Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Melvyn Mile gysylltiad
personol a datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiadau personol yn eitem 5,
Strategaeth Ddigartrefedd Sir Ddinbych
2017-2021 a Chynllun Cefnogi Pobl / Atal Digartrefedd Sir Ddinbych 2018/2019. Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies
gysylltiad personol yn eitem 6, Cyllidebau Cyfun (Iechyd a Gofal Cymdeithasol) - Adroddiad Cynnydd. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 496 KB Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Medi, 2017
(copi ynghlwm). 10.05 a.m. – 10.10 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Medi
2017. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017
fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Comisiynu a Thendro ar Atal Digartrefedd (copi ynghlwm)
cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2017, a’r Pwyllgor Cydweithredol
Rhanbarthol ym mis Ionawr 2018. 10.10 a.m. – 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad
personol yn yr eitem hon gan ei fod yn landlord preifat yn Ninbych ac mae'n YH
sy'n eistedd ar Banel DRR Gogledd Ddwyrain Cymru. Datganodd y Cynghorydd Melvyn Mile gysylltiad
personol yn yr eitemau hyn gan y bydd yn denant i Grŵp Cynefin yn y
dyfodol agos. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Oedolion a
Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Amlinellodd bwrpas yr arian Cefnogi Pobl a
ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) a rôl y Pwyllgor Cydweithredol
Rhanbarthol (RCC) mewn perthynas â Strategaeth Ddigartrefedd a Chynllun Atal
Digartrefedd Sir Ddinbych. Pwysleisiodd mai'r Strategaeth oedd Strategaeth Ddigartrefedd gyntaf y sir
ers gweithredu Deddf Tai (Cymru) 2014. Roedd gwaith atal digartrefedd blaenorol
wedi'i gynnwys fel rhan o'r Strategaeth Dai ehangach. Hysbyswyd yr Aelodau bod y Tîm Atal Digartrefedd wedi ymgynghori'n helaeth
ar y Strategaeth a’r Cynllun Atal oedd ger eu bron. Roedd y Tîm Atal
Digartrefedd yn dîm pwrpasol a oedd yn canolbwyntio ar weithio gydag unigolion
a theuluoedd i'w hatal rhag mynd yn ddigartref. Roedd yr aelodaeth yn cynnwys y
cyn Dîm Cefnogi Pobl a'r Tîm Datrysiadau Tai. Canmolodd yr aelodau sefydlu tîm
penodol i liniaru yn erbyn y peryglon o bobl yn dod yn ddigartref a gofynnwyd
am fanylion y swyddogion a oedd yn gweithio fel rhan o'r Tîm. Ymgymerodd swyddogion i ddarparu'r wybodaeth hon, ond dywedwyd mai'r pwynt
cyswllt cyntaf ar gyfer unigolyn neu gynghorydd ag ymholiad yn ymwneud â
digartrefedd oedd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad amlddisgyblaeth (SPoA). Byddai SPoA wedyn yn
cyfeirio’r unigolyn at y gwasanaeth(au) mwyaf priodol a allai eu helpu. Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol a
swyddogion: · roedd y
Strategaeth Ddigartrefedd yn strategaeth amlasiantaethol a oedd yn gofyn am
gydweithrediad holl wasanaethau'r Cyngor; · ar hyn o bryd
roedd yr elfen Cefnogi Pobl (CP) o'r cyllid a ddefnyddiwyd i gomisiynu
gwasanaethau atal digartrefedd wedi'i 'neilltuo' at y dibenion hynny. Fodd bynnag,
roedd cyhoeddiad diweddar LlC wedi nodi na fyddai cyllid grant CP bellach
wedi'i neilltuo, o 2019 ymlaen, gan roi ystyriaeth i ddatblygu "grant
uwch", gan ymgorffori'r ffrydiau cyllid Trechu Tlodi eraill, a'r grant
Cyflogaeth newydd.
Gallai hyn olygu na ellir darparu elfennau o'r Strategaeth yn y dyfodol. Serch hynny,
mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu rhai gwasanaethau i
unigolion sydd, neu sydd mewn perygl o ddod, yn ddigartref. Nid oedd unrhyw wybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd ar fanylion
cyhoeddiad diweddar LlC; · roedd yr arian
CP ar gyfer 2018-19 yn ddiogel ac wedi ei gadarnhau ar lefel genedlaethol, ond
roedd disgwyl cadarnhad am ddyraniadau cyllid awdurdodau lleol unigol a allai
fod yn destun newid; · er bod y nod o leihau
nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn llety dros dro o 50% erbyn 2021 yn ymddangos
yn uchelgeisiol, roedd swyddogion yn hyderus, gyda sefydlu'r Tîm Atal
Digartrefedd, a oedd wedi dwyn ynghyd arbenigwyr ym meysydd digartrefedd a
chymorth tai, y gellid cyflawni hyn; · er y cydnabuwyd
bod integreiddio cyn-droseddwyr yn y gymuned yn fodd llwyddiannus o leihau
aildroseddu, byddai gan gyn-garcharorion a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref
yn Sir Ddinbych hawl i gael mynediad i wasanaethau cymorth tai os oeddent yn
gallu bodloni'r prawf 'cysylltiad lleol' yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014. Gan
fod yr aelodau'n awyddus i hyn gael ei amlygu o fewn y Strategaeth, ymgymerodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i ofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch
a ellid cynnwys cyfeiriad yn y Strategaeth; · hyd yma, roedd un prosiect 'rhannu tai' i ddiwallu anghenion pobl ifanc wedi cael ei beilota yn Sir Ddinbych. Roedd gan y dull hwn ei ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn (11.15 a.m.) cafwyd egwyl o 15
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.30 a.m. |
|
CYLLIDEBAU CYFUN (IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL) - ADRODDIAD CYNNYDD PDF 307 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect, y Tîm Cydweithredu Rhanbarthol (copi ynghlwm)
i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith sy’n datblygu i sefydlu Cyllidebau
Cyfun ar draws Gogledd Cymru. 11.05 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod
yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau / Cyfarwyddwr Statudol
Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a'r atodiadau (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn mewn perthynas â
sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
penodol ledled rhanbarth Gogledd Cymru. Yn ystod ei chyflwyniad,
atgoffodd y Cyfarwyddwr yr aelodau bod sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer
gwasanaethau penodol yn ofyniad o dan Ran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Lles (Cymru) 2014. Hysbyswyd yr aelodau, er mwyn datblygu trefniadau
cyllideb cyfun, bod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRPB) wedi
sefydlu Gweithgor Cyllidebau Rhanbarthol, sy'n cynnwys arbenigwyr technegol
arbenigol o'r Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol. Roedd y Grŵp hwn, dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych, wedi bod yn gyfrifol am archwilio manteision posibl
sefydlu cyllidebau cyfun, y trefniadau gweithredu a rheoli ar gyfer cyllidebau
cyfun, gan nodi unrhyw risgiau a gweithredoedd lliniaru sy'n gysylltiedig â hwy
a sefydlu trefniadau llywodraethu ac ati. Roedd cynrychiolaeth dda ar gyfer Sir
Ddinbych ar y Grŵp gan fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei
gadeirio ac roedd ei swyddog Adran 151, y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, un
o'i Gyfreithwyr ac Arbenigwr Adnoddau Dynol yn aelodau ac yn gynghorwyr
technegol i'r Grŵp. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y NWRPB a
Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Cymru yn gadarn o'r farn y dylid
ystyried cyllidebau cyfun fel offeryn i gefnogi'r daith tuag at integreiddio
nid ffurf o integreiddio yn eu rhinwedd eu hunain. Er bod cynnydd wedi'i wneud wrth ddatblygu cytundeb integreiddio
rhanbarthol, roedd gwaith ar y gweill o hyd i gwmpasu a datblygu cyllidebau
cyfun ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol. Roedd nifer o gynlluniau peilot
yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, neu wedi dod i'r casgliad yn ddiweddar, i
asesu ymarferoldeb y defnydd o gyllidebau cyfun ar gyfer darparu gwasanaethau
yn y meysydd hyn. Er bod angen llawer mwy o waith mewn nifer o'r meysydd hyn cyn cyflwyno
adnoddau cyfun, daeth yn amlwg na fyddai Gogledd Cymru, yn debyg i bob
rhanbarth arall yng Nghymru, mewn sefyllfa i sefydlu cyllideb gyfun ar gyfer
darpariaeth cartref gofal o fis Ebrill 2018, ac felly ni fyddai'n cydymffurfio
â gofynion y Ddeddf. Hysbyswyd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Wasanaethau Cymdeithasol ac
Iechyd y Cyhoedd o'r sefyllfa ac, o ganlyniad, roedd gan bob Bwrdd Partneriaeth
Ranbarthol 12 mis ychwanegol i gydymffurfio â'r gofyniad hwn. Roedd hi hefyd wedi ei gwneud yn glir iawn y byddai'n ystyried ymyrryd os
na chydymffurfiwyd â'r gofyniad hwn erbyn Ebrill 2019. Cynghorwyd yr aelodau
fod Gogledd Cymru o flaen y partneriaethau rhanbarthol eraill mewn perthynas â
symud ymlaen â'r gofyniad hwn, ond roedd llawer iawn o waith manwl ei angen
ynghyd â materion cymhleth i weithio trwyddynt cyn llofnodi cytundeb mewn
perthynas â'r gyllideb gyfun benodol hon. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dyma ddywedodd yr Aelod Arweiniol, y
Cyfarwyddwr Corfforaethol a'r swyddogion: · gofynnwyd i'r aelodau godi unrhyw achosion unigol
yn uniongyrchol â hwy, yr oedd ganddynt bryderon yn eu cylch o ran eu cael eu
derbyn i ofal preswyl / gofal nyrsio hyd nes y byddai triniaeth feddygol yn y
dyfodol heb gael asesiad gofal / gofal nyrsio priodol; · cynghorwyd nad oedd y gyfraith mewn perthynas â chyllidebau cyfun ar gyfer darparu gofal ar hyn o bryd yn caniatáu i'r gyllideb gyfun gael ei dirprwyo i unigolion er mwyn iddynt gomisiynu eu pecyn gofal eu hunain, byddai angen i'r holl Wasanaethau Cymdeithasol / Gwasanaeth Iechyd gomisiynu pob pecyn. Roedd byrddau partneriaeth yn lobïo'r Llywodraeth i newid y gyfraith ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 228 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11.45 a.m. – 12 noon Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu
Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. Yn ystod y
drafodaeth: ·
Cytunwyd i wahodd pob Aelod
Arweiniol ar gyfer eitemau'r Rhaglen ar y Rhaglen Waith i'r Dyfodol ar gyfer
cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau nesaf a gynhelir ar 14
Rhagfyr 2017. Yn anffodus, ni fyddai'r Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans ar
gael ond byddai’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Julian Thompson- Hill yn
mynychu yn ei le. ·
Cytunwyd i ychwanegu Strategaeth Digartrefedd Sir
Ddinbych 2017-21 a’r Cynllun Atal Digartrefedd/Cefnogi Pobl 2018/19 i’r Rhaglen
Waith ar gyfer y cyfarfod ar 3 Mai 2018. ·
Trefnu diweddariad dros dro ar
Brosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych yn y Rhyl ar gyfer cyfarfod 22
Ionawr 2018 yn dilyn cadarnhad oddi wrth BIPBC. ·
Atodiad 5 - Roedd Grŵp
Monitro Safonau Ysgolion am ddiweddaru eu cylch gorchwyl a newid aelodaeth. Gwirfoddolodd y Cynghorydd Emrys Wynne i eistedd ar y Grŵp gan ei fod
yn gyn-athro ac roedd ganddo ddiddordeb yn nodau'r Grŵp. Felly: PENDERFYNWYD - yn
amodol ar yr uchod: (i)
Cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor; a (ii)
Phenodi’r Cynghorydd Emrys Wynne fel cynrychiolydd
y Pwyllgor ar y Grŵp Monitro Safonau Ysgol y Cyngor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12 noon – 12.10 p.m. Cofnodion: Yn y fan hon, dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd
Jeanette Chamberlain-Jones na fyddai'n gallu mynychu'r ddau gyfarfod nesaf o’r
Grŵp Buddsoddiad Strategol (SIG)
oherwydd ei bod ar wyliau. Gofynnodd i rywun fynychu yn ei lle. Mynegodd y Cynghorydd Joan Butterfield ddiddordeb mewn mynychu cyfarfodydd
SIG os oedd hi'n gallu cadarnhau trefniadau cludiant. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.35pm. |