Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN A THRWY GYSWLLT FIDEO
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr Peter Scott a Raj
Metri. Estynnodd y
Cadeirydd a’r aelodau eu cydymdeimlad diffuant â’r Cynghorydd Peter Scott yn dilyn
marwolaeth ei wraig, Mrs Susan Scott. Gofynnwyd am i’w cydymdeimlad dwys gael
ei fynegi i’r Cynghorydd Scott a’i deulu.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes
a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod
hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Kelly Clewett gysylltiad
personol ag eitemau 5 a 6 gan ei bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel matrion brys yn
unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd
sylw'r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu at unrhyw faterion brys cyn y cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 418 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023
(copy ynghlwm). 10.05am – 10.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a gynhaliwyd ar 6
Gorffennaf 2023. Felly: Penderfynwyd: y dylai’r Pwyllgor dderbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir. Ni chodwyd unrhyw
fater mewn perthynas â chywirdeb na chynnwys y cofnodion. |
|
PROSIECT YSBYTY CYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH Trafodaeth gyda chynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y cynnydd
a wnaed hyd yma mewn perthynas
â chyflawni'r prosiect hwn. 10.15am – 10.45am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd
Elen Heaton y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir
Ddinbych. Dywedodd wrth yr aelodau, er mai prosiect gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (BIPBC) yw Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych, roedd Cyngor Sir Ddinbych
wedi ymrwymo i gefnogi’r prosiect hanfodol hwn. Eglurwyd bod y Prosiect yn hanfodol oherwydd y pwysau a’r galw cynyddol ar
Uned Frys a Damweiniau Ysbyty Glan Clwyd. Eglurodd yr Aelod Arweiniol fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru wedi gorfod drafftio eu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 mlynedd cyntaf, oedd
bellach wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd datblygu Ysbyty Brenhinol
Alexandra yn un o dri phrosiect blaenoriaeth a gyflwynwyd oedd o fewn ffiniau
Cyngor Sir Ddinbych. Roedd ceisiadau Ffurflenni Sero wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol erbyn hyn, ond er ei fod yn cynnig sicrwydd, dywedwyd
y byddai hyn ond yn cyfri am 20% o gyfanswm cyllid y prosiect. Hefyd dim ond cam cyntaf y cais oedd hwn ac
nid oedd yn warant o unrhyw gyllid. Ym mis Awst 2023, cyfarfu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, yr Arweinydd a’r
Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol â Chadeirydd dros dro a Phrif
Weithredwr BIPBC. Roedd hwn yn gyfarfod buddiol iawn oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad
prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych. Pwysleisiwyd bod BIPBC wedi
ymrwymo i barhau â’r prosiect hyd y pen a’u bod yn parhau i gysylltu â
Llywodraeth Cymru er mwyn cyflymu datblygiad y prosiect. Mynegodd yr Aelod Arweiniol yr angen diymwad i gwblhau’r prosiect hwn, ond
bod angen cadw mewn cof y sefyllfa ariannol anodd sy’n ein hwynebu. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y broses a’r amserlenni ymhellach fel
a ganlyn: ·
Roedd y Ffurflen Sero (ffurflen gais) bellach wedi
cael ei chyflwyno a’i chymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. ·
Bydd Prosiectau Gogledd Cymru sydd wedi cael eu
cymeradwyo ar lefel Ffurflen Sero yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol ac yna eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod yn gam
arwyddocaol ymlaen yn y prosiect, ond nid oedd y cyllid wedi’i gymeradwyo gan
Lywodraeth Cymru eto. Rhestrodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig y mathau o
wasanaethau fyddai yn safle Ysbyty Brenhinol Alexandra a’r disgwyliadau, fel a
ganlyn: ·
Ail gomisiynu gwelyau cymunedol ·
Parthau triniaeth uwch ·
Iechyd Rhywiol Lefel 1-3 ·
Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol ·
Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ·
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
(CAMHS) ·
Symud y Tîm Un Pwynt Mynediad ·
Uned Mân Anafiadau ·
Gwasanaethau Amlddisgyblaethol ·
Awdioleg ·
Radioleg Uwch ·
Gwasanaethau cynghori ataliol e.e. rhoi’r gorau i
ysmygu ac ati ·
Lleoedd i’r sector gwirfoddol Pwysleisiwyd eto ei bod yn hinsawdd ariannol anodd iawn a bod costau’r
prosiect wedi newid yn sylweddol. Roedd ar
y prosiect cyfalaf angen adolygu’r costau refeniw a dynodi ffynonellau i gau
unrhyw fylchau ariannol. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r Swyddogion am eu diweddariad
cynhwysfawr a chroesawyd cwestiynau gan y Pwyllgor. Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am eu gwaith ar y Prosiect, ond gan
fynegi eu siom bod y prosiect hwn wedi cael ei addo i’r gymuned ers cymaint o
amser a gofynnwyd am eglurhad am amserlenni’r Prosiect o hyn ymlaen. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn deall rhwystredigaeth y Pwyllgor ond
dywedodd nad oedd amserlen ar hyn o bryd o ran pryd fyddai Llywodraeth Cymru yn
ymateb i’r Ffurflen Sero y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn ei chyflwyno iddynt.
Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol am bennu dyddiad ar gyfer ystyried y cais
wedi iddynt ei dderbyn. Holodd yr Aelodau pam na chafodd y Pwyllgor adroddiad cyn y cyfarfod, a bod Achos Busnes wedi’i gyflwyno ond nad oedd y Pwyllgor wedi’i weld. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2022 I 2023 PDF 213 KB Ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar ei weithgareddau yn ystod 2022/23 (copi ynghlwm) a chyflwyno sylwadau ar ei gynnwys
ac ar waith y Bwrdd. 10.45am – 11.30am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Adroddiad Blynyddol Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) Sefydlwyd Byrddau
Partneriaeth Rhanbarthol fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant. Roedd gan y
Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddau nod craidd: Gwella lles
y boblogaeth. Gwella’r
ffordd y darperir Gwasanaethau Iechyd a Gofal yn y rhanbarth. Bob blwyddyn, roedd
gofyn i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru lunio adroddiad a’i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad ar
gyfer 2022-2023 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi
trosolwg cynhwysfawr o gyflawniadau ac ymdrechion cyfathrebu ac ymgysylltu yn
ogystal â gwybodaeth am flaenoriaethau’r BPRhGC i’r
dyfodol. Oherwydd
maint yr adroddiad, gofynnodd yr Aelod Arweiniol a fyddai’n bosibl i’r
drafodaeth gael ei hagor i’r Aelodau gyda chymeradwyaeth y Cadeirydd. Croeswyd
cwestiynau gan Aelodau. Cyfeiriodd
Aelodau at y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a amlinellwyd yn yr
adroddiad. Roedd prosiectau oedd yn
cefnogi gofalwyr yn uniongyrchol yn bwysig, fodd bynnag nododd yr adroddiad bod
y cyllid hwn wedi ei roi hyd at 2027. Holodd yr Aelodau a fyddai’r cyllid yn
parhau ar ôl y dyddiad hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Addysg, cyn
cyflwyno’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol bod Cronfa Gofal Integredig, a
ddyrannwyd fesul blwyddyn. Ar hyn o bryd, roedd ymrwymiad o 5 mlynedd i’r
cyllid, ond Llywodraeth Cymru fyddai’n penderfynu a fyddai hyn yn parhau ar ôl
2027. Holodd yr
Aelodau am nifer y Byrddau oedd yn gweithredu yn y BPRhGC a’u swyddogaethau. Mynegwyd pryderon am ba mor fawr roedd y BPRhGC yn tyfu. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y BPRhGC yn amgylchedd prysur iawn a bod rheoli
cyfarfodydd ac amser cydweithwyr yn cael ei drefnu mor effeithlon â phosibl.
Roedd llawer o’r byrddau a’r cyfarfodydd yn ofynnol dan Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a roddwyd mwy o gyfrifoldeb ar y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Swyddogion yn
ystyriol bob amser bod Sir Ddinbych a phreswylwyr Sir Ddinbych yn cael y gwerth gorau bosibl o’u cyfranogiad yn y BPRhGC. Roedd elfen statudol i’r Bwrdd Partneriaeth a’r
Byrddau sydd ynddo. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
wrth yr Aelodau mai adroddiad rhanbarthol oedd yr adroddiad a bod y gofynion o
ran sut oedd yn cael ei lunio’n cael eu diffinio gan Lywodraeth Cymru. Felly,
nid oedd yr adroddiad mor fanwl am Sir Ddinbych ag yr hoffai Aelodau iddo fod.
Os oedd meysydd yn yr adroddiad yr hoffai Aelodau gael mwy o fanylion amdanynt,
dywedwyd wrthynt am roi gwybod i swyddogion ac efallai y gellir rhoi’r manylder
hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cyfeiriodd
Aelodau at y Gronfa Tai â Gofal. Pwrpas y Gronfa oedd cefnogi byw’n annibynnol
yn y gymuned i bobl ag anghenion gofal a chymorth, ac i ddarparu safleoedd
gofal canolradd yn y gymuned fel y gallai pobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu fynd yn ôl i
fyw’n annibynnol neu barhau yr un mor annibynnol. Roedd hon yn rhaglen ariannu
4 blynedd oedd yn ariannu cynlluniau dan 3 amcan. Holodd yr
Aelodau am amcan 1 - Cynyddu’r stoc tai â gofal presennol yn sylweddol, gan
ofyn os oedd diweddariad ar hyn yn Sir Ddinbych. Eglurodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol mai ychydig o gynnydd a fu gydag amcan 1 ar hyn o
bryd, ond bod hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.
Roedd prosiectau dan amcanion 2 a 3 o’r adroddiad ar hyn o bryd (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd Sir Ddinbych yn defnyddio eu dyraniad ac yn
symud ymlaen gyda’r Gronfa Tai â Gofal. Holodd yr Aelodau os oedd gwerthusiad o lwyddiant y Byrddau a chanlyniadau’r gwaith oedd ar y gweill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod y Byrddau’n ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 238 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol
y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 11.30am – 11.50am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad ac atodiadau (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau wedi’i drefnu ar gyfer 26 Hydref. Rhestrwyd dwy eitem sylweddol ar gyfer y
cyfarfod nesaf: · Gosod Lefelau Rhent Fforddiadwy · Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Pwyllgor Craffu
Trosedd ac Anhrefn) Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth yr Aelodau fod y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cytuno yn ei gyfarfod diweddar
i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys adroddiad ar Statws Baner Las traethau Sir
Ddinbych, oedd yn codi o Rybudd o Gynnig i’r Cyngor Sir, ar ei raglen gwaith
i'r dyfodol. Mae hyn wedi’i roi ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor ar
gyfer mis Tachwedd 2024. Trefnwyd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu ar gyfer 3 Hydref 2023 ac anogwyd yr Aelodau i lenwi’r
ffurflen berthnasol ynghlwm os oedd unrhyw eitemau oeddent yn dymuno cael eu
hystyried yn y cyfarfod. Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet
er gwybodaeth i Aelodau. Roedd Atodiad 4 yn rhoi mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor
am yr argymhellion o’r cyfarfod diwethaf.
Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor: Penderfynwyd: yn amodol ar gynnwys
adroddiad cynnydd ar Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych pan fydd ar
gael, bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei raglen gwaith i'r dyfodol fel y nodir yn
Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau y Cyngor. 11.50am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod
i ben am 12pm. |