Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNTIAU O RYBUDD

(i)          yn absenoldeb y Cadeirydd - y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, fe wnaeth yr Is-Gadeirydd – y Cynghorydd Emrys Wynne gadeirio’r cyfarfod

(ii)        cyfleoedd y Cydlynydd Craffu werthfawrogiad y Cynghorydd Chamberlain-Jones am yr holl negeseuon a gafodd dros yr ychydig wythnosau diwethaf, a dymunodd y Pwyllgor yn dda iddi ac adferiad buan

(iii)       croesawyd pawb a oedd yn bresennol a rhoddwyd sylw arbennig i Judith Greenhalgh, y Prif Weithredwr, a oedd yn mynychu ei chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cynghorwyr Jeanette Chamberlain-Jones (Cadeirydd), Hugh Irving a David Williams a Nicola Stubbins (Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau)

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN GWEITHREDU ATAL DIGARTREFEDD pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd (copi ynghlwm) yn diweddaru aelodau ar gynnydd gweithredu Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd.

10.05 a.m. – 10.45 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol), yn diweddaru aelodau ar gynnydd gweithredu Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd, ar gais y Pwyllgor yn ei gyfarfod Tachwedd 2017. Atgoffodd aelodau o'r newidiadau mawr a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'r ffocws ar fesurau atal ac ymyrryd o ran digartrefedd, gan dynnu sylw at y ffaith bod y broblem wedi'i dwysáu oherwydd caledi parhaus a newidiadau lles, yn cynnwys Credyd Cynhwysol.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at y diweddariad a’r camau gweithredu allweddol dros y ddwy flynedd nesaf, fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, a ymgorfforodd y camau gweithredu a oedd yn ofynnol yn Strategaeth Atal Digartrefedd Sir Ddinbych a Chynllun Blynyddol Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl Sir Ddinbych, gyda ffocws ar feysydd blaenoriaeth, fel yr argymhellir gan Swyddfa Archwilio Cymru.  Pwysleisiwyd yr angen i’r Cyngor weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau mewnol ac allanol, er mwyn cyflawni’r nodau hynny.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Rheolwr Tîm Datrysiadau Tai a Chefnogi Pobl, a Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd -

 

·         gadarnhau bod arian grant Cefnogi Pobl i fynd i’r afael â digartrefedd wedi’i ddiogelu ar gyfer 2018/19 a byddai’n parhau y tu hwnt i hwnnw – fodd bynnag, fel rhan o’r newidiadau cyllid arfaethedig yn y dyfodol, roedd mwy o bwyslais ar ymyrraeth yn cael ei ragnodi gan Lywodraeth Cymru ac roedd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai’n dosbarthu’r ‘uwch grant’ a sut y byddai’n cael ei ddyrannu

·         cydnabod bod materion gyda sefydliadau eraill sy’n cael eu sefydlu fel elusennau digartrefedd, ac roedd y Cyngor a phartneriaid yn gweithio gyda nhw er mwyn cynnig hyfforddiant ar sut i ddelio â'r materion a godwyd ac ategu at y Strategaeth Digartrefedd, gan dynnu sylw at y llwybr clir i’r rhai sydd angen cefnogaeth – roedd prosiectau Cefnogi Pobl yn cael eu monitro’n dda gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu rheoli o fewn llwybr i benderfynu ar y darparwr gorau ar gyfer unigolyn/teulu

·         rhoi gwybod bod gwasanaethau atal digartrefedd a gomisiynwyd gan Gefnogi Pobl yn cael eu lleoli mewn ardaloedd gwledig a threfol, a chytunwyd i gylchredeg copi o’r Cyfeirlyfr o Wasanaethau i aelodau’r Pwyllgor; cyfeiriwyd hefyd at y Fforwm Darparwyr Rhanbarthol, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu Fforwm Digartrefedd aml-asiantaeth, yr oedd croeso i aelodau ei fynychu

·         egluro rôl y ‘Llywiwr Cymunedol’ sy’n gysylltiedig â gwahanol ardaloedd, gydag un Llywiwr Cymunedol wedi’i ddyrannu'n rhannol i ddigartrefedd, gyda ffocws ar Gredyd Cynhwysol - gan gynnig cyngor a chefnogaeth ymyrraeth gynnar gyda phresenoldeb yng nghanolfan waith y Rhyl i gyfeirio unigolion lle bo angen, gan sicrhau bod materion yn cael sylw yn ystod y camau cynnar i atal digartrefedd

·         egluro ei bod yn anodd penderfynu ar ffigurau penodol digartrefedd, o ystyried y nifer hynny gydag ansicrwydd tai, gyda rhai unigolion nid yn byw ar y strydoedd, ond yn cysgu ar soffa/aros gyda ffrindiau – roedd tua 60 achos yr wythnos yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor a oedd yn ddigartref/mewn perygl o fod yn ddigartref

·         ymhelaethu ar y gwaith a wnaed i nodi’r unigolion/teuluoedd hynny a fyddai’n cael eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol yn ystod y camau cynnar, a thargedu cymorth i atal digartrefedd – roedd yr holl staff atal digartrefedd, yn cynnwys y rhai hynny mewn gwasanaethau a gomisiynwyd, wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Credyd Cynhwysol er mwyn cefnogi'r bobl hynny yn yr amgylchiadau hynny’n effeithiol, ac roedd y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Chyngor ar Bopeth yn hynny o beth

·         cydnabod efallai nad oedd y grwpiau penodol â’r sgiliau hanfodol neu’r mynediad gofynnol  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

CYLLIDEBAU CEFNOGI I BOBL AG ANGHENION GOFAL A CHEFNOGAETH CYMWYS pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried Adroddiad gan y Prif Reolwr: Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ymwneud â gwneud  newidiadau i ddyraniad cyllid i unigolion sy'n gymwys am ofal wedi'i reoli a chynllun gofal yn Sir Ddinbych.

11.00 a.m. – 11.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Chymorth a'r Pen Reolwr: Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn ymwneud â newidiadau i ddyraniad cyllid i unigolion sy'n gymwys am gynllun gofal a chymorth wedi'i reoli yn Sir Ddinbych.   Roedd y newidiadau mewn prosesau a dull o ran dyrannu arian wedi’i wneud yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er mwyn cynyddu dewis, llais a rheolaeth yr unigolyn a gefnogir.

 

Fe wnaeth yr adroddiad ddangos camau at ddull newydd gyda staff yn cael sgyrsiau gwahanol gyda dinasyddion, sy'n cael eu disgrifio fel arfer fel sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' - gan holi beth oedd yn bwysig iddyn nhw a sut roeddent yn dymuno cyflawni eu canlyniadau dymunol, yn hytrach na beth oedd yn bod gyda nhw, i benderfynu a oeddent yn gymwys am ofal a chymorth drwy gymhwyso'r olwyn adnoddau.  Lle nad oedd modd cyflawni canlyniadau gofal cyflawn, byddai cyllidebau cymorth yn cael eu darparu mewn un o dair ffordd (1) cyllideb wedi’i hunan-reoli (taliad uniongyrchol), (2) cyllideb trydydd parti wedi’i rheoli (broceriaeth), a (3) cyllideb wedi'i rheoli gan awdurdod lleol, a chydnabuwyd y byddai llawer o bobl hŷn yn dal eisiau pecyn gofal cartref traddodiadol wedi'i reoli gan yr awdurdod lleol.  Fodd bynnag, lle dyrannwyd arian drwy daliad uniongyrchol i unigolion, gellid ei ddefnyddio’n greadigol, ar yr amod bod y canlyniadau dymunol ac y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni, e.e. prynu gwasanaethau mewnol, cyflogi aelodau teulu, a thalu am docyn awyr/tymor i aelod teulu roi gofal seibiant.  Os byddai cyllidebau uniongyrchol yn cael eu defnyddio’n effeithiol, gellid cyflawni canlyniadau mewn ffordd well a gallai arwain at ostyngiadau cost mewn rhai achosion.  Yn olaf, cyfeiriwyd at y newidiadau system gofynnol a fyddai'n effeithio ar staff gofal cymdeithasol, swyddogion cyllid a gwasanaethau a darparwyr cymorth eraill, yr oedd angen eu rheoli’n addas.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion -

 

·         gyfeirio at y potensial o system broceriaeth gofal Iaith Gymraeg, i gysylltu â gofalwyr, a chydnabuwyd nifer y siaradwr Cymraeg ar draws y sir gyfan, gyda galw mewn trefi mawr yn ogystal ag ardaloedd gwledig

·         adrodd ar gamau diogelu i amddiffyn yn erbyn camreoli arian, gyda gwasanaeth cyfrif wedi’i reoli’n fewnol ar gyfer taliadau uniongyrchol a dalir bob mis – nododd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) y dylid adolygu cyllidebau yn y chwe mis cyntaf; roedd y cynllun gofal a chymorth yn manylu ynghylch canlyniadau penodol a fyddai’n cael eu hasesu drwy’r broses adolygu a byddai disgwyliadau'n cael eu hegluro i unigolion a monitro trylwyr o'r contract yn digwydd.  Os canfyddir bod arian wedi’i gamddefnyddio, roedd dull ar gyfer adfachu

·         cadarnhau nad oedd taliadau uniongyrchol wedi’u hyrwyddo’n dda hyd yn hyn, gyda thua 90 allan o 1500 o unigolion yn cael taliadau uniongyrchol; roedd y mwyafrif o’r rhai hynny a gafodd daliadau uniongyrchol yn oedolion ieuengach gydag anableddau cymhleth, ond roedd esiamplau lle gellid bodloni anghenion pobl hŷn gartref, gyda chymorth y teulu a gofal cymdeithasol, yn hytrach na lleoliad cartref gofal preswyl, gan roi mwy o ddewis felly i'r unigolyn

·         rhoi gwybod bod opsiynau i godi ymwybyddiaeth o daliadau uniongyrchol yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, ac mai taliad uniongyrchol fyddai’r sefyllfa ddiofyn o’r cychwyn cyntaf (os yw’n addas), i’r rhai hynny sy’n gymwys yn dilyn asesiad, a gellid cael sicrwydd o weithrediad buan systemau a gweithdrefnau addas sydd yn eu lle

·         egluro’r defnydd o’r olwyn adnoddau fel offeryn i sicrhau dull yn seiliedig ar asedau, gan wneud y gorau o gyfraniad cryfderau pobl a’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 223 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

11.45 a.m. – 12 noon

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

Yn ystod y drafodaeth -

 

·         cadarnhawyd y byddai adroddiadau y gofynnwyd amdanynt gan y Pwyllgor o dan eitemau rhaglen blaenorol yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith

·         cytunodd aelodau i ganslo’r cyfarfod arbennig a drefnwyd ar gyfer 11 Mai i drafod canfyddiadau adroddiad HASCAS ar Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd, gan nad oedd y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa i anfon cynrychiolwyr.  Oherwydd maint a natur yr adroddiad, teimlai aelodau y byddai’n fwy addas cyfarfod ar sail anffurfiol i’w adolygu a ffurfio cwestiynau er mwyn paratoi ar gyfer cyfarfod y dyfodol gyda chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd.  Cytunwyd cynnull cyfarfod adolygu 10.00 am dydd Mercher 16 Mai 2018 yn Neuadd y Sir, Rhuthun, a thra na fyddai’n gyfarfod cyhoeddus, byddai pob cynghorydd yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol.  Nododd yr Aelodau hefyd y byddai’r Bwrdd Iechyd yn trafod canfyddiadau’r adroddiad 12 Gorffennaf 2018 ac felly ni fyddai disgwyl iddynt fod mewn sefyllfa i anfon cynrychiolwyr i gyfarfod y Pwyllgor hyd nes ar ôl y dyddiad hwnnw

·         ail-gadarnhawyd eitemau ar y rhaglen waith ar gyfer cyfarfod Mehefin, ond nodwyd efallai nad oedd digon o gynnydd wedi’i wneud ar y Bartneriaeth TCC er mwyn rhoi adroddiad ystyrlon ar yr adeg honno - byddai’r Cydlynydd Craffu’n gwneud ymholiadau pellach ac yn adrodd yn ôl i’r aelodau yn hynny o beth

·         nodwyd nad oedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cyfeirio unrhyw faterion at y Pwyllgor yn ystod eu cyfarfod yr wythnos flaenorol, ac

·         yn absenoldeb y Cadeirydd, a oedd yn gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Buddsoddi Strategol, ceisiwyd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cael rhywun arall dros dro  Fe wnaeth y Cynghorwyr Joan Butterfield ac Emrys Wynne ddatgan diddordeb, ac yn dilyn pleidlais gyfartal, fe wnaeth y Cynghorydd Wynne ildio ei ddiddordeb o blaid y Cynghorydd Butterfield.

 

PENDERFYNWYD –

 

(a)       yn amodol ar ychwanegu’r eitemau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, i gymeradwyo’r Rhaglen Waith fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a

 

(b)       phenodi’r Cynghorydd Joan Butterfield fel cynrychiolydd dros dro’r Pwyllgor ar y Grŵp Buddsoddi Strategol, nes y bydd y Cadeirydd yn dychwelyd.

 

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

12 noon – 12.05 p.m.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd adrodd ynghylch ei bresenoldeb diweddar mewn cyfarfod o’r Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg, lle nodwyd mai'r unig gynrychiolwyr a oedd yn bresennol oedd y rhai o ysgolion Cyfrwng Cymraeg.  Tynnwyd sylw at yr angen am gynrychiolaeth ehangach o’r ysgolion hynny sy’n cynnig Cymraeg fel ail iaith, o ystyried bod ganddynt rôl bwysig i'w chwarae i helpu i fodloni'r targed o siaradwyr Cymraeg cynyddol.  Rhoddwyd sylw arbennig i Ysgol Emmanuel, ymhlith eraill.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm.