Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnodion: Yn unol â
chyfansoddiad y Cyngor, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y
Pwyllgor Archwilio Partneriaethau. Enwebodd y
Cynghorydd Pat Jones y Cynghorydd Raymond Bartley, a eiliwyd gan y Cynghorydd
Pete Prendergast. PENDERFYNWYD y dylid
penodi'r Cynghorydd Raymond Bartley yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau am y flwyddyn i ddod. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 89 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith gysylltiad personol yn
Eitem 9 - Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng, gan fod ei fab yn
cael ei gyflogi gan y Tîm Rhanbarthol i Gynllunio rhag Argyfwng a leolir yn Sir
y Fflint. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 177 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd 14 Mai 2015 (copi
ynghlwm). 9.35 a.m.– 9.40 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau,
14 Mai 2015. PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14
Mai 2015 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Arbedion Teledu Cylch Caeëdig PDF 104 KB I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i roi diweddariad i'r Aelodau ar strategaeth
gwblhau Teledu Cylch Caeëdig y Cyngor gan gynnwys gweithio gyda Phartneriaid i
geisio sicrhau model darparu Teledu Cylch Caeëdig amgen ar gyfer y dyfodol. 9.40 a.m. – 10.15 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (a
ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am strategaeth
ymadael Teledu Cylch Caeëdig
(TCC) y Cyngor, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid i geisio sicrhau model
darparu TCC amgen ar gyfer y dyfodol. Penderfynodd yr
Aelodau, fel rhan o broses Rhyddid a Hyblygrwydd y Cyngor, na ddylai’r Cyngor
fod yn ariannu na'n rheoli'r gwasanaeth TCC o 1 Ebrill 2016. Bydd hyn yn
darparu £200k o arbedion ar gyfer 2016/17. Tra bod y cynnig
i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth wedi cael ei gymeradwyo, roedd yr Aelodau
wedi cydnabod manteision y gwasanaeth anstatudol ac felly, wedi gofyn i
Weithgor gael ei sefydlu. Byddai'r Gweithgor yn gweithio gyda phartneriaid i
archwilio a sicrhau model arall posibl ar gyfer cyflenwi gwasanaeth TCC ar
gyfer y dyfodol. Hysbysodd yr
Aelod Arweiniol a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd y Pwyllgor fod: ·
Cytundeb
cyffredinol wedi ei gyrraedd gyda'r partneriaid a restrwyd yn yr adroddiad ar
fodel fyddai'n darparu lefel dderbyniol o TCC o Ebrill 2016 ymlaen. Nid
oedd cytundeb cyfreithiol wedi'i lofnodi eto. Roedd
y Gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau partner i fod i
gynnal cyfarfod arall ar 17 Awst, 2015 gyda golwg ar ffurfioli cytundeb yn y
cyfarfod hwnnw. ·
Byddai
angen cytundeb yn y dyfodol agos er mwyn galluogi'r broses diswyddo statudol ar
gyfer rhoi'r gorau i’r gwasanaeth presennol i ddechrau yn ystod mis Hydref
2015. ·
Roedd
manylion cyfraniad ariannol arfaethedig pob sefydliad partner tuag at wasanaeth
newydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Os cytunir, byddai hyn yn
darparu bron digon o incwm i wrthbwyso costau’r model gwasanaeth newydd yn
darparu gwasanaeth TCC wedi’i gofnodi. Cafwyd trafodaeth
a rhoddwyd y cyngor canlynol gan swyddogion a'r Aelod Arweiniol: ·
Cyfrannodd
Heddlu Gogledd Cymru £16.5k tuag at ddarparu gwasanaeth TCC i bob Awdurdod
Lleol ar draws Gogledd Cymru. Roedd y swm hwn yn gytundeb hanesyddol yn
seiliedig ar gyflog gweithredwr TCC rai blynyddoedd yn ôl. Nid
oedd gwasanaeth yr heddlu yn barod i gynyddu ei gyfraniad ar hyn o bryd
oherwydd y toriadau a wynebir yn ei gyllideb, yn debyg i'r rhai a wynebir gan
Awdurdodau Lleol. Nid oedd cyfraniad gwasanaeth yr Heddlu yn
adlewyrchu lefel y troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unrhyw un o'r
ardaloedd awdurdod lleol. ·
Roedd
cyfraniadau arfaethedig yn y dyfodol gan y tri chyngor tref, a oedd yn elwa o
system TCC y sir ar hyn o bryd, wedi cael ei gyfrifo gan y Gweithgor ar
fwyafswm cynnal a chadw a chost gweithredol o £850 fesul camera, yn amodol ar
fodd ariannol pob Cyngor Tref. ·
Gellir ond
defnyddio arian grant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer atal ymddygiad
gwrthgymdeithasol, ar gyfer offer TCC a adleolir/symudol yn unig, nid camerâu
statig. ·
Os,
yn y dyfodol, y byddai unrhyw Gynghorau Tref angen gosod camerâu ychwanegol yn
eu hardaloedd, byddai angen iddynt sicrhau arian i brynu, gweithredu a chynnal
unrhyw offer ychwanegol. Byddai'r materion hyn yn cael eu cynnwys
yn y pen draw yn y cytundeb cyfreithiol. ·
Byddai'r
contract cychwynnol am 12 mis, ar ôl hynny, byddai'n cael ei adolygu’n
flynyddol gan Fwrdd TCC. Rhagwelwyd y byddai'r Gweithgor presennol
yn cael ei ail-sefydlu fel Bwrdd i oruchwylio a monitro darpariaeth y
gwasanaeth newydd unwaith y bydd y cytundeb cyfreithiol wedi'i gwblhau a'i
lofnodi gan bob parti. · Hysbyswyd y Pwyllgor am fanylion cytundeb a oedd wedi bod ar waith rhwng y Cyngor a busnesau ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych, o ran gweithredu system TCC a osodwyd yno rai blynyddoedd yn ôl. Nid oedd yna gytundeb bellach o ganlyniad i newidiadau i fusnes ar yr ystâd a oedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CYMUNEDAU YN GYNTAF GOGLEDD SIR DDINBYCH PDF 199 KB Ystyried
Adroddiad gan yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd (copi ynghlwm)
i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd o fewn Cymunedau yn Gyntaf. 10.15 a.m. – 10.50 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Hugh Irving
yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r
cynnydd a wnaed gyda Chymunedau yn Gyntaf – gan gynnwys y gwaith sydd ar y
gweill gyda'r Grant Amddifadedd Disgyblion sydd wedi’i gadarnhau ar gyfer
2015/16 hefyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cais pellach a wnaed gan
Lywodraeth Cymru i’r Co-operative i gymryd rhan ym mhrosiect ‘Cymunedau Dros
Waith’ oedd wedi derbyn Cyllid Ewropeaidd yn ddiweddar. Roedd Rhys
Burton, Rheolwr Rhaglen y Grŵp Co-operative, y Corff Cyflenwi Arweiniol,
yn manylu ar y tair thema cyflenwi o dan y rhaglen bresennol, amlinellodd
brosiectau sydd ar waith neu ar y gweill yn yr ardal a dywedodd fod: ·
Gwaith
Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ddarparu i nifer llai o glystyrau ar draws
Cymru. Roedd yna bellach tua 52 i gyd, o'r 52 o ardaloedd
hyn, roedd y rhan fwyaf yn ne Cymru. ·
Byddai'r
rhesymeg ar gyfer y gwaith yn llawer cliriach ac yn canolbwyntio ar gyflawni
canlyniadau. ·
Fel y
Corff Cyflenwi Arweiniol, byddai'n ofynnol i'r Grŵp Co-operative adrodd ar
y cynnydd a wnaed i Lywodraeth Cymru (LlC) yn chwarterol. ·
Gan
fod y rhaglen waith yn canolbwyntio ar weithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd,
rhagwelwyd y byddai'n cymryd peth amser cyn y byddai canlyniadau’n cael eu
gwireddu. Byddai yna gyfnod maith o waith datblygu perthynas
dwys er mwyn ennill ymddiriedaeth a pharch y bobl y maent yn ceisio eu
cyrraedd. ·
Tra
bod gwaith Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn mynd ymlaen ers nifer o flynyddoedd,
nid oedd y sefydliad wedi bod yn effeithiol iawn wrth dynnu sylw at y gwaith da
a'r canlyniadau yr oedd wedi eu cyflawni yn y gorffennol. ·
Ychwanegir
at y fframwaith canlyniadau, sydd wedi’i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad,
wrth i ffrydiau cyllid a grantiau ychwanegol ddod ar gael. Cafwyd
trafodaeth, a rhoddwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau Aelodau gan Mr
Burton, Angela Watt a Gavin Roberts o’r Grŵp Co-operative, ynghyd â
Swyddogion y Cyngor: ·
Manylwyd
yr amrywiol ffrydiau cyllid Llywodraeth ganolog ac Ewropeaidd y gallai’r Corff
Cyflenwi Arweiniol a'r Cyngor wneud cais iddynt am gyllid ar gyfer prosiectau
cysylltiedig Cymunedau yn Gyntaf. ·
Dywedodd
fod y byr rybudd neu hysbysiad hwyr gan Lywodraeth ganolog/Llywodraeth
Ewropeaidd o arian sydd ar gael a’i duedd i fod am gyfnod o 12 mis yn creu
problemau iddynt o ran cynllunio prosiect tymor canolig i dymor hir. ·
Amlinellwyd
prosiectau penodol yn y Rhyl, a oedd ar y gweill ar hyn o bryd o ran y tair
ffrwd cyflenwi. ·
Rhoddwyd
enghreifftiau o waith ieuenctid ar y gweill gyda'r bwriad o fynd i'r afael â
phroblemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. ·
Rhoddwyd
cadarnhad i’r Aelodau y byddai'r cyllid Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei
ddefnyddio i gefnogi saith ysgol drwy ddau Swyddog Gwydnwch Emosiynol y Cyngor. ·
Mae cynigion y
Cyngor i sefydlu Gweithgor Gwrthdlodi gyda'r bwriad o fynd i'r afael â phob
agwedd ar dlodi ar draws y Sir, wedi cael ei amlinellu ar gyfer Cymunedau yn
Gyntaf trefol a gwledig ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Cymunedau yn Gyntaf. Dywedodd Rhys
Burton, Rheolwr y Rhaglen wrth yr Aelodau bod y swyddfeydd Cymunedau yn Gyntaf
wedi'u lleoli ar Marsh Road yn y Rhyl a gwahoddodd yr Aelodau i ymweld â nhw. Cynigiodd y Cadeirydd i gynorthwyo'r Grŵp Co-operative i gael mynediad
i gyfleusterau ac adnoddau yn y Ganolfan Gymunedol ar Ystâd Parc Bruton yn y
Rhyl. Er bod Aelodau'n dymuno’n dda i swyddogion ar gyfer eu gwaith yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac yn cefnogi eu hymdrechion i ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd, roedd rhai Aelodau ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ar y pwynt hwn (11.30am) cafwyd toriad am 15 munud
Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45am. |
|
Trafododd y
Pwyllgor yr eitem fusnes ganlynol yn ei swyddogaeth fel Pwyllgor Archwilio
Trosedd ac Anhrefn dynodedig y Cyngor yn unol â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder
2006 adrannau 19 ac 20. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL 2014 - 2015 PDF 103 KB Ystyried adroddiad
gan yr Aelod Arweiniol Parth Cyhoeddus (copi ynghlwm) i roi gwybod i'r Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau o weithgaredd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y
Cyd yn 2014-2015. 11.00 a.m. – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau am
berfformiad a gweithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd yn
2014/15. Manylodd y
Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol gynnwys yr adroddiad a thynnodd sylw'r
Aelodau at y prif uchafbwyntiau, a nodwyd yn yr adroddiad a'i atodiadau, o dan
bob un o'r pedwar maes blaenoriaeth a oedd wedi eu dewis ar gyfer 2014/15. Y
blaenoriaethau oedd: ·
Lleihau
trosedd ac effaith trosedd ·
Lleihau
aildroseddu ·
Mynd
i'r afael yn effeithiol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ·
Mynd
i'r afael â cham-drin domestig yn effeithiol. Dywedodd y
Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol: ·
Er y
bu cynnydd mewn troseddau treisgar, roedd y niferoedd yn eithaf isel. ·
Roedd
y cynnydd mewn troseddau rhywiol a gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn yn droseddau
"newydd" yn hytrach na throseddau hanesyddol. Roedd
nifer o'r troseddau yn ymwneud â materion a oedd wedi eu cynnwys ar safleoedd
cyfryngau cymdeithasol a honiadau o dreisio. O
ganlyniad, roedd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru wedi nodi hyn fel un
o'i feysydd blaenoriaeth. Roedd Prosiect Theatr The Cat’s Paw hefyd
wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth amlygu ymddygiad amhriodol i blant a phobl
ifanc. ·
Roedd
atal troseddau ieuenctid wedi bod yn faes hynod gadarnhaol yn ystod 2014/15, yn
enwedig y fenter Rhwystro ac Atal (PAD). ·
Maes
arall oedd yn talu ar ei ganfed oedd adsefydlu troseddwyr trwy waith, yn
enwedig lle roedd troseddwyr ifanc yn cael eu defnyddio i wneud gwaith adferol
lle roeddent wedi cyflawni eu trosedd(au). Roedd
y math hwn o adsefydlu angen un goruchwylydd i oruchwylio dau droseddwr ar y
tro. Roedd yna bellach weithdrefnau llym ar waith i
sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw delerau ac amodau unrhyw orchmynion
ailsefydlu/cymunedol. Cafwyd trafodaeth
a rhoddwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau Aelodau gan y Rheolwr
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol: ·
Roedd
Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru newydd ddechrau mesur achosion o
sgamiau ffôn ac ati, ac roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi sefydlu tîm i ymdrin
â'r math hwn o drosedd. ·
Roedd
troseddau amgylcheddol, a oedd o fewn rheolaeth y Cyngor trwy gyhoeddi
Rhybuddion Cosb Benodedig hefyd wedi bod yn faes llwyddiannus yn y flwyddyn
ddiwethaf. ·
Roedd
achosion o ddifrod troseddol cysylltiedig ag alcohol wedi gostwng. Credwyd bod
y ffaith bod nifer o safleoedd trwyddedig bellach wedi gosod eu system teledu
cylch caeedig eu hunain wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn.
Hefyd roedd y cynllun gwarchod tafarndai a'r ffaith bod llai o dafarndai a
bod mwy o bobl bellach yn yfed alcohol gartref hefyd wedi cyfrannu at y
gostyngiad yn nifer y digwyddiadau.
Fodd bynnag, roedd peth
pryder o ran y nifer o gardiau melyn ac alcohol wedi’i gymryd ymaith yn y Sir. ·
Roedd
penderfyniad wedi'i wneud yn ddiweddar i benodi Cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu’r
Cyngor ar Grŵp Llywio Strategol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a
Sir Ddinbych gan y teimlwyd bod gwaith a chylch gwaith y Pwyllgor Trwyddedu yn
cysylltu’n agos iawn ag un y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. ·
Byddai
clybiau nos yn Sir Ddinbych cyn bo hir yn mabwysiadu'r dull gweithredu a
gymerwyd yng Nghonwy ers peth amser, o roi anadlennydd i bobl ar eu ffordd i mewn
i glybiau nos a gwrthod mynediad i unigolion yr oeddent o'r farn eu bod wedi
meddwi. ·
Roeddent
yn ymwybodol o'r problemau cynyddol a achoswyd gan y defnydd anghyfreithlon o
gyffuriau mewn safleoedd trwyddedig ac mewn ardaloedd gwledig. · Roedd nifer y tanau bwriadol a gofnodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gostwng, er bod nifer y digwyddiadau llosgi bwriadol a gofnodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru wedi cynyddu. Roedd hyn yn ôl pob tebyg o ganlyniad i gydgyfeirio ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
DIWEDDARIAD GAN WASANAETH RHANBARTHOL I GYNLLUNIO RHAG ARGYFWNG PDF 94 KB Ystyried
Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros yr Economi a Pharth Cyhoeddus
(copi ynghlwm), i roi diweddariad i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaeth am y
newid i drefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru,
creu Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru
(RhGrhA) ac yn gosod y rhaglen waith sy’n cael ei dilyn ar hyn o bryd. 11.30 a.m. – 12.00 p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol
y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (dosbarthwyd eisoes),
i roi diweddariad i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaeth am y newid i drefniadau
Cynllunio Rhag Argyfwng rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru, creu Gwasanaeth
Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru (RhGrhA) ac
amlinellu’r rhaglen waith sy’n cael ei dilyn ar hyn o bryd. Dywedodd yr Aelod
Arweiniol wrth y Pwyllgor ei fod wedi gofyn iddynt archwilio cynnydd y
gwasanaeth rhanbarthol newydd 12 mis ar ôl iddo ddechrau ar ei waith, i
alluogi'r Cyngor i ennill sicrwydd bod y strwythur newydd yn addas i'r diben ac
yn cyflawni ei ganlyniadau disgwyliedig ar gyfer y Cyngor ac ar gyfer trigolion
Sir Ddinbych. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai nod y gwasanaeth
rhanbarthol newydd oedd nid yn unig i fod yn fwy cost effeithiol, ond hefyd i
wella a chynyddu gwytnwch i sefyllfaoedd brys ar draws Gogledd Cymru. Mae
argaeledd cronfa ehangach o arbenigwyr a sefydlu un set o weithdrefnau o dan y
gwasanaeth rhanbarthol yn golygu y gallai'r swyddogion o bob sefydliad partner
gamu i mewn i gefnogi cydweithwyr ar draws y rhanbarth mewn achos o argyfwng
heb unrhyw oedi a achoswyd yn flaenorol oherwydd amrywiol arferion neu
weithdrefnau gwaith. Cyn sefydlu'r gwasanaeth rhanbarthol, roedd
Sir Ddinbych, ers peth amser, wedi bod yn rhan o Wasanaeth Cynllunio Rhag
Argyfwng a rannwyd gyda Chyngor Sir y Fflint. Roedd
y gwasanaeth hwnnw wedi cael ei gynnal gan Sir y Fflint a’r model hwnnw a
ddefnyddiwyd fel sail ar gyfer datblygu Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag
Argyfwng Gogledd Cymru. Roedd penodi Swyddog Cyswllt Cynllunio
Rhag Argyfwng pwrpasol ar gyfer pob awdurdod lleol wedi bod yn llwyddiannus gan
fod y Swyddog hwnnw’n darparu cyswllt clir rhwng y gwasanaeth rhanbarthol a'r
Cyngor a gallai gynorthwyo gydag adnabod unrhyw anghenion hyfforddi o fewn ei
h/awdurdod lleol. Roedd gwaith y gwasanaeth rhanbarthol yn cael ei
oruchwylio gan Fwrdd Gweithredol oedd yn cyfarfod o dro i dro. Roedd
disgwyl i’r Bwrdd gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar y Gwasanaeth yn y dyfodol
agos ac roedd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion yn cynnig rhannu'r adroddiad
gydag Aelodau'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD: (a) Derbyn
yr adroddiad a chymeradwyo'r gwaith a chyflawniadau sydd wedi eu gwireddu hyd
yma o ran sefydlu a chyflwyno'r gwasanaeth ar sail ranbarthol, a (b) Bod
copi o Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng
Gogledd Cymru yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor er gwybodaeth pan fydd
ar gael. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 12.00 p.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ac amlygodd
lle'r oedd angen penderfyniadau gan y Grŵp. Cadarnhau’r ddwy
eitem ar gyfer y cyfarfod i'w gynnal ar 17 Medi 2015: ·
Cynllun
Tair Blynedd 2015/18 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ·
BIPBC
yng Nghonwy a Sir Ddinbych Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai
cyngyfarfod gael ei gynnal yn union cyn y cyfarfod uchod am 8:45am. 8 Hydref, 2015 - byddai
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau nawr yn digwydd yn Neuadd y Dref,
Llangollen. 14 Ionawr, 2015 -
Adroddiad Cynnydd Teledu Cylch Caeëdig. Cynrychiolwyr
Archwilio Partneriaethau ar weddill Grwpiau Herio Gwasanaeth 2015/2016: ·
Datblygu
Economaidd a Busnes - Cynghorydd Martyn Holland ·
Gwasanaethau
Cefnogi Cymunedol - Cynghorydd Raymond Bartley ·
Gwella
a Moderneiddio Busnes - Cynghorydd Pete Prendergast ·
Gwasanaethau
Addysg - Cynghorydd Merfyn Parry PENDERFYNWYD cymeradwyo
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 12.15
p.m.– 12.20 p.m. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 12:40pm. |