Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 02 Mawrth 2017 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 02 Mawrth 2017.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 02 Mawrth 2017 fel cofnod cywir.

 

 

 

5.

DATBLYGU CYLLIDEBAU CYFUN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL. pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Prosiect – Tîm Cydweithio Rhanbarthol (copi ynghlwm) i roi diweddariad o’r gwaith Rhanbarthol sydd ar y gweill i ddatblygu integreiddio a chyllidebau cyfun ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.

 

9.35 a.m. -10.15 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad (a gylchredwyd eisoes) dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth y Pwyllgor fod y gwaith o ddatblygu cyllidebau cyfun rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRPB), ond megis cychwyn.  Er bod Adran 33 Deddf Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 wedi creu fframwaith deddfwriaethol er mwyn hwyluso’r dasg o greu cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol cyfun, nid oedd y darpariaethau hyn wedi eu defnyddio’n eang.  O ganlyniad, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau yn Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau penodol, sef:

 

·         Llety cartref gofal

·         Swyddogaethau cefnogi teuluoedd; a

·         Swyddogaethau a arferir ar y cyd o ganlyniad i asesiad a gynhaliwyd o dan Adran 14 Ddeddf 2014, neu unrhyw gynllun a baratoir o dan adran 14A yr un Ddeddf.

 

Os yn addas gellid sefydlu cyllidebau cyfun hefyd er mwyn cwrdd costau darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill ar y cyd.

 

Tra bo'r angen i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau cefnogi teuluoedd a swyddogaethau a arferir ar y cyd wedi dod i ryw o 6 Ebrill 2016, ni fyddai cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau llety cartref gofal yn dod yn orfodol tan 1 Ebrill 2018. Mae cytundebau eisoes yn eu lle er mwyn hwyluso darpariaeth gwasanaethau cyfun mewn meysydd fel Gwasanaethau Cefnogaeth Integredig I Deuluoedd, roedd gwasanaeth (Canolog) Gogledd Cymru yn cynnwys Conwy a Sir Ddinbych.  Byddai angen ffurfioli’r arfer hwn mewn cytundeb cyfreithiol.   Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i sefydlu pa wasanaethau, y tu allan i’r gwasanaethau cyllidebau cyfun gorfodol, allai o bosib elwa o ddull gweithredu cyllidebau cyfun.  Tra fo gofyn cyfreithiol ar y Bwrdd Iechyd ac awdurdodau lleol i ddatblygu cyllidebau cyfun ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol, nid yw sefydliadau eraill yn cael eu heithrio rhag bod yn bartneriaid mewn cyllideb gyfun.  Fodd bynnag, dylid nodi’r gyrrwr ar gyfer integreiddio a chyllidebau cyfun fel anghenion o fewn Asesiadau Anghenion Poblogaeth lleol.  Mae’r NWRPB wedi sefydlu Grŵp Prosiect Cyllidebau Cyfun Rhanbarthol i ddatblygu Cytundeb Integreiddio Gogledd Cymru ar gyfer cymeradwyo’r chwe awdurdod lleol yn y rhanbarth a’r Bwrdd Iechyd.  Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp Prosiect a gadeirir gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ac a gefnogir gan swyddog Adran 151 y Cyngor a’r Dirprwy Swyddog Monitro, yn archwilio nifer o feysydd am eu haddasrwydd ar gyfer trefniadau cyllidebau cyfun, yn ogystal â hyfywedd cynnwys cyllidebau cyfun cyfredol o fewn trefniadau ffurfiol yn y dyfodol h.y. storfeydd offer ayb.

 

Roedd opsiynau ar y ffordd orau i gyflawni a llywodraethu 'cyllidebau cyfun’ yn cael eu profi ar hyn o bryd a’u sicrhau o ran safon drwy eu defnyddio gyda meysydd ymrwymo cyllideb llai.  Byddai canlyniad yr arfarniad opsiynau hwn yn cael ei gyflwyno i’r NWRPB yn ei gyfarfod ym Mehefin 2017, er mwyn iddo benderfynu ar y ffordd orau i fwrw ymlaen.  Byddai angen asesu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol unigolion drwy'r un prosesau â’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd at ddiben cyllidebau cyfun llety cartref gofal.  Roedd prosiect peilot ar fin cael ei gynnal yng Ngwynedd er mwyn profi agweddau cyfreithiol trefniadau cyllidebau cyfun llety cartref gofal.   Byddai agweddau cyfreithiol yn cael eu profi’n drwyadl er mwyn sicrhau nad oedd un neu fwy o bartneriaid yn gallu gor-ddefnyddio'r gyllideb gyfun er mwyn lliniaru eu pwysau cyllidol eu hunain.  Byddai angen sefydlu a rhoi trefniadau llywodraethu cadarn ar waith er mwyn diogelu rhag arferion o’r fath os oedd cyllidebau cyfun i gwrdd eu llawn botensial.  Er bod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

BYRDDAU DIOGELU GOGLEDD CYMRU

Ystyried diweddariad ar lafar ar y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma gyda datblygu’r byrddau diogelu rhanbarthol, a’u gwaith i ddiogelu plant ac oedolion diamddiffyn yn Sir Ddinbych.

 

10.30 a.m. – 11.15 a.m.

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn  ymholiad y Pwyllgor wedi ystyried Adroddiad Blynyddol cyntaf y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng nghanol 2016, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau adroddiad cynnydd ar lafar ar nifer o faterion a godwyd gan y Pwyllgor bryd hynny.  Dywedodd fod yr adroddiad blynyddol cyntaf, ers i ddiogelu oedolion gael ei roi ar yr un sail statudol â diogelu plant, wedi ei gynhyrchu ar y cyd rhwng Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru (NWSCB) a Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru (NWSAB) a’u gyhoeddi fel un adroddiad.  Fodd bynnag, yn y dyfodol bydd gofyn ar y ddau fwrdd i gyhoeddi adroddiadau ar wahân.

 

Yn ystod ei chyflwyniad dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth y Pwyllgor:

 

·         mai Sir Ddinbych yw’r awdurdod cynnal bellach ar gyfer swyddogaethau busnes y ddau Fwrdd Diogelu yn ogystal â chyd brosiectau rhanbarthol gwasanaethau cymdeithasol eraill.

·         Roedd ymgyrch recriwtio wedi bod ar gyfer pob swydd wag.  Fodd bynnag, byddai swyddi gwag wastad yn bodoli ar ryw adeg oherwydd bod staff yn symud ymlaen.  Roedd y casgliad o ymgeiswyr posib yn llai gan fod swyddi Diogelu yn swyddi arbenigol rhanbarthol a bod angen sgiliau iaith Gymraeg yn ogystal â sgiliau arbenigol eraill ar eu cyfer.  Gallai recriwtio ar gyfer un swydd arwain o bosib at swydd wag yn rhywle arall.  Ar hyn o bryd, wedi i’r Rheolwr Busnes adael i swydd arall, mae Rheolwr Busnes dros dro mewn lle nes i ddeiliad swydd barhaol gael ei benodi; roedd cyllid ar gyfer gwaith y ddau Fwrdd ar gyfer 2016/17 a 2017/18 wedi ei gytuno arno.  Fodd bynnag, mae peth ansicrwydd o safbwynt ariannu yn y dyfodol gan fod gan y Bwrdd beth arian wrth gefn er mwyn gofalu am unrhyw ddiffygion posib.  O 2018 ymlaen bydd cyfraniadau ariannol sefydliadau partner tuag at gyllid y Byrddau yn cael eu gosod yn unol â fformiwla a nodir yn y Rheoliadau;

·         Mae gan yr holl grwpiau rhanbarthol ac isranbarthol ayb a sefydlwyd gan y Byrddau Diogelu gylch gorchwyl penodol.  Roedd aelodaeth y grwpiau hynny yn ddarostyngedig i newid yn seiliedig ar natur y gwaith yr oeddynt i’w wneud ar unrhyw amser penodol;

·         Gweithiwr gwirfoddol o’r trydydd sector oedd cadeirydd annibynnol y Grŵp Adolygiad Ymarfer Plant.  Gan bod yr unigolyn hwnnw wedi ymddeol yn ddiweddar byddai rôl y cadeirydd yn cael ei hadolygu;

·         O safbwynt safoni polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau o ran dewis addysgu yn y cartref roedd y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol o'r farn nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o gefnogaeth i awdurdodau lleol ac i'r Byrddau yn y maes penodol hwn o waith.  Nid oedd gan y NWSCB bryderon am y plant hynny oedd wedi eu cofrestru fel ‘disgyblion y dewisir eu haddysgu gartref', roeddynt yn pryderu am y rheiny nad oedd yn hysbys i'r awdurdodau.  Gan sôn am achos trasig diweddar yn Sir Benfro, gofynnwyd i aelodau adrodd i'r Gwasanaethau Cymdeithasol am unrhyw achosion yr oeddynt yn pryderu amdanynt, fel rhan o'u rôl cyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol;

·         Roedd Prif Weithredwr Sir Ddinbych wedi ei benodi fel Cadeirydd Grŵp Gweithredol Camfanteisio'n Rhywiol Ar Blant;

·         Nid oedd gan NWSAB bwerau i adrodd ar faterion diffyg cydymffurfio mewn cartrefi gofal i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)

·         Darparwyd hyfforddiant rheolaidd ar ymwybyddiaeth gwarchod plant ac oedolion i’r holl staff sy'n dod i gyswllt â chleifion/cleientiaid, boed yn staff gofal, iechyd, Heddlu neu staff eraill.  Darparwyd hyfforddiant penodol i’r rheiny oedd angen sgiliau penodol mewn maes arbennig;

·         Nid oedd aelodau Bwrdd yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol am eu rôl ar y Bwrdd, roeddynt yn cael cyflog am eu dyletswyddau cyflogaeth arferol.  Dim ond staff Uned Fusnes y Byrddau oedd yn derbyn cyflog.  Roedd rhai Aelodau o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

Ar y pwynt hwn (10.50 a.m.) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.05 a.m.

 

 

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

11.15 a.m. – 11.25 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac yn darparu diweddariad ar y materion perthnasol, wedi ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Roedd copi o demplad “ffurflen cynnig Aelodau” wedi ei chynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol y Cabinet wedi ei gynnwys fel Atodiad 3, a thabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac yn cynghori ar gynnydd o safbwynt eu rhoi ar waith wedi ei atodi yn Atodiad 4.

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor ddrafft ei Raglen Gwaith I'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol a chytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol:-

 

14 Medi 2017-

Trefniadau lleol ar gyfer Cyllidebau Cyfun cyfredol.

 

02 Tachwedd 2017-

Cyllidebau Cyfun Rhanbarthol

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

 

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

11.25 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Cofnodion:

Dim adborth

 

Gan taw’r cyfarfod hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn yr etholiadau llywodraeth leol, diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu cyfraniad at waith y Pwyllgor yn ystod ei chyfnod yn y rôl.  Dymunodd yn dda i’r holl aelodau oedd yn ceisio cael eu hail-ethol yn yr etholiadau nesaf a diolchodd ar ran y Pwyllgor i swyddogion oedd wedi cefnogi gwaith y Pwyllgor drwy gydol y cyfnod uchod.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m.