Agenda and draft minutes
Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by Video Conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu
gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod
hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried
yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 621 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 (copi’n amgaeedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd
ddydd Iau, 14 Rhagfyr 2023. Materion yn Codi – Tudalen 8 – Gosod
Lefelau Rhent Fforddiadwy – codwyd cwestiwn ynghylch y tâl gwasanaeth ac a oedd
yn cynnwys cynnal a chadw mannau chwarae.
Yn ogystal â hyn, gofynnwyd a fyddai’r mannau chwarae’n cael eu dwyn yn
ôl dan berchnogaeth gyhoeddus drwy Gyngor Sir Ddinbych. Gofynnwyd am ymateb ysgrifenedig ond nid yw
hwn wedi’i dderbyn hyd yma. Gwnaeth y
Cydlynydd Craffu gadarnhau ei bod hi wedi anfon nodyn atgoffa ar gyfer ymateb. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir. |
|
PROSIECT YSBYTY CYMUNED GOGLEDD SIR DDINBYCH Derbyn cyflwyniad i ystyried y sefyllfa bresennol o ran
darparu’r prosiect gan gynnwys cefnogaeth mewn egwyddor gan y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd
Elen Heaton, y Cyfarwyddwr Gofal Acíwt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
i'r Pwyllgor. Yn dilyn cyfarfod i drafod Ysbyty Brenhinol Alexandra, roedd cynnydd wedi'i
wneud ond yr oedd yn y cyfnod cynnar. Gwnaeth yr Aelod Arweiniol gadarnhau fod
datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra yn brosiect Bwrdd Iechyd a oedd yn cael
cefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych pan fo angen. Pwysleisiwyd pwysigrwydd
datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra i liniaru'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd ac
integreiddio rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol fyddai'r flaenoriaeth. Cadarnhaodd Alyson Constantine, Cyfarwyddwr Gofal Acíwt, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr amserlenni a'r prosesau ar gyfer y dyfodol i’r
Pwyllgor. Roedd prosiect partneriaeth wedi’i sefydlu ac yr oedd cefnogaeth gan y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i gadarnhau ym mis Rhagfyr 2023. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda TACP Architects i gyflwyno dyluniadau o
safon uchel, costau ac amserlenni. Byddai'r Gwerthusiad Dewis yn mynd i Lywodraethu Prifysgol Betsi Cadwaladr
ym mis Mawrth ac yna'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) ddiwedd mis
Mawrth. Byddai Llywodraeth Cymru yna’n cadarnhau dyraniadau cyllid a grant yn
dilyn y cam hwn. Roedd yr ysgogwyr ar gyfer y gwerthusiad dewis fel a ganlyn - ·
Adnewyddu'r adeilad
presennol ar gyfer cynaliadwyedd a sicrhau ei fod yn addas i'r diben; ·
Defnyddio’r arwynebedd
llawr yn y ffordd orau posibl i fanteisio ar y buddion cymunedol; ·
Canolbwyntio ar
integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; ·
Gwella cydweithio rhwng
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Trydydd Sector; ·
Darparu Uned Mân Anafiadau
yn cynnwys rhai gwelyau ar y campws; ·
Darparu llety sy’n addas at
y diben – nid popeth yn yr adeilad newydd; ·
Mae’n rhaid i’r dewis fod
yn fforddiadwy. Mae’r adeilad clinigol newydd yn darparu gwasanaethau newydd ac estynedig - ·
Gwelyau cymunedol – model
newydd o ofal cam i fyny a cham i lawr; ·
Uned anafiadau difrifol i'r
gymuned a chlinigau Nyrsys Ardal; ·
Gwasanaethau radioleg
estynedig i gynnwys uwchsain a gwasanaeth y tu allan i oriau; ·
Canolbwynt trydydd sector i
gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth a hybu lles; ·
Llety estynedig ar gyfer
timau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar y safle; ·
Caffi cymunedol ar gyfer
ymwelwyr a staff; ·
Gwasanaethau deintyddol
cymunedol i’w darparu’n lleol mewn amgylchedd sy’n addas at y diben. Adnewyddu'r adeilad presennol a defnyddio'r safle ehangach - ·
Darparu amgylchedd sy’n
addas at y diben ar gyfer - o Timau amlasiantaeth o Grwpiau’r trydydd sector o Gwasanaethau Plant o Gwasanaethau Therapi, a o Gwasanaethau Iechyd Rhywiol. ·
byddai amrywiaeth o dimau
cefnogi wedi’u lleoli ar y safle; ·
cadw dau adeilad Glan
Traeth sy’n cynnal timau iechyd meddwl pobl hŷn ac amrywiaeth o
wasanaethau cleifion allanol ·
maes parcio estynedig oddi
ar y safle. Roedd Dewisiadau Cwmpas Adolygu Ysbyty Brenhinol Alexandra fel a ganlyn - ·
Dewis 1 - Gwneud dim ·
Dewis 2 - Gwaith adfer ar yr Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol.
Dim newid i wasanaethau. ·
Dewisiadau 3, 4 a 5 - Cwmpas Canolradd - Dewisiadau Newydd o Dewis 3 - Unllawr, ôl troed achos busnes gwreiddiol a
chynllun y llawr gwaelod. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol
cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwasanaethau iechyd rhywiol
ehangach a chanolbwynt y trydydd sector. Adnewyddu'r adeilad presennol. o Dewis 4 - Unllawr, ôl troed achos busnes gwreiddiol a
chynllun newydd. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol cymunedol,
gwasanaethau radioleg estynedig, gwelyau cymunedol a chanolbwynt y trydydd
sector. Adnewyddu'r adeilad presennol. o Dewis 5 - deulawr, yr un arwynebedd llawr â dewisiadau 3
a 4 a chynllun newydd. Darparu uned mân anafiadau, gwasanaethau deintyddol
cymunedol, gwasanaethau radioleg estynedig, gwelyau cymunedol a chanolbwynt y
trydydd sector. Adnewyddu'r adeilad presennol. ·
Dewis 6 - Uchafswm Cwmpas
yr Achos Busnes Llawn Byddai'r amserlenni'n ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 241 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm)
yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad a’r atodiadau (dosbarthwyd ymlaen
llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol. Cafodd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ei drefnu ar gyfer
16 Mai 2024. Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u rhestru ar gyfer y cyfarfod nesaf
ar hyn o bryd. Derbyniwyd tair ffurflen cynnig ond bydden nhw’n cael eu trafod
yng Ngrŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu o ran pa Bwyllgor Craffu
y bydden nhw’n cael eu cyfeirio ato. Atodiad 3 oedd Rhaglen Waith y Cabinet er gwybodaeth i’r Aelodau. Roedd Atodiad 4 yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynglŷn ag
argymhellion o’r cyfarfod blaenorol. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn cadarnhau'r rhaglen waith fel y'i hamlinellir yn Atodiad 1. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor
ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd adborth. |
|
DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 11.37 A.M. |