Agenda and draft minutes
Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by Video Conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Joan Butterfield (Cadeirydd), Kelly Clewett, Raj Metri ac Elfed Williams. Dywedodd y Cynghorwyr Jeanette Chamberlain-Jones, Bobby
Feeley a Terry Mendies y byddai angen iddynt adael y cyfarfod cyn iddo ddod i
ben. Yn absenoldeb y Cadeirydd, cafodd gweithrediadau’r
Pwyllgor eu cadeirio gan yr Is-Gadeirydd.
Cyn bwrw ymlaen â’r materion i’w trafod yn y cyfarfod,
dywedodd y Cadeirydd eu bod, ar ôl cyhoeddi’r rhaglen, wedi derbyn cais i newid
trefn yr eitemau, fel bod modd trafod yr ‘Adroddiad Ymchwiliad i Lifogydd Adran
19 - Storm Babet ar 20 Hydref 2023’ (Eitem 6 ar y Rhaglen), cyn ‘Adroddiad Blynyddol
Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru 2023/24’ (Eitem 5 ar y Rhaglen). Rhoddwyd
caniatâd ar gyfer y cais hwn a diolchodd y Cadeirydd i'r holl Aelodau
Arweiniol, swyddogion allanol a’r Cyngor, am addasu i’r newid hwyr hwn yn
nhrefn yr eitemau.
|
|
Members to declare any personal or prejudicial interests in any business identified to be considered at this meeting. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw aelodau gysylltiad personol, neu
gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag unrhyw un o’r eitemau a restrwyd i’w
trafod. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Notice of items which, in the opinion of the Chair, should be considered at the meeting as a matter of urgency pursuant to Section 100B(4) of the Local Government Act 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd at unrhyw eitemau brys cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau
a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024. Felly: Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid
derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024
fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: Eitem Rhif 3 –
cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod y Cynghorydd Elfed Williams wedi derbyn y
dogfennau y bu iddo ofyn amdanynt mewn perthynas â’r ‘Rhaglen Dreigl –
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy’. Roedd copïau wedi’u dosbarthu bellach i holl
aelodau’r Pwyllgor fel rhan o’r ddogfen ‘Briff Gwybodaeth’ yn gynharach yn yr
wythnos. Eitem Rhif 5 – mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd
Brian Jones ar y sefyllfa bresennol ynghylch yr adolygiad o'r contract ar gyfer
monitro gweithgarwch Teledu Cylch Caeëdig yn y Rhyl a threfi eraill yn Sir Ddinbych,
cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r
Cynghorydd Jones yn dilyn y cyfarfod. |
|
ADRODDIAD YMCHWILIAD I LIFOGYDD ADRAN 19 - STORM BABET Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Risg (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno
canfyddiadau ymchwiliad Adran 19 i lifogydd mewn eiddo o ganlyniad i Storm Babet. 10:45am – 11:15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr
adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r cyfarfod. Eglurwyd y cafwyd cyfnod o law trwm iawn ar
20 Hydref 2023 a effeithiodd ar sawl eiddo yng Ngogledd y Sir. Bu Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) a Dŵr Cymru (DCWW) yn
ymchwilio i’r hyn a achosodd y llifogydd. Diben yr adroddiad oedd cyflwyno’r
canfyddiadau neu eu hymchwiliadau i’r Pwyllgor a gofyn am unrhyw sylwadau gan
yr aelodau. Dywedodd y Rheolwr Asedau a Risg ei fod yn fodlon mynychu
holl gyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau ynghylch hynny a rhannu’r wybodaeth
ddiweddaraf. Ychwanegodd Cyfarwyddwr
Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi fod Storm Babet yn storm sylweddol ac
y bu iddi effeithio ar 62 o gartrefi a chwe busnes. Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliwyd ymarfer curo drysau i
gasglu'r wybodaeth a gyflwynwyd. Nodwyd bod yr adroddiad yn un amlochrog a’i
fod yn canolbwyntio ar yr eiddo a effeithiwyd, gan geisio canfod datrysiadau
i’r dyfodol. Tynnwyd sylw’r aelodau at Adrannau 7 ac 8 yn yr adroddiad (Atodiad
1 i’r adroddiad), a oedd yn canolbwyntio ar y llifogydd a’r gwelliannau a
nodwyd. Yna, rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau. Awgrymodd yr aelodau y gellid gwneud mwy o
waith cynnal a chadw i glirio ffosydd a cheuffosydd. O bosibl y gallai hyn fod
wedi atal rhagor o lifogydd. Cafwyd sylwadau gan yr aelodau ynghylch cynnal a
chadw’r orsaf bwmpio yn y Rhyl, nad oedd yn ymddangos yn ddigonol. Ymatebodd y swyddogion gan ddweud fod angen cynnal a
chadw asedau Dŵr Cymru a CNC, yn ogystal ag isadeiledd Cyngor Sir
Ddinbych. Roedd yr awdurdod yn bwriadu gweithredu system newydd yn lle’r un
oedd yn cael ei defnyddio ar y pryd i logi contractwyr unigol i glirio mannau
gwyrdd a chyflwyno system fwy ad-hoc, a fyddai’n nodi mannau problemus ac yn
mynd i’r afael â’r mater felly. Roedd yn bwysig nodi hefyd nad oedd yr awdurdod
wedi rhoi’r gorau i glirio ffosydd. Roedd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni ar
sail risg. Trafodwyd hefyd rôl ffermwyr o ran cyfrannu at y gwaith o
gynnal a chadw’r ffosydd a’r ceuffosydd hyn sydd wrth ymyl eu tir. Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol fod angen gwneud mwy o waith
gyda ffermwyr a thirfeddianwyr, mewn ymgais i ddatblygu gwell perthnasoedd, er
mwyn ceisio gwella’r problemau hyn, ond roedd hyn wedi profi’n her yn y
gorffennol. Gofynnodd yr aelodau pa mor
barod oedd ffermwyr i gydweithio a chyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw
gwrychoedd a ffosydd, er enghraifft. Nodwyd ei bod yn sefyllfa anodd. Roedd y
Rheolwr Asedau a Risg blaenorol wedi ceisio mynd i’r afael â hyn, a chynyddu
ymgysylltiad â’r undebau amaethwyr mewn ymgais i ddwyn pwysau ar y mater, ond
yn y pen draw, er ei fod yn effeithio ar isadeiledd CSDd, roedd yn dir preifat.
Ni allai’r Cyngor gael mynediad i unrhyw dir neu eiddo preifat heb ganiatâd y
perchennog, felly roedd hi’n sefyllfa hynod anodd ei rheoli. Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch archwiliadau o fyndiau afonydd, y gwaith o’u cynnal a’u cadw, a chydweithrediad CNC a Dŵr Cymru mewn perthynas â hyn. Gofynnwyd pryd y cafodd y byndiau hyn eu harchwilio ddiwethaf ac os nad oeddent wedi cael eu harchwilio, a allai hynny fod wedi achosi llifogydd difrifol. Nodwyd nad oedd yr union amserlen ar gyfer archwilio pob bwnd yn hysbys, ond bu i’r swyddogion gynnig adrodd yn ôl i’r aelodau ynghylch pa mor aml roedd hyn yn cael ei wneud. Dywedodd y swyddogion fod yr awdurdod yn cysylltu â Dŵr Cymru a CNC yn rheolaidd ynghylch cynnal a chadw'r holl asedau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS GOGLEDD CYMRU 2023/24 Ystyried
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (copi ynghlwm) a rhoi
sylwadau ar ei berfformiad, ei flaenoriaethau a’i amcanion ar gyfer y dyfodol. 10:10am – 10:45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad, yn ei rôl fel
yr Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (dosbarthwyd ymlaen
llaw) ac eglurodd fod hwn yn adroddiad blynyddol a gyflwynwyd gerbron y
Pwyllgor. Dywedwyd mai nod y Bwrdd oedd denu buddsoddiad yn y sector preifat
drwy'r prosiectau hyn a sicrhau swyddi o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru. Nodwyd mai dyma’r trydydd adroddiad yn y
cynllun fesul 15 mlynedd. Diolchodd yr Aelod Arweiniol hefyd i'w ragflaenydd, y
Cynghorydd Hugh Evans, am ei holl waith yn ystod y tymor blaenorol. Rhannodd y Pennaeth Gweithrediadau a'r Rheolwr Rhaglen
Tir ac Eiddo gyflwyniad PowerPoint a oedd yn dangos yr holl waith a gyflawnwyd
gan y Bwrdd Uchelgais yn ei drydedd flwyddyn ac ers ei sefydlu. Roedd y
cyflwyniad hwn yn pwysleisio mai nod Uchelgais Gogledd Cymru oedd gwireddu
rhanbarth hyderus a chydlynol drwy ganolbwyntio ar wella ffactorau economaidd,
cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru. Roedd prosiectau a hwyluswyd gan y
Bwrdd yn canolbwyntio ar nifer o themâu gwahanol, gan gynnwys iaith, diwylliant
a threftadaeth. Roedd pump o feysydd y
rhaglen yn cynnwys cyfanswm o 23 prosiect a tharged o £1 biliwn, mewn ymgais i
greu dros 4,000 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru. Yn ystod 2023-24, roedd dau
brosiect allweddol wedi gwneud cynnydd sylweddol ac roedd pum prosiect newydd
arall wedi ymuno â’r Fargen Dwf, ac mae manylion pob un ohonynt i’w cael yn yr
adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, a chafwyd
rhai ynghylch hen safle Ysbyty Gogledd Cymru.
Awgrymodd yr aelodau nad oedd llawer o waith wedi’i wneud mewn perthynas
â hyn. Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau nad oedd hynny’n wir a bod y
Gronfa Ffyniant Bro wedi’i sicrhau. Er bod y newid o ran llywodraeth wedi
arwain at oedi anorfod mewn perthynas â’r cyhoeddiad ynghylch cyllid, roedd
gwaith wedi parhau y tu ôl i’r llen, er enghraifft, bu i’r Bwrdd gymeradwyo’r
Cynllun Busnes Amlinellol a gyflwynwyd gan Jones Brothers. Dywedodd y
swyddogion, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, y byddai llawer o gartrefi newydd
yn ogystal ag eiddo masnachol yn cael eu hadeiladu ar y safle. Roedd Jones
Brothers eisoes yn recriwtio a chynnig prentisiaethau a chynlluniau i
raddedigion a phobl ifanc, ac roedd y cwmni wedi symud ei adran hyfforddi i’r
safle. Gwaith arall a wnaed o ran hen Ysbyty Gogledd Cymru oedd
sicrhau bod dogfennau cyfreithiol ar waith megis adran 106 a pharatoadau i
drosglwyddo’r tir a’r adeiladai yn gyfreithlon o’r awdurdod lleol i Jones
Brothers. Roedd ystlumod hefyd yn bresennol ar y safle, felly bu'n rhaid creu
trwyddedau a chyfleusterau perthnasol i ystlumod. Mae'r camau nesaf wedi'u
cynnwys er mwyn rheoli’r gwaith o ddymchwel rhannau o’r safle ac ymdrin â’r
asbestos sydd yno. Dywedodd y swyddogion eu bod nhw’n ceisio diogelu a gwneud
gwelliannau i’r prosiect lle bo modd, yn ogystal â sicrhau bod bioamrywiaeth yn
cael ei chynnal. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau am gyflogaeth o ran y
prosiect hwn. Mewn perthynas â chyflogaeth llawn amser, nodwyd bod disgwyl i 70
o swyddi llawn amser fod ar gael ar y safle yn ystod cam datblygu’r prosiect,
ond o ran gwaith adeiladu a phrentisiaethau, dywedwyd y byddai o leiaf 300 o
swyddi’n cael eu creu, ac roedd posibilrwydd i’r ffigwr hwnnw fod yn fwy fyth. Cododd yr aelodau gwestiynau ynghylch diffyg twristiaeth
a chludiant yn y Rhyl, yn arbennig o ran y cysylltiadau trên. Rhannwyd y wybodaeth ganlynol â’r aelodau:
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 2023/24 Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Tîm Diogelu (copi ynghlwm) sy’n crynhoi perfformiad y
Cyngor mewn perthynas â materion diogelu oedolion, yn unol â dyletswyddau’r
Awdurdod. 11:30am – 12:00pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r cyfarfod a thynnodd sylw at y
perfformiad cadarn oedd i’w weld drwy’r adroddiad, gan gynnwys amseroedd ymateb
da o ran ymholiadau adran 126, lle pennwyd targed o 7 diwrnod gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer ymdrin ag ymholiadau o’r fath. Roedd y Cyngor wedi cyflawni’r
targed hwn drwy ymdrin â 98.5% o’r 409 o ymholiadau a dderbyniwyd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu’n flwyddyn brysur i’r
Tîm Diogelu Oedolion. Cafodd cyfradd o 98.5% o atgyfeiriadau diogelu eu gwneud
o fewn y cyfnod 7 diwrnod. Cafodd sawl archwiliad ei gynnal a’i graffu, ac er y
cynnydd o ran y llwyth gwaith, daliwyd ati â safon uchel y gwaith. Tynnwyd sylw
at ymholiadau Adran 5 sy’n cyfeirio at ‘unigolion mewn swyddi cyfrifol’ a’r
rhesymau dros y cynnydd. Nodwyd nad oedd y mater hwn yn unigryw i Sir Ddinbych.
Roedd y cynnydd i’w weld ar draws y rhanbarth ac yn deillio o’r cynnydd yng
nghymhlethdod anghenion cleientiaid, yn ogystal â’r ffaith bod mwy o
ymwybyddiaeth o ran pwysigrwydd atgyfeirio. Yna, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau. Holodd yr aelodau a oedd gofalwyr gwirfoddol/ di-dâl/
teuluol yn cael eu monitro gan y Tîm Diogelu. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau
Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd nad oedd y tîm yn ymwneud â
gofalwyr teuluol, oni bai bod hynny o safbwynt diogelu, er enghraifft pe bai
cymydog yn codi pryderon. Eglurwyd bod y tîm yn dibynnu ar unigolion i adrodd
am yr achosion hyn os bydd pryderon ynghylch unrhyw fath o gamdriniaeth. Cwestiynwyd y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau gan
aelodau ac a oedd digon o staff ar gyfer y llwyth gwaith. Roedd y swyddogion yn pwysleisio nad oedd hyn
yn unigryw i Sir Ddinbych a rhoddwyd sicrwydd i’r aelodau bod yna ddigon o
staff i ddelio â’r cynnydd hwn. Pwysleisiwyd
hefyd, er bod yr Heddlu yn brysur yn ymdrin ag ymchwiliadau cychwynnol, nad
oedd pob atgyfeiriad yn datblygu i ymchwiliad llawn. Nid oedd cynnydd yn nifer
yr atgyfeiriadau yn golygu cynnydd cyfatebol yn nifer yr ymchwiliadau llawn.
Rhagwelwyd, unwaith y byddent ar gael, y byddai’r Canllawiau diwygiedig
‘Unigolion mewn Swyddi Cyfrifol’ yn cynnig cymorth pellach gyda’r ymchwiliad i
atgyfeiriadau Adran 5. Bu i’r Aelodau longyfarch y Tîm Diogelu am eu hymdrechion
i sicrhau bod oedolion diamddiffyn yn Sir Ddinbych yn cael eu diogelu rhag
niwed ac: Argymhellwyd: yn amodol ar y
sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd ymagwedd gorfforaethol
at ddiogelu oedolion mewn perygl a chyfrifoldeb y Cyngor i’w ystyried fel maes
blaenoriaeth allweddol. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion
perthnasol. 12:00pm – 12:20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(dosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith. Yn ystod ei chyflwyniad, dywedodd fod yr adroddiad
‘Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref’ a oedd fod i gael ei gyflwyno yn y
cyfarfod hwn, wedi’i aildrefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym mis Chwefror
2025, oherwydd pwysau o fewn y gwasanaeth adrodd. Roedd dwy eitem wedi’u
rhestru i’w cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 19 Rhagfyr 2024: ·
Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio at
Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023/24; a ·
Statws Baner Las i Draethau Sir Ddinbych Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu
(GCIGC) wedi trefnu i gynnal ei gyfarfod nesaf ar 25 Tachwedd a chafodd yr
aelodau eu hatgoffa i lenwi a dychwelyd y Ffurflen Cynnig Aelodau yn Atodiad 2
yn yr adroddiad, os oedd ganddynt unrhyw faterion yr oeddent o’r farn y dylid
craffu arnynt. Yn Atodiad 3 yn yr adroddiad, roedd copi o raglen waith y
Cabinet er gwybodaeth i’r aelodau, ac roedd Atodiad 4 yn rhannu’r wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch y cynnydd hyd yma o ran argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfod
blaenorol. Roedd y ddogfen Briff Gwybodaeth a ddosbarthwyd i aelodau’r Pwyllgor
yn gynharach yn yr wythnos yn cynnwys y wybodaeth ychwanegol y bu i’r aelodau
ofyn amdani yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ynghyd ag Adroddiadau
Gwybodaeth. Felly, Argymhellodd yr aelodau: yn
amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei raglen waith fel y nodir yn
Atodiad 1 yn yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor 12:20pm – 12:30pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10pm |