Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU O RYBUDD (i)
yn absenoldeb y Cadeirydd - y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain-Jones, fe wnaeth yr Is-Gadeirydd – y Cynghorydd Emrys Wynne
gadeirio’r cyfarfod (ii)
cyfleoedd y Cydlynydd Craffu werthfawrogiad y Cynghorydd Chamberlain-Jones
am yr holl negeseuon a gafodd dros yr ychydig wythnosau diwethaf, a dymunodd y
Pwyllgor yn dda iddi ac adferiad buan (iii)
croesawyd pawb a oedd yn bresennol a rhoddwyd sylw
arbennig i Judith Greenhalgh, y Prif Weithredwr, a oedd yn mynychu ei chyfarfod
cyntaf o’r Pwyllgor. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr
Jeanette Chamberlain-Jones (Cadeirydd), Hugh Irving a David Williams a Nicola
Stubbins (Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau) |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN GWEITHREDU ATAL DIGARTREFEDD PDF 218 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd (copi ynghlwm) yn diweddaru
aelodau ar gynnydd gweithredu Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd. 10.05 a.m. – 10.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol), yn
diweddaru aelodau ar gynnydd gweithredu Cynllun Gweithredu Atal Digartrefedd,
ar gais y Pwyllgor yn ei gyfarfod Tachwedd 2017. Atgoffodd aelodau o'r
newidiadau mawr a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, a'r ffocws ar fesurau atal ac ymyrryd o ran digartrefedd, gan
dynnu sylw at y ffaith bod y broblem wedi'i dwysáu
oherwydd caledi parhaus a newidiadau lles, yn cynnwys Credyd Cynhwysol. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y diweddariad a’r camau gweithredu allweddol
dros y ddwy flynedd nesaf, fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad, a
ymgorfforodd y camau gweithredu a oedd yn ofynnol yn Strategaeth Atal
Digartrefedd Sir Ddinbych a Chynllun Blynyddol Atal Digartrefedd / Cefnogi Pobl
Sir Ddinbych, gyda ffocws ar feysydd blaenoriaeth, fel yr argymhellir gan
Swyddfa Archwilio Cymru. Pwysleisiwyd yr angen i’r Cyngor weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau
mewnol ac allanol, er mwyn cyflawni’r nodau hynny. Gan ymateb i gwestiynau aelodau, fe wnaeth yr
Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Rheolwr Tîm
Datrysiadau Tai a Chefnogi Pobl, a Swyddog Comisiynu Atal Digartrefedd - ·
gadarnhau
bod arian grant Cefnogi Pobl i fynd i’r afael â digartrefedd wedi’i ddiogelu ar
gyfer 2018/19 a byddai’n parhau y tu hwnt i hwnnw – fodd bynnag, fel rhan o’r
newidiadau cyllid arfaethedig yn y dyfodol, roedd mwy o bwyslais ar ymyrraeth
yn cael ei ragnodi gan Lywodraeth Cymru ac roedd ansicrwydd ynghylch pwy
fyddai’n dosbarthu’r ‘uwch grant’ a sut y byddai’n cael ei ddyrannu ·
cydnabod
bod materion gyda sefydliadau eraill sy’n cael eu sefydlu fel elusennau
digartrefedd, ac roedd y Cyngor a phartneriaid yn gweithio gyda nhw er mwyn
cynnig hyfforddiant ar sut i ddelio â'r materion a godwyd ac ategu at y
Strategaeth Digartrefedd, gan dynnu sylw at y llwybr clir i’r rhai sydd angen
cefnogaeth – roedd prosiectau Cefnogi Pobl yn cael eu monitro’n dda gan
Lywodraeth Cymru ac yn cael eu rheoli o fewn llwybr i benderfynu ar y darparwr
gorau ar gyfer unigolyn/teulu ·
rhoi
gwybod bod gwasanaethau atal digartrefedd a gomisiynwyd gan Gefnogi Pobl yn
cael eu lleoli mewn ardaloedd gwledig a threfol, a chytunwyd i gylchredeg copi
o’r Cyfeirlyfr o Wasanaethau i aelodau’r Pwyllgor; cyfeiriwyd hefyd at y Fforwm
Darparwyr Rhanbarthol, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu Fforwm
Digartrefedd aml-asiantaeth, yr oedd croeso i aelodau ei fynychu ·
egluro
rôl y ‘Llywiwr Cymunedol’ sy’n gysylltiedig â gwahanol ardaloedd, gydag un
Llywiwr Cymunedol wedi’i ddyrannu'n rhannol i ddigartrefedd, gyda ffocws ar
Gredyd Cynhwysol - gan gynnig cyngor a chefnogaeth ymyrraeth gynnar gyda
phresenoldeb yng nghanolfan waith y Rhyl i gyfeirio unigolion lle bo angen, gan
sicrhau bod materion yn cael sylw yn ystod y camau cynnar i atal digartrefedd ·
egluro
ei bod yn anodd penderfynu ar ffigurau penodol digartrefedd, o ystyried y nifer
hynny gydag ansicrwydd tai, gyda rhai unigolion nid yn byw ar y strydoedd, ond
yn cysgu ar soffa/aros gyda ffrindiau – roedd tua 60 achos yr wythnos yn cael
eu cyflwyno i’r Cyngor a oedd yn ddigartref/mewn perygl o fod yn ddigartref ·
ymhelaethu
ar y gwaith a wnaed i nodi’r unigolion/teuluoedd hynny a fyddai’n cael eu
heffeithio gan Gredyd Cynhwysol yn ystod y camau cynnar, a thargedu cymorth i
atal digartrefedd – roedd yr holl staff atal digartrefedd, yn cynnwys y rhai
hynny mewn gwasanaethau a gomisiynwyd, wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth
Credyd Cynhwysol er mwyn cefnogi'r bobl hynny yn yr amgylchiadau hynny’n
effeithiol, ac roedd y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Chyngor ar Bopeth yn
hynny o beth · cydnabod efallai nad oedd y grwpiau penodol â’r sgiliau hanfodol neu’r mynediad gofynnol ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
CYLLIDEBAU CEFNOGI I BOBL AG ANGHENION GOFAL A CHEFNOGAETH CYMWYS PDF 225 KB Ystyried
Adroddiad gan y Prif Reolwr: Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ymwneud â
gwneud newidiadau i ddyraniad cyllid i
unigolion sy'n gymwys am ofal wedi'i reoli a chynllun gofal yn Sir Ddinbych. 11.00 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Pennaeth
Gwasanaethau Cymunedol a Chymorth a'r Pen Reolwr: Gwasanaethau Cymorth
Cymunedol yr adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn ymwneud â newidiadau i
ddyraniad cyllid i unigolion sy'n gymwys am gynllun gofal a chymorth wedi'i
reoli yn Sir Ddinbych. Roedd y
newidiadau mewn prosesau a dull o ran dyrannu arian wedi’i wneud yn unol â
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er mwyn cynyddu dewis,
llais a rheolaeth yr unigolyn a gefnogir. Fe wnaeth yr
adroddiad ddangos camau at ddull newydd gyda staff yn cael sgyrsiau gwahanol
gyda dinasyddion, sy'n cael eu disgrifio fel arfer fel sgyrsiau 'beth sy'n
bwysig' - gan holi beth oedd yn bwysig iddyn nhw a sut roeddent yn dymuno
cyflawni eu canlyniadau dymunol, yn hytrach na beth oedd yn bod gyda nhw, i
benderfynu a oeddent yn gymwys am ofal a chymorth drwy gymhwyso'r olwyn
adnoddau. Lle nad oedd modd cyflawni
canlyniadau gofal cyflawn, byddai cyllidebau cymorth yn cael eu darparu mewn un
o dair ffordd (1) cyllideb wedi’i hunan-reoli (taliad uniongyrchol), (2)
cyllideb trydydd parti wedi’i rheoli (broceriaeth), a (3) cyllideb wedi'i
rheoli gan awdurdod lleol, a chydnabuwyd y byddai llawer o bobl hŷn yn dal
eisiau pecyn gofal cartref traddodiadol wedi'i reoli gan yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, lle dyrannwyd arian drwy daliad
uniongyrchol i unigolion, gellid ei ddefnyddio’n greadigol, ar yr amod bod y
canlyniadau dymunol ac y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni, e.e. prynu
gwasanaethau mewnol, cyflogi aelodau teulu, a thalu am docyn awyr/tymor i aelod
teulu roi gofal seibiant. Os byddai
cyllidebau uniongyrchol yn cael eu defnyddio’n effeithiol, gellid cyflawni
canlyniadau mewn ffordd well a gallai arwain at ostyngiadau cost mewn rhai
achosion. Yn olaf, cyfeiriwyd at y
newidiadau system gofynnol a fyddai'n effeithio ar staff gofal cymdeithasol,
swyddogion cyllid a gwasanaethau a darparwyr cymorth eraill, yr oedd angen eu
rheoli’n addas. Mewn ymateb i
gwestiynau a sylwadau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion - ·
gyfeirio
at y potensial o system broceriaeth gofal Iaith Gymraeg, i gysylltu â gofalwyr,
a chydnabuwyd nifer y siaradwr Cymraeg ar draws y sir gyfan, gyda galw mewn
trefi mawr yn ogystal ag ardaloedd gwledig ·
adrodd
ar gamau diogelu i amddiffyn yn erbyn camreoli arian, gyda gwasanaeth cyfrif
wedi’i reoli’n fewnol ar gyfer taliadau uniongyrchol a dalir bob mis – nododd
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) y dylid adolygu cyllidebau
yn y chwe mis cyntaf; roedd y cynllun gofal a chymorth yn manylu ynghylch
canlyniadau penodol a fyddai’n cael eu hasesu drwy’r broses adolygu a byddai
disgwyliadau'n cael eu hegluro i unigolion a monitro trylwyr o'r contract yn
digwydd. Os canfyddir bod arian wedi’i
gamddefnyddio, roedd dull ar gyfer adfachu ·
cadarnhau
nad oedd taliadau uniongyrchol wedi’u hyrwyddo’n dda hyd yn hyn, gyda thua 90
allan o 1500 o unigolion yn cael taliadau uniongyrchol; roedd y mwyafrif o’r
rhai hynny a gafodd daliadau uniongyrchol yn oedolion ieuengach gydag
anableddau cymhleth, ond roedd esiamplau lle gellid bodloni anghenion pobl
hŷn gartref, gyda chymorth y teulu a gofal cymdeithasol, yn hytrach na
lleoliad cartref gofal preswyl, gan roi mwy o ddewis felly i'r unigolyn ·
rhoi
gwybod bod opsiynau i godi ymwybyddiaeth o daliadau uniongyrchol yn cael eu
harchwilio ar hyn o bryd, ac mai taliad uniongyrchol fyddai’r sefyllfa ddiofyn
o’r cychwyn cyntaf (os yw’n addas), i’r rhai hynny sy’n gymwys yn dilyn
asesiad, a gellid cael sicrwydd o weithrediad buan systemau a gweithdrefnau
addas sydd yn eu lle · egluro’r defnydd o’r olwyn adnoddau fel offeryn i sicrhau dull yn seiliedig ar asedau, gan wneud y gorau o gyfraniad cryfderau pobl a’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 223 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11.45 a.m. – 12 noon Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) sy’n gofyn i’r Aelodau adolygu
Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. Yn ystod y
drafodaeth - ·
cadarnhawyd
y byddai adroddiadau y gofynnwyd amdanynt gan y Pwyllgor o dan eitemau rhaglen
blaenorol yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith ·
cytunodd
aelodau i ganslo’r cyfarfod arbennig a drefnwyd ar gyfer 11 Mai i drafod
canfyddiadau adroddiad HASCAS ar Ward Tawelfan yn Ysbyty Glan Clwyd, gan nad
oedd y Bwrdd Iechyd mewn sefyllfa i anfon cynrychiolwyr.
Oherwydd maint a natur
yr adroddiad, teimlai aelodau y byddai’n fwy addas cyfarfod ar sail anffurfiol
i’w adolygu a ffurfio cwestiynau er mwyn paratoi ar gyfer cyfarfod y dyfodol
gyda chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd. Cytunwyd cynnull cyfarfod adolygu 10.00 am dydd
Mercher 16 Mai 2018 yn Neuadd y Sir, Rhuthun, a thra na fyddai’n gyfarfod
cyhoeddus, byddai pob cynghorydd yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol.
Nododd yr Aelodau
hefyd y byddai’r Bwrdd Iechyd yn trafod canfyddiadau’r adroddiad 12 Gorffennaf
2018 ac felly ni fyddai disgwyl iddynt fod mewn sefyllfa i anfon cynrychiolwyr
i gyfarfod y Pwyllgor hyd nes ar ôl y dyddiad hwnnw ·
ail-gadarnhawyd eitemau ar y rhaglen waith ar gyfer
cyfarfod Mehefin, ond nodwyd efallai nad oedd digon o gynnydd wedi’i wneud ar y
Bartneriaeth TCC er mwyn rhoi adroddiad ystyrlon ar yr adeg honno - byddai’r
Cydlynydd Craffu’n gwneud ymholiadau pellach ac yn adrodd yn ôl i’r aelodau yn
hynny o beth ·
nodwyd
nad oedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cyfeirio
unrhyw faterion at y Pwyllgor yn ystod eu cyfarfod yr wythnos flaenorol, ac ·
yn
absenoldeb y Cadeirydd, a oedd yn gynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp
Buddsoddi Strategol, ceisiwyd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cael rhywun
arall dros dro Fe wnaeth y Cynghorwyr Joan Butterfield ac Emrys Wynne ddatgan diddordeb,
ac yn dilyn pleidlais gyfartal, fe wnaeth y Cynghorydd Wynne ildio ei
ddiddordeb o blaid y Cynghorydd Butterfield. PENDERFYNWYD – (a) yn amodol ar ychwanegu’r eitemau y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, i
gymeradwyo’r Rhaglen Waith fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad, a (b) phenodi’r Cynghorydd Joan Butterfield fel cynrychiolydd dros dro’r Pwyllgor
ar y Grŵp Buddsoddi Strategol, nes y bydd y Cadeirydd yn dychwelyd. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12 noon – 12.05 p.m. Cofnodion: Fe wnaeth y
Cadeirydd adrodd ynghylch ei bresenoldeb diweddar mewn cyfarfod o’r Grŵp
Strategol Cymraeg mewn Addysg, lle nodwyd mai'r unig gynrychiolwyr a oedd yn
bresennol oedd y rhai o ysgolion Cyfrwng Cymraeg. Tynnwyd sylw at yr angen am gynrychiolaeth
ehangach o’r ysgolion hynny sy’n cynnig Cymraeg fel ail iaith, o ystyried bod
ganddynt rôl bwysig i'w chwarae i helpu i fodloni'r targed o siaradwyr Cymraeg
cynyddol. Rhoddwyd sylw arbennig i Ysgol
Emmanuel, ymhlith eraill. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.15pm. |