Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitemau 8 a 9 ar y
rhaglen. Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitemau 6 a 7 ar y rhaglen. |
|
Penodi
Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar gyfer blwyddyn 2017/18 y Cyngor
(disgrifiad o’r rôl wedi’i atodi). Cofnodion: Yn unol â
chyfansoddiad y Cyngor, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y
Pwyllgor Archwilio Partneriaethau. Enwebodd y
Cynghorydd Huw Williams y Cynghorydd Emrys Wynne, eiliwyd gan y Cynghorydd
Gareth Lloyd Davies. PENDERFYNWYD y byddai’r Cynghorydd
Emrys Wynne yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau am y flwyddyn i ddod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 374 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017
(copi ynghlwm). 9.35 a.m. – 9.40 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 22
Mehefin 2017. Ar y pwynt yma,
diolchodd y Cadeirydd i Weinyddwr y Pwyllgor am y cofnodion ardderchog. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017
fel cofnod cywir. |
|
PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL – DIWEDDARIAD BLYNYDDOL 2016-2017 PDF 303 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol
(copi ynghlwm) a rhoi sylwadau ar weithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch
Cymunedol ar y Cyd yn 2016-2017 a'r Blaenoriaethau Lleol ar gyfer 2017-2018. 9.40 a.m. – 10.20 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Emrys Wynne yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn Ynad Heddwch
yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Cyn trafodaeth, hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau bod y Pwyllgor yn gweithredu fel Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn penodedig y Cyngor yn unol ag adrannau 19 a 20 o'r Ddeddf Heddlu a Chyfiawnder 2006. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol yr adroddiad
(dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn manylu gweithgaredd a pherfformiad Cyd
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn ystod 2016-17 ac
amlinellodd flaenoriaethau’r Bartneriaeth ar gyfer 2017-18. Rhoddodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol grynodeb i’r Pwyllgor ar gefndir
sefydlu partneriaethau diogelwch cymunedol ynghyd â’u rolau a chyfrifoldebau
statudol. Tynnodd sylw aelodau at y blaenoriaethau a
osodwyd gan y PDC ar sail ranbarthol a’r blaenoriaethau lleol a osodwyd gan y
cyd PDC ar gyfer cynnydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Roedd y cyfan wedi eu rhestru yn yr
adroddiad. Roedd Atodiad 1 gyda’r
adroddiad yn cynnwys y camau a nodwyd gyda’r bwriad i gyflawni blaenoriaethau
lleol a rhanbarthol, tra’r oedd Atodiad 2 yn manylu perfformiad y Bartneriaeth
o ran eu cyflawni. Yn ystod ei chyflwyniad amlygodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol y pwyntiau
canlynol:
·
yn anffodus, roedd nifer o
ddigwyddiadau o drosedd treisgar wedi derbyn cyhoeddusrwydd yn Sir Ddinbych yn
ystod y misoedd diweddar. Rôl y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol pan oedd yna achosion o'r fath oedd canolbwyntio ar waith
ar lefel isel o fewn y cymunedau e.e. gwella goleuadau, darparu negeseuon
diogelwch ar sut i gadw’n ddiogel ac ati. Roedd yr asiantaethau mwy, fel yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn
ymgymryd â’r gwaith ymchwiliol; ·
roedd yr holl gamau yn y
cynllun gweithredu naill ai wedi eu cyflawni, neu ar y trywydd i gael eu
cyflawni.
Roedd yna oedi o ran derbyn data gan y Gwasanaeth Fodd bynnag, sicrhawyd
y PDC bod y ddwy fenter wedi rhagori ar
y targedau a osodwyd; Roedd gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn
cynnwys amrywiaeth eang o faterion trosedd ac anhrefn o ymddygiad
gwrthgymdeithasol i drosedd amgylcheddol, trosedd gwledig i derfysgaeth
ryngwladol, mân drosedd lefel isel i droseddau difrifol yn erbyn pobl ac eiddo.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2016 – 31 MAWRTH 2017 PDF 391 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion Diamddiffyn (copi ynghlwm) i roi
trosolwg i'r Aelodau o effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac
adolygu’r cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeg mis diwethaf. 10.20 a.m. – 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Cefnogi Cymunedol Adroddiad Blynyddol y
Cydlynydd Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA) ar Amddiffyn Oedolion yn Sir
Ddinbych yn 2016-17 (dosbarthwyd yn flaenorol).
Eglurodd fod cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor, a oedd yn rhoi gorolwg o
effaith trefniadau diogelu lleol, yn cyflawni gofynion statudol y Gwasanaeth i
adrodd ar berfformiad yn y maes hynod
bwysig, sensitif a risg uchel hwn i aelodau.
Roedd yr
adroddiad yn manylu’r nifer o weithgareddau gwarchod oedolion yn Sir Ddinbych,
oedd, fel ardaloedd awdurdodau lleol eraill, yn cynyddu o flwyddyn i
flwyddyn. Yn ogystal, roedd yn
manylu perfformiad y sir o ran diwallu’r dangosydd perfformiad cenedlaethol a
datblygiadau yn ystod y flwyddyn i’r Tîm Diogelu, a oedd wedi cryfhau’n
sylweddol. Roedd hefyd yn rhoi
diweddariad ar y sefyllfa ynglŷn â cheisiadau Amddifadu o Ryddid. Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod pob awdurdod
lleol ar draws Cymru wedi derbyn llythyr gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru ynglŷn â phryderon yr Arolygiaeth am waith diogelu
oedolion. Byddai
cyfarfod gyda Phrif Arolygydd AGGCC a Phrif Weithredwr CSDd i drafod materion
lleol i’w gynnal yn y dyfodol agos. Hysbyswyd yr Aelodau o’r cyfanswm o atgyfeiriadau POVA a dderbyniwyd yn
ystod flwyddyn, roedd dros 75% ohonynt
heb gyrraedd y Trothwy Diogelu Oedolion i gyfiawnhau ymchwiliad pellach. Roedd ansawdd atgyfeiriadau a’r trothwy a osodwyd yn mynd
drwy broses sicrwydd ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod yn deg i bawb. Roedd ysbytai hefyd yn ymwneud â’r gwaith hwn. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth: ·
gadarnhau bod y cynnydd
parhaus yn y nifer o atgyfeiriadau Diogelu Oedolion a cheisiadau Amddifadu o
Ryddid yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth ac yn ei gwneud yn anodd iawn diwallu
dyddiadau targed.
Y prif nod ar ôl derbyn unrhyw atgyfeiriadau oedd sicrhau
diogelwch unigolion diamddiffyn, roedd diwallu targedau’n dod yn ail; ·
os ar unrhyw dro y
byddai’n bryderus am allu’r Gwasanaeth i ddiogelu oedolion diamddiffyn byddai’n
codi’r risg gyda’r Tîm Gweithredol Corfforaethol i geisio cymorth
ariannol/adnoddau;
·
cadarnhaodd bod holl
atgyfeiriadau diogelu oedolion angen eu cydnabod ac ymholiadau o fewn 7 diwrnod
i’w derbyn. Fodd bynnag, os oedd honiad o natur ddifrifol, a oedd yn rhoi diogelwch
unigolyn mewn perygl, byddai’n derbyn sylw ar frys ar y diwrnod y cafodd ei
dderbyn; cadarnhawyd bod hyfforddiant diogelu yn orfodol i’r holl staff oedd yn
gwneud gwaith am dâl fel yn y sector gofal;
· cytunodd gyda’r aelodau bod codi ymwybyddiaeth yn ddiweddar am faterion
diogelu oedolion mae’n debyg wedi cyfrannu at y cynnydd yn y nifer o
atgyfeiriadau;
· Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cael ei ystyried fel canlyniad negyddol os
oedd yn golygu bod holl bobl ddiamddiffyn yn cadw’n ddiogel; · a dywedodd fod gan y Gwasanaeth ddigon o adnoddau eleni i ddiwallu dyletswyddau POVA a’r galw Amddifadu o Ryddid. Byddai pob aelod etholedig yn derbyn cyflwyniad yn ystod yr hydref ar y gyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol, ei ofynion ariannol i ddiwallu dyletswyddau ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (10.40am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.55am. |
|
RHYDDHAU AMSEROL O’R YSBYTY PDF 138 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Reolwr, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi ynghlwm) yn
darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yma o ran datblygu trefniadau cymunedol
i gefnogi rhyddhau amserol o’r ysbyty. 11.00 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol adroddiad gan y Prif Reolwr
– Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi
diweddariad i'r Pwyllgor ar gynnydd a wnaed hyd yma i ddatblygu trefniadau
cymunedol i gefnogi rhyddhau amserol o'r ysbyty yn Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad y gofynnodd y Pwyllgor amdano yn rhoi gwybodaeth ar: ·
Oedi wrth drosglwyddo
gofal, Rhyddhau a Llif; ·
Clwstwr Camu i Lawr a Thîm
Camu i Lawr; ·
Gweithio gyda a chefnogi
Cartrefi Gofal; ·
Gweithgaredd cymunedol
presennol i gefnogi rhyddhau amserol trwy atal; ·
Cynlluniau a pheilotau ar
gyfer y dyfodol; a ·
Gwell cyfathrebu a hynny’n
rheolaidd Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd y Pennaeth Gwasanaeth yn ystod chwarter
cyntaf 2017-2018 y bu ond un achos o Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn Sir
Ddinbych ar y ‘dyddiau cyfrifiad’ penodol. Roedd sefydlu’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad a’r Clwstwr
a’r Tîm Camu i Lawr wedi helpu i wella perfformiad yn y maes hwn, ond yn
bwysicach i helpu unigolion i ddychwelyd gartref gyda chefnogaeth briodol
ddigonol. Gwasanaethau eraill oedd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag
at ostyngiad yn yr Oedi Cyn Trosglwyddo Gofal oedd argaeledd y Gwasanaeth
Ymarferydd Nyrsio Uwch a Gwasanaeth Nyrsio Ardal 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr
wythnos. Roedd yn
galonogol adrodd bod yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
yn gweithio’n barhaus gyda’i gilydd ar bob lefel i dynnu holl rwystrau ac
ymdrechu i gael gwasanaethau di-dor gwell. Fodd bynnag, roedd yna rai agweddau o waith iechyd a
gofal cymdeithasol yn parhau’n anodd i’w gorchfygu e.e. pwysau ar wasanaethau
gofal yn y cartref yn ardal wledig yn ne’r sir. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gwasanaethau
Therapi BIPBC fod gwaith ataliol yn allweddol i leddfu’r pwysau ar ysbytai a
gwasanaethau dwys eraill. Yn ystod y drafodaeth, roedd aelodau’r Pwyllgor yn: ·
croesawu’r dull integredig
gan y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol tuag at gefnogi rhyddhau
cleifion o'r ysbyty a sicrhau bod gwasanaethau perthnasol eraill i'w cefnogi ar
ôl cael eu rhyddhau, gan gynnwys dioddefwyr dementia; a ·
chroesawyd dyhead yr
Asesiad o’r Effaith ar Les (WIA) i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol oedd yn diwallu Safonau’r Iaith Gymraeg. Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor, roedd y swyddogion Iechyd a
Gofal Cymdeithasol yn: · cadarnhau eu bod wedi cael anawsterau yn recriwtio digon o siaradwyr
Cymraeg mewn rhai disgyblaethau iechyd/gofal cymdeithasol i ddiwallu’r dyhead
yn yr Asesiad o’r Effaith ar Les, roedd gofal cartref yn un o’r meysydd hyn; · dweud eu bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion a cholegau lleol gyda’r
bwriad o hybu gyrfaoedd o fewn gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol; · roedd datblygu’r gweithlu’n
gwneud cynnydd ar sail ranbarthol o dan arweiniad Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Gwynedd; · egluro mewn manylder y broses Camu i Lawr ar gyfer rhyddhau o’r ysbyty a
chefnogi annibyniaeth unigolyn gartref; ac
· amlinellodd effeithiolrwydd y Tîm Adnoddau Cymunedol yn y Rhyl, a’u
cynlluniau i gyflwyno’r dull gwasanaethau integredig hwn i rannau eraill o’r
sir maes o law, gan gynnwys Dinbych, Prestatyn a Rhuthun. Ar ddiwedd y drafodaeth: PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod: (i)
Llongyfarch y Gwasanaethau Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ar y gwaith a wnaed hyd yma i gefnogi rhyddhau amserol o’r ysbyty;
a (ii)
chefnogi
cynlluniau a pheilotau yn y dyfodol, o fewn ysbytai ac yn y gymuned, a anelwyd
at wella canlyniadau i’r unigolion. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi ynghlwm) i roi
gwybodaeth i’r Aelodau o ran y trefniadau cyllidebau cyfun presennol ac yn y
dyfodol rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 11.30 a.m. – 12.00 noon Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yr adroddiad
(dosbarthwyd yn flaenorol). Dywedodd bod yr adroddiad, oedd yn amlinellu
profiad y Cyngor mewn perthynas â sefydlu a gweithredu trefniadau dwy 'gyllideb
gyfun’ gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei gyflwyno i’r aelodau yn unol â’u
cais. Byddai hyn cyn y
gofyniad i sefydlu a gweithredu ‘cyllideb gyfun’ rhwng y ddau ar gyfer
comisiynu gwasanaethau gofal preswyl. Roedd ‘cyllideb gyfun’ y gwasanaethau gofal preswyl’
angen cael ei sefydlu erbyn Ebrill 2018 yn unol â darpariaethau’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd y trefniadau ‘cyllideb gyfun’ a amlinellwyd yn yr adroddiad yn
ymwneud â’r Gwasanaeth Offer Cymunedol (CESI) a’r Gwasanaeth Gweithwyr Cefnogi
Iechyd a Gofal Cymdeithasol).
Roedd
trefniadau ar gyfer y ddau wasanaeth wedi eu manylu yn yr adroddiad ynghyd â'r
cefndir cyfreithiol perthnasol ar gyfer eu sefydlu. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar
faterion ariannol, materion llywodraethu, barn budd-ddeiliaid ar
effeithiolrwydd y trefniadau ‘cyllideb gyfun’ a gwersi a ddysgwyd gan y ddau
wrth gynllunio ar gyfer trefniadau 'cyllideb gyfun' mwy yn y dyfodol. Ar ôl cyflwyno’r adroddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol
Gwasanaethau Therapi BIPBC o safbwynt trefniadau CESI, roedd cleifion nawr yn
derbyn gwasanaeth di-dor, oedd yn darparu’r offer iechyd a gofal cymdeithasol
yr oeddent eu hangen i gefnogi eu hannibyniaeth yn brydlon. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, roedd y swyddogion Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn: ·
dweud y byddai amrywiaeth
ehangach o offer nawr ar gael gan CESI. Pan gafodd y
gwasanaeth ei sefydlu, nid oedd eitemau fel ‘matresi lliniaru gwasgedd’ a
gyflenwyd gan y Gwasanaeth Iechyd bryd hynny ar gael. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd roedd y Gwasanaeth wedi esblygu ac roedd
arian y Gwasanaeth Iechyd mewn amrywiol gyllidebau adrannol wedi eu rhyddhau
i’r ‘gyllideb gyfun’. Roedd hyn wedi cynorthwyo
CESI i ehangu a chyflenwi pob math o offer iechyd a gofal cymdeithasol. ·
rhoi trosolwg o brisiau
rhai mathau o offer, a oedd yn amrywio’n fawr;
·
cadarnhawyd nad oedd arian
a roddwyd yn y ‘cyllidebau cyfun’ presennol gan y gwasanaethau Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn arian ychwanegol a roddwyd iddynt ar gyfer y diben hwn. Roedd yn arian a
roddwyd i’r ddau wasanaeth fel rhan o’u cyllideb gyffredinol a glustnodwyd gan
wasanaethau ar gyfer offer gwaith HSCSW. Drwy gyfuno’r arian
hwn roedd yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynyddu eu
pŵer ‘prynu/comisiynu’ ar gyfer offer a gwasanaethau. Yn ogystal, gall arian grant sy’n weddill, os yn briodol gael ei gynnwys
mewn cyllideb gyfun yn dibynnu ar ddiben gwreiddiol y grant. Roedd y Pwyllgor yn: PENDERFYNU derbyn y wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â sefydlu a gweithredu
trefniadau ‘cyllideb gyfun’ presennol rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r
Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o’r profiadau hynny wrth i’r
Cyngor baratoi i ymuno â threfniadau ‘cyllideb gyfun’ gorfodol yn y dyfodol yn
unol â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
2014. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 229 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 12.00 noon – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. Yn ystod y
drafodaeth: · Cytunwyd i ychwanegu
Strategaeth Digartrefedd Sir Ddinbych 2017-21 a’r Cynllun Atal
Digartrefedd/Cefnogi Pobl 2018/19 i’r rhaglen waith ar gyfer y cyfarfod ar 2
Tachwedd ·
Cytunwyd i ohirio eitem Un Pwynt Mynediad ar gyfer y
cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017 ·
Cytunwyd i wahodd Aelodau Arweiniol perthnasol ar y
Cabinet i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer eitemau sy'n berthnasol
i'w portffolios. · Cytunwyd i gynnal cyfarfod briffio am 9.30am gyda’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau i ddechrau am 10.00am. Byddai hyn yn cael ei dreialu o’r cyfarfod ym mis Tachwedd 2017. PENDERFYNWYD yn
amodol ar y newidiadau yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cymeradwyo’r Rhaglen
Waith fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.15 p.m. – 12.20 p.m. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m. |