Agenda and draft minutes
Lleoliad: yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd
David Williams a gan Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau.
Roedd David Soley, Cyd-bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol,
yn dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn y cyfarfod. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Kelly Clewett gysylltiad personol
ag eitemau busnes 5 a 6 gan ei bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd unrhyw faterion brys i sylw’r Cadeirydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 396 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022. Cywirdeb: Tudalen 8 y pecyn rhaglen: Dywedodd y Cynghorydd Martyn Hogg y dylai’r
pennawd Saesneg ddweud ‘Crime Statistics Analysis’ ac nid ‘Crime Statics
Analysis’. Bu i’r Pwyllgor: Benderfynu: y dylid derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022 fel cofnod
gwir a chywir o'r gweithrediadau, yn amodol ar y diwygiad uchod. Materion yn codi: Tudalen 8,
'Blaenoriaeth 3 – Blaenoriaethau Lleol': mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd
gwybodaeth wedi dod i law mewn perthynas â'r 'Cynllun Gofyn i Angela' dywedodd
y Cydlynydd Craffu fod y wybodaeth wedi'i dosbarthu fel rhan o'r ddogfen 'Briff
Gwybodaeth' i holl aelodau'r pwyllgor yn gynharach yn yr wythnos. Roedd Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor
wedi dweud, hyd y gwyddant, nad oedd ystadegau’n cael eu casglu mewn perthynas
â’r ‘Cynllun Gofyn i Angela’ gan yr awdurdod lleol nac unrhyw un arall. Cynllun
i fariau unigol ydoedd yn bennaf heb unrhyw fecanwaith adrodd yn ôl hyd y
gwyddai swyddogion y Cyngor. Yn
gyffredinol fe'i hyrwyddwyd gan sefydliadau fel menter arfer da. |
|
PROSIECT YSBYTY CYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH Trafod gyda
chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â’u
cynlluniau a therfynau amser disgwyliedig ar gyfer darparu’r prosiect ysbyty a
chyfleusterau cysylltiedig. 10.15 A.M- 11 A.M ~~~~
EGWYL (11.00 A.M - 11.15 A.M) ~~~~ Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir
Ddinbych i'r Pwyllgor. Bwriad y Prosiect oedd datblygu safle Ysbyty Brenhinol
Alexandra (RAH) yn y Rhyl. Mynegodd yr Aelod Arweiniol bwysigrwydd y prosiect
oherwydd y pwysau presennol sy'n wynebu Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y Prosiect yn
ddatblygiad hanfodol i Sir Ddinbych ac yn brif flaenoriaeth. Roedd Arweinwyr
Prosiect yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac yn gweithio mewn
partneriaeth agos a pharhaus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(BIPBC). Diolchodd
Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig i’r Pwyllgor am gael ei
wahodd i’r cyfarfod ac aeth ymlaen i roi cyflwyniad a oedd yn cynnwys y manylion canlynol: - ·
Roedd y
Prosiect Cyfalaf yn gymhleth o ran darpariaeth. ·
Roedd
cyfleoedd i'r safle gynnwys gwasanaethau ychwanegol megis Uned Mân Anafiadau
drwy'r broses Achos Busnes. ·
Cymeradwywyd
Achos Busnes Llawn ar gyfer BIPBC ym mis Mawrth 2021. ·
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021 fod y prosiect yn
gadarn ac yn gymeradwy, a bod bellach angen nodi cyllid. ·
Cymeradwyodd BIPBC Strategaeth
Ystadau ym mis Ionawr 2023 gan osod y prosiect RAH o fewn y 6 uchaf, gydag
Achos Busnes Llawn wedi’i gwblhau. ·
Ym mis Ionawr 2023,
gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Bwrdd Iechyd gadarnhau bod yr RAH yn
flaenoriaeth a gofynnwyd am gymorth mewn egwyddor gan y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol. Roedd y Bwrdd Iechyd yn
llunio ymateb. ·
Unwaith y byddai
cymeradwyaeth lawn ar gyfer cyllid wedi'i rhoi, byddai'r prosiect yn cymryd 3
mis i'w roi ar waith a 31 mis i'r cam adeiladu gael ei gwblhau. Eglurodd y
Cyfarwyddwr IHC fod yna broses fanwl yr oedd angen ei dilyn o fewn y Bwrdd
Iechyd ar gyfer pob datblygiad. Er bod hon wedi bod yn broses hirfaith, roedd
wedi rhoi’r cyfle i’r Bwrdd Iechyd sicrhau ei bod yn gywir, gan gynnwys nifer o
wasanaethau ychwanegol o bwys i’w cynnig ar safle RAH. Eglurwyd y
broses gymeradwyo i’r Pwyllgor fel yr amlinellir isod:- ·
Achos
Amlinellol Strategol ·
Achos Busnes
Amlinellol ·
Achos Busnes
Llawn - Yna gellid cytuno ar gyllid. Diolchodd y Cyfarwyddwr IHC i'r Cyngor am eu
partneriaeth agos wrth helpu i gyflawni'r prosiect a chroesawodd gwestiynau gan
yr aelodau. Arweiniodd trafodaeth rhwng Aelodau at gwestiynau
ynghylch yr amser yr oedd wedi'i gymryd i gyrraedd y cam hwn o'r Prosiect, a
pha mor hir y byddai'n ei gymryd i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn
anffodus, dywedodd y Cyfarwyddwr IHC nad oedd ganddi'r wybodaeth honno. Fodd
bynnag, rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai llinell gyfathrebu barhaus wrth
symud ymlaen. Mynegodd y Cynghorydd Martyn Hogg rai pryderon
ynghylch deall y broses gymeradwyo a'r camau sydd ynghlwm wrth bob cam.
Gofynnodd a oedd siart llif y gellid ei rhoi i ddangos hyn ac i gefnogi
dealltwriaeth yr aelodau o’r broses. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr IHC y byddai
siart llif yn nodi camau'r broses gymeradwyo fel y nodir uchod. Parhaodd i
egluro bod llwybr cylchol ar gyfer pob un o'r camau a amlinellwyd a oedd yn
caniatáu i gwestiynau gael eu gofyn. Cam presennol y prosiect oedd bod
cwestiynau wedi'u gofyn gan Lywodraeth Cymru a bod angen ymateb iddynt, byddai
hyn wedyn yn rhan o'r broses o gwblhau'r Achos Busnes a fyddai'n arwain at
gytuno ar gyllid. Dros yr wythnosau nesaf roedd y Cyfarwyddwr IHC yn obeithiol
y byddent wedi ymateb i Lywodraeth Cymru, ac y byddai hyn wedyn yn hwyluso'r
penderfyniad terfynol. Holwyd sut olwg fyddai ar Ysbyty Brenhinol Alexandra unwaith y byddai'r gwaith adeiladu wedi'i gwblhau a pha wasanaethau y cytunwyd y byddai’n gweithredu o'r safle. Dywedodd Cyd-bennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fod Achos Busnes Llawn wedi'i rannu'n flaenorol. Roedd hwn yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am
faterion perthnasol. 12.00 P.M- 12.15 P.M Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Tywysodd y Cydgysylltydd
Craffu yr Aelodau drwy'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Craffu (dosbarthwyd ymlaen
llaw). Eglurwyd bod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu
wedi cyfarfod ar 19 Ionawr 2023 a bu iddynt ystyried nifer o geisiadau am
Graffu yn y cyfarfod hwnnw. O’r ceisiadau a ystyriwyd, gofynnodd y Grŵp
i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau drefnu i gael dwy eitem ar ei Raglen Gwaith
Cychwynnol ar gyfer mis Mai 2023. Sef:- ·
Yr ail bleidlais ar
gyfer Ardal Gwelliannau Busnes Posibl y Rhyl ·
Ansawdd a Chyflwr Stoc
Tai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir Ddinbych. Mewn perthynas â'r
rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a oedd i'w
gynnal ar 30 Mawrth 2023, nodwyd nad oedd unrhyw eitemau i'w trafod yn y
cyfarfod hwnnw ar hyn o bryd. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu y dylid cadw dyddiad
cyfarfod mis Mawrth rhag ofn y byddai unrhyw faterion brys yn codi. Os na cheir unrhyw fusnes brys, dylid
canslo'r cyfarfod hwnnw. Dywedodd y Cydlynydd
Craffu fod y Cabinet ym mis Rhagfyr 2022 wedi cymeradwyo Proses Gyfalaf Newydd
ac wedi cefnogi'r Cylch Gorchwyl ar gyfer Grŵp Craffu Cyfalaf newydd. Byddai hyn yn debyg i'r hen Grŵp
Buddsoddi Strategol a oedd mewn bodolaeth yn ystod tymor y Cyngor
blaenorol. Cafwyd cais y dylai un
cynrychiolydd o bob Pwyllgor Craffu gael ei benodi i wasanaethu ar y Grŵp
hwn. Byddai chwe chyfarfod y flwyddyn a
disgwylir i'r cynrychiolydd adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar ôl iddo/iddi fod yn y
cyfarfod. Felly, gofynnwyd i un cynrychiolydd ac un dirprwy gynrychiolydd gael
eu henwebu, eu dewis a'u cytuno gan y Pwyllgor. Croesawodd y Cadeirydd
enwebiadau gan y Pwyllgor. Enwebwyd y Cynghorydd Peter Scott i fod yn gynrychiolydd y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau, a'r Cynghorydd Joan Butterfield yn cael ei henwebu fel dirprwy.
Eiliwyd y ddau enwebiad a phleidleisiodd yr Aelodau o blaid y penodiadau. Ar ddiwedd y drafodaeth, Bu i’r Pwyllgor Benderfynu: (i)
yn amodol ar gynnwys adroddiad cynnydd ar Brosiect
Datblygu Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych/Ysbyty Brenhinol Alexandra ar
gyfer cyfarfod mis Medi 2023, cadarnhau ei flaenraglen waith fel y manylir arni
yn Atodiad 1 i'r adroddiad; (ii)
os na fydd unrhyw fusnes wedi'i gyflwyno yn nes at
ddyddiad y cyfarfod arferol nesaf ar 30 Mawrth 2023, bod y cyfarfod yn cael ei
ganslo; a (iii)
penodi'r Cynghorydd Peter Scott i wasanaethu fel y
cynrychiolydd ar y Grŵp Craffu Cyfalaf, gyda'r Cynghorydd Joan Butterfield
i wasanaethu fel y dirprwy. Ar y pwynt hwn, gohiriwyd y Pwyllgor am egwyl, gan
ailddechrau am 11.10am |
|
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH MEWN PERTHYNAS AG IECHYD MEDDWL Trafodaeth gyda chynrychiolwyr o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir
Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru ar eu
trefniadau gweithio mewn partneriaeth mewn perthynas â materion Iechyd Meddwl. 11.15 A.M- 12.00
P.M
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol yr eitem fusnes Gweithio mewn Partneriaeth mewn perthynas ag Iechyd
Meddwl i'r Pwyllgor. Nodwyd bod y Cyngor, BIPBC a Heddlu Gogledd Cymru (HGC) i
gyd yn gweithio mewn partneriaeth yn rheolaidd yn y maes penodol hwn. Eglurodd Cyd-bennaeth
Dros Dro y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i'r Pwyllgor fod y tri sefydliad yn
gweithio mewn partneriaeth â'i gilydd, a rhoddodd amlinelliad byr o rôl y
Cyngor o fewn y bartneriaeth. Eglurodd fod y tri
sefydliad yn cydweithio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac yn bennaf maent yn
gweithio o fewn y swyddogaethau statudol yr oedd yn rhaid iddynt eu cyflawni.
Roedd hyn yn bennaf yn cynnwys materion yn ymwneud â'r Ddeddf Iechyd Meddwl a'r
Ddeddf Galluedd Meddyliol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl ag
anawsterau iechyd meddwl ac yr oedd angen ymyrraeth arnynt. Golygai bod angen
i'r tri phartner gydweithio'n rheolaidd. Rhoddwyd yr enghraifft ganlynol:- Pe bai aelod o'r gymuned
angen cael asesiad iechyd meddwl, byddai Gweithwyr Cymdeithasol a Meddygon yn
cymryd rhan yn yr asesiad ac yn ymweld â'r trigolyn. Pe bai’r trigolyn mewn
ardal benodol lle’r oedd yn anodd ei gyrraedd/chyrraedd, byddai’r Awdurdod
Lleol yn cysylltu â’r Llys Ynadon i gael gwarant, a byddai gofyn i Heddlu
Gogledd Cymru gynorthwyo. Roedd gan yr Heddlu bwerau o dan y Ddeddf Iechyd
Meddwl, oedd yn golygu eu bod yn gallu dal unigolion oedd yn ymddangos fel
petaent ag anawsterau Iechyd Meddwl. Byddai’r Heddlu’n cysylltu â’r Awdurdod
Lleol a’r Bwrdd Iechyd ac yna byddai’r tri sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd
i sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n cael yr asesiad, y gefnogaeth a’r gofal yr
oedd ei angen arno/arni. Aeth yn ei flaen i
egluro bod yna Dimau Meddwl Cymunedol, a bod y rhain yn bennaf yn weithwyr y
Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol. Roeddent yn gweithio gyda phobl a oedd wedi'u
hatgyfeirio at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac yr oedd angen gofal a chymorth
parhaus arnynt. Eglurodd y Pennaeth
Gweithrediadau a Darparu Gwasanaethau (Canolog) (BIPBC) waith y Bwrdd Iechyd yn
y bartneriaeth. Roedd timau integredig yn gweithio gyda'i gilydd yn bennaf.
Roedd gan y Bwrdd Iechyd rwymedigaethau statudol i gyflawni o dan y Ddeddf Iechyd
Meddwl, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Roedd gan y Bwrdd Iechyd
Wasanaeth Cyswllt Cyfiawnder Troseddol penodedig a oedd yn cefnogi galwadau
999, drwy roi cymorth a chyfarwyddyd pe bai unrhyw ofynion iechyd meddwl. Roedd
Timau Byrddau Iechyd wedi'u cydleoli hefyd o fewn yr Awdurdod Lleol. Aeth y Pennaeth
Gweithrediadau ymlaen i ddweud y bu cynnydd sylweddol mewn Atgyfeiriadau Iechyd
Meddwl yn ystod ac ers pandemig COVID. Roedd problemau parhaus o ran recriwtio
a chadw staff, a gafodd effaith ar y gwasanaethau y gellid eu darparu a'r
gweithlu a oedd eisoes yn ei le. Roedd trafodaethau i fynd i’r afael â hyn yn
mynd rhagddynt. Roedd y Bwrdd Iechyd yn
edrych ar wasanaethau eraill sydd ar gael i helpu pobl, heb fod angen iddynt
gael eu hatgyfeirio at y Gwasanaethau Statudol. Yn ddiweddar, lansiwyd
gwasanaeth 111 Press 2, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos
8.30am-11pm. Bydd y Gwasanaeth hwn yn wasanaeth 24 awr yn y dyfodol ac ar gael
i holl aelodau'r Gymuned sydd angen cefnogaeth. Pe bai unrhyw un o'r galwadau
i'r gwasanaeth hwn yn cael eu hystyried yn un brys, yna byddai ambiwlans neu'r
Heddlu yn cael eu hanfon. Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwneud y mwyaf o gydweithio ac
yn ei ystyried yn hanfodol i lwyddiant y bartneriaeth. Dywedodd y Pennaeth
Gweithrediadau ei bod yn hollbwysig bod y gwaith partneriaeth rhwng yr Awdurdod
Lleol, y Bwrdd Iechyd a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau. Diolchodd y Cadeirydd i'r ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.50am Dogfennau ychwanegol: |