Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 197 KB Derbyn Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2017
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 19 Ionawr 2017. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2017
fel cofnod cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR WASANAETHAU MAMOLAETH A MERCHED/ UNED GOFAL DWYS NEWYDDANEDIG IS-RANBARTHOL YN YGC Cael adroddiad
llafar i amlinellu'r cynnydd hyd yma o ran datblygiad y gwasanaethau hyn yn
Ysbyty Glan Clwyd a’r effaith ar breswylwyr Sir Ddinbych. 9.35 a.m. – 10.15 p.m. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr canlynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (BIPBC); Alison Cowell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal Ganolog -
Gwasanaethau Plant, Fiona Giraud, Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth a
Merched a Mandy Cook, Rheolwr y Gwasanaeth Newyddanedig i’r cyfarfod.
Amlinellodd y cynrychiolwyr i’r Pwyllgor y cynnydd hyd yma o ran datblygiad y
Gwasanaethau Mamolaeth, y Gwasanaethau Merched a’r Uned Gofal Dwys Newyddanedig
Is-ranbarthol (SuRNNIC). Yn ei chyflwyniad, diweddarodd Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth a
Merched y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed hyd yma gan y Gyfarwyddiaeth
Bydwreigiaeth a Merched mewn perthynas â’r cynllun gwella mesurau arbennig, yn
enwedig mewn perthynas â phedwar maes penodol: · Arweinyddiaeth: roedd y gwasanaethau
bydwreigiaeth a merched bellach yn cael eu rheoli ledled Gogledd Cymru er mwyn
cynorthwyo’r gwaith o fonitro’r gwasanaethau. Roedd gan y tri ysbyty
cyffredinol unedau mamolaeth, gydag arweinydd clinigol wedi’i benodi i bob
uned. Roedd y strwythur arweinyddiaeth sydd bellach ar waith yn cydymffurfio â
gofynion Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynecolegwyr. Roedd Bydwraig
Ymgynghorol newydd gael ei phenodi ar gyfer Ardal Bwrdd Iechyd BIPBC, a hynny
yn Ysbyty Glan Clwyd; · Gweithlu: cafwyd problem staffio genedlaethol wrth gynnal rotâu meddygol
gradd ganolig. Profodd BIPBC fodel newydd yn llwyddiannus a arweiniodd ato i
allu recriwtio tair swydd ymgynghorol yn y Gyfarwyddiaeth. Yn ogystal,
cryfhawyd cytundebau llywodraethu mewn perthynas â materion y gweithlu; · Diwylliant: yn dilyn penderfyniad i symud
myfyrwyr hyfforddiant bydwreigiaeth y drydedd flwyddyn o safle Ysbyty Glan
Clwyd, rhoddwyd cynllun cyflawni at ei gilydd gyda’r bwriad o wella’r amgylchedd
dysgu ar y safle. Byddai’n cymryd hyd at 12 mis i roi’r cynllun ar waith yn
llawn, ond roedd rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor eisoes wedi dychwelyd i’r
safle i barhau â’u hastudiaethau. Dynodwyd dau faes penodol ar gyfer gwelliant
yn safle Ysbyty Glan Clwyd, eu bwriad oedd cynyddu nifer y mamau oedd yn
bwydo’u plant ar y fron (nid oedd hyn yn unigryw i Ysbyty Glan Clwyd) a lleihau
nifer y genedigaethau toriad Cesaraidd yn yr ysbyty (yn hanesyddol, roedd
Ysbyty Glan Clwyd yn cyflawni mwy o enedigaethau Cesaraidd nag unedau mamolaeth
cymharol eraill). Roedd angen i swyddogion roi gwybod am berfformiad yn erbyn y
camau gwella hyn i’r Prif Swyddog Nyrsio ym mis Tachwedd bob blwyddyn; · Cydymffurfiaeth: cafwyd gwelliant nodedig yn y maes hwn. Roedd y Gwasanaeth
bellach yn cael ei fonitro ledled Gogledd Cymru bob pedair awr. Yn ogystal,
cyfarfu’r swyddogion gyda Llywodraeth Cymru bob pythefnos mewn perthynas â
materion cydymffurfiaeth. Wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd cynrychiolwyr BIPBC: · Roedd gan Ysbyty Glan Clwyd un theatr Obstetreg
pwrpasol ac yn achos llawdriniaethau Cesaraidd mewn argyfwng, 30 munud oedd y
targed, gyda phob achos yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i flaenoriaethu yn
unol â hynny. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y pryd i asesu gofynion adnoddau
i’r dyfodol, gan gynnwys darpariaeth theatr ac anesthetydd ac ati; · Yn hanesyddol, Ysbyty Glan Clwyd oedd â’r cyfraddau genedigaethau Cesaraidd
uchaf yng Ngogledd Cymru. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i hybu genedigaethau
naturiol lle bo’n briodol ac i leihau nifer yr ymyriadau diangen. Byddai’r
gwaith hwn yn cael ei arwain gan y Fydwraig Ymgynghorol yn yr ysbyty; · Er na sefydlwyd cyswllt amlwg rhwng amddifadedd
a chyfraddau’r genedigaethau Cesaraidd, roedd cyswllt rhwng gordewdra a
genedigaethau Cesaraidd. O ganlyniad, gan fod gan ryw 25% o famau beichiog yng
Ngogledd Cymru Indecs Màs y Corff (BMI) o 35 neu’n uwch, roedd gwaith yn mynd
rhagddo gyda’r bwriad o addysgu mamau beichiog ynghylch cynnal ffyrdd o fyw
iach; · Roedd gwasanaethau merched, gan gynnwys y gwasanaethau canser, yn cael eu datblygu ledled Gogledd Cymru gyda’r bwriad o gydymffurfio â safonau Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr. Roedd datblygiad yr ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
GWASANAETH TU ALLAN I ORIAU MEDDYGON TEULU Cael adroddiad
llafar gyda manylion y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu 10.15 a.m. – 11.00 a.m. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Sefton Brennan,
Arweinydd Uwch Adran (Canolog), Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu
Gogledd Cymru, i’r cyfarfod. Rhoddodd Mr
Brennan wybodaeth ystadegol fanwl oedd yn cynnwys: · Y ffaith yn
ystod mis Ionawr 2017 fod 99.4% ac ym mis Chwefror 2017 fod 99.1% o oriau
staffio’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi’u llenwi, gyda dim
ond 1 sifft heb ei llenwi ym mis Ionawr a 2 ym mis Chwefror. Roedd y rhain heb
eu llenwi oherwydd salwch staff; · Yn hanesyddol,
yn ystod y 12 mis cyn hynny, ar wahân i gyfnod y gwyliau, roedd yr oriau staff
a lenwyd oddeutu’r 90% uchel; · Roedd gan y
Gwasanaeth bellach 43 meddyg teulu’n gweithio iddo, o gymharu â 29 ym mis
Mehefin 2015. Er nad oedd ambell i feddyg teulu oedd yn darparu gwasanaeth y tu
allan i oriau’n perthyn i ymarfer meddyg teulu penodol, roedd yr holl feddygon
teulu’n gweithio’n gyson yn ardal y Bwrdd Iechyd; · Ar gyfartaledd,
deliodd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’r Uwch Adran Ganolog â
rhyw 3,600 o gleifion y mis. Fodd bynnag, yn ystod mis Rhagfyr 2016, deliodd y
Gwasanaeth â’i nifer uchaf o gleifion mewn un mis ers 4 blynedd; · Er gwaetha’r
ffaith bod y Gwasanaeth ond ar gael am 70% o’r amser yr oedd Adrannau
Argyfwng yr ysbyty ar gael, deliodd â
mwy o gleifion na’r Adrannau Argyfwng. Mae Gwasanaethau Tu Allan i Oriau
Meddygon Teulu ledled Gogledd Cymru’n delio â rhyw 10,000 o gleifion y mis. · Un maes yr oedd
y Gwasanaeth yn tanberfformio ynddo oedd cwblhau dogfennau o fewn yr amserlen
ddisgwyliedig, yn enwedig mewn achosion lle nad oedd angen ymyrraeth. Serch
hynny, roedd perfformiad Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’r Adran
Ganolog yn gyson â pherfformiad cyfartalog Cymru gyfan; · Roedd meddyg
teulu bellach yn gweithio yn yr Adran Argyfwng rhwng 10am a 6pm o ddydd Llun i
ddydd Gwener gyda’r bwriad o leddfu’r pwysau ar yr Adran a’u rhyddhau nhw i
ddelio â gwir argyfyngau. Teimlwyd bod y dull hwn o fantais gan fod angen rhyw
fath o sylw neu ymyrraeth ar sefyllfa pob claf unigol, a gallai’r meddyg teulu
yn yr Adran Argyfwng asesu cyflwr y claf i benderfynu a oedd yn deilwng o’i
dderbyn fel achos argyfwng i’r ysbyty neu gam arall. Yn ogystal, calonogodd y cleifion
oherwydd eu bod yn cael eu gweld a’u trin gan weithiwr meddygol proffesiynol; · Oddeutu 5% oedd
y cyfraddau atgyfeirio gan Wasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu i Ysbytai
Cyffredinol yr ardal, a olygai bod 95% o gleifion yn cael eu gweld gan y Gwasanaeth
Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu nad oedd angen eu derbyn i’r ysbyty fel
mynediad argyfwng; Roedd y Gwasanaeth yn ymdrechu’n gyson i wella’i wasanaethau i gleifion ac yn ymdrechu i gyflwyno profiad o wasanaeth iechyd mwy holistaidd a di-dor i’r claf. Roedd y gwasanaeth yn gweithio ar y cyd â darparwyr gwasanaeth iechyd a sefydliadau gwirfoddol eraill e.e. Adrannau Argyfwng, Ysbytai Ardal Cyffredinol, Fferyllwyr, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Gwasanaeth Nyrsio Marie Curie. Darparodd Mr Brennan enghreifftiau o’r gwaith hwnnw, er enghraifft gweithio i wella amserau ffonio’n ôl gan nyrsys brysbennu er mwyn calonogi’r cleifion ac atal ymweliadau diangen i adrannau argyfwng a gweithio gyda chleifion i’w helpu i ddewis y llwybr cywir i fodloni eu hanghenion iechyd a lles cymdeithasol, gan fod oddeutu 9% o faich gwaith Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’n atgyfeiriadau o’r Adran Argyfwng neu WAST. Yn ogystal, roedd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi ailddechrau gweithio gyda’r Gwasanaeth Nyrsio Ardal, roedd 1 Nyrs Ardal ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Cafwyd egwyl o 15 munud yn y fan hon (11.25am). Ailalwyd y cyfarfod am 11.40am. |
|
LANSIO YMGYNGHORIAD AR ASESIAD LLES BGC CONWY A SIR DDINBYCH. PDF 246 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Rhanbarthol (copi ynghlwm) ar gyfer
lansio ymgynghoriad ar Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy/ Sir
Ddinbych, a luniwyd yn unol â’r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015. 11.10 a.m. – 12.00 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol)
gan fod arweiniad statudol yn datgan bod rhaid gwneud ymgynghoriad ar ei gynnwys
a bod Pwyllgor Archwilio’r Awdurdod Lleol yn ymgynghorai statudol. Disgrifiodd yr
Arweinydd y broses a gyflawnwyd i lunio’r adroddiad, ei strwythur a’i
argaeledd, ynghyd â’r broses barhaus ar gyfer cynnal a chadw. Pwysleisiodd
hefyd bwysigrwydd yr Asesiad Lles a’r pwyslais cynyddol ar “les” a gofynion
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn lleol ac yn genedlaethol. Rhoddodd Reolwr Tîm Cynllunio Strategol y Cyngor drosolwg o sut casglwyd y
wybodaeth ynghyd ag arddangosiad o’r Asesiad Lles seiliedig ar y we.
Roedd hyn yn cynnwys y data yn yr asesiad ar lefel gymunedol, sirol ac
ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus. Rhoddodd wybod, yn y dyfodol, y byddai
disgwyl i bob awdurdod cyhoeddus yn ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ddefnyddio’r
wybodaeth yn yr asesiad lles wrth osod eu hamcanion lles ac wrth lunio
cynlluniau a strategaethau ar gyfer gwasanaethau ac ar gyfer yr ardal. Roedd y
swyddogion wrthi’n datblygu strategaeth gyfathrebu i lunio’r Asesiad a’i
bwysigrwydd i sylw’r holl bobl a rhanddeiliaid perthnasol. Byddai’r Asesiad yn
datblygu’n gyson ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, ond o’r herwydd, ni
fyddai’n benthyg ei hun yn dda i gael ei gyhoeddi fel dogfen copi caled. Fodd
bynnag, petai aelod eisiau manylder penodol o fewn yr Asesiad, gallai adrannau
penodol gael eu hargraffu at y diben hwnnw, gyda chafeat eu bod yn destun
newidiadau cyson. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, rhoddodd yr Arweinydd, y Prif
Weithredwr a’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol wybod: · Y byddai’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn cyfarfod ar 27 Mawrth 2017 i
drafod ymatebion yr ymgynghoriad, ac felly bydden nhw’n gwerthfawrogi cael
arsylwadau’r aelodau ar yr Asesiad Lles erbyn 24 Mawrth 2017; · Yn y dyfodol, byddai’r Asesiad Lles yn ffurfio sail y Cyngor a gweithgareddau
cynllunio strategol ei bartneriaid ac y byddai’n cael ei ddefnyddio i gefnogi
datblygiad eu cynlluniau. Byddai’n gofyn am newid diwylliannol yn y ffordd yr
oedd yr holl bartneriaid yn gweithio ac yn cydweithio at y diben o wneud y sir
ac ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn lle gwell, gyda darparwyr gwasanaeth
yn anelu at gyflawni gwell canlyniadau i ddinasyddion; · O ganlyniad i’r uchod, roedd hi’n hanfodol i’r holl wasanaethau a grwpiau o
fewn y Cyngor fod yn ymwybodol o fodolaeth yr Asesiad Lles ac yn cytuno ei
egwyddorion; · Wedi cadarnhau bod angen rhagor o waith o ran proffiliau cymunedol unigol
ar wefan yr Asesiad. Byddai’r maes hwn yn cael ei boblogi fel rhan o waith
cynnal a chadw parhaus y wefan; · Byddai angen i’r Cyngor hefyd herio a monitro ymrwymiad sefydliadau partner
eraill y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i ddefnyddio’r wybodaeth yn yr Asesiad Lles
wrth lunio’u cynlluniau strategol ac ati. Mewn ymateb i’r pwynt olaf rhoddodd y Cydlynydd Archwilio wybod fod
Llywodraeth Cymru wedi comisiynu sefydliad allanol i ddatblygu arweiniad ar sut
i archwilio cyflawniad y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus o ofynion nodau lles
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithiol. Roedd disgwyl
i’r arweiniad drafft gael ei gylchredeg i Swyddogion Archwilio yng Nghymru am
ymgynghoriad yn y dyfodol agos. Roedd disgwyl i Swyddogion Archwilio Gogledd
Cymru gyfarfod ar ddiwedd mis Mawrth i ystyried yr arweiniad drafft a darparu
eu harsylwadau ar ei gynnwys. Gofynnodd yr Arweinydd fod y Pwyllgor, fel y pwyllgor dynodedig ar gyfer
Archwilio’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, yn monitro’n agos ymrwymiad partneriaid
y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i ddefnyddio’r Asesiad Lles ar gyfer eu gwaith
cynllunio strategol. Cyn cloi’r drafodaeth, gofynnodd yr Aelodau bod sesiwn hyfforddiant yn cael ei chynnal i bob cynghorydd ar ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau
am faterion perthnasol. 12.00 p.m. – 12.20 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dosbarthwyd copi
o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a ofynnodd i’r Pwyllgor adolygu a
chytuno’i Flaenraglen Waith ac a ddarparodd ddiweddariad ar y materion
perthnasol, gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cafodd copi o
dempled “ffurflen gynnig yr Aelod” ei gynnwys yn Atodiad 2, cafodd Blaenraglen
Waith y Cabinet ei gynnwys yn Atodiad 3, ac mae tabl yn crynhoi atebion
diweddar y Pwyllgor ac yn rhoi cyngor ar gynnydd o ran eu gweithrediad ynghlwm
yn Atodiad 4. Ni chyfeiriwyd
unrhyw eitemau at y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau gan y Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio. Byddai’r cyfarfod
nesaf yn cael ei gynnal ar 6 Ebrill a byddai’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd
Bobby Feeley yn cael ei wahodd i fynychu. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, bod y Blaenraglen Waith yn cael ei gymeradwyo. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.20 p.m. – 12.25 p.m. Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler iddi fynychu’r Her Gwasanaeth Cyllid. Croesawodd yr
Aelodau’r cadarnhad gan y Prif Weithredwr y byddai’r broses her gwasanaeth yn
parhau yn ystod tymor y Cyngor newydd. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m. |