Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Ann Davies a Christine Marston. Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau.
Gweithredodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus fel
dirprwy yn ystod y cyfarfod. |
|
Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn
y cyngor 2021/2022 (gweler ynghlwm gopi o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod
Craffu a Chadeirydd / Isgadeirydd). 10.00 – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer
blwyddyn gyngor 2021/22. Enwebwyd y
Cynghorydd Emrys Wynne gan y Cynghorydd J Chamberlain-Jones a’i eilio gan y
Cynghorydd David Williams. Ni
chyflwynwyd unrhyw enwebiadau eraill. Penderfynodd y Pwyllgor felly: Ethol
y Cynghorydd Emrys Wynne yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar
gyfer blwyddyn gyngor 2021/22. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Wynne am ei gefnogaeth iddi dros y
flwyddyn ddiwethaf, a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y flwyddyn sydd i
ddod. Diolchodd y Cynghorydd Wynne i’r
aelodau am eu cefnogaeth ac am ymddiried tymor arall yn Is-gadeirydd y Pwyllgor
iddo. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 32 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater
a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod
hwn. 10.10 –
10.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 284 KB Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021 (copi ynghlwm). 10.15 – 10.25 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a
gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021. Cynghorwyd yr aelodau yr ychwanegid rhagor o wybodaeth dan eitem fusnes 7
ar yr agenda, Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor, mewn perthynas â’r pwynt a
godwyd ynghylch cynnal sesiynau briffio cyn cyfarfodydd y Pwyllgor. Felly: Penderfynwyd: - cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021 fel cofnod cywir o’r trafodion. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU 2020/21 PDF 38 KB Ystyried Adroddiad
Chwarter4/Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar
ei waith a'i gynnydd yn
ystod 2020-21. (Adroddiad i
ddilyn) 10.25 – 11.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd, Aelod Arweiniol yr Economi a
Llywodraethu Corfforaethol. Cyflwynodd yr Arweinydd y swyddogion oedd yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda: Alwen Williams – Cyfarwyddwr y
Portffolio, a Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau o Fwrdd Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), ynghyd â swyddogion o’r awdurdod.
Clywodd aelodau am bwysigrwydd cyfarfodydd chwarterol a fynychid gan swyddogion
er mwyn gweithio gyda thîm rheoli’r portffolio er mwyn deall, a dylanwadu ar, y
gwaith rhanbarthol sy’n cael ei wneud. Eglurwyd bod yr adroddiad yn ddiweddariad ar y Fargen Dwf y cytunwyd arni
gan y Cyngor Llawn. Eglurwyd bod y gwaith wedi dechrau ar gam darparu’r rhaglen
waith. Rhan o’r cytundeb oedd adrodd i’r pwyllgor Craffu ddwywaith y flwyddyn
er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau am y cynnydd a wnaed. Eglurodd yr Arweinydd i’r
aelodau lefel y gwaith a'r manylion sy’n angenrheidiol mewn perthynas â'r prosiectau
cyn cyflwyno'r achosion busnes. Arweiniodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr y Portffolio, yr aelodau drwy
gyflwyniad byr oedd yn darparu gwybodaeth gefndir. Eglurwyd mai bwriad y Fargen
Dwf oedd darparu economi fwy bywiog, cynaliadwy a chadarn yng ngogledd Cymru.
Adeiladau ar gryfderau sy’n bodoli eisoes er mwyn cynyddu cynhyrchiant a mynd
i’r afael â heriau a rhwystrau economaidd hirdymor. Eglurwyd bod tair amcan wario wedi’u nodi yn
yr achos busnes. Nodwyd mai creu swyddi, Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), a
buddsoddi oedd y rhain. Clywodd aelodau mai’r amcan oedd creu hyd at 4,200 o
swyddi. Seiliwyd y Fargen Dwf ar ddarparu un ar hugain o brosiectau trawsffurfiol
ar draws pum rhaglen (a ddiffinnir fel naill ai rhaglenni twf uchel neu
raglenni galluogi). Roedd dwy raglen yn
canolbwyntio ar alluogi’r rhanbarth, a rhaglenni cysylltedd digidol, a thir ac
eiddo, oedd y rhain. Ariannwyd y rhaglenni hyn gan y fargen dwf. Gobeithid y
byddai cyflawni yn y sectorau hyn yn galluogi busnesau i fuddsoddi yn y rhanbarth
a’r farchnad lafur er mwyn manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth newydd.
Pwysleisiwyd bod y gwaith partneriaeth ar draws gogledd Cymru’n gydlynus ac yn
effeithlon. Darparodd Cyfarwyddwr y Portffolio ganllawiau pellach ynghylch cysylltedd
digidol. Eglurwyd mai gwella cysylltedd digidol oedd y nod. Roedd y prosiect yn mynd i’r afael ag
anghenion cwsmeriaid a dinasyddion. Roedd y rhaglen ddigidol wedi nodi’r angen
i gydbwyso buddsoddiad, isadeiledd a thechnoleg drwy fand eang sefydlog mewn
safleoedd allweddol ac ardaloedd gwledig.
Eglurwyd bod dwy brif gydran wedi’u cynnwys yn y rhaglen ddigidol. Y
cydrannau a gynhwyswyd oedd prosiect cysylltedd digidol a phrosiect arloesi
gyda Phrifysgol Bangor. Darparwyd gwybodaeth ynghylch y Rhaglen Tir ac Eiddo. Nododd y rhaglen fod
diffyg tir ac eiddo addas i fusnesau eu datblygu. Clywodd aelodau fod sawl
prosiect allweddol wedi’u setlo, yn cynnwys Porth Caergybi, safle Porth
Gorllewinol Wrecsam, safle strategol allweddol ym Modelwyddan, Safle Strategol
Bryn Cegin ym Mangor, hen safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a Neuadd
Warren yn Sir y Fflint. Roedd y tair rhaglen arall yn canolbwyntio ar gryfderau allweddol yn y
sectorau gwerth uchel yn y rhanbarth. Nod y rhaglenni oedd cynyddu gwerth ac
effaith y sector twf uchel. Y rhaglen gyntaf oedd un ynni carbon isel gyda’r
nod o ddatgloi buddion economaidd prosiectau ynni carbon isel trawsffurfiol.
Roedd y prosiectau oedd yn rhan o’r rhaglen ynni carbon isel yn cynnwys
Morlais, prosiect ynni morol, Gorsaf Bŵer Trawsfynydd, canolfan ragoriaeth
carbon isel yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, ynni lleol clyfar a
datgarboneiddio cludiant. Roedd y Rhaglen Arloesi Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn ceisio cadarnhau safle presennol gogledd Cymru fel clwstwr gweithgynhyrchu arloesol, gwerth uchel. Y bwriad oedd adeiladu ar arbenigeddau sefydledig yr ardal a datblygu arbenigedd er mwyn creu sail economaidd fwy amrywiol er ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 48 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11.10 – 11.25 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn gofyn i’r
aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
ynglŷn â materion perthnasol. Bu trafodaeth ynghylch y materion canlynol: ·
Roedd atodiad un yn rhestru’r cyfarfodydd sydd i ddod a’r
adroddiadau a gynigiwyd.
Adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ynghylch cynlluniau cyfalaf ar gyfer gwasanaethau yn Sir Ddinbych. Gwnaed cais
i'r Cadeirydd ohirio'r eitem, gan fod y swyddogion iechyd yn aros am ymateb gan
Lywodraeth Cymru ynghylch y cynllun busnes. Byddai’r eitem yn cael ei chyflwyno
i’r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf unwaith y byddid wedi derbyn adborth gan
Lywodraeth Cymru. ·
Nid oedd unrhyw eitemau wedi’u hychwanegu at y RhGD yn
dilyn cyfarfod Grŵp y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion. ·
Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu bod gan y cyfarfod nesaf
ar 8 Gorffennaf dri adroddiad arfaethedig, gyda’r posibilrwydd o ychwanegu
adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ato. ·
Cafodd aelodau wybod am yr anhawster cyfredol wrth
weinyddu sesiwn friffio cyn cyfarfodydd. Petai aelodau'n teimlo bod angen cynnal cyfarfod briffio
cyn cyfarfod, dylent gysylltu â’r Cadeirydd a Chydlynydd Craffu i drafod hynny.
Ar hyn o bryd, nid fyddid yn trefnu cyfarfod briffio ar gyfer pob cyfarfod. ·
Teimlai aelodau y byddai sesiynau briffio cyn cyfarfodydd
yn fuddiol cyn derbyn adroddiadau'r Bwrdd Iechyd. ·
Pwysleisiodd aelodau bwysigrwydd derbyn adroddiad
Cynlluniau Cyfalaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn gynted â phosibl,
yn enwedig er mwyn mynd i’r afael â hen safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y
Rhyl. Deellid
mai etholiadau’r Senedd oedd yn gyfrifol am yr oedi cyn derbyn ymateb gan
Lywodraeth Cymru. Bu i’r Pwyllgor: Benderfynu: - yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod – (i)
gadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
(Atodiad 1); a (ii)
petai hynny’n angenrheidiol, cynnal cyfarfod
arbennig o’r Pwyllgor i drafod cynlluniau cyfalaf y Bwrdd Iechyd yn Sir
Ddinbych unwaith y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn
ymateb gan Lywodraeth Cymru i’w achos busnes diweddaraf ar gyfer cyfleuster
Ysbyty Cymunedol newydd yng ngogledd Sir Ddinbych. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. 11.25 – 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cydlynydd Craffu wedi derbyn adroddiad gan y Cynghorydd Christine
Marston ar ôl iddi fynd i gyfarfodydd dau grŵp lle roedd hi’n
cynrychioli’r Pwyllgor. Darparodd y Cydlynydd Craffu’r adborth i’r Pwyllgor fel
a ganlyn. Y cyfarfod cyntaf yr aeth y Cynghorydd Marston iddo oedd Grŵp Cyfeirio
Budd-ddeiliaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gynhaliwyd ar 22 Mawrth
2021. Eglurwyd i'r aelodau bod cynllun tair blynedd y Bwrdd Iechyd wedi'i
ohirio oherwydd Covid. Eglurwyd y byddid yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad pan
fyddai'r cam adfer yn dechrau. O ran gofal wedi'i gynllunio roedd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gobeithio creu lleoedd. Clywodd yr aelodau mai’r nod oedd creu
ffenestr 6-8 wythnos o hyd ar gyfer ail ddos Brechlyn Covid, gyda’r gobaith na
fyddai angen y canolfannau brechu ar ôl mis Gorffennaf. Roedd gwaith ymgysylltu’r strategaeth ddigidol wedi dechrau ond roedd
cyfyngiadau oherwydd Covid. Y bwriad oedd sefydlu un cofnod digidol i gleifion. Cyflwynwyd Fframwaith Gwella Ymyriad wedi’i
Dargedu (TIIF) er mwyn archwilio gwelliannau i sut roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr yn gweithredu gyda’r bwriad o wella perfformiad. Roedd y Cynghorydd Marston hefyd wedi bod i gyfarfod Bwrdd Prosiect yr Uned
Breswyl ar gyfer Plant, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021. Cadarnhawyd mai enw’r uned newydd fyddai
Bwthyn y Ddôl, ac y byddai wedi’i lleoli rhwng Pencadlys yr Heddlu a Pharc
Eirias ym Mae Colwyn. Gwariant presennol
y prosiect oedd £2.6miliwn. Mae’r gwaith adeiladu ar y safle i fod i ddechrau
ym mis Mehefin 2021, a’r dyddiad cwblhau arfaethedig yw mis Mai 2022. Mae’r uned wedi’i dylunio i letya plant o
Gonwy a Sir Ddinbych er mwyn iddynt gael triniaethau therapiwtig dwys. Byddai
tair ardal yn y cyfleuster: - gofal wedi’i
gynllunio ar gyfer cleifion mewnol, gofal heb ei gynllunio i gleifion mewnol,
ac ardal asesu. Cadarnhawyd bod aelodau tîm amlddisgyblaethol eisoes yn eu lle. Roedd
cynlluniau dros dro wedi’u llunio er mwyn lletya plant sydd angen gofal ar hyn
o bryd, gyda llety dros dro ym Mae Colwyn. Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud
ar gostau cynnal parhaus yr uned hon yn y dyfodol. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cydlynydd Craffu am yr adroddiad ar sail
presenoldeb y Cynghorydd Marston yn y cyfarfodydd. Felly: Penderfynwyd: - derbyn adroddiad y Cynghorydd Marston ynghylch
trafodaethau diweddar yn Grŵp Cyfeirio Budd-ddeiliad Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Prosiect
yr Uned Asesu Breswyl Is-ranbarthol ar gyfer Plant. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am |