Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by Video Conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 621 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 14 Rhagfyr 2023. 

 

Materion yn Codi – Tudalen 8 – Gosod Lefelau Rhent Fforddiadwy – codwyd cwestiwn ynghylch y tâl gwasanaeth ac a oedd yn cynnwys cynnal a chadw mannau chwarae.  Yn ogystal â hyn, gofynnwyd a fyddai’r mannau chwarae’n cael eu dwyn yn ôl dan berchnogaeth gyhoeddus drwy Gyngor Sir Ddinbych.    Gofynnwyd am ymateb ysgrifenedig ond nid yw hwn wedi’i dderbyn hyd yma.  Gwnaeth y Cydlynydd Craffu gadarnhau ei bod hi wedi anfon nodyn atgoffa ar gyfer ymateb.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir.

 

5.

PROSIECT YSBYTY CYMUNED GOGLEDD SIR DDINBYCH

Derbyn cyflwyniad i ystyried y sefyllfa bresennol o ran darparu’r prosiect gan gynnwys cefnogaeth mewn egwyddor gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, y Cyfarwyddwr Gofal Acíwt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'r Pwyllgor. 

 

Yn dilyn cyfarfod i drafod Ysbyty Brenhinol Alexandra, roedd cynnydd wedi'i wneud ond yr oedd yn y cyfnod cynnar. Gwnaeth yr Aelod Arweiniol gadarnhau fod datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra yn brosiect Bwrdd Iechyd a oedd yn cael cefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych pan fo angen. Pwysleisiwyd pwysigrwydd datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra i liniaru'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd ac integreiddio rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol fyddai'r flaenoriaeth. 

 

Cadarnhaodd Alyson Constantine, Cyfarwyddwr Gofal Acíwt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr amserlenni a'r prosesau ar gyfer y dyfodol i’r Pwyllgor. 

 

Roedd prosiect partneriaeth wedi’i sefydlu ac yr oedd cefnogaeth gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i gadarnhau ym mis Rhagfyr 2023.

 

Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda TACP Architects i gyflwyno dyluniadau o safon uchel, costau ac amserlenni.  

 

Byddai'r Gwerthusiad Dewis yn mynd i Lywodraethu Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mawrth ac yna'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) ddiwedd mis Mawrth. Byddai Llywodraeth Cymru yna’n cadarnhau dyraniadau cyllid a grant yn dilyn y cam hwn.

 

Roedd yr ysgogwyr ar gyfer y gwerthusiad dewis fel a ganlyn -

 

·         Adnewyddu'r adeilad presennol ar gyfer cynaliadwyedd a sicrhau ei fod yn addas i'r diben;

·         Defnyddio’r arwynebedd llawr yn y ffordd orau posibl i fanteisio ar y buddion cymunedol;

·         Canolbwyntio ar integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;

·         Gwella cydweithio rhwng Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Trydydd Sector;

·         Darparu Uned Mân Anafiadau yn cynnwys rhai gwelyau ar y campws;

·         Darparu llety sy’n addas at y diben – nid popeth yn yr adeilad newydd;

·         Mae’n rhaid i’r dewis fod yn fforddiadwy.

 

Mae’r adeilad clinigol newydd yn darparu gwasanaethau newydd ac estynedig -

 

·         Gwelyau cymunedol – model newydd o ofal cam i fyny a cham i lawr;

·         Uned anafiadau difrifol i'r gymuned a chlinigau Nyrsys Ardal;

·         Gwasanaethau radioleg estynedig i gynnwys uwchsain a gwasanaeth y tu allan i oriau;

·         Canolbwynt trydydd sector i gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth a hybu lles;

·         Llety estynedig ar gyfer timau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar y safle;

·         Caffi cymunedol ar gyfer ymwelwyr a staff;

·         Gwasanaethau deintyddol cymunedol i’w darparu’n lleol mewn amgylchedd sy’n addas at y diben.

 

Adnewyddu'r adeilad presennol a defnyddio'r safle ehangach -

 

·         Darparu amgylchedd sy’n addas at y diben ar gyfer -  

o   Timau amlasiantaeth

o   Grwpiau’r trydydd sector

o   Gwasanaethau Plant

o   Gwasanaethau Therapi, a

o   Gwasanaethau Iechyd Rhywiol.

·         byddai amrywiaeth o dimau cefnogi wedi’u lleoli ar y safle;

·         cadw dau adeilad Glan Traeth sy’n cynnal timau iechyd meddwl pobl hŷn ac amrywiaeth o wasanaethau cleifion allanol

·         maes parcio estynedig oddi ar y safle.

 

Roedd Dewisiadau Cwmpas Adolygu Ysbyty Brenhinol Alexandra fel a ganlyn -

 

·         Dewis 1 - Gwneud dim

·         Dewis 2 - Gwaith adfer ar yr Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol. Dim newid i wasanaethau.

·         Dewisiadau 3, 4 a 5 - Cwmpas Canolradd - Dewisiadau Newydd

o   Dewis 3 - Unllawr, ôl troed achos busnes gwreiddiol a chynllun y llawr gwaelod. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwasanaethau iechyd rhywiol ehangach a chanolbwynt y trydydd sector. Adnewyddu'r adeilad presennol.

o   Dewis 4 - Unllawr, ôl troed achos busnes gwreiddiol a chynllun newydd. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwelyau cymunedol a chanolbwynt y trydydd sector.  Adnewyddu'r adeilad presennol.

o   Dewis 5 - deulawr, yr un arwynebedd llawr â dewisiadau 3 a 4 a chynllun newydd. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwelyau cymunedol a chanolbwynt y trydydd sector. Adnewyddu'r adeilad presennol.

·         Dewis 6 - Uchafswm Cwmpas yr Achos Busnes Llawn

 

Byddai'r amserlenni'n  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad a’r atodiadau (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol.

 

Cafodd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ei drefnu ar gyfer 16 Mai 2024. Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u rhestru ar gyfer y cyfarfod nesaf ar hyn o bryd. Derbyniwyd tair ffurflen cynnig ond bydden nhw’n cael eu trafod yng Ngrŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu o ran pa Bwyllgor Craffu y bydden nhw’n cael eu cyfeirio ato. 

 

Atodiad 3 oedd Rhaglen Waith y Cabinet er gwybodaeth i’r Aelodau. 

 

Roedd Atodiad 4 yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynglŷn ag argymhellion o’r cyfarfod blaenorol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn cadarnhau'r rhaglen waith fel y'i hamlinellir yn Atodiad 1.

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd adborth.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.37 A.M.