Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN A THRWY GYNHADLEDD FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y
Cynghorwyr Jeanette Chamberlain-Jones, Brian Jones a David Williams. Roedd y Pwyllgor yn anfon ei ddymuniadau gorau am
adferiad llawn a chyflym i’r Cynghorydd Williams a oedd wedi cael llawdriniaeth
yn ddiweddar. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiant personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn datgan cysylltiad
personol yn eitem 6 fel Llywodraethwr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) yn Ysgol y
Castell, Rhuddlan. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD PDF 182 KB Penodi Is-gadeirydd
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2024/25 (disgrifiad
o’r rôl wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan nad oedd y Cadeirydd yn gallu mynychu’r cyfarfod yn
bersonol yn Neuadd y Sir roedd wedi gofyn i’r Is-gadeirydd ar ôl ei ethol i
gadeirio’r cyfarfod. Felly, roedd y
Cydlynydd Craffu yn gofyn am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor
ar gyfer blwyddyn 2024/25 y Cyngor. Enwebwyd y Cynghorydd Pauline Edwards gan y Cynghorydd
Bobby Feeley i gymryd rôl Is-gadeirydd y Pwyllgor. Cafodd enwebiad y Cynghorydd Edwards ar gyfer
y rôl ei eilio gan y Cynghorydd Elfed Williams.
Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd
Pauline Edwards yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer
blwyddyn 2024/25 y Cyngor. Ar ôl cael ei hethol, diolchodd y Cynghorydd Edwards i’r
aelodau am eu cefnogaeth barhaus cyn cadeirio ar gyfer gweddill y cyfarfod yn
unol â chais y Cadeirydd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd at unrhyw faterion brys cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 266 KB Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a
gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 (copi ynghlwm). 10.10am – 10.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024.
Felly: Penderfynwyd: y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 fel cofnod gwir
a chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi: tudalen 12,
‘Prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych’ - hysbyswyd aelodau’r Pwyllgor
bod copi o lythyr y Cadeirydd mewn perthynas â’r prosiect hwn at Brif Weinidog
newydd Cymru a benodwyd yn ddiweddar, ynghyd â llythyr ymateb y Gweinidog
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wedi’i ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor er
gwybodaeth fel rhan o’r ddogfen ‘Briff Gwybodaeth’ yn gynharach yn yr
wythnos. Rhoddodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Addysg ddiweddariad i’r Pwyllgor yn hysbysu’r aelodau bod yr achos busnes ar
gyfer y prosiect wedi’i dderbyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(BIPBC) yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2024 ac yna wedi’i gyflwyno i Lywodraeth
Cymru (LlC). Roedd y Cyfarwyddwr, mewn
cydweithrediad â chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd wedi parhau i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar gynnydd yr achos busnes wrth i bethau
ddatblygu. |
|
ADOLYGU PENDERFYNIAD CABINET SY'N YMWNEUD Â CHYMUNEDAU DYSGU CYNALIADWY - RHAGLEN DREIGL PDF 306 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) sy’n
gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor,
adolygu’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 23 Ebrill 2024. 10.15am – 11.15am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyn dechrau’r eitem fusnes
hon roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg, Plant a
Theuluoedd; Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg; Pennaeth Addysg; Prif Reolwr: Cefnogi Ysgolion ynghyd â nifer o swyddogion
eraill o amrywiol wasanaethau’r Cyngor i’r cyfarfod ar gyfer trafodaeth ar
benderfyniad y Cabinet a alwyd i mewn ar gyfer adolygu o dan Reolau Gweithdrefn
Galw i Mewn y Cyngor. Roedd hefyd yn
croesawu’r prif lofnodwr i’r ‘Hysbysiad Galw i Mewn’ a’i gyd-lofnodwyr i’r
cyfarfod i gyflwyno eu hachos. Cyflwynodd y Cydlynydd
Craffu yr adroddiad a’r atodiadau (dosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn amlinellu
penderfyniad y Cabinet a alwyd i mewn ar gyfer adolygiad, y rhesymau a roddwyd
dros geisio adolygiad o’r penderfyniad a’r broses a fyddai’n cael ei dilyn yn y
cyfarfod. Hefyd, dywedodd gan fod y
penderfyniad a alwyd i mewn ar gyfer ei adolygu yn ymwneud â darpariaeth addysg
statudol yn y sir, roedd yr Aelodau Cyfetholedig Addysg ar Bwyllgorau Craffu’r
Cyngor yn bresennol ac roeddent yn aelodau o’r Pwyllgor gyda hawliau
pleidleisio llawn ar gyfer yr eitem fusnes benodol hon. Cyn dechrau’r drafodaeth,
cafodd y Pwyllgor ei gynghori gan y Swyddog Monitro am bwysigrwydd canolbwyntio
ar y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 23 Ebrill 2024, yn ymwneud â’r
Rhaglen Amlinellol Strategol ddrafft ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer
Dysgu - Rhaglen Dreigl’, oedd yn destun yr Hysbysiad Galw i Mewn ac nid ar
unrhyw benderfyniadau a wnaed yn y gorffennol na’r dyfodol o bosibl, a wneir
mewn perthynas â rhaglen arfaethedig. Cafodd y cais galw i mewn
ei gyflwyno a’i grynhoi gan y Cynghorydd Mark Young, fel prif lofnodwr yr
Hysbysiad Galw i Mewn ar ei ran ef a’i gydlofnodwyr, yn egluro bod y rheswm
dros y penderfyniad galw i mewn yn seiliedig ar yr angen am lywodraethu da,
gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, ynghyd ag ymgynghori eang ac
effeithiol gyda holl fudd-ddeiliaid mewn perthynas â ‘gwaredu’ cae chwarae
gofod gwyrdd yn unol â Rheoliadau a Chanllawiau y cyfeiriwyd atynt yn yr
‘Hysbysiad o Benderfyniad Galw i Mewn’ a gyflwynwyd. Yn ystod ei gyflwyniad, roedd y Cynghorydd
Young yn cyfeirio at yr angen i ymgynghori gyda chyrff fel Chwaraeon Cymru,
ysgolion lleol yn Ninbych, aelodau etholedig lleol, cymuned leol a sefydliadau
chwaraeon, nad oedd ef a’i gydlofnodwyr yn teimlo yr ymgynghorwyd yn eang arno
mewn perthynas â ‘gwaredu/newid defnydd’ y cae chwarae er mwyn darparu ar gyfer
yr adeilad newydd yn Ysgol Plas Brondyffryn.
Roedd y llofnodwyr yn gadarn o’r farn o dan Gynllun Datblygu Lleol
(CDLl) y Cyngor, bod caeau chwaraeon wedi eu diogelu rhag datblygu oni bai eu
bod wedi eu dynodi fel rhai nad oes eu hangen mwyach. Roedd y cyd-lofnodwyr, y Cynghorwyr Merfyn
Parry, Pauline Edwards ac Elfed Williams yn amlinellu eu rhesymau dros gytuno i
alw’r penderfyniad i mewn gan nodi y dylai asesiad gael ei gynnal ar argaeledd
darpariaeth man gwyrdd yn Ninbych ac ar gael i aelodau a phreswylwyr
lleol. Dylai darparu asesiad o holl
risgiau hysbys cysylltiedig â’r cynigion ynghyd â thystiolaeth o’r ymgynghoriad
helaeth a gynhaliwyd gyda holl rhanddeiliaid hefyd fod ar gael. Nid oedd y Cynghorydd Geraint
Lloyd-Williams yn bresennol i gyflwyno ei resymau dros gytuno i fod yn
llofnodwr i’r ‘Hysbysiad Galw i Mewn’. Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd wrth alw’r penderfyniad i mewn, dywedodd yr Aelod Arweiniol fod y Swyddog Monitro o’r farn y byddai’r materion fforddiadwyedd, colled ac adfer/disodli caeau chwarae yn faterion fyddai’n derbyn sylw fel rhan o ddatblygu’r achos busnes llawn ar gyfer y prosiect cyn cyflwyno i’r Grŵp Craffu Cyfalaf ar gyfer ystyriaeth. Byddai’r elfen caeau chwarae yn cael ei chynnwys ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
EGWYL 11.50am tan 11.55am Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 240 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn
gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 11.30am – 11.50am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y
Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion Craffu perthnasol. Tynnwyd sylw’r aelodau at rhaglen waith y Pwyllgor
ynghlwm yn Atodiad 1 o’r adroddiad.
Roedd yna dair eitem sylweddol hyd yma ar gyfer y cyfarfod nesaf a
drefnwyd ar 4 Gorffennaf. Ynghlwm yn
Atodiad 2 oedd copi o ‘ffurflen cynnig aelodau’ ac anogwyd yr aelodau i’w
llenwi os oeddent yn teimlo bod mater neu destun yn haeddu cael ei graffu. Atgoffwyd nhw y byddai’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu yn cyfarfod ar 20 Mai i ystyried unrhyw
geisiadau craffu a dderbyniwyd. Roedd
Atodiad 3 yn nodi rhaglen waith y Cabinet er gwybodaeth i’r aelodau a’u helpu i
nodi unrhyw faterion yr oeddent yn dymuno iddynt gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor
Craffu ar gyfer craffu cyn gwneud penderfyniad. Roedd Atodiad 4 yn crynhoi’r cynnydd a
wnaed mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol. Roedd y Cynghorydd Elfed Williams yn awgrymu mae’n bosibl
y byddai’r Pwyllgor Craffu yn dymuno archwilio’r ymgynghoriad a gynhaliwyd
gyda’r ysgolion y cyfeiriwyd atynt o dan yr eitem fusnes flaenorol. Awgrymwyd fod y Cynghorydd Williams yn
llenwi ‘ffurflen cynnig aelod’ (ynghlwm yn Atodiad 2) yn amlinellu’r agweddau
yr oedd yn dymuno i’r Pwyllgor Craffu eu harchwilio yn fanwl, canlyniad
rhagweledig y broses graffu ac yna cyflwyno’r ffurflen ar ôl ei llenwi i naill
un o’r Cydlynwyr Craffu a fyddai’n cyflwyno’r cais i’r GCIGC ar gyfer
ystyriaeth. Roedd y Cynghorydd Arwel
Roberts yn gofyn pa un a oedd yr elfen man gwyrdd o’r ymgynghoriad a gynhaliwyd
ar y cynigion yn ymwneud â’r eitem Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a drafodwyd
ynghynt ar gael yn eang a pha un a oedd angen craffu ar yr elfen honno. Roedd y Cydlynydd Craffu yn cynghori’r
Cynghorwyr Roberts a Williams i gysylltu â’i gilydd mewn perthynas â chyflwyno
ffurflen cynnig aelod ar y testun penodol hwn. Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Roberts ar pa un
a oedd nifer digonol o geisiadau craffu yn cael eu cyflwyno i’r GCIGC ar gyfer
ystyriaeth i allu llenwi’r rhaglen waith craffu, roedd y Cydlynydd Craffu yn
hysbysu bod wyth cais wedi cael eu derbyn ar gyfer ystyriaeth gan y Grŵp
yn ei gyfarfod yr wythnos ddilynol. Yn ogystal, byddai’r GCIGC yn ystyried rôl
Craffu yn y broses gosod y gyllideb a monitro darpariaeth y Cynllun a
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, yn ogystal â chyfraniad y Pwyllgor Craffu
yn Rhaglen Drawsnewid y Cyngor yn y dyfodol yn y cyfarfod hwnnw. Yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau
hynny bydd holl raglenni gwaith pwyllgor craffu yn cael eu llunio yn fwy
gwastad yn y dyfodol. Roedd trefniadau
craffu arfaethedig ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru hefyd i gael
eu trafod mewn cyfarfod i ddod o’r GCIGC. Er bod yna gynigion i Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ffurfio rhan o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y
pen draw, ni chytunwyd ar ddyddiad eto ar gyfer hwn. Felly, nes byddai’r trefniadau hynny yn eu
lle a chytuno ar drefniadau craffu unigol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig,
byddai’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn parhau i fod yn bwyllgor craffu
dynodedig Sir Ddinbych ar gyfer craffu ar y BUEGC. Ar ddiwedd y drafodaeth: Penderfynwyd: cadarnhau rhaglen waith y Pwyllgor fel y
nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau y Cyngor. 11.50am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Uned Asesu Is-Ranbarthol ar Gyfer Plant Bwythyn y Ddôl: Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley,
cynrychiolydd y Pwyllgor Craffu ar y Bwrdd Prosiect ar gyfer yr uned arbenigol
hon yn dweud bod y cyfleuster ar ei newydd wedd ar gyfer yr Uned Asesu hon ar
fin cael ei gwblhau. Roedd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Addysg yn cadarnhau unwaith y byddai’r cyfleuster yn barod i’w ddefnyddio,
byddai lansiad swyddogol yn cael ei drefnu a byddai newyddlen yn cael ei
dosbarthu i’r holl aelodau. Felly: Penderfynwyd: derbyn y wybodaeth a ddarparwyd. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10pm
|