Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cymunedau. Roedd Gary Williams, Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes a Swyddog Monitro yn bresennol fel cymorth
corfforaethol. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n
rhagfanu ynglŷn ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe
wnaeth y Cynghorydd Kelly Clewett ddatgan cysylltiad personol ag eitem busnes
rhif 6, ‘Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2021/22’, yn rhinwedd
ei swydd fel Arweinydd Tîm Adnoddau Cymunedol Dinbych (CRT) ac fel gweithiwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 329 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau, a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2022. Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7
Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir. Nid oedd materion yn codi o gynnwys y
cofnodion. |
|
DARPARU CONTRACT GWASANAETHAU GORFODAETH AMGYLCHEDDOL PDF 298 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth Dros Dro Priffyrdd, a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth ac yn gofyn am sylwadau’r aelodau ynglŷn â’r statws presennol a chyfeiriad arfaethedig gwasanaethau gorfodi amgylcheddol ar draws y sir yn y dyfodol. 10.10am – 10.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, yr
Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd Barry Mellor, yr adroddiad (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) ochr yn ochr â Phennaeth Dros Dro Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol a'r Rheolwr Dros Dro Gwastraff ac Ailgylchu. Roedd yr adroddiad yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar gynnydd y trefniant hwn drwy
gontract allanol ar ddiwedd cyfnod y contract, ac mae’n manylu ar y trefniadau
arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer darpariaeth barhaus y gwasanaethau hyn ar
draws ardal Sir Ddinbych, gan amlygu’r risgiau i’r
trefniant hwn drwy gontract allanol a sut mae’r risgiau hynny yn cael eu
rheoli. Eglurodd yr Aelod Arweiniol, er y gallai'r
penderfyniad i ddyfarnu'r contract fod wedi'i wneud gan y Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol, dan bwerau a ddirprwywyd iddo, roedd Pennaeth y
Gwasanaeth a'r Aelod Arweiniol yn awyddus i ofyn am farn
yr aelodau ar fanylion y contract, yn enwedig y diwygiadau arfaethedig i'r
contract. Fe wnaeth y darparwr gwasanaeth ddarparu
patrolau gan swyddogion Gorfodi Amgylcheddol ledled y
sir (tir â mynediad cyhoeddus) er mwyn codi ymwybyddiaeth a chyhoeddi
Rhybuddion Cosb Benodedig (RhCB) ar gyfer troseddau
amgylcheddol lefel isel. Roedd mwyafrif y troseddau yn ymwneud â thaflu sbwriel
a thorri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Sir Ddinbych
(Rheoli Cŵn). Fe wnaethant hefyd roi Rhybuddion Cosb Benodedig am
droseddau amgylcheddol eraill gan gynnwys gosod posteri'n anghyfreithlon a
graffiti a gorfodi deddfwriaeth ddi-fwg. Roedd y
darparwr gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am ystod o gymorth swyddfa gefn mewn
perthynas â Rhybuddion Penodedig, gan gynnwys rheoli cyfraddau taliadau a
pharatoi ffeiliau achos ar gyfer erlyniadau posibl (am beidio â thalu
Rhybuddion Cosb Benodedig a cherdded i ffwrdd heb dderbyn y ddirwy). Mae hefyd yn ofynnol iddynt fod yn bwynt cyswllt
cyntaf ar gyfer cwynion a sylwadau gan y cyhoedd. Cafodd y Pwyllgor wybod am amrywiadau’r
contract, sef - Daeth tri amrywiad i fanylion contract 2019 i
rym ar 10 Hydref 2022: (i)
Ymestyn y contract presennol am 24 mis
(Amrywiad Sylweddol) tan 9 Hydref 2024. (ii) Ehangu cwmpas y contract drwy gynnwys dau faes ychwanegol o orfodi amgylcheddol – i ddechrau drwy ddau gynllun peilot chwe mis. (Nid yw’n cael ei ystyried yn amrywiad
sylweddol); (iii) Cynnwys cymal “terfynu er hwylustod”, sy’n galluogi’r contractwr i
derfynu’r contract gyda 12 wythnos o rybudd, pe bai’r contract yn methu â bod
yn ymarferol yn fasnachol iddynt. (Nid yw’n cael ei ystyried yn amrywiad
sylweddol); Trafododd Aelodau’r canlynol mewn mwy o
fanylder: ·
Codwyd pryderon ynglŷn â nifer
isel o batrolau a gofnodwyd ar gyfer ardaloedd mwy gwledig y sir, h.y ardaloedd Dyffryn Dyfrdwy, Dinbych a Rhuthun, gan fod
rhai aelodau’n teimlo bod y patrolau’n canolbwyntio ar ardaloedd twristiaid ar
hyn o bryd. Teimlai’r Pwyllgor bod angen dull Sir Ddinbych
cyfan i’r contract newydd. Cadarnhaodd swyddogion bod y mater hwn wedi’i nodi
ac roedd yn rhan o drafodaeth barhaus ar hyn o bryd rhwng y Cyngor a’r cwmni. · Roedd gan y Pwyllgor bryderon mewn perthynas â chost a maint yr elw ar gyfer y cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth. Roedd Aelodau’n bryderus y gall hyn wthio’r cwmni i fynd ar drywydd ffynonellau elw yn hytrach na delio â’r materion a oedd yn achosi pryder i drigolion, taflu sbwriel a baw cŵn. Eglurodd y swyddogion y byddai’r cynnig i godi lefelau dirwy mewn perthynas â throseddau baw cŵn yn gobeithio atal troseddau o’r fath a lleihau’r lefelau o droseddau o’r fath yn y dyfodol. Roedd baw cŵn yn cael ei ystyried gan y cyhoedd fel trosedd yn erbyn pobl a chymunedau, felly roedd yn bwysig bod dirwyon yn cael eu pennu ar lefel i helpu atal ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD PARTNERIAETH RANBARTHOL 2021/22 PDF 226 KB Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol (copi’n ynglwm) sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru i’r Pwyllgor ar ei weithgareddau yn ystod 2021/22. 10.45am – 11.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Iechyd a
Gofal Cymdeithasol ochr yn ochr â Phennaeth Cydweithio Rhanbarthol Adroddiad
Blynyddol - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2021/22 (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw). Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi gwybodaeth i bartneriaid o ran Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’i weithgareddau yn ystod 2021/22. Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru Ganllaw ar gyfer cwblhau adroddiadau Blynyddol Byrddau
Partneriaeth Rhanbarthol ac roedd disgwyl i Fyrddau
ddefnyddio’r canllaw hwn i gwblhau eu hadroddiadau. Roedd yr adroddiad a
gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn cynnwys yr holl wybodaeth yr oedd angen ei chynnwys
yn unol â'r Canllaw. Roedd adroddiad Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i ysgrifennu mewn fformat a oedd yn
dal yr holl wybodaeth yr oedd angen ei chyflwyno. Roedd yr adroddiad hefyd yn
cynnwys safbwyntiau nifer o aelodau’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd wedi’i sefydlu i fodloni
gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd
y Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau i hyrwyddo
cydweithredu â’u partneriaid perthnasol ac eraill,
mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a
phlant. Roedd hefyd yn gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i
gydweithredu a darparu gwybodaeth i’r awdurdodau lleol at ddibenion eu
swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Tynnodd y Rheolwr Cydweithio
Rhanbarthol sylw at feysydd penodol o ddiddordeb yn yr adroddiad - Rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw dod â
gwasanaethau iechyd, cymdeithasol, tai a’r trydydd sector a phartneriaid eraill
ynghyd i gydweithio i integreiddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a
lles ledled y rhanbarth. I gefnogi’r gwaith a wneir, mae strwythur
llywodraethu cymhleth, fel y gwelir ar dudalen 6 o’r adroddiad Blynyddol. Y
prif fwrdd yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n
cyfarfod bob mis ac mae’n gyfrifol am bennu cyfeiriad clir ar gyfer gweithio
mewn partneriaeth a sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Mae Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru’n adrodd yn ffurfiol i Fwrdd
Arweinyddiaeth Gogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid refeniw a
chyllid cyfalaf i ni i gefnogi’r gwaith hwn.
Sefydlwyd Cronfa Gofal Integredig yn 2014 ac mae’n
galluogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio i roi cymorth i:
pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor gan gynnwys pobl sy’n
byw gyda dementia, pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion cymhleth
oherwydd anabledd neu salwch, gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, plant sydd
mewn perygl o fod yn blant sy’n derbyn gofal, mewn gofal neu sydd wedi’u
mabwysiadu. A’r rhaglen drawsnewid a ddechreuodd ym mis Ebrill
2018 i wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Roedd y ddwy raglen yno i helpu i gyflwyno’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Strategaeth Cymru Iachach
Llywodraeth Cymru drwy’r Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol. Mae’r 12 mis diwethaf wedi gweld y ddwy raglen flaenorol
ar gyfer Integreiddio - Rhaglen Drawsnewid a’r Gronfa Gofal Integredig yn dod i
ben a chronfa newydd yn cael ei datblygu - Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.
Byddai’r wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Adroddiad Blynyddol yn cynorthwyo’r Bwrdd i gwmpasu a datblygu ei flaenoriaethau rhanbarthol a chynllunio ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 242 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. 11.15am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu
rhaglen waith y Pwyllgor. Dywedwyd wrth yr aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd
adolygu gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl eitemau roedd yr aelodau wedi gwneud cais i’w trafod. Dywedwyd wrth yr aelodau bod eitemau’r
cyfarfod blaenorol a gafodd ei ganslo wedi’u hail
drefnu ar gyfer cyfarfod mis Rhagfyr 2022. Gofynnodd y Cydlynydd Craffu i’r Pwyllgor
enwebu cynrychiolydd i wasanaethu ar Fwrdd Prosiect
Bwthyn y Ddôl. Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley y byddai’n hapus i fod yn
gynrychiolydd ar y Bwrdd, cafodd yr enwebiad hwn ei eilio gan y Cynghorydd
Martyn Hogg. Roedd pawb a oedd yn bresennol yn cytuno â’r
cynnig. Penderfynwyd: yn amodol ar y newidiadau a’r
ychwanegiadau uchod - (i)
cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol
drafft y Pwyllgor fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a (ii) penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley fel cynrychiolydd Pwyllgor Craffu Cyngor
Sir Ddinbych ar Fwrdd
Prosiect Bwthyn y Ddôl. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 11.30am – 11.35am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm. |