Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy Fideo Gynhadledd
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd
Brian Jones. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd at unrhyw eitemau brys cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 327 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024 (copi’n
amgaeedig). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau
a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024. Felly: Penderfynwyd: y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024 fel cofnod gwir a
chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: Eitem 6 - Gofynnodd y Cynghorydd Elfed Williams
am ganlyniad adolygiad y Cabinet o argymhellion y Pwyllgor mewn cysylltiad â’r
penderfyniad a alwyd i mewn i graffu arno o dan Reolau Gweithdrefn Galw i Mewn
y Cyngor. Gofynnodd hefyd a oedd y dogfennau yr oedd wedi gofyn iddynt gael eu
dosbarthu i aelodau wedi cael eu derbyn eto. Dywedodd y Cydlynydd Craffu y
byddai’n gwneud cais pellach i’r dogfennau gael eu dosbarthu i aelodau. Gan fod
y Pwyllgor wedi penderfynu cefnogi penderfyniad gwreiddiol y Cabinet o 23
Ebrill 2024 mewn cysylltiad â ‘Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Rhaglen Dreigl’,
nid oedd rhaid i’r Cabinet adolygu ei benderfyniad gwreiddiol ar ôl ystyried
sylwadau’r Pwyllgor Craffu. Felly cafwyd
cyngor y gellid gweithredu’r penderfyniad ar unwaith. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw aelodau gysylltiad personol, neu
gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag unrhyw un o’r eitemau a restrwyd i’w
trafod. |
|
Cyn cychwyn trafod Eitem 5 dywedodd y Cadeirydd
wrth yr aelodau y byddai’r Pwyllgor yn trafod Diweddariad Blynyddol y
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024 yn
ei gapasiti fel Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn dynodedig y Cyngor, yn unol
â Deddf Heddlu a Chyfiawnder 2006, Adrannau 19 a 20. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n amlinellu
gweithgarwch Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn ystod
2023/24 ac yn ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar ei berfformiad a’i amcanion ar
gyfer y dyfodol. 10.10am – 10.40am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Tai a Chymunedau yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ac eglurodd fod y
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gorff statudol, ac felly roedd yn rhaid
iddo adrodd i’r Pwyllgor Craffu o leiaf unwaith y flwyddyn. Mynegodd yr Aelod Arweiniol ei ddiolchgarwch
i Reolwr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, am lunio’r adroddiad yn ogystal â
rhoi gymaint o sylw i amcanion y Bartneriaeth. Croesawodd yr Aelod Arweiniol
Prif Arolygydd David Cust o Heddlu Gogledd Cymru i’r cyfarfod. Dywedodd
Pennaeth Gwasanaeth: Perfformiad, Digidol ac Asedau wrth y Pwyllgor fod yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn adroddiad statudol, a phwysleisiodd bwysigrwydd y
Bartneriaeth ynghyd ag arwyddocâd a manteision yr holl bartneriaid yn
cydweithio. Fe aeth Rheolwr y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol drwy’r adroddiad yn gryno ac fe aeth ymlaen i egluro’r prif
bwyntiau. Tynnwyd sylw at dair
blaenoriaeth tra’n trafod crynodeb o Berfformiad Gweithgaredd Partneriaeth
Diogelwch Cymunedol, ac fe nodwyd fod y blaenoriaethau yma’n amlweddog. Ddiwedd
mis Mawrth 2024, roedd perfformiad mewn cysylltiad â dau o’r blaenoriaethau
yma’n dda, ac roedd un yn dderbyniol. Fe
nodwyd fod yna gynnydd mewn lladrata, ac roedd hyn yn wahanol i’r hyn a welwyd
mewn blynyddoedd blaenorol, ond yn y pendraw, nid oedd yn waeth ond roedd yn
parhau’n annerbyniol. Fe nodwyd fod gan Flaenoriaeth
1 - Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn yr ardal drwy weithio mewn Partneriaeth, nod
statudol a fyddai’n fwy effeithiol heb bartneriaid yn dyblygu eu
hymdrechion. Prif ffocws yr amcan yma oedd
cefnogi pobl ddiamddiffyn a lleihau nifer y dioddefwyr o ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Blaenoriaeth 2 - cydweithio i
leihau aildroseddu. Roedd perfformiad yn erbyn y flaenoriaeth hon yn ystod
2023/24 wedi cael ei asesu yn ‘Dderbyniol’ o’i gymharu â bod yn ‘Dda’ yn y
flwyddyn flaenorol. Prif amcanion y flaenoriaeth hon oedd gweithio i atal plant
a phobl ifanc rhag dod yn ddioddefwyr trosedd, atal oedolion rhag aildroseddu a
chydweithio i atal troseddu cyfundrefnol. Mae gwaith wedi cael ei wneud gyda’r
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) yn ogystal â Gwasanaethau Iechyd Meddwl
gyda Phlant a Phobl Ifanc mewn cysylltiad ag atal yn y maes hwn. Mae gwaith
dadansoddol wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â throsedd â chyllyll mewn
ymgais i leihau digwyddiadau o’r fath. Roeddynt wedi edrych ar fannau problemus
gan olygu y byddai’r Bartneriaeth yn gallu targedu’r ardaloedd yma’n fwy
effeithiol yn y dyfodol. Blaenoriaeth 3 -
Blaenoriaethau lleol a rhanbarthol.
Parhaodd perfformiad yn erbyn y flaenoriaeth hon i fod yn dda. Gan ddefnyddio mannau problemus, roedd modd
i’r Bartneriaeth wneud newid cadarnhaol gyda ffocws ar atal a pheidio â
throseddoli pobl ifanc. Roedd llawer o gydweithio yn digwydd rŵan mewn
cysylltiad â rhannu gwybodaeth gyda phob partner mewn cysylltiad â gweithgarwch
Llinellau Sirol. Roedd grŵp rhannu
gwybodaeth wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar ac mae’n cyfarfod bob mis. Dywedodd y Prif Arolygydd David Cust wrth y
Pwyllgor fod y Grŵp yma’n allweddol i gefnogi gwaith partneriaeth
effeithiol. Yn flaenorol, bu partneriaid
yn gyndyn o rannu gwybodaeth mor breifat ond roedd hi’n amlwg bellach bod
rhannu gwybodaeth yn arwain at nifer o fanteision i’r cymunedau. Fe aeth y Rheolwr PDC ymlaen i drafod y blaenoriaethau a ffocws ar gyfer blwyddyn 2024/25, gan fanylu ar berfformiad a phrosiect/gweithgarwch. Tra’n trafod y nod o leihau trosedd ac anrhefn, fe soniwyd am fenter “Dangos y Drws i Drosedd” oherwydd y ffordd y cafodd ei weithredu. Roedd y fenter yn cynnwys annog pobl i gofrestru i “Adrodd Cymunedol”, ac i fod yn fwy ymwybodol o ble’r oedden nhw’n rhoi eitemau gwerthfawr yn eu cartrefi a lle’r oedd manwerthwyr yn arddangos nwyddau â gwerth uchel, e.e. yn bell o ddrysau. Roedd y gwaith wedi cael effeithiau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2023/24 PDF 216 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cydweithio Rhanbarthol (copi ynghlwm) sy’n crynhoi
gwaith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod 2023/24 ac yn ceisio sylwadau’r
Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed hyd yma wrth gyflawni ei amcanion. 10.40am – 11.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) a dywedodd
fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael ei ffurfio i fodloni gofynion
Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Roedd ystod eang o leisiau’n rhan o’r Bwrdd,
yn cynnwys gwasanaethau, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Prif swyddogaeth y
Bwrdd oedd sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gweithio’n effeithiol ac
effeithlon gyda’i gilydd tra’n goruchwylio’r gwaith o ddefnyddio ffrydiau
ariannu allweddol. Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw at rai agweddau o’r
adroddiad, yn cynnwys Gweithdy Meddwl yn Radical a edrychodd ar egwyddorion
posibl ar gyfer newid trawsnewidiol ar gyfer lles preswylwyr gogledd Cymru. Diolchodd y Pennaeth Cydweithio
Rhanbarthol i’r holl staff am eu hymdrechion yn darparu’r gwasanaethau yma a
dywedodd eu bod yn ymroddedig ac yn dalentog.
Tynnodd yr adroddiad sylw at faint y gwaith sydd wedi cael ei wneud i
sefydlu gweithdrefnau i alluogi darparu amcanion y Gydweithredfa. Fe nodwyd mai
un o’r prif egwyddorion o fewn y Gydweithredfa yw’r angen am newid a
datblygiad. Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion gynghori: ·
bod y risgiau sy’n cael
eu hamlinellu yn yr adroddiad yn cael eu hadnabod a’u cydnabod. Wrth i’r Byrddau Rhanbarthol ddatblygu dros
y blynyddoedd mae’r disgwyliad am ystod y gwaith a mentrau y mae’r Bwrdd yn eu
goruchwylio wedi cynyddu bob blwyddyn gan olygu bod y gwaith o reoli’r llwyth
gwaith ynddo’i hun yn dod yn risg.
Roedd hwn yn risg cenedlaethol, nid un rhanbarthol yn unig. ·
roedd y Bwrdd yn bodloni
ei holl ofynion a Dyletswyddau Statudol ar hyn o bryd, ond roedd pob partner yn
ymwybodol y gallai hyn fod yn her i’w gynnal yn y dyfodol, felly roedd hi’n
bwysig bod yr holl bartneriaid yn deall ble’r oedd y straeniau yma er mwyn
ystyried y darlun ehangach. ·
o ran gosod ffioedd
cartrefi gofal, roedd rhai awdurdodau wedi gwyro o’r cytundeb ffioedd gofal er
gwaetha’r ymdrechion i gyflwyno dull cyson. Yr Awdurdodau Lleol unigol a’r
Bwrdd Iechyd ddylai osod eu ffioedd gofal eu hunain. Tra bod y Bwrdd Gosod Ffioedd Rhanbarthol
(is-grŵp o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol) yn gweithio tuag at
egwyddorion a methodoleg i osod ffioedd gofal, nid oedd gan y Grŵp y
pwerau i osod y ffioedd, dim ond argymell lefel ‘gyffredin’ ar draws y
rhanbarth y gallai wneud. Nod y grŵp oedd sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn
cydweithio i sefydlu perthnasoedd gwell gyda darparwyr. Yn y pendraw, nid
oeddynt wedi gwyro oddi wrth y cytundeb, gan fod y fethodoleg wedi cael ei
defnyddio. ·
bod Gwasanaethau
Dementia, y Llwybr Cymorth Cof yn benodol, wedi dechrau cynnig gwasanaethau yn
ddiweddar i helpu dioddefwyr a gofalwyr.
Roedd y digwyddiadau yma’n cynnwys siaradwyr gwadd ac amrywiaeth o
wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr gan ddefnyddio
cyllid rhanbarthol, ac roedd gweithwyr cefnogi Dementia yn mynychu’r
digwyddiadau yma. Un partner nodedig wrth gomisiynu a darparu cefnogaeth
gwasanaethau Dementia ac Alzheimer yn ardal Sir Ddinbych oedd Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.
Er hynny, efallai bod newidiadau diweddar ym mhroses achrediad ‘Sy’n
deall Dementia’ wedi effeithio ar gymunedau penodol gan nad ydynt wedi gallu
cael eu hachrediad yn ôl. · Roedd cyllid Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gymysgedd o gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) a chyllid gan ei bartneriaid craidd. Mae’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol (CIRh) yn gronfa 5 mlynedd werth ychydig dros £57m, mae £29.7 yn cael ei ddarparu gan LlC a £27.4m gan bartneriaid eraill. Amcan y gronfa hon oedd cefnogi integreiddio a gwaith partneriaeth mewn cysylltiad â grwpiau poblogaeth sydd â blaenoriaeth. Gan ei bod hi’n gronfa ranbarthol, roedd hi’n anodd mesur yn union faint o ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
STRATEGAETH RHEOLI ASEDAU 2024 – 2029 PDF 375 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Asedau’r Cyngor (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Strategaeth
Rheoli Asedau ar gyfer 2024 – 2029 i’r pwyllgor ac yn ceisio sylwadau’r
Pwyllgor ar ei gynnwys. 11.20am – 11.50am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw), a
dywedodd fod yr adroddiad yn delio â’r cyfnod rhwng 2024-2029, ac nad oedd y
rhagolygon ariannol, o leiaf am ran gyntaf y cyfnod amser yma, yn galonogol ar
hyn o bryd. Fe bwysleisiodd pa mor
hanfodol fyddai’r strategaeth hon i’r Awdurdod Lleol i’w alluogi i wneud
penderfyniadau am ei asedau wrth symud ymlaen.
Fe nodwyd fod gan yr Awdurdod Lleol 669 o asedau ar 519 o safleoedd. Roedd hyn gyfystyr â nifer fawr o asedau i
gyflawni dyletswyddau statudol ohonynt, a byddai rhai o’r asedau yma’n darparu
cyfle i gynhyrchu symiau cyfalaf i’r Cyngor.
Byddai rheoli asedau’n wahanol, mabwysiadu agweddau gwahanol, a
chydweithio gyda phartneriaid i gyd yn galluogi’r Awdurdod i gael y budd mwyaf
o’i Bortffolio Asedau. Fe fyddai hefyd
yn sicrhau bod gan y Cyngor yr asedau cywir, yn y lle cywir ac yn y cyflwr
cywir i fodloni anghenion presennol a’r
rhai a ragwelir yn y dyfodol, sef egwyddor sylfaenol y Strategaeth. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau
Cymorth Corfforaethol: Perfformiad,
Digidol ac Asedau wrth y Pwyllgor bod fersiwn ddrafft y Strategaeth (Atodiad 1
yr adroddiad) yn ddogfen hollbwysig a bod rheoli asedau yn ffurfio un o’r saith
piler o lywodraethu da ac felly roedd yn cael ei adolygu’n flynyddol. Diolchodd y Pennaeth Gwasanaeth i’r Rheolwr
Asedau a Chyfleusterau a Rheolwr Tîm Asedau am eu gwaith caled yn llunio’r
Strategaeth ddrafft. Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion: ·
Rhoddwyd eglurhad fod
Adran 7.2 y Strategaeth yn cyfeirio at leoedd dros ben y disgyblion o fewn
portffolio o asedau Addysg y Cyngor. Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor oedd
y cyfrwng a ddefnyddir i reoli proses moderneiddio ysgolion y Sir a rheoli
llefydd gwag. Roedd gwaith cynnal a
chadw parhaus mewn ysgolion yn ddibynnol ar gyllid drwy broses gosod y
gyllideb, ond fe eir i’r afael â gwaith cynnal a chadw ymatebol fel y bo angen
yn syth, er enghraifft pan ganfuwyd Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth
mewn ysgolion. ·
wedi cytuno i wneud
ymholiadau gyda’r Adran Addysg am y sefyllfa bresennol ynglŷn ag adeilad y
Cylch Meithrin yn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl. ·
bydd penderfyniad yn
cael ei wneud yn rhan o’r broses o osod y gyllideb mewn cysylltiad â dyfodol
toiledau cyhoeddus. ·
o ran gwerth asedau
cyfredol, nid oedd hi’n beth doeth i fod yn benodol am werth asedau penodol
mewn adroddiad cyhoeddus. Roedd yna restr o asedau wedi’u datgan rhai dros ben,
ac roedd yr Awdurdod wrthi’n ceisio cael gwared arnynt. Nid oedd y rhestr yn
gynhwysfawr, ac roedd pob ased posibl i gael ei waredu wedi cael eu hadrodd i’r
Grŵp Rheoli Asedau a oedd ar agor i bob cynghorydd ei fynychu. ·
roedd gwasanaethau
unigol yn gyfrifol am reoli’r asedau hynny oedd o fewn eu meysydd gwasanaeth eu
hunain, h.y. roedd Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gyfrifol am y safleoedd yr oeddynt
yn eu gweithredu ar draws y Sir. Gwasanaeth fyddai’n penderfynu sut roedd eu
cyllideb yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi yn y safleoedd hynny. ·
cytunwyd i gais y byddai
Aelodau yn cael gweld rhestr o asedau oedd yn berchen i’r Cyngor o fewn pob
Grŵp Ardal Aelodau. Ar ddiwedd y drafodaeth drylwyr: Penderfynwyd: (i)
yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu gwybodaeth y
gofynnwyd amdani, argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo a mabwysiadu fersiwn
ddrafft Strategaeth Rheoli Asedau 2024/2029 (Atodiad 1 yr adroddiad); (ii)
fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall
ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad); a (iii) bod rhestr o asedau sydd yn eiddo i’r ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU “ADOLYGIAD STRATEGAETH DDIGIDOL” ARCHWILIO CYMRU PDF 237 KB Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Digidol Dros Dro (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno
gwybodaeth i’r Pwyllgor ar y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma wrth fynd i’r afael
ag argymhellion Archwilio Cymru yn dilyn ei adolygiad o Strategaeth Ddigidol
gyfredol y Cyngor. Mae’r adroddiad yn
ceisio barn y Pwyllgor ar y dulliau gwaith arfaethedig tuag at ddatblygu
Strategaeth Ddigidol newydd yr Awdurdod o 2026 ymlaen. 11.50am – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol adroddiad (dosbarthwyd ymlaen
llaw) gan nodi bod yr adroddiad wedi’i seilio ar waith maes a gynhaliwyd rhwng
mis Mai a mis Tachwedd 2023. Roedd yna
bedwar argymhelliad yn yr adroddiad gan Archwilio Cymru ac roedd y rhain yn
cael sylw yn Atodiad 3. Fe dynnwyd sylw
at Atodiad 4 a dywedwyd bod hwn yn rhoi manylion y cynnydd a wnaed wrth
ddarparu’r Strategaeth bresennol. Fe
nodwyd mai adroddiad diweddariad gwybodaeth oedd hwn. Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion: ·
ddweud fod rhaid i’r
Cyngor fod â mesurau ar waith yn ôl y gyfraith i fodloni anghenion preswylwyr
oedd wedi’u heithrio’n ddigidol i atal ynysiad.
Roedd y Swyddog Digidol wrthi’n gwneud llawer o waith gyda’r bwriad o
leihau allgau digidol. ·
fe eglurwyd fod mynd i’r
afael ag allgau digidol wedi bod yn flaenoriaeth ers nifer o flynyddoedd. Roedd yr Awdurdod wedi defnyddio cyfleoedd o
ffrydiau ariannol eraill, megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu
hyfforddiant i breswylwyr o ran sut i gael gafael ar, a defnyddio adnoddau
ar-lein. Roedd llawer o waith yn cael ei
wneud i fynd i’r afael ag allgau ac ynysiad digidol. ·
pwysleisiwyd fod pob
gwasanaeth oedd yn cael eu cynnig ar-lein hefyd ar gael wrth ofyn am gopi papur
neu drwy ofyn wyneb yn wyneb. Roedd gan
Aelodau rôl bwysig i’w chwarae yn rhoi gwybod i’r Cyngor os oedden nhw’n
ymwybodol o unrhyw breswylwyr nad oedd yn gallu cael gafael ar wasanaethau drwy
swyddfeydd y Cyngor neu lyfrgelloedd y Sir, oherwydd oedran, ynysiad neu
anawsterau symudedd, er mwyn i swyddogion neu sefydliadau gwirfoddol allu
cysylltu â nhw ynglŷn â’u hymholiadau.
Mae llawer o waith yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar dorri rhwystrau
ffisegol a chyfathrebu oedd yn atal preswylwyr rhag cyfathrebu gyda’r
Cyngor. Roedd y Swyddog Digidol bob
amser yn barod i helpu aelodau, swyddogion, cymunedau a phreswylwyr gyda
phroblemau digidol a chysylltedd, tra bod gan wasanaethau eraill swyddogion
oedd yn cynnal ymweliadau â’r cartref i bobl oedd yn cael trafferth gadael y
tŷ, i’w cynorthwyo nhw ag ymholiadau oedd yn benodol i’r gwasanaeth, e.e.
gofal cymdeithasol. ·
o ran y tri argymhelliad
arall a wnaed gan Archwilio Cymru oedd yn ymwneud â ‘Threfniadau Partneriaeth a
Chydweithio’, ‘Cyfrifo Costau ac Adnoddau y Strategaeth’, a’r ‘Trefniadau ar
gyfer Monitro Gwerth am Arian a’i Effaith’, cafodd yr aelodau wybod y byddai’r
holl ffactorau yma’n cael eu hystyried yn y gwaith sydd ar waith ar hyn o bryd
er mwyn llunio Strategaeth Ddigidol newydd y Cyngor o 2026 ymlaen. Byddai cyfleoedd gwaith partneriaeth yn cael
eu harchwilio’n fanwl gan fod ganddynt y posibilrwydd o wireddu arbedion
ariannol a chynorthwyo gwaith effeithiol ac effeithlon gyda phartneriaid sector
cyhoeddus eraill. ·
cymryd cyfrifoldeb i
wneud ymholiadau pellach i ganfod oedd gan y Cyngor unrhyw gynlluniau ar waith
i weithredu system rheoli gwybodaeth gofal cymdeithasol newydd Llywodraeth
Cymru, System Wybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd, ac
a oedd unrhyw gyllid allanol a/neu fewnol wedi cael ei sicrhau er mwyn ei
weithredu a’i integreiddio. Ar ddiwedd y drafodaeth: Penderfynwyd: (i)
yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cymeradwyo’r
cynnydd hyd yn hyn er mwyn darparu Strategaeth Ddigidol y Cyngor 2019/2025; a (ii)
cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn erbyn
pedwar argymhelliad Archwilio Cymru a sut y byddant yn cael eu defnyddio i
siapio’r dull a gymerwyd i lunio Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2026
ymlaen. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 241 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith
y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 12.20pm – 12.40pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn gofyn i’r
Pwyllgor adolygu ei raglen waith. Yn
ystod ei chyflwyniad, dywedodd y Cydlynydd Craffu ei bod hi’n aros am gadarnhad
ynghylch a fyddai’r adroddiadau am ‘Statws Baner Las ar gyfer Traethau Sir
Ddinbych’ a ‘Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref’ yn debygol o fod ar
gael i’w cyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd. Serch hynny, roedd Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Craffu fod i gyfarfod i drafod ceisiadau craffu yr wythnos
ganlynol, felly os na fydd un neu ddau o’r adroddiad ar gael ar gyfer cyfarfod
mis Tachwedd, fe allai’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu
ohirio eitemau ar gyfer archwiliad manwl y Pwyllgor yn y cyfarfod hwnnw. Yng nghyfarfod blaenorol Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu ym mis Mai 2024, cafodd tair eitem eu
cyfeirio i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau, sef fersiwn ddrafft Strategaeth
Rheoli Asedau 2024 i 2029 ac Adolygiad o’r Strategaeth Ddigidol roedd y ddau
wedi cael eu harchwilio yn ystod y cyfarfod presennol. Roedd y drydedd eitem yn ymwneud ag
Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru
2023/24, oedd wedi cael ei restru i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym
mis Rhagfyr 2024. Fe atgoffwyd yr Aelodau
bod nifer o adroddiadau gwybodaeth wedi cael eu rhannu gyda nhw’n gynharach yr
wythnos honno yn y ddogfen ‘Briff Gwybodaeth’.
Os oedd rhywfaint o’r wybodaeth yn yr adroddiadau yn destun pryder
iddynt, fe ddylent lenwi Ffurflen Cynnig Aelodau yn gofyn i’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu gyfeirio’r mater i Bwyllgor Craffu. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar
unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol mewn cysylltiad ag aildrefnu eitemau sydd
wedi’u rhestru ar y Rhaglen Waith bresennol, cadarnhau’r rhaglen waith sydd i
ddod fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Canolfan Is-ranbarthol Asesu Plant Bwthyn y Ddôl: Rhoddodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, cynrychiolydd Craffu ar Fwrdd Prosiect ar gyfer yr
uned arbenigol hon, ddiweddariad am ddarpariaeth y prosiect a dywedodd fod y
gwaith adeiladu yn nesáu at ei derfyn. Roedd dyddiad lansio wedi cael ei osod
ar gyfer mis Tachwedd 2024. Roedd y
Bwrdd Iechyd yn cael anhawster ar hyn o bryd yn llenwi dwy swydd arbenigol a
fyddai’n cael eu seilio yn y ganolfan, ond rhagwelir y byddai’r swyddi yma’n
cael eu llenwi cyn i’r ganolfan agor ym mis Tachwedd. Dywedwyd wrth aelodau’r
Pwyllgor i gysylltu â Phennaeth Gwasanaethau Plant y Cyngor petaen nhw eisiau
ymweld â’r Ganolfan cyn iddi gael ei hagor yn swyddogol. Penderfynwyd: nodi’r
wybodaeth a ddarparwyd. Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm |