Agenda and draft minutes
Lleoliad: by video conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. Estynnodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau’r Pwyllgor i’r Is-gadeirydd y Cynghorydd Emrys Wynne am adferiad llawn a buan ar ôl ei lawdriniaeth ddiweddar |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 398 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2020 (copi
ynghlwm). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020. Ni chafodd
unrhyw fater ei godi mewn cysylltiad â chynnwys y cofnodion. Penderfynwyd: - derbyn cofnodion y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020 a’u cymeradwyo
fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
I drafod ac
ystyried adroddiad gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol ar bolisi’r Cyngor o ran cynnal a chadw ymylon ffyrdd/ perthi a
gwasgaru plaladdwyr (copi ynghlwm). 10.10am – 11am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Tony Thomas - Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a
Phennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol gwybodaeth
gefndir i’r aelodau am bolisi cynnal a chadw ymylon ffyrdd a pherthi a gwasgaru
plaladdwyr yr adran Priffyrdd. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am yr adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dilyn adroddiad blaenorol a gafodd ei drafod. Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth – Atebodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau
ac Amgylcheddol a’r Rheolwr Uned Waith a Gwasanaethau Stryd gwestiynau’r
aelodau mewn perthynas ag agweddau amrywiol o’r polisïau. Trafodwyd y pwyntiau
canlynol mewn mwy o fanylder:
|
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a
rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.15am – 11.30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol – ·
Cytunodd yr aelodau i ohirio'r
eitem busnes ar Gynlluniau Cyfalaf y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwasanaethau yn Sir
Ddinbych tan fis Mai 2021. ·
Byddai Grŵp Cadeiryddion
ac Is-gadeiryddion yn cyfarfod yn y dyfodol agos ac fe allent ychwanegu
adroddiadau pellach i raglen gwaith i'r dyfodol i'r Pwyllgor eu hystyried.
Rhoddwyd cadarnhad bod dau adroddiad oedd yn ymwneud â Chyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych a Digartrefedd wedi cael eu cynnwys ar y RhGD gan y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu, i’r Pwyllgor yn nes ymlaen
eleni. ·
Nid oedd adroddiad ar gyfer
cyfarfod y pwyllgor ym mis Ebrill ar hyn o bryd, cytunodd yr aelodau i gadw'r
cyfarfod yn y dyddiadur. Os nad oedd unrhyw beth wedi llenwi’r rhaglen waith
erbyn hynny, yna gellir ei ganslo’n agosach at ddyddiad y cyfarfod. Atgoffodd
y Cydlynydd Craffu aelodau am y ffurflen cynnig craffu (Atodiad 2 a
ddosbarthwyd eisoes) a dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion yn uniongyrchol
ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu er mwyn eu cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
rhaglen gwaith i’r dyfodol fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston wrth yr
aelodau ei bod wedi mynychu cyfarfod o Fwrdd Prosiect Canolfan Asesu Gofal
Plant Is-ranbarthol. Rhoddodd ddiweddariad byr i’r Pwyllgor. Clywodd yr
aelodau bod y grŵp cydweithredol yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir
Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Fe sefydlwyd y grŵp er mwyn goruchwylio trefniadau i ddatblygu uned
arbenigol i asesu lleoliad plant. Fe eglurwyd mai Conwy fyddai’n arwain y
prosiect gyda’r gobaith o greu’r uned yn Hen Golwyn. Yr enw arfaethedig ar y
ganolfan oedd Bwthyn y Ddôl. Byddai tîm
amlddisgyblaethol yn cael ei leoli ar y safle i weithio gyda theuluoedd er mwyn
atal pethau rhag gwaethygu a mynd mewn i ofal. Byddai angen gweithio gyda’r
teulu cyfan, nid yr unigolyn yn unig. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ei
bod hi’n ddyddiau cynnar ar y prosiect a byddai'n fuddiol petai’r Pwyllgor yn
derbyn adroddiad am y prosiect yn y dyfodol. Cytunodd y Cadeirydd y byddai’n ddiddorol gweld y
prosiect yn datblygu a byddai’n croesawu adroddiad am y prosiect yn y dyfodol. Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion ac aelodau am
gymryd rhan yn y cyfarfod. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10.55 a.m. Dogfennau ychwanegol: |