Agenda, decisions and draft minutes
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
PWYNT SYLW Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol yn
sgil pandemig y Coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo
gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu
fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Lleol wahoddiad i arsylwi
hefyd. |
||
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Christine Marston a'r Cynghorydd
David Williams. Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Christine Marston a’r Cynghorydd
David Williams. |
||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan
unrhyw fuddiant personol neu ragfarnllyd mewn unrhyw fusnes a nodir i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim. |
||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau sydd, ym marn y Cadeirydd, i’w hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys
yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
||
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 450 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020
(copi ynghlwm) 10.05am – 10.15am Penderfyniad: Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Cynigiwyd
ac eiliwyd cywirdeb y cofnodion. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid
yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a
gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 fel cofnod gwir a chywir. Cofnodion: Cafodd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror
2020 eu cyflwyno. PENDERFYNWYD: - derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a
gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 fel cofnod cywir. |
||
SEILWAITH – THEMA ADFER TAI PDF 319 KB Derbyn adroddiad
gan y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau Cwsmeriaid (copi ynghlwm) sy’n gofyn
i’r Pwyllgor archwilio Cynllun Adfer ôl COVID-19 y Cyngor ar gyfer
Gwasanaethau’n ymwneud a Thai. 10.15am – 10.45am Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid
yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor:- yn amodol ar y sylwadau uchod - (i)
ei
fod wedi darllen, deall a chymryd i ystyriaeth y gweithgareddau sy’n cael eu
dilyn mewn perthynas ag adferiad ‘Gwasanaethau sy’n Gysylltiedig â Thai’ o’r
cyfnod clo cyntaf oherwydd pandemig COVID-19; a (ii)
wedi
gofyn i adroddiad, yn amlinellu effeithiau COVID-19 ar ddigartrefedd yn y sir
ynghyd â chynlluniau adfer y Cyngor mewn perthynas â mynd i’r afael â materion
digartrefedd, gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol agos Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad ac atodiadau
i’r aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan roi gwybodaeth iddynt am y
cynllun adfer ar ôl Covid-19 ar gyfer Isadeiledd y Flaenoriaeth Adfer Tai. Fe dywysodd Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid yr aelodau
drwy’r adroddiad a’r themâu adfer. Cyfeiriwyd at y ddau atodiad, y cyntaf oedd
thema Adfer Tai oedd wedi’i lunio a’i gytuno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r
Cabinet ym mis Mai 2020, a’r ail oedd diweddariad am y gwaith a gwblhawyd. Cyfeiriodd y Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid at Atodiad 2
oedd yn dangos y camau gweithredu a gwblhawyd a diweddariad i’r camau
gweithredu yn Atodiad 1. Cafodd yr aelodau gadarnhad fod y gwaith i leihau’r croniad o waith
atgyweirio tai nad yw’n waith brys wedi dechrau ym mis Awst. Yn sgil y
cyfyngiadau ar ymweliadau yn ystod y cyfnod clo, mae croniad o’r achosion wedi
cynyddu. Roedd y gwaith o ganolbwyntio ar y croniad ac ailafael yn y gwaith yn
parhau. Clywodd yr aelodau fod penderfyniad dirprwyedig i newid y broses Un Llwybr
Mynediad at Dai dros dro wedi cael ei gytuno, gydag adolygiad wedi’i drefnu at
ddiwedd mis Hydref. Y nifer diweddaraf o aelwydydd a oedd wedi cael llety oedd
40, ychydig yn uwch na’r hyn oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad. Er bod dyledion rhent wedi cynyddu, dywedodd swyddogion fod proses
gyfathrebu gyda phreswylwyr a chynnwys Cyngor Ar Bopeth i gynorthwyo a
swyddogion cymorth wedi cael eu darparu. Cafwyd cadarnhad fod Sir Ddinbych,
ynghyd â Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda phreswylwyr oedd mewn
perygl gyda dyledion rhent. Roedd cyfathrebu gyda thenantiaid wedi bod yn hanfodol i’r cynllun adfer,
gyda mwy na 3000 o alwadau ffôn cymorth i denantiaid diamddiffyn. Roedd defnyddio
cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon a chynnig cefnogaeth wedi bod yn
werthfawr iawn. Cafwyd cadarnhad fod cynllun peilot wedi cael ei gymeradwyo i
agor ystafell gymunedol o fewn Dolwen, Dinbych.
Diolchodd yr aelodau i’r Pennaeth Cymunedau a Gwasanaethau i Gwsmeriaid am
y cyflwyniad manwl drwy’r adroddiad. Yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor, dyma a
wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion: ·
Cadarnhau
fod gwaith wedi parhau gyda thenantiaid a bod swyddogion yn gweithio’n galed i
ddatrys unrhyw faterion sydd gan denantiaid os nad oes modd iddynt symud i lety
arall. Cynigiwyd cefnogaeth i denantiaid yn enwedig pan roeddynt yn derbyn
cwynion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion a’r Aelodau
Arweiniol am yr adroddiad. Felly: PENDERFYNODD Y PWYLLGOR: - yn amodol ar y sylwadau uchod - (i) ei fod wedi darllen, deall a chymryd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
||
Ar yr adeg hon (11.10
am) cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.20 a.m. |
||
CRYFDER CYMUNEDOL – THEMA ADFER PDF 221 KB Derbyn adroddiad
gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio Cynllun Adfer
ôl COVID-19 y Cyngor ar gyfer datblygu a gwella cryfder cymunedol. 10.45am – 11.15am Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid
yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynodd yr Aelodau: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod, gefnogi’r cynllun adfer, fel yr
amlinellwyr yn Atodiad A i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac
Annibyniaeth yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd eisoes) gan roi’r
wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y cynnydd mewn perthynas â’r thema Adfer
Cryfder Cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad Ymateb Coronafeirws Cyngor
Sir Ddinbych: Adroddiad Cynllunio ar gyfer
Adfer. Tywyswyd
Aelodau drwy’r adroddiad gan gyfeirio’n arbennig at bedwar amcan a amlinellir
yn adran 2 o’r adroddiad eglurhaol. Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau
canlynol:
Roedd yr
Aelodau’n falch o glywed am y gwaith a oedd wedi'i gwblhau hyd yma ac roedd
arnynt eisiau diolch i swyddogion a'r Aelod Arweiniol am y cymorth parhaus
gydag aelodau a phreswylwyr lleol. Felly; PENDERFYNWYD: - yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cefnogi’r cynllun adfer, fel yr
amlinellir yn Atodiad A i’r adroddiad. |
||
CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF PDF 235 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol a’r Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu (copi ynghlwm) sy'n ceisio barn
y Pwyllgor ar argymhellion i gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i
gaffael contract ar y cyd ar gyfer rheoli canolfannau ailgylchu gwastraff y
cartref ar draws y ddwy sir, a'r oblygiadau sy'n gysylltiedig â hynny o ran
polisïau presennol ar reoli gwastraff. 11.30am – 12pm Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid
yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynodd y Pwyllgor: - (i)
yn
amodol ar yr arsylwadau uchod, cefnogi'r egwyddor o gydweithio â Chyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy i gaffael contract ar y cyd ar gyfer rheoli Canolfannau
Ailgylchu Gwastraff Cartref yn y ddwy sir. Mae hyn yn cynnwys y cynnig i alinio
polisïau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ac i gymhwyso taliadau cyson
ar draws pob safle ar gyfer rhai eitemau nad ydynt yn wastraff cartref; a (ii)
cadarnhawyd,
fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r
Effaith ar Les (Atodiad 1). Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd yr adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd eisoes) sy’n amlinellu cynnig i ymgysylltu â phroses gaffael ar
y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) i reoli Canolfannau Ailgylchu
Gwastraff Cartref yn y ddwy sir. Rhoddwyd gwybod i’r aelodau fod CSDd a CBSC wedi
bod yn awyddus i symud ymlaen â'r cynnig, gyda CBSC yn arwain y rhaglen.
Clywodd yr aelodau rhai o fuddion tebygol i’r preswylwyr a’r busnesau. Roedd
hyn yn cynnwys galluogi i breswylwyr ddefnyddio'r ganolfan ailgylchu gwastraff
cartref (CAGC) agosaf ni waeth ym mha sir yr oedd ynddi, dull cyson gydag
awdurdodau cyfagos a buddion ariannol o arbedion maint gan gynnwys cynnydd mewn
diddordeb tendro gan gwmnïoedd gwastraff y sector preifat. Hysbysodd
Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol yr aelodau y byddai
angen newid i bolisïau presennol y Cyngor i ganiatáu’r cydweithio. Cafodd yr aelodau eu cyfeirio at bwynt 4.5 yn yr adroddiad eglurhaol a oedd
yn amlinellu elfen gost newydd y polisi. Mae’r system
archebu newydd, sydd ar waith ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig Covid-19,
wedi bod yn gweithio'n dda, bydd y bwriad o barhau i’w defnyddio yn helpu’r
awdurdodau i edrych ar nifer y preswylwyr sy’n defnyddio CAGC ar draws y ffin.
Eglurodd Pennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau
Amgylcheddol y bwriad i agor
siop ailddefnyddio i ganiatáu i eitemau sy’n gallu cael eu hailddefnyddio gael
eu gwerthu i aelodau’r cyhoedd. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Roedd y tîm gorfodi yn ystyried bod tipio anghyfreithlon
yn fater difrifol iawn. Roedd yr holl honiadau o fewn Sir Ddinbych yn cael eu
hymchwilio. Dywedodd Swyddogion, fel awdurdod, nad oedd tipio anghyfreithlon yn
bryder, fel awdurdodau eraill. Teimlwyd na fyddai'r dull cydweithio yn arwain
at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon yn yr awdurdod. ·
Ni fyddai’r cynnig newydd yn cael unrhyw effaith ar
gynlluniau ar gyfer cyfleusterau gwastraff ac ailgylchu a gynigir ar gyfer
Dinbych. ·
Byddai’r cynigion newydd yn cynhyrchu arbedion ar gyfer
yr awdurdod. Nid oedd modd amcangyfrif yr union swm. ·
Cafwyd cadarnhad fod pob dirwy cosb benodedig heblaw un
am dipio anghyfreithlon wedi cael eu hadennill. ·
Gwelwyd y cynnig am siop ailddefnyddio yn ffafriol a
siaradodd Swyddogion o blaid y cynnig. Roedd y siop ailddefnyddio yng nghamau
cynnar y broses dendro, gyda’r holl ddewisiadau yn cael eu hystyried. ·
Byddai'r cytundeb rhwng Sir Ddinbych a Chonwy yn cael ei
lunio gydag Adran Gyfreithiol y Cyngor er mwyn sicrhau y byddai unrhyw
anawsterau neu heriau sy'n wynebu Sir Ddinbych yn cael eu datrys yn hawdd neu
bydd y Cyngor yn gallu gadael y cytundeb fel dewis olaf. ·
Byddai costau pob awdurdod yn cael eu dosrannu’n deg. ·
Sicrhaodd swyddogion yr aelodau bod y cynnig newydd am
ddarparu rhagor o ddewisiadau i breswylwyr gael gwared o unrhyw wastraff
cartref. Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddogion am eu hadroddiad manwl a sylwadau i’r aelodau a
chwestiynau arsylwyr. Gwnaeth y Pwyllgor; BENDERFYNU: - (i) yn amodol
ar yr arsylwadau uchod, i gefnogi’r egwyddor o gydweithio gyda Chyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy i greu cyd-gontract ar gyfer rheoli Canolfannau
Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) yn y ddwy sir, gan gynnwys y cynnig i alinio
polisïau CAGC ac i daliadau cyson gael eu cymhwyso ar draws pob safle ar gyfer
eitemau penodol sydd ddim yn perthyn i'r cartref; a (i)
cadarnhau, fel rhan o’r ystyriaeth, ei fod wedi
darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1). |
||
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 242 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad o raglen
waith y pwyllgor i’r dyfodol ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol. 12pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd ar yr
argymhelliad drwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau'r Pwyllgor eu bod o blaid
yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn ei erbyn ac ni nododd neb eu bod
yn dymuno ymatal. Penderfynwyd: - yn amodol ar yr argymhellion
a wnaed yn ystod trafodaethau ar eitemau cynharach ar yr agenda, a chynnwys yr
eitemau a awgrymwyd yn ystod y drafodaeth uchod, cymeradwyo rhaglen gwaith i'r
dyfodol y Pwyllgor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a
ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn am adolygiad yr aelodau o raglen waith y Pwyllgor
a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol -
· Cytunwyd
i gadw eitemau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel
y manylir arni yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
||
Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm. |