Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield, Jeanette
Chamberlain-Jones (Cadeirydd) a Pat Jones. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un I’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitemau 5, 6 a 7 gan ei
fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 534 KB Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2017 (copi ynghlwm). 10.05 a.m. – 10.10 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2017. Materion yn codi
– tudalen 7 (ail bwynt bwled) – holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw ymateb i’r
mater hwn wedi dod i law. Cadarnhawyd
bod y Strategaeth wedi’i chyflwyno gerbron y Cabinet yn gynharach yn yr wythnos
ac wedi’i chymeradwyo. Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau y byddai’n gwneud ymholiadau ac yn adrodd
yn ôl i’r Pwyllgor ar y diffyg rheolaeth ymddangosiadol a oedd gan awdurdodau
lleol o ran darparu cymorth digartrefedd statudol, oherwydd bod y diffiniad o’r
term ‘cysylltiad lleol’ fel yr oedd yn ymwneud â’r ddeddfwriaeth yn eithriadol
o amwys ac yn ymddangos fel pe bai o blaid unrhyw un a oedd eisiau mynediad at
y gwasanaeth yn yr ardal. Cododd y
Cadeirydd y pwynt hefyd ei fod wedi gofyn am wybodaeth yn y cyfarfod am y gost
gyfartalog fesul uned pan fyddai teuluoedd yn cael eu rhoi mewn llety gwely a
brecwast dros dro, a thra bod ffigurau ar gyfer cyfanswm y gost wedi’u rhoi,
nid oedd costau cyfartalog fesul uned deuluol wedi’u rhoi. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2
Tachwedd 2017 fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUN LLES BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018-2022 PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i’r Pwyllgor
dderbyn a chytuno ar yr adroddiad ac ymateb fel ymgynghorai statudol. 10.10 a.m. – 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Cyflwynwyd yr
adroddiad a Chynllun Lles drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych 2018-2022 (a gylchredwyd yn flaenorol) gan y Dirprwy Arweinydd ac
Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, gan ddirprwyo ar ran
yr Arweinydd a oedd i ffwrdd ar apwyntiad arall. Yn ystod ei gyflwyniad, rhoddodd friff i’r
Pwyllgor ar gefndir sefydliad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ei aelodau,
pwrpas a chylch gwaith, cyn cyflwyno’r Cynllun Lles drafft i aelodau.
Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor bod y
Cynllun drafft, a oedd wedi’i ddatblygu’n defnyddio dull tebyg i Gynllun
Corfforaethol y Cyngor ei hun, wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus, a bod y Pwyllgor yn un o'r ymgyngoreion statudol, yr
oedd yn ofynnol i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori ag ef ar ei
gynlluniau arfaethedig, a dyna pam roedd y Bwrdd yn ceisio ei safbwyntiau ar y
saith cwestiwn ymgynghoriad a restrwyd yn yr adroddiad a’r Cynllun drafft.
Byddai’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn rhedeg am gyfnod o ddeuddeg wythnos, ac
ar y diwedd byddai pob sefydliad partner yn mynd â’u Cynllun drwy eu cyrff
gwneud penderfyniadau dynodedig. Yn Sir Ddinbych, byddai’r Cyngor llawn yn ystyried ac yn cymeradwyo’r
Cynllun terfynol gobeithio yn Chwefror 2018. Yn ystod y
cyflwyniad, dywedodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol fod Cyngor Sir Ddinbych
yn cael ei annog gan y cysylltiadau rhwng y chwe blaenoriaeth yng Nghynllun
Lles drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018-2022 a’r pum blaenoriaeth yng
Nghynllun Corfforaethol 2017-2022 y Cyngor ei hun. Gan ymateb i gwestiynau aelodau,
rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion wybod:
|
|
ADRODDIAD CYNNYDD - STRATEGAETH GOFALWYR SIR DDINBYCH 2016-19 PDF 407 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Comisiynu ar gyfer y Gwasanaeth Gofalwyr (copi ynghlwm)
i ddarparu gwybodaeth ynghylch cynnydd ar ddatblygu’r Strategaeth. 10.50 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd
yn flaenorol), a roddodd ddiweddariad i aelodau ynghylch y cynnydd a wnaed hyd
yn hyn i ddarparu’r strategaeth tair blynedd, a rhoddodd wybod i’r Pwyllgor am
ddatblygiadau sylweddol eraill yn ymwneud â gwasanaethau gofalwyr.
Yn ystod ei chyflwyniad, dywedodd yr
Aelod Arweiniol y daethpwyd â ffaith i’w sylw mewn cynhadledd genedlaethol
ddiweddar, lle nodwyd bod yna 370,000 o ofalwyr di-dâl wedi’u hamcangyfrif yng
Nghymru’n unig. Roedd y
gofalwyr hyn yn arbed miliynau o bunnoedd i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
o'r naill flwyddyn i'r llall, felly roedd yn allweddol eu bod yn cael cymaint o
gefnogaeth â phosibl yn eu swyddogaethau fel gofalwyr. Tynnodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol sylw'r aelodau at y fersiwn wedi'i
ddiweddaru o Gynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych, a oedd yn
amgaeedig yn Atodiad 1 o’r adroddiad, gan roi gwybod bod y mwyafrif o gamau
gweithredu a restrwyd wedi’u dyfarnu â statws COG Gwyrdd, a oedd yn golygu eu
bod naill ai wedi’u cyflawni neu ar y trywydd cywir i gael eu cyflawni, roedd
gan rai statws COG melyn a oedd yn golygu eu bod yn dal ar y gweill, tra bod un
gyda statws COG ‘coch’. Roedd yr un diwethaf yn ymwneud â chynnig i archwilio'r buddion o ddatblygu
'model cynhadledd deuluol' i ddelio â sefyllfaoedd mewn Gwasanaethau Oedolion,
yn debyg i’r model gweithredu llwyddiannus yng Ngwasanaethau Plant.
Er bod y Gwasanaeth yn dal yn
cynllunio i archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu’r model hwn, roedd y gwaith
wedi’i ohirio ar hyn o bryd oherwydd bod angen blaenoriaethu gofynion eraill a
gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Lles
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth wybod bod
darpariaeth gyffredinol o’r Strategaeth yn mynd yn dda, er nad oedd unrhyw
arian newydd neu ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau gofalwyr. Roedd yna deimlad cyffredinol ymhlith
gofalwyr, a’r rhai roeddent yn gofalu amdanynt, eu bod yn cael gwell cefnogaeth
nawr nag yn y gorffennol, ac yn gallu cael mynediad at wasanaethau neu gymorth
os oeddent eu hangen. Yn Atodiad 2 yr
adroddiad, roedd crynodeb o ganfyddiadau astudiaeth ddiweddar o gynnydd a wnaed
yn genedlaethol i weithredu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014, gan eu bod yn ymwneud â gwasanaethau Gofalwyr, yn cynnwys
sefyllfa gyfredol Sir Ddinbych mewn perthynas â phob ‘canfyddiad’.
Roedd yr Atodiad hwn hefyd yn
amlinellu materion eraill a oedd yn ymwneud â Gofalwyr, yr oedd gofyn i'r
Cyngor eu hystyried a'u harchwilio ymhellach. Gan ymateb i
gwestiynau aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Gwasanaeth a Swyddog
Comisiynu Gwasanaethau Gofalwyr roi gwybod bod:
|
|
Ar y pwynt hwn (11.30 a.m.) cafwyd egwyl o 10
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40 a.m. |
|
ADOLYGU'R UN PWYNT MYNEDIAD (SPOA) PDF 220 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth, Ardaloedd (copi ynghlwm) i ddarparu
diweddariad ar berfformiad Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych ar gyfer Gofal
Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol. 11.40 a.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Gan gyflwyno’r
adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol), rhoddodd yr Aelod
Arweiniol Lles ac Annibyniaeth wybodaeth ei bod yn gefnogwr brwd o'r Gwasanaeth
Un Pwynt Mynediad, gan ei bod yn teimlo ei fod yn cyfrannu at y rhaglen
gwytnwch cymunedol. Roedd
copi o’r adroddiad adolygu, a oedd yn rhoi manylion ynghylch y dull adolygu a’r
meysydd gwasanaeth a ystyriwyd fel rhan ohono, yn amgaeedig fel Atodiad 1 o’r
adroddiad. Roedd amcan
yr adolygiad wedi bod yn ddeublyg – i asesu pa mor effeithiol ac effeithlon
oedd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad wrth gyflawni ei wasanaethau ac wrth wella
canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth, ac i sefydlu a oedd y model darparu
gwasanaeth yn addas ar gyfer y dyfodol. Roedd ystadegau
yn yr adroddiad yn dangos y galw ar y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn ystod
Chwarteri 1 a 2 ar gyfer y tair blynedd diwethaf, roedd y rhain yn dangos
cynnydd parhaus mewn cyswllt â'r Gwasanaeth, ac atgyfeiriadau ato.
Mewn ymateb i ymholiadau a ddaeth i
law, rhoddodd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad gyngor am wasanaethau neu
asiantaethau a allai gynorthwyo’r rhai hynny a oedd angen cymorth. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn ysgogi
atgyfeiriadau i wasanaethau ymyrryd, gyda’r bwriad o gefnogi unigolion i fyw’n
annibynnol am gyn hired â phosibl, ac felly lleihau’r galw a’r pwysau ar
wasanaethau mwy dwys. Roedd
yr Adolygiad wedi dod i gasgliad bod y cysyniad Un Pwynt Mynediad yn cael ei
werthfawrogi gan bob budd-ddeiliad a’r rhai a ddefnyddiodd y gwasanaethau.
Er bod y Gwasanaeth yn cael ei
ystyried yn addas at y diben, cafodd ei gydnabod, wrth i Dimau Adnoddau
Cymunedol gael eu datblygu, y byddai angen i’r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad
esblygu ac addasu i ategu at y gwasanaethau a roddwyd ganddynt. Roedd nifer o feysydd ar gyfer gwella a
datblygu yn y dyfodol wedi’u nodi, roedd y rhain yn cynnwys: ·
yr
angen i sefydlu a gweithredu fframwaith sicrwydd ansawdd cadarn, a fyddai’n
mesur, sgiliau, gwybodaeth a hyder, ymhlith pethau eraill, y Tîm Un Pwynt
Mynediad i ddarparu Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth; ·
gwella
gwaith rhyngwyneb gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ysbytai ac
yn y gymuned; ·
yr
angen i adolygu ac ailddiffinio swyddogaethau a sgiliau cyfun yn y Gwasanaeth; ·
gwneud
Un Pwynt Mynediad yn fwy hygyrch i gefnogi meddygfeydd Meddygon Teulu ac iddo
hyrwyddo mwy o negeseuon iechyd cyhoeddus; ·
defnyddio
Un Pwynt Mynediad i gefnogi’r datblygiad o Bwyntiau Siarad a’r Gwasanaethau
Llywiwr Cymunedol; ac ·
archwilio
cyfleoedd cyd-weithio posibl gyda Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn ystod y cyflwyniad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Ardaloedd) fanylion ynghylch nifer o astudiaethau achos sy’n dangos llwyddiant y Gwasanaeth yn ystod y sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, y cyswllt cychwynnol; roedd gan y cyhoedd gyda'r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad, lle'r oedd cyngor perthnasol ac ati wedi'i roi ar yr adeg gywir, ac o ganlyniad, arweiniodd hynny at oddeutu 35% i 40% o’r rhai hynny a gysylltodd â’r Gwasanaeth, nad oedd angen cefnogaeth mwy dwys a drud gan y Gwasanaethau Cymdeithasol mwyach. Rhoddodd wybod, fel rhan o’r sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, bod trafodaethau wedi digwydd ynghylch y math o gefnogaeth neu wasanaethau a oedd yn ofynnol gan yr unigolyn er mwyn cynnal eu hannibyniaeth, a’u gallu i ariannu’r gwasanaethau hynny. Yn ei hanfod, roedd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn wasanaeth cynghori a oedd yn cyfeirio pobl at wasanaethau a all fod ar gael iddynt, wrth weithredu fel gwasanaeth atal hefyd drwy gyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd cymunedol, gyda’r bwriad o gynnal eu lles cyffredinol. ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r
Aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Byddai’r cyfarfod
nesaf yn cael ei gynnal 22 Ionawr 2018 lle’r oedd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau eu presenoldeb. Roedd Aelodau
wedi gofyn i’r Cydlynydd Archwilio i archwilio’r posibilrwydd o newid dyddiad
cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 1 Mawrth 2018 i ddyddiad
ddiwedd Mawrth, neu ddechrau Ebrill, gyda’r bwriad o dderbyn adroddiadau
Tawelfan yn gynt na’r cyfarfod ym Mehefin fel y trefnwyd yn wreiddiol. Roeddent yn teimlo y byddai cyfarfod Mehefin
ychydig yn hwyr i'r Pwyllgor roi sylwadau ar eu canfyddiadau. Byddai Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio’n cyfarfod 18
Ionawr 2018. Os oedd gan Aelodau unrhyw eitemau roeddent yn dymuno eu hystyried
ar gyfer cyfarfodydd Archwilio yn y dyfodol, gofynnwyd iddynt lenwi ffurflen
gynnig a oedd yn y pecyn. PENDERFYNWYD cadarnhau
rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Melvyn Mile wedi mynd i’r Her Gwella Busnes a Moderneiddio
Gwasanaeth. Rhoddodd ddiweddariad i
aelodau ar y pwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod Her Gwasanaeth, a oedd yn
cynnwys: ·
pa
mor hyderus oedd y Gwasanaeth bod y Cyngor yn archwilio’r ‘pethau cywir’?; ·
archwilio’r
potensial ar gyfer cydweithredu rhanbarthol a gwaith trawsawdurdod ym maes
TGCh, os oedd y Cyngor am wireddu ei uchelgais i fod yn Gyngor cwbl ddigidol
erbyn 2022; a ·
meysydd
posibl i gynhyrchu incwm yn y dyfodol? h.y. o werthu gwasanaethau i gynghorau
eraill Roedd y camau
gweithredu allweddol a nodwyd yn ystod y broses Her Gwasanaeth, i’r Gwasanaeth
eu datblygu yn ystod y flwyddyn i ddod, wedi’u manylu yn y nodiadau a
gylchredwyd i aelodau Pwyllgor yn y ddogfen Briff Gwybodaeth cyn cyfarfod y
Pwyllgor. |
|
Daeth y cyfarfod i
ben am 12.30 p.m. |