Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jeanette Chamberlain Jones (Cadeirydd), Huw Irving a David Williams. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiad personol na rhagfarnus. |
|
Ethol
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19 (gweler ynghlwm gopi
o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Craffu a Chadeirydd / Is-Gadeirydd) 10am Cofnodion: Yn absenoldeb y
cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, gofynnodd y Cydlynydd
Craffu (SC) am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd. Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne
wedi datgan diddordeb mewn gwasanaethu fel Is-Gadeirydd y pwyllgor am dymor
arall. Roedd CV a baratowyd ganddo wedi
ei gylchredeg i holl aelodau’r pwyllgor cyn y cyfarfod. Cynigiodd y
Cynghorydd Melvyn Mile y dylid penodi’r Cynghorydd Wynne yn is-gadeirydd y
pwyllgor am y flwyddyn i ddod. Eiliodd y Cynghorydd Rhys Thomas y cynnig. Ni
dderbyniwyd enwebiadau eraill a daeth y pwyllgor i benderfyniad unfryd. Penderfynwyd – penodi’r
Cynghorydd Emrys Wynne yn is-gadeirydd y
pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018-19. Yn dilyn ei
benodiad, diolchodd y Cynghorydd Emrys Wynne i’r pwyllgor, gan ddymuno’n dda
i’r cadeirydd presennol, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones a dweud ei fod
yn gobeithio y byddai hi’n cadeirio cyfarfodydd eto cyn hir. Cadeiriodd y Cyng.
Wynne weddill y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 482 KB Derbyn cofnodion
cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau (copïau ynghlwm): (i)
13
Ebrill 2018 (ii)
3 Mai
2018 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13
Ebrill a 3 Mai 2018. Ni chodwyd unrhyw
faterion yn ymwneud â chywirdeb. PENDERFYNWYD: y dylid derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Ebrill a 3 Mai fel cofnod cywir. Materion yn
codi: Gan ymateb i
bryderon y Cynghorydd Rhys Thomas ar y lleihad yn nifer y gwlâu yn Ysbyty
Cymuned Dinbych, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wybod fod y wybodaeth
ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â’r ysbyty
wedi ei gylchredeg i aelodau’r pwyllgor.
Roedd cynrychiolwyr o’r Bwrdd wedi eu gwahodd i fynychu un o gyfarfodydd
y Pwyllgor yn y dyfodol, pan fyddai gweledigaeth y Bwrdd ar ddyfodol yr ysbyty
wedi ei gytuno arno. Roedd y Pwyllgor ar
hyn o bryd yn disgwyl cadarnhad ar bryd yr oedd y Bwrdd yn disgwyl i’r
weledigaeth honno fod ar gael. |
|
CYLLIDEBAU CYFUN (IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL) PDF 286 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi
ynghlwm) sydd yn diweddaru’r Pwyllgor am gynnydd hyd yn hyn wrth ddatblygu a
sefydlu cyllidebau cyfun ar draws gogledd Cymru yn unol â gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 10.10am – 10.45am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Annibyniaeth a llesiant adroddiad y
Pennaeth Cyllid (a gylchredwyd eisoes) oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith
yr ymgymerwyd ag o hyd yn hyn i ddatblygu a sefydlu cyllidebau cyfun rhwng y
Gwasanaeth Iechyd ac Awdurdodau Lleol ar gyfer darpariaeth rhai swyddogaethau
penodol yn unol â gofynion Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, ar draws Gogledd Cymru. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys sefydlu cyllideb gyfun ar
gyfer 'arfer swyddogaethau llety cartref gofal’. Er bod y cysyniad o gyllidebau cyfun at swyddogaethau iechyd a gofal
cymdeithasol yn gymeradwy am mai eu nod oedd i gryfhau darpariaeth gwasanaeth
trwy integreiddio gwasanaethau, cyngor yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion oedd
fod y gwaith fyddai’n ofynnol i’w sefydlu yn unol â gofynion y Ddeddf yn
gymhleth ac yn gofyn am gymryd lefel sylweddol o risg oherwydd y meintiau
ariannol ynghlwm â’r broses.
Yn
unol â gofynion y Ddeddf, roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol neu Fwrdd Adran
9 wedi ei sefydlu i sicrhau cynnydd yn y maes gwaith yma. Roedd peth amheuaeth yn
dal i fod gan aelodau Bwrdd o’r Gwasanaeth Iechyd a’r Awdurdodau Lleol fel ei
gilydd a fyddai gorfodaeth i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau
penodol yn cyflenwi gwasanaethau di-dor gwell ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth,
gan mai tystiolaeth gyfyngedig oedd i gefnogi’r ddamcaniaeth hon yn bresennol. Tra nad oedd y Ddeddf
yn benodol am faint y ‘gronfa’, roedd Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal
Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2018 wedi cyfeirio at y ffaith y
dylai pob ‘cronfa’ fod ar lefel ranbarthol yn hytrach nac is-ranbarthol h.y. i
gydweddu â’r ardal Bwrdd Iechyd leol gyfan yn hytrach na’r ardaloedd a
wasanaethir gan is-ranbarthau’r Bwrdd Iechyd, neu ‘gronfa’ rhwng pob Awdurdod
Lleol unigol a’r Bwrdd Iechyd.
O
ganlyniad, roedd Awdurdodau Lleol a byrddau iechyd ar draws holl ranbarthau
Cymru wedi cytuno i ddatblygu cronfa 'rhannu heb risg’. Roedd y dull hwn yn
ddibynnol ar weithgaredd i gydgrynhoi gwybodaeth berthnasol ar wariant ar
wasanaethau i hwyluso dadansoddiad manwl o wariant pob partner, a chynhyrchu
adroddiadau i brofi ymarferoldeb sefydlu ‘cyllidebau cyfun’ ffurfiol yn y
dyfodol. Dylai’r
gweithgaredd hwn helpu i adnabod gor/tanwariant posib pob partner yn y meysydd
‘cyllideb gyfun’ arfaethedig, fyddai’n galluogi mynd i’r afael â unrhyw
risgiau’n deillio o’r rhain cyn sefydlu ‘cyllidebau cyfun’ ffurfiol. Roedd manylder a
fformat y data a oedd yn ofynnol gan bob partner yng Ngogledd Cymru wedi ei gytuno
arno, ac roedd yn y broses o gael ei gasglu a’i ddadansoddi gan Gyngor Sir
Ddinbych fel yr Awdurdod Arweiniol penodedig. Gan ymateb i gwestiynau aelodau, hysbysodd yr Aelod Arweiniol, y
Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau,
y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol – Cydweithredfa Gwella
Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru: ·
tra bod yna ddisgwyliad
gan Lywodraeth Cymru y dylai ‘cyllidebau cyfun’ fod yn eu lle cyn Ebrill 2019,
fod holl bartneriaid Gogledd Cymru – a rhanbarthau eraill yng Nghymru – o’r
farn ei bod yn fuddiol ymgymryd â gweithgaredd i ychwanegu gwerth i wasanaethau
presennol ar draws y rhanbarth trwy gynnal peilot ar rai prosiectau er mwyn
asesu’r manteision, lleihau unrhyw risgiau, a bod yn fwy hyddysg wrth sefydlu
cyllidebau cyfun i’r gwasanaethau hynny yn y dyfodol. ·
Er nad oedd hyn yn
cyrraedd y targed o sefydlu cyllidebau cyfun ffurfiol, roedd yn ymddangos fod
Llywodraeth Cymru yn derbyn y dull yma; · fod yr amcangyfrif diweddaraf fel y’i cafwyd ar ddiwedd 2017/18 ar gyfer ‘cyllideb gyfun’ i swyddogaethau llety cartref gofal oddeutu £115m. Roedd y ffigwr yma yn amlygu graddfa bosib unrhyw ‘gyllideb gyfun’ ranbarthol ac yn atgyfnerthu barn yr holl bartneriaid ei bod yn well cymryd amser digonol i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYD-BWYLLGOR CRAFFU AR GYFER Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 374 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sydd yn
diweddaru’r aelodau am gynnydd tuag at sefydlu cydbwyllgor craffu ar gyfer
Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych er mwyn craffu ar y
cyd-fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Gofynnir
i’r Pwyllgor hefyd ystyried y cylch gorchwyl drafft a'r rheolau gweithredu ar
gyfer y cydbwyllgor craffu. 11am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei adroddiad gydag atodiadau
(a gylchredwyd eisoes) oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â
chynnig i sefydlu Cydbwyllgor Craffu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor
Sir Ddinbych ar gyfer craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych. Yn ystod ei gyflwyniad, amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
gefndir y cynnig a’r cyfrifoldebau statudol a roddir ar Awdurdodau Lleol i
graffu ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer eu hardal. Roedd gwybodaeth
fanwl ar y rhain oll yn yr adroddiad. Amlinellodd hefyd y siwrnai ddemocrataidd a gymerwyd hyd
yn hyn o fewn Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
ei hun, ynghyd â chasgliadau’r trafodaethau ar y trefniadau arfaethedig o’r
fforymau unigol. Pe bai Pwyllgor
Craffu Partneriaethau Sir Ddinbych yn y cyfarfod presennol, a Phwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Conwy yn eu cyfarfod ar 2 Gorffennaf yn
gefnogol ill dau o'r trefniadau newydd arfaethedig, byddent yn cael eu cyflwyno
i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob Awdurdod er ystyriaeth cyn cael eu
cyflwyno i Gyngor llawn y ddau Awdurdod ym mis Hydref i’w cymeradwyo er mwyn
dechrau ar y gwaith o sefydlu Cydbwyllgor Craffu at bwrpas craffu ar Fwrdd y
Gwasanaethau Cyhoeddus. Gan ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd ·
gadarnhau fod maint y
Cydbwyllgor Craffu arfaethedig eto i’w bennu. Roedd
y cylch gorchwyl drafft yn cynnig y dylid cael pwyllgor o 12 aelod – chwech
aelod yr un o’r cynghorau cyfansoddol. Cynigiwyd
cydbwyllgor 12 aelod gan y teimlid y byddai fforwm o’r maint yma yn gymorth i
sicrhau dadlau a herio adeiladol ac effeithiol. Gellid
cael fod pwyllgor llawer mwy o ran maint yn anhwylus ac felly heb y gallu i
gyflawni ei swyddogaeth wreiddiol. Fodd bynnag,
byddai’n bosib newid maint y Pwyllgor ar unrhyw adeg – gan gynnwys wedi ei
sefydlu – pe bai'r ddau Gyngor yn cytuno i’r newid hwnnw; ·
hysbysu fod y Rheoliadau
sy’n llywodraethu dros sefydliad pwyllgor ar y cyd yn nodi fod yn rhaid i
unrhyw gydbwyllgor craffu gynnwys nifer hafal o gynrychiolwyr o bob Awdurdod
Lleol sy’n rhan o’r cydbwyllgor. Wrth benodi aelodau
i’r cydbwyllgor, byddai’n ofynnol i bob Cyngor wneud hynny yn seiliedig ar
gydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod; ·
esbonio fod y cynnig yn
cael ei gyflwyno i nifer o bwyllgorau gwahanol o fewn y ddau Awdurdod cyn
ceisio caniatâd y Cyngor Sir i sefydlu cydbwyllgor craffu. Roedd hyn am ei bod
yn bwysig sicrhau cefnogaeth ehangach aelodau’r Cyngor i’r cynnig cyn ei
gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo; ·
hysbysu i’r awgrym gael ei
wneud y dylid penodi cadeirydd am dymor o ddwy flynedd gan na fyddai’r
cydbwyllgor – os sefydlid – yn debygol o gyfarfod yn amlach nac oddeutu
dwywaith y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Dim ond cynnig oedd hyn, ac roedd felly yn agored i’w drafod; ac ·
hysbysodd nad oedd
penderfyniad wedi ei wneud hyd yma ar bwy fyddai’r Awdurdod Cynnal a fyddai’n
gweinyddu'r Cydbwyllgor Craffu arfaethedig, neu a fyddai'r gwaith yn digwydd am
yn ail rhwng y ddau gyngor. Byddai trafodaethau o’r
fath yn cychwyn wedi gofyn barn swyddogaethau craffu y ddau Gyngor. Ar ddiwedd y drafodaeth roedd aelodau’r Pwyllgor yn gadarn o’r farn mai
cael Cydbwyllgor Craffu yn cynnwys 12 aelod – 6 o bob Cyngor – oedd y dewis
ffafriedig i bwrpas craffu yn effeithiol ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus, ac
y byddai’r Cydbwyllgor Craffu o bosib yn dymuno penderfynu ar dymor swydd y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi ei sefydlu. O ganlyniad: Penderfynwyd: - yng ngolau’r sylwadau
uchod i - (i) gefnogi sefydliad Cydbwyllgor Craffu ffurfiol i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.30am – 11.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) a oedd yn cyflwyno i’r Pwyllgor
ei raglen waith i’r dyfodol. Rhoddwyd gwybod
i’r Pwyllgor fod cyflwyniad adroddiad ar effeithiolrwydd y bartneriaeth wedi ei
ohirio nes y cyfarfod yn Ionawr 2019, am mai dim ond ers yn ddiweddar yr oedd y
bartneriaeth newydd a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau Teledu Cylch Caeëdig yn weithredol. Cafodd aelodau wybod y byddent yn
ymgynnull ar gyfer cyfarfod arbennig ym mis Hydref i drafod yr adroddiad Tawel
Fan a chyflenwad gwasanaethau yn y dyfodol â chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd hyn am nad
oedd cynrychiolwyr y Bwrdd ar gael i fynychu cyfarfod mis Medi. Amlinellwyd y
rhaglen waith i’r dyfodol. Amlygwyd y ffaith mai dim ond un eitem oedd ar gyfer
Tachwedd ar hyn o bryd, ond y gellid ychwanegu at hynny cyn y cyfarfod. Tynnwyd sylw aelodau at y ‘Ffurflen Gynnig
Aelod’ (Atodiad 2 yn yr adroddiad), a chawsant eu hatgoffa o’r angen i gwblhau
un o’r ffurflenni hyn os oeddent yn dymuno i unrhyw beth gael ei ychwanegu at y
rhaglen waith. Byddai’r ffurflen yn cael ei hanfon at y Grŵp Cadeiryddion
ac Is-gadeiryddion Craffu er mwyn penderfynu a oedd y pwnc yn bodloni’r meini
prawf ar gyfer craffu. Mewn ymateb i
ymholiad ar y modd yr oedd y Cyngor yn monitro ansawdd y gofal a ddarperid i
breswylwyr yn ei cartrefi eu hunain yn ogystal â chartrefi preswyl a nyrsio,
hysbysodd y Cydlynydd Craffu y darperid adroddiad monitro chwarterol i’r
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu er gwybodaeth. Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor am i’r adroddiad
yma gael ei gylchredeg i’r Pwyllgor er gwybodaeth hefyd. Ar ddiwedd y
drafodaeth: Penderfynwyd: yng ngolau’r sylwadau uchod - (i)
cymeradwyo’r
rhaglen waith fel y’i gwelir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a (ii)
gwnaethpwyd
cais i gopi o’r adroddiad chwarterol ar fonitro ansawdd y darparwyr gofal
allanol a ddarperir i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu hefyd
gael ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 11.45am
– 12pm Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
adborth gan gynrychiolwyr pwyllgor Daeth y cyfarfod
i ben am 11:35. |