Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Dywedodd y Cadeirydd, mewn ymateb i gais gan swyddogion,
ei bod wedi cytuno i amrywio trefn y busnes ar y rhaglen a bod Eitem 6 - cynnal
a chadw lleiniau glas a llwyni ar ymyl priffyrdd, wedi’i dwyn ymlaen i’w
hystyried cyn Eitem 5 - Asesiad Rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth 2022. Dogfennau ychwanegol: |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorwyr Ann Davies, Christine Marston, Melvyn Mile a
David Williams |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad a
oedd yn rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 352 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2021 (copi
ynghlwm). 10.05 am – 10.10 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau
a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021 eu rhoi gerbron. PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021 fel cofnod
cywir. |
|
CYNNAL A CHADW LLEINIAU GLAS A LLWYNI AR YMYL PRIFFYRDD. PDF 230 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm)
ar bolisi’r Cyngor o ran cynnal a chadw ymylon ffyrdd/ perthi a gwasgaru
plaladdwyr. 10.55 am – 11.25 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen gyda chydsyniad y
Cadeirydd] Cyflwynwyd yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan y
Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Phennaeth y
Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol ar bolisi’r Cyngor ar gynnal a chadw
lleiniau glas a llwyni a’r defnydd o blaladdwyr. Gwnaeth y Pwyllgor gais am adroddiad ar ôl
ystyried y mater yn flaenorol ym mis Chwefror 2021. Cyflwynwyd yr adroddiad a’r atodiadau er mwyn galluogi’r
Pwyllgor i drafod y polisi a’r ymdriniaeth bresennol cyn dechrau’r flwyddyn
ariannol newydd. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor
at yr atodiadau a oedd yn rhoi manylion am y polisi ar gynnal lleiniau gwyrdd
ar ymyl priffyrdd ynghyd â’r sefyllfa o ran y defnydd o blaladdwyr i ddibenion
rheoli chwyn, ac roedd yn cynnwys Nodyn
Gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar y defnydd o gynnyrch sy’n cynnwys glyffosad y mae safbwynt y
cyngor wedi’i alinio ag ef. Cyfeiriwyd at y newid yn yr hinsawdd ac
uchelgeisiau ecolegol y Cyngor ac er nad oes ar hyn o bryd ddewis amgen
ymarferol yn lle defnyddio plaladdwyr i gael gwared â chwyn, mae gwaith y
parhau er mwyn ceisio dod o hyd i ddulliau eraill o ladd chwyn ac i symud tuag
at wireddu’r uchelgeisiau ecolegol hyn. Yn ystod y drafodaeth cododd yr aelodau nifer o faterion
gyda’r Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a Rheolwr yr Uned Waith, a
chafwyd yr atebion canlynol: ·
er nad yn uniongyrchol
gysylltiedig â’r adroddiad, ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth i faterion a godwyd
gan y Cynghorwyr Emrys Wynne a Bobby Feeley yn ymwneud â phryderon ynghylch
llwybr ar hyd yr A525 rhwng Fferm Cantaba a Lôn Jericho, Rhuthun. Dywedodd nad oedd unrhyw waith arwyddocaol
wedi’i wneud pan oedd y lleoliad hwn yn cael ei hystyried fel llwybr teithiol
llesol posibl. Fodd bynnag, yn dilyn y
penderfyniad na fyddai’n addas ar gyfer teithio llesol, gwnaed cynlluniau i
wella’r sefyllfa. Crybwyllodd hefyd yr
heriau a wynebir o ran blaenoriaethu’r adnoddau ariannol sydd ar gael i ymateb
yn y ffordd orau bosibl i’r galwadau ar draws y rhwydwaith priffyrdd a’r
llwybrau troed perthnasol, a chadarnhaodd y bydd ef a’r swyddogion perthnasol
yn barod i drafod y materion hyn ymhellach, naill ai drwy’r Grŵp Aelodau
Ardal, y broses graffu neu fforwm arall priodol. ·
dywedodd unwaith eto nad
oes unrhyw ddewis ymarferol amgen yn lle defnyddio cemegau i drin chwyn ar y
rhwydwaith priffyrdd ond bod gwaith yn parhau i geisio dod o hyd i ateb. Mae trafodaethau ar y gweill gyda chontractwr
presennol y Cyngor sy’n arbrofi â dulliau amgen posibl ar ran awdurdod lleol yn
Lloegr er mwyn dileu’r pwyslais a’r ddibyniaeth ar lyffosad, ac mae gwaith yn
mynd yn ei flaen gyda’r Gwasanaethau Cefn Gwlad i geisio dod o hyd i safleoedd
yn y sir lle gellid treialu sylwedd addas amgen posibl, megis asid asetig ·
mae triniaethau chwistrellu
chwyn wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf o bedair gwaith y blwyddyn i
ddwywaith y flwyddyn gyda’r rhan fwyaf o chwistrellu wedi’i gyfyngu i ardaloedd
trefol mewn parthau 30mya a chedwir yn llym at grynodiadau glyffosad o 300ml
fesul litr. Mae’r defnydd o lyffosad
wedi’i gymeradwyo ac mae chwistrellu chwyn yn digwydd yn unol â’r canllawiau
a’r cyfyngiadau presennol. Nodwyd bod
awdurdodau cyfagos yn defnyddio glyffosad i drin chwyn. ·
cafwyd trafodaethau gyda
Chyfoeth Naturiol Cymru eisoes mewn perthynas â’r defnydd o gemegau a’r effaith
ar gyrsiau dŵr ac ni chodwyd unrhyw bryderon gan fod y Cyngor yn
cydymffurfio â’r canllawiau sy’n rheoli’r defnydd hwn. · nodwyd problemau a brofwyd yn y gorffennol mewn rhai ardaloedd trefol lle’r oedd chwyn wedi gordyfu gan gyfeirio’n benodol at Princes Street, y Rhyl a rhoddwyd eglurhad ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ASESIAD O ANGHENION Y BOBLOGAETH 2020 PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro, Gwasanaethau Cymorth Busnes (copi
ynghlwm), sy’n ceisio barn aelodau ynglŷn â’r Asesiad o Anghenion y
Boblogaeth 2022 a chefnogaeth i’w gyhoeddi. 10.10 am – 10.55 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth a Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant
ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a oedd â chyd-gyfrifoldeb dros yr eitem hon. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau,
Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau a’r Prif Reolwr
hefyd yn bresennol Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes)
yn ceisio barn aelodau ar yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru (AAB)
a chefnogaeth i gyhoeddi’r adroddiad.
Rhoddodd drosolwg cyffredinol, yn gryno - ·
mae dyletswydd statudol ar
awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddatblygu cyd-asesiad o anghenion gofal a
chymorth y boblogaeth ranbarthol ar draws Cymru bob 5 mlynedd a defnyddiwyd yr
Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (AAB) cyntaf a gyhoeddwyd yn 2017 fel sail i’r
ddogfen ddiweddaraf. ·
cyhoeddwyd yr AAB gan Fwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru fel ymarfer ar y cyd yn cynnwys y chwe
awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac Iechyd
Cyhoeddus Cymru gyda’r ddogfen wedi’i rhannu’n wahanol benodau thematig ·
Bydd blaenoriaethau Sir
Ddinbych wedi’u cynnwys yn y fersiwn terfynol o’r AAB ynghyd â dogfen debyg ar
gyfer pob un o’r awdurdodau lleol a BIPBC. ·
roedd yr AAB yn anelu at
wella dealltwriaeth o’r boblogaeth ar draws Gogledd Cymru a sut y bydd eu
hanghenion yn esblygu ac yn newid dros y blynyddoedd i ddod. Mae hwn wedi bod yn ddarn mawr o waith sydd wedi
ystyried barn y boblogaeth gydag amrywiaeth eang o ymgynghoriadau wedi digwydd
gyda sefydliadau a phartneriaid, a thua 350 o unigolion wedi cymryd rhan mewn
arolwg rhanbarthol i hysbysu’r AAB ·
tynnodd sylw at y camau
nesaf pan fydd yr AAB yn mynd drwy brosesau cymeradwy’r pum awdurdod lleol
arall a BIPBC cyn eu cymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth. Diolchodd y Cynghorydd Feeley i bawb a oedd yn rhan o gynhyrchu’r ddogfen
sylweddol hon. Ychwanegodd y Pennaeth
Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau, y byddai’r negeseuon a’r
blaenoriaethau allweddol ar gyfer Sir Ddinbych yn rhan o’r AAB. Gan ymateb i gwestiynau, adroddodd yr Aelodau Arweiniol, y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cymunedau, y Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i
Fusnesau a’r Prif Reolwr ·
ar yr amrywiaeth o
ddarpariaeth gymunedol sydd ar gael i blant wireddu eu deilliannau personol,
gyda darpariaeth wedi’i theilwra ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth, a
rhoddwyd enghreifftiau darluniadol o’r gwasanaethau wedi’u comisiynu a gwaith
gyda’r trydydd sector a phartneriaid i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn
Sir Ddinbych. ·
cafwyd sicrwydd bod plant
sy’n derbyn gofal yn cael eu lleoli’n lleol ble bynnag bosibl ac y byddai
lleoliadau’n cael eu gwneud y tu allan i’r sir dim ond pe bai hynny er lles
gorau’r plentyn, er enghraifft gyda gofalwr sy’n berthynas, yn unol â
chyfarwyddyd y Llysoedd neu i gael mynediad at ddarpariaeth arbenigol nad yw ar
gael o fewn y sir ·
gallai nifer o ffactorau
fod wedi cyfrannu at y cynnydd mewn oedolion yr adroddwyd bod amheuaeth eu bod
mewn perygl posibl ar draws y rhanbarth o 2016/17 i 2018/19, gyda phobl yn cael
eu hannog yn rhagweithiol i roi gwybod am eu hamheuon, y newidiadau
deddfwriaethol a ddigwyddodd tua’r adeg honno ac ail-lansiad gweithdrefnau
diogelu Cymru. · derbynnir bod darlun cymysg ar draws y rhanbarth o nifer y plant sydd ar y gofrestr diogelu plant ond mae’r niferoedd yn Sir Ddinbych wedi aros yn gyson rhwng 75-90 o blant ar y gofrestr bob blwyddyn, a gellid trafod yn fwy manwl y rhesymau y tu ôl i’r amrywiadau hyn yn y Fforwm Rhianta Corfforaethol, cafwyd sicrwydd nad yw plant yn cael eu cofrestru oni bai bod hynny’n wirioneddol angenrheidiol ac ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 238 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 11.25 am – 11.40 am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (wedi’i
ddosbarthu eisoes) yn gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol. Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol:- ·
roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu wedi penderfynu yn flaenorol na ddylid cynnal unrhyw gyfarfodydd
pwyllgor ar ôl i’r cyfnod cyn-etholiad (18 Mawrth) gychwyn oni bai bod busnes
brys y golygu bod yn rhaid cynnal cyfarfod, felly roedd cyfarfod nesaf y
cyfarfod ar 7 Ebrill wedi’i ganslo heb unrhyw gyfarfodydd pellach wedi’u trefnu
yn ystod tymor y Cyngor presennol. ·
roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu wedi clustnodi eitem i’w hystyried gan y Pwyllgor newydd yn eu cyfarfod
ym mis Hydref 2022 yn ymwneud â gwaith partneriaeth mewn perthynas ag iechyd
meddwl. ·
Awgrymodd y Cynghorydd Joan Butterfield Ysbyty
Brenhinol Alexandra, y Rhyl fel pwnc ar gyfer craffu gan y Cyngor newydd
yng ngoleuni’r diffyg cynnydd gyda’r
prosiect a’r angen i gadw’r mater dan adolygiad agos. Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at y broses ar
gyfer clustnodi eitemau posibl ar gyfer
craffu drwy’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu drwy lenwi a
chyflwyno ffurflen gynigion sydd wedi’i hatodi i’r adroddiad hwn. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr
uchod, cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor fel y’i gwelir yn
Atodiad 1 yr adroddiad i’w chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau newydd
ar ôl etholiadau’r awdurdod lleol ym mis Mai 2022 er mwyn iddynt ei symud
ymlaen a’i datblygu |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 11.40 am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor yn nhymor y
Cyngor presennol, diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, ar ran y
swyddogion, i Gadeirydd y Pwyllgor am y craffu a’r herio rhagorol a ddigwyddodd
yn ystod y cyfnod hwnnw. Diolchodd y
Cadeirydd hefyd i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth a’u gwaith craffu a mynegodd ei
dymuniadau gorau i’r rhai a oedd yn sefyll am ail-etholiad. Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 am. |