Agenda and draft minutes
Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by Video Conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Brian Jones, Raj
Metri, Arwel Roberts a David Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Kelly Clewett gysylltiad
personol ag eitem rhif 6 ar y rhaglen, ‘Gosod Lefelau Rhent Fforddiadwy’, gan
ei bod yn berchennog ar eiddo a rentir yn breifat nad ydynt yn destun rhent
cymdeithasol na rhent canolradd. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD PDF 182 KB Penodi Is-Gadeirydd
ar gyfer y Pwyllgor am weddill y flwyddyn ddinesig 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Peter Scott o’r
Pwyllgor wedi ei benodiad yn Gadeirydd y Cyngor Sir, daeth rôl Is-gadeirydd y
Pwyllgor yn wag. Enwebwyd y Cynghorydd Pauline Edwards gan y
Cynghorydd Bobby Feeley i gymryd rôl Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu
Partneriaethau. Eiliwyd enwebu’r
Cynghorydd Edwards gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac felly yr
oedd y Pwyllgor yn unfrydol: Penderfynwyd: penodi’r
Cynghorydd Pauline Edwards yn Is-gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn 2023/24 y
Cyngor. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 404 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023 (copi’n
amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023. PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023 fel cofnod cywir. Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y
cofnodion. |
|
GOSOD LEFELAU RHENT FFORDDIADWY PDF 230 KB Ystyried
Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Strategaeth - Cynllunio Strategol a Thai, ar Osod
Lefelau Rhent Fforddiadwy. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
Swyddogion a’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Rhys Thomas, i’r cyfarfod. Cyflwynodd Pennaeth
Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad adroddiad i’r Pwyllgor
ynglŷn â gosod Rhenti Tai Fforddiadwy. Nododd y Swyddogion fod yna
berthynas aeddfed a chynhyrchiol gyda Chymdeithasau Tai yn y sir. Yr oedd
Cymdeithasau Tai a’r Cyngor yn gweithio’n agos â’i gilydd i ddiwallu’r angen am
dai yn y sir. Arweiniodd Rheolwr
Cynllunio Strategol a Thai yr Aelodau drwy’r adroddiad. Rhennid Rhent
Fforddiadwy yn ddau gategori – rhent cymdeithasol a rhent canolradd. Rhent cymdeithasol
oedd y math isaf o rent fforddiadwy ac mae’r rhan fwyaf o eiddo’r Cyngor a
Chymdeithasau Tai (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) wedi gosod rhent ar
y lefel hon. Yr oedd yn ofynnol i bob awdurdod tai lleol a Landlord
Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru gydymffurfio â Safon Rhent a Thâl
Gwasanaeth Tai Cymdeithasol. Cyflwynwyd y Safon yn rhan o Ddeddf Tai (Cymru)
2014. Yr oedd yr adroddiad a
gyflwynwyd yn ymwneud â rhent canolradd.
Pennwyd diffiniad Rhent Canolradd gan Lywodraeth Cymru (LlC) fel rhent
sy’n cael ei osod naill ai ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol (a bennir gan
Asiantaeth y Swyddfa Brisio i fod y traean isaf o renti’r farchnad agored), i
fyny i uchafswm o 80% o rent y farchnad; yr oedd y ffigur yn cynnwys taliadau
gwasanaeth. Yr oedd Rhent Canolradd yn cael ei arwain gan y farchnad yn hytrach
nag incwm ac, felly, yr oedd y codiadau rhent a welwyd yn ddiweddar yn y sector
rhentu preifat yn effeithio arno. Yr oedd Rhent Canolradd
yn opsiwn a oedd ar gael i ddatblygwyr preifat ochr yn ochr â pherchnogaeth
cartref â chymorth, wrth ystyried rhwymedigaethau cynllunio ar safleoedd
datblygu newydd. Yn Sir Ddinbych yr oedd 15 o anheddau yn eiddo i 3 datblygwr
preifat gwahanol, a oedd yn cael eu rhentu fel eiddo canolradd. Yr oedd Tai Fforddiadwy
yn y sir ar gael drwy gofrestr Tai Teg a weithredid gan Grŵp Cynefin. Yr
oedd 960 o ymgeiswyr ar hyn o bryd yn gwneud cais am Lety Rhent Canolradd, sydd
wedi cynyddu’n sylweddol. Gellid egluro’r cynnydd yn y galw oherwydd yr
ansicrwydd yn y farchnad swyddi, Brexit a Covid, ac yr oedd prisiau eiddo wedi
bod yn cynyddu’n aruthrol hefyd. Yr oedd problemau wedi
bod yn ymwneud â chynnwys taliadau gwasanaeth mewn rhent canolradd, a
chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a
swyddogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn. Canlyniad y cyfarfodydd hyn
oedd y cytunwyd bod canllawiau Llywodraeth Cymru ychydig yn aneglur, ac felly
cyhoeddwyd llythyr (a ddosbarthwyd ymlaen llaw, sef Atodiad (iv) yr adroddiad)
i egluro unrhyw bryderon gan nodi y dylai Rhent Canolradd gynnwys unrhyw
daliadau gwasanaeth. Yr oedd yna ymrwymiad
pellach gan Lywodraeth Cymru i adolygu lefelau Rhent Canolradd yn rhan o bolisi
yn y dyfodol; fodd bynnag, nid oedd unrhyw amserlen ar gyfer hynny ar hyn o
bryd. Diolchodd y Cadeirydd i
Reolwr Cynllunio Strategol a Thai am yr adroddiad a chroesawu cwestiynau gan yr
Aelodau. Cyfeiriodd yr Aelodau at
y taliadau gwasanaeth a holi a oedd hyn yn ffordd gan y datblygwyr o gynyddu
rhent. Dywedodd Pennaeth Tai Fforddiadwy (Clwyd Alyn) fod rhai ardaloedd
cymunedol yn cael eu cynnal a chadw gan y datblygwr, yr oedd tâl blynyddol ar
gyfer pob eiddo a drosglwyddid i’r preswylwyr fel tâl gwasanaeth. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Cymdeithasau Tai’n gallu addasu’r rhent a thaliadau gwasanaeth pe bai tenant yn cael anawsterau ariannol. Dywedodd Cynrychiolydd Clwyd Alyn eu bod yn archwilio ffyrdd o gynorthwyo tenantiaid i dalu eu rhent drwy roi talebau bwyd ac ynni – yr oedd ganddynt Gronfa i Breswylwyr ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 241 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn
gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Trefnwyd
cyfarfod nesaf Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer 8 Chwefror 2024. Nodwyd
un eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf: · Prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir
Ddinbych – hysbyswyd yr Aelodau bod yr eitem wedi ei gohirio dros dro tan
gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024. Trefnwyd
cyfarfod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar gyfer 29 Ionawr, ac
anogwyd yr Aelodau i lenwi’r ffurflen berthnasol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw)
os oedd unrhyw eitemau yr oedd Aelodau eisiau eu hystyried yn y cyfarfod. Nid
ychwanegwyd unrhyw eitemau i raglen waith y Pwyllgor yng nghyfarfod diwethaf
Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu. Atodiad 3
oedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet er gwybodaeth i’r Aelodau. Yr oedd
Atodiad 4 yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynglŷn ag argymhellion
o’r cyfarfod blaenorol. Amlygodd y
Cydlynydd Craffu ei bod yn ofynnol i’r Pwyllgor enwebu dirprwy gynrychiolydd
newydd ar gyfer Grŵp Craffu Cyfalaf yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd
Peter Scott. Gofynnwyd am enwebiadau
gan yr Aelodau. Enwebodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones ei hun. Gan na
chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cynghorydd
Jeanette Chamberlain-Jones yn cael ei phenodi’n ddirprwy gynrychiolydd y
Pwyllgor ar Grŵp Craffu Cyfalaf. Bu i’r Pwyllgor: Benderfynu: – (i)
cadarnhau ei raglen gwaith i’r dyfodol fel y’i
nodir yn Atodiad 1, yn amodol ar aildrefnu eitem Prosiect Ysbyty Cymunedol
Gogledd Sir Ddinbych dros dro ar gyfer cyfarfod ym mis Mawrth 2024 yn lle
cyfarfod ym mis Chwefror 2024; a (ii)
phenodi’r Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones i
wasanaethu fel dirprwy gynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Craffu Cyfalaf, i
ddirprwyo yn absenoldeb cynrychiolydd penodedig y Pwyllgor yn ôl yr angen. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Canolfan Asesu Plant
Bwthyn y Ddôl: Dywedodd y
Cynghorydd Bobby Feeley, cynrychiolydd Pwyllgorau Craffu Cyngor Sir Ddinbych ar
Fwrdd Prosiect y cyfleuster hwn, fod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo’n dda ac
ymddengys fod popeth ar y trywydd iawn o ran amser. Dywedodd hefyd fod Pennaeth Gwasanaethau
Plant y Cyngor yn awyddus i ddarparu adroddiad am y prosiect i’r Aelodau yn y
dyfodol agos. Herio Gwasanaeth –
Gwasanaeth Perfformiad, Digidol ac Asedau: Hysbyswyd yr
Aelodau gan yr Is-gadeirydd, cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Herio
Gwasanaeth hwn, fod y cyfarfod Herio Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaeth hwn i fod
i gael ei gynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Anogodd Aelodau a oedd â chwestiynau neu
bryderon yn ymwneud â’r Gwasanaeth hwn i’w hanfon ymlaen iddi cyn gynted â
phosibl, er mwyn iddi allu eu codi yn y cyfarfod. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am eu presenoldeb
yn y cyfarfod a therfynwyd y cyfarfod. Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |