Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield a Hugh Irving |
|
Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol ag eitemau 5 a 6 ar y rhaglen - Y Cynghorydd
Gareth Davies – Gweithiwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Y Cynghorydd
Emrys Wynne - Aelod o’r Cyngor Iechyd Cymuned |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 306 KB Derbyn - (a)
cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd 20 Medi 2018 (copi
ynghlwm), a (b) cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau Arbennig a gynhaliwyd 1 Hydref 2018 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 20 Medi
2018 a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau Arbennig a gynhaliwyd
ar 1 Hydref 2018. Materion yn Codi - Pwyllgor Craffu
Partneriaethau Arbennig (1 Hydref 2018) - Adlewyrchodd y Cadeirydd ar y
cyfarfod cadarnhaol a gafwyd gyda swyddogion y Bwrdd Iechyd i drafod
canfyddiadau’r ymchwiliadau mewn perthynas â Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan
Clwyd. Roedd yr ymatebion
ysgrifenedig i’r cwestiynau a godwyd yn ystod y cyfarfod hwnnw a’r adroddiadau
atodol ychwanegol a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd wedi eu cylchredeg yn
flaenorol fel rhan o Friff Gwybodaeth y Pwyllgor, ynghyd â Strategaeth
Dementia'r Bwrdd ar gyfer 2018 - 2020. PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018 ac 1 Hydref
2018 fel cofnod cywir. |
|
INFFYRMARI DINBYCH Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cynlluniau ar
gyfer darparu gwasanaethau yn Inffyrmari Dinbych yn y dyfodol ar ôl cau Ward
Fammau. 10.10 a.m. – 10.50 a.m. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Bethan Jones (Cyfarwyddwr
Rhanbarth: Yr Ardal Ganolog), Gareth Evans
(Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol -
Therapïau) ac Alison (Cyfarwyddwr
Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
i’r cyfarfod i drafod yr eitemau busnes yn ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd. Inffyrmari Dinbych - Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol friff, drwy gyflwyniad PowerPoint, i’r
Pwyllgor ar gefndir y penderfyniad i gau Ward Lleweni yn yr Inffyrmari ar ôl
cynnal gwiriadau diogelwch tân yn unol â’r canllaw a dderbyniwyd gan Lywodraeth
Cymru yn sgìl trychineb tân Tŵr Grenfell. Roedd y gwiriadau diogelwch tân wedi canfod bod yr
adeilad 200 mlwydd oed “wedi’i adrannu’n wael a bod y llawr cyntaf wedi’i
adeiladu o drawstiau pren a delltennau a phlaster.” Ar sail hynny, daeth yr aseswyr diogelwch
tân i’r casgliad “o ystyried nifer y cleifion sydd â phroblemau symudedd a'r
nifer gyfyngedig o staff, hyd yn oed pe bai’r holl waith adferol yn cael ei
gwblhau byddai gallu rheoli’r adeilad, sy’n gofyn am wacáu yn fertigol, yn
ddiogel yn ystod tân yn heriol iawn.” Ar sail yr wybodaeth hon, penderfynwyd
cael gwared ar 10 o’r 17 gwely ar Ward Lleweni er mwyn lleihau’r risgiau sy’n
gysylltiedig â gwacáu. Er mwyn gwneud iawn am y
golled o wlâu cymunedol yn Ninbych, cafwyd 5 gwely ychwanegol i gleifion mewnol
yn Ysbyty Rhuthun ac fe gynhaliwyd gwaith adferol, hynny yw'r panel larwm tân,
rhannu ac adrannu’r gofod yn y nenfwd ac ati, ar lawr gwaelod adeilad yr
Inffyrmari. Tra’r oedd gwaith hwn yn cael ei wneud roedd arolwg manwl o adeilad yr
ysbyty hefyd yn cael ei gynnal gan ymgynghoriaeth diogelwch tân. Briff yr ymgynghoriaeth oedd penderfynu ar
safon yr adrannu o fewn adeilad gwreiddiol yr ysbyty a gallu adeiladwaith yr
adeilad i wrthsefyll tân. Canfu’r arolwg hwn bod diffygion sylweddol o ran adrannu yn yr adeilad
gwreiddiol ar y llawr cyntaf ac yn y to. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn cydymffurfio â
rheoliadau diogelwch tân cyfredol ac felly roedd y strategaeth wacáu bresennol
ar gyfer y llawr cyntaf, a oedd yn seiliedig ar drefniadau gwacáu llorweddol a
dibyniaeth ar adrannu, wedi’i pheryglu ac felly nid oedd yn cydymffurfio â
gofynion Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, o ganlyniad gwnaed
penderfyniad i roi’r gorau i ddefnyddio’r 7 gwely a oedd yn weddill i gleifion
mewnol ar Ward Lleweni a rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ystafell esgor dan
arweiniad bydwraig. Pwysleisiodd, er nad oedd y llawr cyntaf bellach yn addas ar gyfer gwlâu i
gleifion mewnol ac ati, nid oedd hyn yn golygu nad oedd modd defnyddio’r llawr
at ddiben arall. Wrth wneud y penderfyniad uchod, ymgynghorodd y
Bwrdd Iechyd ag ystod eang o fudd-ddeiliaid, yn cynnwys gwleidyddion lleol a
chenedlaethol, y Cyngor Iechyd Cymuned, staff, undebau llafur, staff yr
awdurdod lleol a Chynghrair Cyfeillion yr ysbyty. Cytunodd hefyd ar drefniadau hirdymor â Meddygon
Teulu Rhuthun i ofalu am y cleifion yn y gwlâu ychwanegol yn Ysbyty Cymuned
Rhuthun ac adleoli nifer fechan o staff i Ysbyty Rhuthun. O ganlyniad i golli’r gwlâu, comisiynwyd gwaith i ganfod capasiti cleifion
mewnol amgen ac archwilio llwybrau gofal
cleifion mewnol amgen. Roedd Adran Ystadau Arbenigol GIG wrthi’n nodi’r costau lefel uchel sy’n ofynnol i sicrhau bod y llawr cyntaf yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch gan gynnwys safonau diogelwch tân. Roedd eisoes yn hysbys y byddai’n rhaid gwneud gwaith strwythurol mawr a byddai’r gwaith yn effeithio ar lety’r llawr gwaelod. Oherwydd yr angen i gwrdd â safonau gwasanaeth iechyd modern, rhagwelwyd na fyddai modd symud yr 17 o wlâu, a gollwyd ar ôl cau Ward Lleweni, i lawr gwaelod yr ysbyty. Rhagwelwyd y byddai ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Derbyn
diweddariad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y
cynnydd o ran prosiectau cyfalaf sy’n ymwneud ag Ysbyty Gogledd Sir Ddinbych
(Achos Busnes ynghlwm), Clinig Rhuthun a Chanolfan Iechyd Corwen. 10.50 a.m. – 11.30 a.m. Cofnodion: Rhoddodd
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol -
Therapïau y Bwrdd Iechyd gyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu’r cynnydd a wnaed
hyd yma mewn perthynas â’r tri phrosiect cyfalaf mawr yn Sir Ddinbych. Amlinellodd y cefndir i bob prosiect ac, o
ran sefyllfa bresennol bob prosiect, dywedodd - Canolfan Iechyd Corwen ·
bod cyfleuster addas i’r diben sy’n darparu amgylchedd o
ansawdd uchel ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau deintyddol
gwell wedi agor ar y safle yng Nghorwen ar 12 Hydref 2018, gydag agoriad
swyddogol wedi’i drefnu ar gyfer 29 Tachwedd 2018. Roedd gan y safle hefyd y potensial
i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau’n ymwneud ag iechyd. ·
roedd y Bwrdd Iechyd wedi dyfarnu £1.48m tuag at y
prosiect o’i Ddyraniad Cyfalaf yn ôl Disgresiwn ·
roedd y Ganolfan bellach yn cynnwys practis Meddyg Teulu
a oedd hefyd yn cynnwys ystafelloedd ymgynghori ar gyfer doctoriaid dan
hyfforddiant, gwasanaethau cardioleg arbenigol dan arweiniad Meddyg Teulu, dau
le deintydd, gwasanaethau nyrsio ardal, gwasanaethau iechyd,
ffisiotherapyddion, gwasanaethau podiatreg ynghyd â gwasanaethau iechyd meddwl
a chamddefnyddio sylweddau, a ·
gyda’r bwriad o ehangu’r gwasanaethau ymhellach, roedd
gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio staff deintyddol ychwanegol ac i asesu a
oedd potensial i gynyddu presenoldeb y Sector Gwirfoddol (Trydydd Sector) ar y
safle i gefnogi gwaith y Gwasanaeth Iechyd yn yr ardal. Clinig Mount Street, Rhuthun ·
yn 2016, bu i adolygiad o Ystadau Gofal Sylfaenol nodi
nad oedd y cyfleuster hwn yn addas i’r diben. Oherwydd ei gyflwr
gwael, daeth y Bwrdd Iechyd i’r casgliad na fyddai gwario oddeutu £750,000 i
ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a diweddaru’r adeilad yn cyfateb i ddefnydd
effeithiol o adnoddau ac ni fyddai’n darparu datrysiad hirdymor i ddiwallu
anghenion ardal Rhuthun yn y dyfodol. ·
gwnaed penderfyniad strategol i wneud cais am £1.7m o
gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru at ddibenion darparu gwasanaethau gofal
sylfaenol yn agos at gartrefi cleifion drwy ad-leoli'r gwasanaethau a ddarperir
ar hyn o bryd yn y clinig safle Ysbyty Cymuned Rhuthun gyda’r posibilrwydd o
ddarparu gwasanaethau iechyd eraill ar y safle newydd maes o law. ·
ar hyn o bryd, roedd y cynigion i symud y practis Meddyg
Teulu, Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol ac ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymunedol o
safle’r Clinig presennol i safle Ysbyty Rhuthun. Roedd y Tîm Deintyddol
Cymunedol wrthi’n ystyried dau opsiwn, i symud i safle Ysbyty Rhuthun neu i
ddefnyddio’r cyfleusterau presennol sydd ar gael yn Ninbych a Chorwen a darparu
gwasanaeth symudol lle bo’n briodol, tra roedd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru yn trafod â Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru i archwilio
posibiliadau mewn perthynas â darparu eu gwasanaethau o gyfleuster a rennir. Roedd gwaith
hefyd yn mynd rhagddo i archwilio’r potensial i ddarparu gwasanaethau
ychwanegol o’r cyfleuster a adleoliwyd i Ysbyty Rhuthun, hynny yw, gweithgarwch
gofal eilaidd / yn y gymuned megis gwasanaethau adferiad ysgyfeiniol ar gyfer
de’r sir, gweithgaredd lles a gwasanaethau i gefnogi hyfforddiant ar gyfer
Meddygon Teulu gwledig. · roedd llawer o ddigwyddiadau i fudd-ddeiliaid eisoes wedi’u eu cynnal er mwyn mesur cefnogaeth a diddordeb y gymuned yn y model gwasanaeth newydd a derbyn y gwasanaethau ‘newydd’ arfaethedig. Rhagwelwyd y byddai’r holl ddigwyddiadau hyn yn dod i ben erbyn y Nadolig 2018. Roedd dylunwyr wrthi’n paratoi i gynhyrchu briffiau dylunio ar gyfer y cynigion ynghyd â chostau ac roedd achos busnes yn cael ei ysgrifennu gyda’r bwriad o sicrhau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect. Rhagwelwyd y byddai’r Bwrdd Iechyd yn ystyried yr achos busnes yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2019 cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Ar yr amod nad oes unrhyw oedi o ran yr amserlen a bod cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN GWEITHREDU ATAL DIGARTREFEDD A CHYNLLUN COMISIYNU DRAFFT 2019-22 PDF 223 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd (copi ynghlwm) yn manylu ar
y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r Cynllun Gweithredu a chyflwyno Cynllun
Comisiynu Cefnogi Pobl/Atal Digartrefedd drafft Sir Ddinbych cyn ei gyflwyno
i’r Cabinet. 11.45 a.m. – 12.10 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r
adroddiad a’r atodiadau (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i aelodau ar gynnydd y Cyngor hyd yma o ran cyflawni ei Gynllun
Gweithredu i Atal Digartrefedd, dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Les ac
Annibyniaeth wrth y Pwyllgor mai prif nod y Cyngor oedd atal digartrefedd. Mewn ymgais i gyflawni’r nod hwn,
mabwysiadwyd dull aml-asiantaeth ac aml-wasanaeth gyda’r bwriad o gefnogi pobl
a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Hefyd ynghlwm wrth yr adroddiad oedd Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl/Atal
Digartrefedd Sir Ddinbych drafft ar gyfer 2019-22, a oedd yn amlinellu sut yr
oedd y Cyngor yn cynnig datblygu ac ail-fodelu prosiectau cefnogi yn y sir dros
y tair blynedd nesaf i gefnogi mwy o bob a oedd naill ai’n ddigartref neu mewn
perygl o fod yn ddigartref. Roeddent yn
dal i aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru o ran swm y cyllid Grant Cefnogi Pobl
a fyddai’n cael ei ddyfarnu i'r Cyngor ar gyfer 2019-2022, er nad yw toriad i’r
gyllideb yn ddisgwyliedig flwydd nesaf, roedd y Cyngor, fel rhan o gynllunio’r
gyllideb, wedi cynnwys arian at raid o 5% yn y cynllun cyflawni. Wrth ymateb i
gwestiynau'r aelodau, bu i’r Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau a’r Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd - ·
gadarnhau
bod swyddogion, wrth lunio’r Cynllun Comisiynu a’r Cynllun Gweithredu, wedi
cynnwys cynllun wrth gefn gyda thoriad o 5% yn y rhagdybiaethau cyllideb. Ar gyfer y flwyddyn i ddod, roedd hyn wedi’i
wneud ar sail arbedion effeithlonrwydd posibl ac ail-lunio'r gwasanaethau i
ddarparu mwy o waith atal digartrefedd yn hytrach na gwaith ymyrryd. Roedd hefyd yn cael ei gydnabod yn eang bod
gwaith atal yn y pen draw yn costio llai na gwaith ymyrraeth rhagweithiol. ·
cadarnhau
bod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn â Chanolfan Dewi Sant yn Y Rhyl, a oedd yn darparu lloches a chymorth i
unigolion a theuluoedd digartref. Roedd
Swyddog Digartrefedd y Cyngor a’r Swyddog Ymgysylltu â Dinasyddion yn ymweld â’r Ganolfan yn rheolaidd. Yn ychwanegol roedd yr awdurdod wedi
comisiynu gwasanaethau yn y ganolfan. ·
cyfeirio
at y newid o ran ffocws i wasanaeth ataliol mwy rhagweithiol e.e. wrth i
Swyddog Atal Digartrefedd y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol ymweld â charcharorion cyn iddynt gael eu rhyddhau
o’r carchar er mwyn eu rhwystro rhag gadael y carchar yn ddigartref. ·
cynghori
bod y Gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithio gydag oddeutu 500 o aelwydydd yn Sir
Ddinbych mewn perthynas â
materion tai a digartrefedd. ·
hysbysu
bod amryw o resymau i egluro pam bod unigolion a theuluoedd mewn perygl o golli
eu cartrefi, hynny yw, camddefnyddio sylweddau/ cyffuriau/ alcohol, diwygio'r
gyfundrefn les, trafferthion ariannol / dyledion, effaith profiadau niweidiol
yn ystod plentyndod. Dyna’r rheswm dros
aildrefnu’r tîm i’w alluogi i gynnig
cymorth ataliol sy’n fwy arbenigol. ·
pwysleisio
bod pob unigolyn a fu mewn cysylltiad â’r Gwasanaeth wedi bod yn unigolyn diamddiffyn. ·
dangos,
drwy astudiaeth achos, effeithiolrwydd y Swyddog Atal Digartrefedd o fewn y
Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau (Civica) yn y Ganolfan Waith wrth helpu pobl
i reoli eu dyledion a chynllunio eu harian er mwyn atal argyfwng. ·
cadarnhau
y bu presenoldeb da yn y Diwrnod Atal Digartrefedd Blynyddol ac fe rannwyd
llawer iawn o brofiadau personol yn ystod y digwyddiad. Roedd yr adborth a gafwyd wedi’r digwyddiad
yn gadarnhaol iawn. Er hynny, byddai lle
i wella bob amser. O ganlyniad i’r
digwyddiad hwn, roedd cysylltiadau cryfach yn cael eu creu rhwng partneriaid
mewnol, gyda’r bwriad o gryfhau arferion gwaith i atal sefyllfaoedd rhag
gwaethygu i argyfyngau. · hysbysu bod y broses dendro gystadleuol a gynhaliwyd ar gyfer darparu tai â chymorth wedi’i chynnal yn unol â Rheolau ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion
perthnasol. 12.10 p.m. – 12.25 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Yn ystod y
drafodaeth - ·
ail-gadarnhawyd
yr eitemau ar y rhaglen waith ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr ac fe gytunwyd i
wahodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol perthnasol i’r cyfarfod; cyflwynodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ei hymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod
hwnnw gan ddweud y byddai Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’ Parth Cyhoeddus
yn bresennol ar ei rhan. ·
nodwyd
nad oedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cyfeirio
unrhyw faterion at y Pwyllgor yn ystod eu cyfarfod diwethaf. ·
cadarnhaodd
y Cydlynydd Craffu bod y cynigion ar gyfer trefniadau cyd-graffu Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych bellach wedi’u cymeradwyo gan y
ddau Gyngor a byddai swyddogion yn datblygu’r trefniadau hyn; byddai’n rhaid
cysylltu â’r Arweinwyr Grŵp i benodi wyth o gynrychiolwyr (nad ydynt yn
Aelodau Cabinet) ar gyfer y Cydbwyllgor Craffu yn seiliedig ar gydbwysedd
gwleidyddol. ·
nodwyd
bod gwaith yn mynd rhagddo i grynhoi’r adroddiad gwybodaeth ar ofalwyr ifanc a
geisiwyd gan y Pwyllgor yn ystod ei
gyfarfod ar 20 Medi 2018 a byddai’n cael ei ddosbarthu i aelodau maes o law. ·
cadarnhawyd
y byddai adroddiadau y gofynnwyd amdanynt gan y Pwyllgor o dan eitemau rhaglen
blaenorol yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith ·
anogodd
y Cadeirydd yr aelodau i fynd i gyfarfod y Fforwm Rhiantu Corfforaethol a oedd
wedi ei drefnu ar gyfer 2.00pm ddydd Mawrth, 11 Rhagfyr yn Ystafell Gynadledda 1b, Neuadd Y Sir,
Rhuthun. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith
i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.25 p.m. Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd ynghylch ei phresenoldeb diweddar yng nghyfarfod Her Gwasanaeth
Cyfathrebu a Marchnata a dywedodd ei fod yn perfformio’n dda – anogodd yr
aelodau i ddarllen nodiadau’r cyfarfod pan oeddent ar gael. Dywedodd y
Cynghorydd Melvyn Mile ei fod wedi bod yn yr Her Gwasanaeth Gwelliant Busnes a
Moderneiddio ar 2 Hydref, cylchredwyd nodiadau’r cyfarfod yn flaenorol fel rhan
o Friff Gwybodaeth y Pwyllgor. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiadau ar lafar. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.00pm. |