Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN.
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jeanette Chamberlain-Jones
(Cadeirydd), Pat Jones a David Williams.
Cyn dechrau’r busnes roedd yr Is-Gadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor yn dymuno
anfon dymuniadau gorau a gwellhad buan a llawn i’r Cadeirydd. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un I’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Gareth Davies gysylltiad personol ag eitemau 5, 6 a
7 gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 492 KB Cael
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017
(copi ynghlwm). 10.05 a.m. – 10.10 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr
2017. Gan gyfeirio at
Strategaeth Digartrefedd Sir Ddinbych a Chynllun Cefnogi Pobl / Atal
Digartrefedd Sir Ddinbych gofynnodd y Cynghorydd Butterfield a oedd gan yr
Awdurdod bolisi’n diffinio preswyliad.
Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau gan ddweud bod
‘preswyliad’ yn cael ei gynnwys o fewn nifer o fframweithiau deddfwriaethol ac
roedd yn rhaid ystyried ceisiadau fesul achos.
Mae’n bosibl y bydd Aelodau’n dymuno ystyried cymhlethdod drwy ei
gyfeirio i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir. Croesawodd Cadeirydd y cyfarfod y Cyfarwyddwr
Ardal: Ardal Ganolog; Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gofal
Sylfaenol a Chomisiynu; Cyfarwyddwr Therapïau Gwasanaethau Clinigol; a’r
Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol - Canolog; o Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod i roi diweddariad i’r aelodau ar
gynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â’r eitemau busnes yn ymwneud â
sefydliadau a gwasanaethau iechyd. |
|
PRESTATYN IACH I dderbyn diweddariad ar lafar gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y fenter Prestatyn Iach 11.40a.m. – 12.15p.m. Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gofal
Sylfaenol a Chomisiynu y Bwrdd Iechyd gefndir sefydlu’r fenter Prestatyn Iach
i’r Pwyllgor. Yn ystod ei
chyflwyniad, dywedodd:
·
Roedd y model Prestatyn Iach, oedd yn gwasanaethu
cleifion oedd wedi cofrestru gyda meddygfeydd ym Mhrestatyn, Rhuddlan, Gallt
Melyd a Ffynnongroyw yn ffordd newydd o ddarparu gofal meddygol sylfaenol,
ymyrraeth a lles, a reolwyd yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd. Roedd yn cynnwys pedwar
tîm yn y feddygfa oedd yn delio gyda rheoli achosion cronig, pumed tîm oedd yn
cynnal ymweliadau â’r cartref ynghyd â thîm arall oedd yn darparu gwasanaethau
meddygol dwys i gleifion yn defnyddio’r gwasanaeth cerdded i mewn; ·
Roedd y gwasanaeth a reolir gan y Bwrdd Iechyd
wedi'i sefydlu i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal ar ôl i
nifer o feddygon teulu yn yr ardal hysbysu’r Bwrdd y byddent yn ymddeol neu’n
terfynu eu contractau ar gyfer darparu gwasanaethau meddyg teulu. Wrth sefydlu’r model
newydd arloesol hwn ar gyfer darparu gwasanaethau sylfaenol roedd y Bwrdd hefyd
wedi cynnwys dull mwy cyfannol yn y model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau
meddygol sylfaenol a lles cyffredinol y boblogaeth; ·
roedd y Gwasanaeth a dderbynnir ar hyn o bryd yn
derbyn cysylltiad gan y cyhoedd tua 100k y flwyddyn, yn delio gyda chyfartaledd
o 420 claf y dydd gyda thua 100 ohonynt yn cael eu gweld ar y diwrnod yr
oeddent wedi cysylltu â’r gwasanaeth. Roedd y nifer o
gleifion a welir yn ddyddiol yn fwy na’r cyfartaledd dyddiol ar gyfer yr Adran
Argyfwng yn Ysbyty Glan Clwyd; ·
Roedd y cyfleuster Tŷ Nant, yr oedd y Bwrdd Iechyd
yn ei rentu gan y Cyngor yn gyfleuster gwych oedd yn cefnogi’r model darparu
gwasanaeth yn dda; ·
roedd system TG claf newydd wedi’i osod yn ddiweddar oedd
yn gweithio’n dda; ·
Roedd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi archwilio’r
gwasanaeth Prestatyn Iach yn ystod 2017 ac wedi dod i’r casgliad ei fod yn
darparu gofal diogel ac effeithiol yn gyffredinol; ·
roedd yna heriau o’u blaenau, yn arbennig mewn
perthynas â recriwtio staff clinigol, darparu hyfforddiant i’r sector darparwr
preifat a chynnydd parhaus yn y galw am ei wasanaethau. Rhwng Ionawr a Mawrth
2018 bu cynnydd o 6% mewn apwyntiadau a chynnydd o 15% mewn ymweliadau â’r cartref
gan y gwasanaeth; ·
wrth symud ymlaen byddai’r ffocws ar recriwtio
meddyg teulu ychwanegol ac ymarferydd nyrsio uwch. Roedd yn galonogol bod
MT wedi dangos diddordeb mewn ymuno â'r gwasanaeth a bod nyrs yn hyfforddi i
gymhwyso fel ymarferydd nyrsio uwch ar hyn o bryd. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn bwriadu recriwtio parafeddyg
i gyfannu’r ystod o wasanaethau y gallai eu cynnig a phenodi Pennaeth
Gwasanaeth – rheolwr gweithredol i gydlynu’r gwaith a swyddogaethau ar gyfer
pob safle sy’n gweithredu o dan Prestatyn Iach; ·
roedd sefydlu’r gwasanaeth arloesol hwn wedi bod yn
siwrnai ddysgu, yn arbennig mewn perthynas â’r galw amrywiol ar y Gwasanaeth
wrth ddarparu gofal sylfaenol ac eilaidd.
Rhoddir
ystyriaeth ar hyn o bryd i gysylltu ag astudiaeth a gynhelir gan Brifysgol
Bangor ar ofynion hyfforddiant a mentora ar gyfer darparu gofal sylfaenol. · roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith gyda’r trydydd sector yn ardal Prestatyn mewn perthynas â deall y mathau o wasanaethau oedd eu hangen yn yr ardal a sut y gall sefydliadau sector cyhoeddus fel y Bwrdd Iechyd, yr awdurdod lleol a phartneriaid trydydd sector weithio’n effeithiol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROSIECT YSBYTY GYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH I dderbyn
cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar
y cynnydd a wnaed hyd yma gyda datblygiad y cyfleuster newydd a'r amserlen
ddisgwyliedig ar gyfer ei ddarparu. 10.10 a.m. – 10.50 a.m. Cofnodion: Dywedodd
Cyfarwyddwr Clinigol Therapiau Gwasanaethau Clinigol BIPBC bod y Bwrdd Iechyd
yn gweithio ar ail gam proses achos busnes 3 cham Llywodraeth Cymru ar gyfer
datblygu safle’r cyn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl yn ysbyty cymuned ar gyfer
Gogledd Sir Ddinbych. Drwy gyflwyniad PowerPoint dangosodd yr adeilad
newydd arfaethedig gan bwysleisio y byddai’r ysbyty cymuned newydd yn llawer
mwy nag ysbyty yn unig: •
byddai'r
model gwasanaeth arfaethedig i’w ddatblygu ar y safle yn cynnwys tîm
amlddisgyblaethol amlasiantaeth a fyddai’n dylunio eu gwasanaethau o amgylch
anghenion y defnyddiwr gwasanaeth, gan gefnogi’r ethos ail-alluogi i rymuso
defnyddwyr gwasanaeth i fyw yn annibynnol drwy gydweithio gyda phartneriaid
gofal cymdeithasol a thrydydd sector i wella ataliad a lles. • byddai’n cefnogi mwy o waith integredig rhwng gofal iechyd sylfaenol a chymunedol gan ganolbwyntio ar bobl hŷn gyda golwg ar leddfu’r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd, darparu gwasanaeth iechyd meddwl a chorfforol integredig i bobl hŷn, darparu gwasanaethau gofal iechyd dydd brys yr un diwrnod ac ystod o wasanaethau dydd a chlaf allanol yn agosach at gartref y claf; a •
byddai’r datblygiad mewn ffurf Campws Gofal Iechyd a fyddai’n gwneud
defnydd o adeilad yr hen ysbyty Brenhinol Alexandra, adeilad rhestredig Graddfa
II ar y cyd ag adeilad yr ysbyty newydd arfaethedig. Byddai hefyd yn cynnig safle gwaith integredig ar gyfer Gwasanaethau Un
Pwynt Mynediad, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a
swyddfeydd ar gyfer timau cefnogaeth integredig. Hysbyswyd y Pwyllgor
bod: • y Bwrdd Iechyd
wedi cymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Ysbyty
Cymuned Gogledd Sir Ddinbych i Lywodraeth Cymru yn Ionawr 2017. Wedi’i gynnwys yn yr Achos Busnes Amlinellol
oedd yr achos ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn yr adeilad newydd a darparu
gwasanaethau newydd ar y safle, ynghyd â sail resymegol ar gyfer buddsoddiad
ychwanegol yn yr adeilad rhestredig Gradd II. • o ganlyniad i
gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru, roedd cynrychiolwyr
Bwrdd wedi cyfarfod swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf a Medi 2017
i drafod y cynigion. Roedd y Tîm Prosiect wedi ailgyfarfod i ymateb i
heriau a nodwyd fel rhan o’r broses cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ac
roedd Adolygiad Trothwy o’r achos busnes a’r broses wedi’i gomisiynu. Roedd canfyddiadau’r Adolygiad Trothwy wedi
profi’n hynod ddefnyddiol gyda golwg ar symud y prosiect ymlaen; • Roedd
Llywodraeth Cymru eisiau sicrwydd mewn perthynas â sut fyddai’r Achos Busnes
Amlinellol yn cefnogi darpariaeth y cynllun strategol Byw yn Iach Aros yn Iach
gan y Bwrdd Iechyd, strategaeth gweithlu wedi’i ailddiffinio a mwy o eglurder
ar fanteision gwireddu’r cynllun. Roedd yr olaf yn ymwneud â’r defnydd o adeilad
rhestredig presennol, drwy ddefnyddio hwn fel swyddfa yn bennaf, roedd y Bwrdd
Iechyd yn hyderus y gallai sicrhau dyfodol yr adeilad a darparu gwasanaethau
iechyd ychwanegol o fewn yr adeilad newydd. Nid oedd materion yn
ymwneud â’r gweithlu yn unigryw i’r prosiect hwn • Roedd gwaith ar
y gweill i ail-ddrafftio’r atodiad i’r Achos Busnes Amlinellol a oedd yn
manylu’r cynigion ystadau, byddai hyn yn cynnwys datganiad clir ar swyddogaeth
yr adeilad rhestredig Gradd II yn dilyn buddsoddiad arfaethedig o tua £200k. Byddai yna fwy o
fanylion yn yr Achos Busnes Amlinellol, cyn ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru,
ar y ffynonellau refeniw ar gyfer darparu gwasanaethau newydd ar y safle; • Fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer ailddatblygu’r safle, roedd yr Adran Cleifion Allanol wedi adleoli i’r hen adeilad Glan Traeth ym mis Rhagfyr 2017, dylai'r gwaith o ddymchwel yr estyniad 1960au gael ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2018. Yn dilyn y gwaith hwn, byddai'r ardal a ddefnyddir gan yr hen Adran Cleifion Allanol yn cael ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
YSBYTY GYMUNEDOL DINBYCH I dderbyn
cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y sefyllfa ddiweddaraf
o safbwynt cau wardiau yn Ysbyty Gymunedol Dinbych, y ddarpariaeth amgen sydd wedi’i threfnu ar gyfer y cyfnod interim, a’r cynlluniau ar gyfer
yr ysbyty yn y dyfodol 10.50 a.m. – 11.30 a.m. Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol – Canol
grynodeb i’r aelodau o'r rhesymau wnaeth arwain at benderfyniad y Bwrdd Iechyd
i gau 10 gwely ar y ward i fyny'r grisiau yn yr Inffyrmari o ganlyniad i
drychineb Tŵr Grenfell.
Cafodd
yr Inffyrmari ei adeiladu ar ddechrau’r 1800au gyda 40 gwely claf mewnol, 23
gwely ar y llawr gwaelod ac 17 gwely ar y llawr cyntaf. Yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell, cynhaliodd y Bwrdd
Iechyd asesiad diogelwch tân cynhwysfawr o’r holl adeiladau. Roedd yr asesiad yn
amlygu pryderon perygl tân yn yr Inffyrmari ac Ysbyty Cymuned Yr Wyddgrug. Roedd y pryderon
penodol mewn perthynas â’r Inffyrmari yn ymwneud â’r ffaith bod llawr Ward
Lleweni i fyny’r grisiau, rhan ohono wedi’i leoli’n uniongyrchol uwchben cegin
yr ysbyty, yn cael ei gefnogi gan ddistiau pren. Roedd y risg yn fwy oherwydd nad oedd y rhan yma o’r
adeilad wedi’i rannu’n adrannol a fyddai’n helpu i leihau neu o leiaf arafu
lledaeniad tân. Pan ddaeth
maint y risg i’r amlwg, bu’r Bwrdd Iechyd yn ystyried nifer o opsiynau ar gyfer
delio â’r risg, gan sicrhau diogelwch cleifion a staff tra’n achosi cyn lleied
o amhariad i bawb dan sylw. Fodd bynnag, oherwydd yr angen i sicrhau y gellir symud pob claf yn ddiogel
os bydd yna dân, y dewis diogel gyda’r amhariad lleiaf y gellir ei roi yn ei le
oedd lleihau’r nifer o welyau ar Ward Lleweni o 17 i 7 – gyda’r cafeat bod yn
rhaid i weddill y gwelyau fod ar gyfer cleifion nad oedd angen cefnogaeth
fecanyddol ar gyfer eu hanghenion symudedd os bydd angen gwacau’r adeilad. Roedd Adran Ystadau Llywodraeth Cymru wedi cynnal yr asesiad risgiau tân ac
wedi gwneud nifer o argymhellion mewn perthynas â gwella’r mesurau diogelwch
tân yn yr adeilad. Roedd nifer o’r
argymhellion hyn wedi eu gweithredu, gan gynnwys gwaith adrannu. Yn ogystal, roedd y
Bwrdd Iechyd wedi comisiynu ail arolwg, mwy ymwthiol, gan ymgynghorwyr Mott
McDonald. Er y disgwylir
i ganfyddiadau’r arolwg hwn fod ar gael yn ystod mis Ebrill, oherwydd yr angen
i gymryd holl ragofalon angenrheidiol i ddiogelu peirianwyr, cleifion a staff,
rhag ofn bod asbestos yn yr adeilad a’i aflonyddu yn ystod y gwaith arolwg, bu
ychydig o lithriad. Fodd bynnag,
dylai adroddiad yr ymgynghorydd fod ar gael ym mis Mai 2018. Mewn ymgais i reoli effaith y golled dros dro o 10 gwely yn yr Inffyrmari,
roedd y Bwrdd Iechyd wedi ychwanegu 5 gwely dros dro yn Ysbyty Cymuned Rhuthun,
gyda gwaith arall yn cael ei wneud yn y gymuned ar gyfer gofal a chefnogaeth i
bobl yn eu cartrefi eu hunain. Roedd y Bwrdd Iechyd
wedi bod yn rhagweithiol yn cysylltu â staff mewn perthynas â newidiadau i
batrymau gwaith, fodd bynnag roedd wedi profi pwysau staffio yn ymwneud â’r
gwelyau ychwanegol yn Ysbyty Rhuthun oedd wedi arwain at yr angen i ddefnyddio
staff nyrsio asiant a chronfa i ddarparu gofal. Roedd meddygfeydd Rhuthun wedi bod yn hynod gefnogol ac
wedi cynyddu argaeledd ar gyfer y gwelyau cleifion preswyl yn yr ysbyty. Er bod yna lai o welyau ar gael yn Inffyrmari Dinbych ar hyn o bryd,
dywedodd y Bwrdd Iechyd rhwng ysbytai Dinbych a Rhuthun bod yna welyau cleifion
preswyl mewn ysbyty cymuned ar y mwyafrif o ddyddiau i gleifion naill ai fynd
yno yn uniongyrchol neu eu trosglwyddo o'r ysbytai cyffredinol dosbarth. Cadarnhaodd swyddogion
y Bwrdd Iechyd bod meddygfeydd yn Ninbych yn gefnogol iawn i’r Inffyrmari a’r
gwasanaethau a ddarperir yno. Roedd y Bwrdd Iechyd yn darparu cefnogaeth a chyngor parhaus i staff yn yr Inffyrmari, gyda sesiynau briffio misol rheolaidd yn cael eu ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd
Archwilio (copi ynghlwm) yn
gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r
dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 12.15p.m. – 12.30p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Atgoffodd y Pwyllgor bod y
cyfarfod nesaf wedi’i drefnu i’w gynnal yn y Rhyl i ymweld ag uned Un Pwynt
Mynediad yn Nhŷ Russell. Amlygodd y Cydlynydd Craffu'r dair eitem ar y
rhaglen ar gyfer Pwyllgor Craffu Partneriaeth mis Mai: ·
Strategaeth
Digartrefedd a Chynllun Atal ·
Cyllidebau
Cyfun (Iechyd a Gofal Cymdeithasol) a ·
Chyllidebau
Cefnogi i Bobl sy’n Gymwys ar gyfer Cynllun Gofal a Chefnogaeth. Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau bod yr eitemau ar gyllidebau digartrefedd
a chefnogaeth yn sylweddol, felly mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor yn dymuno
gohirio’r eitem ar gyllidebau cyfun nes y cyfarfod ym mis Mehefin. Gofynnodd y
Cynghorydd Butterfield i’r grant digartrefedd £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru
gael ei gynnwys yn yr adroddiad digartrefedd.
Hysbysodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau y Pwyllgor bod Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr yn disgwyl i un o’r adroddiadau ar y gwersi a ddysgwyd
ynglŷn â Ward Tawelfan gael ei gyhoeddi ar 3 Mai 2018. Cytunodd y Pwyllgor i alw cyfarfod Pwyllgor
Craffu Partneriaethau arbennig o fewn wythnos o’i gyhoeddi er mwyn ystyried yr
adroddiad yn llawn. Hefyd,
cytunwyd y dylai’r cyfarfod arbennig gael ei gynnal yn y Rhyl er mwyn ymweld â
safle’r ysbyty cymuned Gogledd Sir Ddinbych arfaethedig. Wrth gyfeirio’n ôl at yr adroddiad dywedodd y Cydlynydd Craffu: ·
atodiad
3 - Cynllun Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet – er gwybodaeth ac ·
atodiad
4 yn rhoi diweddariad ar benderfyniadau’r Pwyllgor. Roedd Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi gofyn i gyfarfod mis Medi gael ei newid o
13 i 20 er mwyn iddi allu mynychu. Cytunodd y Pwyllgor i’r gohiriad. PENDERFYNWYD - yn amodol ar
yr uchod: (i)
Cadarnhau
rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; (ii)
Galw
cyfarfod arbennig ar gyfer yr wythnos yn dechrau 10 Mai 2018 i adolygu
adroddiad Tawelfan a (iii)
Newid dyddiad mis Medi’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau
i 20 Medi. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y
Cyngor. 12.30p.m. – 12.36p.m. Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Hugh Irving fod ganddo gyfarfod yr wythnos ddilynol ar gyfer paratoi
rhaglen ar gyfer llinellau ymholiad Her Gwasanaeth. Daeth y cyfarfod
i ben am 13.04 |