Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Mynegodd y
Cynghorydd Emrys Wynne a’r Cynghorydd Joan Butterfield gysylltiad personol yn eitem
rhif 5 ar y rhaglen – Adroddiad blynyddol diogelu oedolion yn Sir Ddinbych 1
Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 456 KB Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2018 (copi ynghlwm). 10:00 a.m. –
10:05 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd 28 Mehefin
2018. PENDERFYNWYD cymeradwyo
a derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin,
2018 fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2017 - 31 MAWRTH 2018 PDF 222 KB Ystyried adroddiad gan Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion Diamddiffyn (copi
ynghlwm) i roi trosolwg o effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac
adolygu’r cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeg mis diwethaf. 10:05 a.m. – 10:50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb yr
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Tîm: Diogelu ar
Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych am y cyfnod 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yr oedd copïau
ohono wedi’i gyhoeddi a’i ddosbarthu
cyn cyfarfod y Pwyllgor.
Yn ystod ei gyflwyniad hysbysodd y Pennaeth Gwasanaeth yr aelodau fod
yr adroddiad, ei fformat wedi'i
ddiwygio yn unol ag awgrymiadau blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor, yn amlinellu'r gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â diogelu,
y gwelliannau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn
mewn perthynas â chysondeb ac ansawdd y gwaith diogelu a'r prosesau sydd
ar waith i fynd i'r afael
ag unrhyw bryderon diogelu a ddygwyd i sylw'r Cyngor, ynghyd â manylion nifer yr atgyfeiriadau
a dderbyniwyd yn y sir yn ystod 2017-18. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, ac yn unol â'r duedd
genedlaethol, roedd nifer yr atgyfeiriadau
amddiffyn oedolion wedi cynyddu yn
ystod 2017-18. Serch hynny, roedd y cynnydd o 8% yn 2017-18 o'i gymharu â 2016-17 yn sylweddol is na'r cynnydd o 48% a gofnodwyd yn 2016-17 o'i gymharu â 2015-16. Manylodd y Pennaeth Gwasanaeth
ar y 'penawdau diogelu ar gyfer
2017-18' a restrwyd yn yr adroddiad yn
cynghori aelodau, mewn ymateb i bryderon
a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) ar ansawdd cofnodion cyfarfodydd strategaeth a'u potensial i ddarparu llwybr archwilio digonol, bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud mewn
perthynas â'r agwedd hon o'r gwaith, gyda chofnodion
nawr yn cynnwys
tystiolaeth o ganlyniadau ffurfiol a chynlluniau gweithredu gyda'r amserlenni cytunedig ar gyfer eu
cwblhau. Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaeth
y Pwyllgor nad oedd perfformiad y Cyngor yn erbyn
yr unig ddangosydd
perfformiad cenedlaethol
(DP) yn ymwneud â diogelu oedolion - y nifer o ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith - a oedd yn 67% oedd
y perfformiad 'gorau' na 'gwaethaf' yng
Nghymru. Pwysleisiodd fod y dangosydd hwn yn cwmpasu
pob agwedd ar ddelio â'r
ymholiad, gan gynnwys casgliad yr holl dasgau
gweinyddol a oedd yn dibynnu
i raddau ar sefydliadau partner yn cwblhau eu gwaith
papur a'u cyflwyno i'r Cyngor
ar amser. Roedd yn bwysig
deall hynny, er nad oedd perfformiad y Cyngor mewn perthynas
â'r DP yn ymddangos yn dda,
blaenoriaeth y Cyngor oedd sicrhau diogelwch
yr unigolyn diamddiffyn. Pe bai tystiolaeth
i awgrymu bod unigolyn mewn perygl o unrhyw
fath o niwed, byddai camau'n cael eu cymryd
ar y diwrnod y daeth y dystiolaeth i'r amlwg. Cyn
ymateb i gwestiynau'r aelodau, eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth y gofynion o ran y Trefniadau Diogelu rhag Colli
Rhyddid (DoLS) a goblygiadau posib y diwygiad a gynigiwyd ym Mesur newydd
Galluedd Meddyliol y DU (Diwygiad) (MCA Bill) ar DoLS, a fydd yn
eu gweld yn cael eu
disodli gan gynllun o’r enw
Trefniadau Diogelu Rhyddid. Roedd perfformiad Sir Ddinbych mewn perthynas â gweithgarwch DoLS yn ystod 2017-18 yn unol ag
awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Ymhelaethodd hefyd ar amcanion allweddol
y Cyngor mewn perthynas â diogelu oedolion ar gyfer
y flwyddyn adrodd gyfredol. Wrth ymateb i gwestiynau'r
Pwyllgor, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth a'r Rheolwr Tîm:
Diogelu y canlynol: · cadarnhawyd bod cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a'i phrosesau cysylltiedig mewn perthynas â diogelu wedi cyfrannu at y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Derbyniwyd yn eang hefyd fod gwybodaeth gyhoeddus a chanfyddiad o'r hyn a oedd yn ymyrru ar fywyd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Yn y fan hon (10.35 a.m.) cafwyd seibiant o 10 munud |
|
DARPARIAETH GOFAL SEIBIANT AR DRAWS SIR DDINBYCH PDF 220 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Comisiynu –
Gwasanaethau Gofalwyr (copi ynghlwm) yn darparu gwybodaeth am
ddarpariaeth ac argaeledd seibiant i drigolion Sir Ddinbych sydd ag anghenion
gofal a chymorth, sydd yn eu tro yn darparu seibiant i’w teulu sy’n Ofalwyr. 11:05 a.m. – 11:50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol
cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol adroddiad y Swyddog
Comisiynu: Gwasanaethau Gofalwyr (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr
adroddiad, a ddarparwyd mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, yn amlinellu
darpariaeth ac argaeledd gwasanaethau seibiant i ddinasyddion Sir Ddinbych a
oedd ag anghenion gofal a chymorth i alluogi eu gofalwyr i dderbyn cyfnodau o
seibiant. Fel rhan o’u cyflwyniad bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol a'r Swyddog Comisiynu: Gwasanaethau Gofalwyr: ·
egluro’r diffiniad o 'seibiant' yng nghyd-destun gofal
cymdeithasol oedolion; ·
rhoi trosolwg o'r ddarpariaeth seibiant sydd ar gael i oedolion
18 oed a throsodd, a oedd yn cynnwys pobl hŷn a phobl ag anghenion
corfforol a / neu ddysgu cymhleth; ·
amlygu'r pwyslais a roddir ar ofalwyr ac anghenion gofalwyr yn
Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 (Deddf GCLl (Cymru)) a'r
cyfrifoldebau a roddir ar unigolion ac awdurdodau lleol o dan y Ddeddf i
ddiwallu anghenion gofalwyr; ·
amlinellu dull Sir Ddinbych tuag at fodloni gofynion y Ddeddf a
chadw at ei ethos mewn perthynas â gwasanaethau gofalwyr; a ·
rhoi trosolwg
o'r heriau demograffig a chomisiynu a wynebir gan y Cyngor mewn ymgais i
gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, ynghyd â gwybodaeth am y gwaith sydd
ar y gweill yn rhanbarthol mewn ymgais i ateb yr anghenion hynny trwy
wasanaethau integredig cynaliadwy ledled Gogledd Cymru. Roedd
Sir Ddinbych wedi ymrwymo'n llwyr tuag at gynorthwyo gofalwyr yn y sir hyd
eithaf ei allu. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn trwy ei gynnwys yn y Cynllun
Corfforaethol, o dan y flaenoriaeth Cymunedau Gwydn, o uchelgais i
"sicrhau bod pob gofalwr yn Sir Ddinbych yn cael cefnogaeth dda".
Gyda’r bwriad o gyflawni'r nod hwn, lluniwyd Strategaeth Gofalwyr a chynllun
gweithredu traws-wasanaeth i sicrhau bod yr holl wasanaethau yn gallu adnabod
gofalwyr a chefnogi eu hanghenion fel rhan o'u busnes bob dydd. Gan ymateb i
gwestiynau’r swyddogion: ·
cynghorodd y swyddogion yr amcangyfrifwyd bod tua 11,600 o
ofalwyr (o bob oed) ar draws y sir; ·
cynghorodd y swyddogion nad oedd pob 'gofalwr' yn ystyried eu
bod yn 'ofalwr', a bod nifer sylweddol o'r farn ei fod yn 'ddyletswydd' i ofalu
am aelod o'r teulu. Nid oedd rhai o'r unigolion hyn am gael
'asesiad gofalwr' wedi'i wneud, ac roedd y Ddeddf yn glir na ddylai neb gael ei
orfodi i gael asesiad gofalwr. Dyletswydd y Cyngor oedd gwneud darpariaeth ar
gyfer asesiadau o'r fath ar gyfer y rhai a oedd am eu cael ac i hyrwyddo eu
hargaeledd, argaeledd gwasanaethau gofalwyr ac ethos y Ddeddf i breswylwyr; ·
cydnabuwyd gan y swyddogion nad oedd pob gofalwr yn fodlon ar y
gwasanaethau sydd ar gael iddynt, er gwaethaf hyn roedd nifer yn hynod o
amharod i hysbysu'r Cyngor ynghylch y mathau o wasanaethau y byddent yn
ddefnyddiol iddynt; ·
pwysleisiodd y swyddogion nad oedd 'asesiadau gofalwyr' yn
ymarferion llenwi ffurflenni mwyach, maent bellach yn canolbwyntio ar sgwrs
'Beth sy'n Bwysig' gyda'r gofalwr gyda'r bwriad o archwilio pa ganlyniadau a
ddymunir ganddynt a'r ffordd orau o gyflawni'r canlyniadau hynny; ·
cynghorodd y
swyddogion nad oedd darpariaeth seibiant wedi'i gyfyngu i'r person 'sy'n derbyn
gofal' yn gorfod mynd i gartref preswyl neu nyrsio am gyfnod penodol o amser, y
gellid gofalu amdanynt mewn nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys yn eu
cartrefi eu hunain, darpariaeth gofal ychwanegol, gwasanaethau eistedd,
gwasanaethau dydd. Rhestrodd Atodiad 3 yr adroddiad y modelau cyfredol o
wasanaethau gofal seibiant sydd ar gael ledled Sir
Ddinbych. Mae'r mathau o ddarpariaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael, gan
gynnwys gwasanaethau hyblyg, wedi newid yn rheolaidd er mwyn bodloni dewisiadau
a gofynion unigol; · Cadarnhaodd y swyddogion bod grŵp rhanbarthol o swyddogion a rhanddeiliaid yn edrych ar hyn o ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11:50 a.m. – 12:05 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu'r adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am adolygiad yr Aelodau o raglen waith y
Pwyllgor a darparu diweddariad ar faterion perthnasol. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen
Waith i'r Dyfodol yn amodol
ar yr uchod. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12:05 p.m. – 12:10 p.m. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw adborth gan gynrychiolwyr
pwyllgorau. |
|
Cymerodd y Cynghorydd Emrys Wynne y cyfle i groesawu'r Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones yn
ôl fel Cadeirydd
yn dilyn ei habsenoldeb. |