglen Cymorth Cynnar fel a ganlyn i gwestiynau’r aelodau:

·         Ar ôl sgwrsio efo Grwpiau Gofalwyr Ifanc roedd yn amlwg, er bod y syniad o roi cardiau hamdden yn cael ei wneud gyda’r bwriad gorau, nad oedd unigolion yn credu eu bod yn addas iddynt.

Roedd rhai eisoes yn defnyddio cyfleusterau hamdden fel rhan o’u gweithgareddau ysgol, doedd ar eraill ddim eisiau mynd i ganolfan hamdden ar eu pen eu hunain ac roedd rhai yn meddwl y byddai cael cerdyn gostyngiad hamdden yn gwneud iddynt sefyll allan a chael eu galw’n ‘wahanol’ – roeddynt yn credu bod stigma ynghlwm wrth gael cerdyn gostyngiad

·         Dywedwyd bod y cerdyn sydd ar gael i ofalwyr ifanc yn rhoi gostyngiad iddynt yn hytrach na mynediad am ddim, byddai’r penderfyniad i roi mynediad am ddim yn hytrach na gostyngiad yn benderfyniad masnachol i'r Gwasanaethau Hamdden

·         Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhoi cyfraniadau ariannol i gefnogi gwaith Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych.

Os yw gofalwyr ifanc eisiau manteisio ar y cerdyn hamdden i gael gostyngiad yna byddai sefydliad Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych yn ariannu’r ddarpariaeth. Fodd bynnag, byddai’n rhaid i rieni wneud cais am y cardiau ar ran y gofalwyr ifanc. Mae nifer o’r teuluoedd hyn, gan gynnwys y gofalwyr, yn wynebu heriau a chymhlethdodau yn ddyddiol, ac felly nid yw gwneud cais am gerdyn a threfnu i rywun arall ddod i ofalu am awr neu ddwy er mwyn iddynt ddefnyddio’r cerdyn hwnnw yn ymarferol bob tro

·         Mae’r gofalwyr ifanc yn bobl ifanc ac, yn debyg iawn i’w cyfoedion, maent yn hoffi technoleg ac ati, ac felly mae’n bwysig bod y Cyngor yn gwrando arnynt ac yn darparu gweithgareddau seibiant sy’n diwallu eu hanghenion, nid yr hyn y mae oedolion yn credu sydd arnynt ei angen

·         Pwysleisiwyd bod y gofalwyr ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt e.e. teithiau, gwyliau ac ati. Mae gweithgareddau hamdden yn un o gyfres o weithgareddau sydd ar gael i ofalwyr ifanc

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

PENDERFYNWYD:- yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gwaith a wneir i gefnogi gofalwyr ifanc.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

 

12.15pm – 12.30pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Roedd copi o “ffurflen gynnig Aelodau” wedi ei chynnwys yn Atodiad 2. Dylid cyflwyno unrhyw gynnig i’r Cydlynydd Craffu. Mae Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi ei chynnwys yn Atodiad 3 ac mae tabl gyda chrynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a gwybodaeth am y cynnydd wrth eu rhoi ar waith wedi ei gynnwys yn Atodiad 4.

 

Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu, yn dilyn cyfarfod Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu, bod tri adroddiad wedi ei gynnig i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau eu hystyried. Mae’r tri adroddiad wedi eu cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Sef:

·         Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion (CAMHS) (Ebrill 2019)

·         Parthau Galw Diwahoddiad (Mai 2019)

·         Un Llwybr Mynediad at Dai (Gorffennaf 2019, yn dilyn sesiwn friffio’r Cyngor)

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu ei bod wedi mynychu cyfarfod cyflwyno Pwyllgor Craffu ar y Cyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd y Cadeirydd a’r Cyng. Melvyn Mile hefyd yn bresennol. Mae pwyllgor craffu ar y cyd wedi ei sefydlu a bydd cyfarfod yn cael ei drefnu gyda hyn.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12.30pm – 12.40pm

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cydlynydd Craffu ar yr hyfforddiant a ddarperir i Bwyllgor Craffu ar y Cyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cadarnhawyd bod y Cadeirydd a'r Cyng. Melvyn Mile yn bresennol yn yr hyfforddiant. Cadarnhaodd y Cyng. Melvyn Mile fod yr hyfforddiant yn un llawn gwybodaeth ac wedi egluro disgwyliadau ac uchelgeisiau’r pwyllgor craffu ar y cyd.

 

Mae copïau o gofnodion y cyfarfodydd Herio Perfformio diweddar wedi eu cylchredeg i’r aelodau fel rhan o’r 'Briff Gwybodaeth’.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiadau ar lafar.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:20 p.m.