Agenda and draft minutes
Lleoliad: by video conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw
gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiadau personol na rhai sy’n rhagfarnu ar y pwynt hwn mewn
perthynas ag unrhyw rai o’r eitemau busnes sydd i’w trafod. Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
gysylltiad personol yn ystod y drafodaeth gydag eitem fusnes 5, fel perchennog
busnesau mewn dwy o drefi’r sir. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw
faterion brys wedi’u codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 399 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi
2021. Materion yn codi – Eitem Fusnes 4 ‘Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir
Ddinbych (CGGSDd)’ –
Dywedodd y Cydlynydd Craffu (CC) y
cafwyd gwybodaeth gan CGGSDd yn nodi bod disgwyl i Neuadd Farchnad Rhuthun ar
ei newydd wedd ailagor yn ystod pythefnos cyntaf mis Rhagfyr, gyda’r union
ddyddiad i’w gadarnhau. Roedd gwefan
newydd CGGSDd wrthi’n cael ei datblygu ac roedd disgwyl iddi gael ei lansio at
ddiwedd y flwyddyn. Byddai’r sefydliad
yn cynnal ei Gyfarfod Blynyddol ar 30 Tachwedd 2021, ac roedd gwahoddiad wedi’i
anfon i bob budd-ddeiliaid. Eitem fusnes 5 ‘Partneriaeth Diogelwch Cymunedol’ – Atgoffwyd yr aelodau y byddai
cynrychiolwyr yr Heddlu yn mynychu sesiwn Friffio’r Sir ym mis Tachwedd 2021 i
drafod eu gwaith yn mynd i’r afael â Llinellau Cyffuriau a throseddau eraill sy’n
ymwneud â chyffuriau yn Sir Ddinbych. Yn amodol ar yr
uchod: PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd
ar 16 Medi 2021 fel cofnod cywir. |
|
CYNLLUN ADFER CANOL TREFI YN DILYN COVID A MENTRAU ARDRETHI ANNOMESTIG CENEDLAETHOL PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Pennaeth Cyllid ac
Eiddo sy’n darparu gwybodaeth ynghylch cyflwr presennol canol ein trefi, y
camau adferol yr ydym wedi'u cymryd hyd yma a mentrau i'r dyfodol i fynd i’r
afael â’r heriau y mae busnesau'n eu hwynebu (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad ar y Cynllun
Adfer Canol Trefi yn dilyn Covid a Mentrau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion nifer yr eiddo
busnes gwag sydd yna yng Nghanol y Trefi a mentrau Ardrethi Annomestig
Cenedlaethol (NNDR). Roedd yr adroddiad
hefyd yn amlygu’r heriau y mae busnesau canol tref yn eu hwynebu ledled y sir
a’r dulliau sy’n cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r rhain. Er bod cyfanswm yr Eiddo Gwag o fewn ardal y
Cyngor wedi cynyddu o 267 eiddo (Ebrill 2020) i 294 eiddo (Medi 2021), mae
cyfanswm eiddo Ardrethi Busnes hefyd wedi cynyddu o 4,361 eiddo (Ebrill 2020) i
4,455 eiddo (Medi 2021). Mae’r adeiladau
gwag yn cynrychioli 6.7% o’r 4,455 o eiddo Ardrethi Busnes cyffredinol. Mae yna wahanol
eithriadau rhag ardrethi eiddo gwag, e.e. y cyfnod eithriad cychwynnol o 3 neu
6 mis, eiddo y mae ei berchennog yn destun achos ansolfedd, eiddo y mae ei
werth ardrethol yn is na’r trothwy taladwy, adeiladau rhestredig, tir, mastiau
telathrebu ac eiddo y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith. Roedd Atodiad 1
yr adroddiad yn dangos dadansoddiad o’r eiddo gwag a’r eithriadau cysylltiedig. Roedd yna ddwy fenter allweddol gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn cynnig
cymorth i ddosbarthiadau penodol o Fusnesau drwy gynlluniau rhyddhad.
Byddai’r mentrau hyn yn cynnig gostyngiad yn yr Ardrethi Busnes neu hyd
yn oed yn eu dirymu. Dyma’r ddau gynllun: ·
Y
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, sy’n cynnig hyd at 100% o ryddhad i
Fusnesau sydd â Gwerth Ardrethol o dan £6,000, a rhyddhad ar raddfa i fusnesau
sydd â Gwerth Ardrethol rhwng £6,001 a
£12,000. ·
Y
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch, sy’n cynnig
gostyngiad o 100% mewn Ardrethi Busnes i Fusnesau cymwys yn 2020/21 a 2021/22. Roedd yna ddewis pellach i Awdurdodau Lleol roi
gostyngiad yn yr ardrethi taladwy, gan ddefnyddio’r grymoedd a roddwyd o dan
Ddeddf Lleoliaeth 2011. Byddai’n gwneud
hyn drwy ddyfarnu rhyddhad yn ôl disgresiwn. Fodd bynnag, byddai cost lawn
unrhyw ddyfarniad a roddwyd o dan y cynllun hwn yn cael ei dalu gan y Cyngor. Problem arall gyda dyfarniad o dan y Ddeddf
Lleoliaeth oedd y gallai Busnesau eraill hawlio bod y Cyngor wedi creu
amgylchedd gwrth-gystadleuol am ei fod yn rhoi cymhorthdal i rai trethdalwyr,
gan roi eraill dan anfantais drwy wneud hynny. Er bod cynlluniau
rhyddhad ar gael, roedd siopau wedi cau yn lleol ac yn genedlaethol, a
arweiniodd at nifer o eiddo gwag. Roedd
pedwar rheswm dros hyn: ·
Er
bod yr Ardrethi Busnes wedi’u gostwng, ni welwyd gostyngiad cyfwerth mewn
rhenti eiddo ac mewn nifer o achosion, nid oedd y landlordiaid wedi cynnig
gostyngiad mewn rhent. ·
Roedd
rhai cwmnïau mawr wedi symud siopau unigol i eiddo mwy, e.e. bu i Carphone
Warehouse gau eu siopau ym Mharc Manwerthu Prestatyn ac yn y Rhyl, a’u cynnwys
yn yr eiddo mwy ym Mharc Manwerthu Clwyd yn y Rhyl. ·
Roedd
unedau siopau eraill hefyd wedi cau ac wedi’u cynnwys mewn siopau eraill, fel
Argos yn siop Sainsbury’s neu Costa Coffee yn rhan o garej. ·
Mae’r newid i siopa ar-lein
wedi cynyddu ymhellach yn sgil Covid-19.
Mae nifer o fusnesau, banciau yn enwedig, wedi cau nifer o ganghennau am
fod pobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein. Yn ogystal, mae cwsmeriaid bellach yn
gwneud llawer mwy o ddefnydd o siopau manwerthu fel mannau casglu neu ollwng,
ar ôl archebu’r nwyddau ar y rhyngrwyd. Mae data ar nifer yr ymwelwyr i’r trefi i’w weld yn Atodiad 3. Mae’r data’n dangos yr effaith negyddol amlwg y mae Covid-19 wedi’i gael ar ganol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
EGWYL – 11:35 - 11.45 Dogfennau ychwanegol: |
|
CYNLLUNIAU CYNLLUN TEITHIO LLESOL COVID-19 PDF 220 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd i gynnig
diweddariad pellach ar ganfyddiadau’r prosiect (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd aelod o'r cyhoedd, Mr Stuart Davies, wedi
gofyn am gael cyfarch y Pwyllgor, a chytunwyd iddo gael siarad ar ôl yr aelodau
a'r swyddogion. Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant
a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, adroddiad ar y Cynllun Teithio
Llesol. Roedd yr adroddiad yn rhoi
manylion am y cynlluniau teithio llesol dros dro a roddwyd ar waith yn nifer o
ganol trefi Sir Ddinbych ddiwedd 2020, ac oedd bellach wedi cael eu dileu. Roedd yr adroddiad yn
cynnig diweddariad pellach ar ganfyddiadau’r prosiect fel dilyniant i adroddiad
a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Rhagfyr 2020 ac oedd
wedi’i gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad. Cafwyd crynodeb gan y Rheolwr Traffig, Parcio a
Diogelwch ar y Ffyrdd ar gefndir y cynllun gwreiddiol. Roedd
cynlluniau wedi cael eu datblygu ar gyfer canol trefi Dinbych, Llangollen, y
Rhyl a Rhuthun. Cafodd y rhain gyllid
gan LlC ym mis Mehefin 2020, ac eithrio Dinbych, a dynnwyd yn ôl. Roedd adroddiad Rhagfyr 2020, sydd wedi’i
gynnwys yn Atodiad A, yn darparu mwy o fanylion am y grant a’r broses a
ddilynwyd. Yn dilyn oedi ar y cychwyn yn sgil argaeledd
contractwr a phrinder deunyddiau, rhoddwyd cynlluniau Llangollen, y Rhyl a
Rhuthun ar waith ym mis Tachwedd 2020. Cynllun Rhuthun - Cafodd y cynllun yn Rhuthun broblemau
cychwynnol y deliwyd a nhw'n bennaf drwy wneud mân addasiadau i’r cynllun.
Cafwyd cwynion gan nifer o fusnesau a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y mesurau
am golli mannau parcio a llwytho y tu allan i’w heiddo. Er fod rhai mesurau
lliniaru ar gyfer y colledion hynny wedi’u cynnwys o fewn y cynllun
cyffredinol, ni ystyriwyd hyn yn ddigon gan rai perchnogion busnes. Yng
ngoleuni’r pryderon hyn, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda GAA Rhuthun a arweiniodd
at i’r Aelod Arweiniol benderfynu tynnu’r cynllun yn ôl, a digwyddodd hyn ym
mis Chwefror 2021. Cynllun Llangollen - Ychydig iawn o adborth a gafwyd i
gychwyn mewn ymateb i’r cynllun yn Llangollen yn dilyn ei gyflwyno yn gynnar ym
mis Tachwedd 2020. Fodd bynnag, o fis Mawrth 2021 ymlaen, gwelwyd nifer o
achosion o gerddwyr yn baglu dros sylfaeni’r pyst dros dro a osodwyd. Wrth i’r
achosion hyn barhau, cafodd y pyst eu disodli gyda photiau plannu blodau cul a
lwyddodd i roi diwedd ar yr achosion o faglu. Roedd y cynllun dros dro hefyd
wedi arwain at gynnydd mewn cerbydau mawr yn gyrru ar y palmant er mwyn gallu
mynd heibio rhwystrau a achoswyd gan y lôn draffig wrthwynebol. Er gwaethaf y pryderon, roedd GAA Dyffryn Dyfrdwy
yn awyddus i gadw’r cynllun dros dro gan fod y palmant ychwanegol a grëwyd yn
ddefnyddiol iawn ar gyfer y nifer fawr o gerddwyr yn Llangollen. Roedd y farn
hon hefyd wedi’i seilio ar yr adborth a gafwyd o ymgynghoriad ar-lein dilynol.
Er y cafwyd safbwyntiau cymysg am y cynllun dros dro, nododd o leiaf 60% o’r
ymatebwyr eu bod yn teimlo y dylai’r cynllun barhau oherwydd ei fod yn gweithio’n
dda, neu oherwydd eu bod yn teimlo ei bod yn rhy gynnar i lunio casgliadau i’r
gwrthwyneb. Nododd sylwadau gan swyddogion ar y safle fod digon o ddefnydd yn
cael ei wneud o’r palmentydd ehangach, hyd yn oed y tu allan i’r cyfnodau brig,
megis ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid Llywodraeth
Cymru yng nghanol mis Awst 2021, ac ar ôl symud i Lefel Rhybudd 0, penderfynodd
yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd ddileu’r cynllun dros dro
yn dilyn trafodaeth gydag aelodau lleol. Cynllun y Rhyl - Ar ôl ei roi ar waith, ychydig iawn o adborth a gafwyd gan drigolion am y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 240 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at yr adroddiad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y
Pwyllgor, a chyflwynodd y wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol. Atgoffwyd yr
Aelodau y dylen nhw ddefnyddio’r Ffurflen Cynnig Testun Craffu os oedd ganddyn
nhw bwnc yr hoffen nhw iddo fod yn destun craffu. Teimlai’r aelodau
y bu’r sesiwn gynllunio busnes cyn y cyfarfod a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol
yn hynod fuddiol, gan ofyn am gael cynnal un tebyg cyn cyfarfod nesaf y
Pwyllgor. Felly: PENDERFYNWYD: - yn
amodol ar y sylwadau uchod – (i)
cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor; a (ii)
chynnal sesiwn friffio rithiol cyn
cyfarfod nesaf y Pwyllgor. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 12.48 PM |