Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7
(Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad)
gan ei fod yn gweithio i BIPBC. Roedd y
Cynghorydd Rachel Flynn (arsylwr) yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7
(Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad)
gan fod ei mab wedi'i atgyfeirio ar gyfer niwroddatblygiad gan CAMHS. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 435 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cafodd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 eu
cyflwyno. Materion yn Codi -
Tudalen 9 –
gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ar y cynllun peilot tai. Cadarnhaodd y
Cydlynydd Craffu ei fod ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth a byddai
diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ganol-2020, fel rhan o
Strategaeth Digartrefedd ac adroddiad Cynllun Gweithredu 2017-2021. Tudalen 13 –
Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu bod holl wylanod wedi eu diogelu a bod Cynllun
Rheoli wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Gorffennaf 2019
gyda nifer o gamau gweithredu. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod i dderbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Trafododd y Pwyllgor yr eitem fusnes ganlynol,
eitem rhif 5, yn ei swyddogaeth fel Pwyllgor Archwilio Trosedd ac Anhrefn
dynodedig y Cyngor yn unol â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder adrannau 19 a 20. |
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL AR GYFER 2018-19 PDF 221 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n ceisio
sylwadau’r Pwyllgor ar weithgarwch y Gyd Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn
2018-19 a’r cynllun gweithgarwch lleol a rhanbarthol ar gyfer 2019-20. 10.05am – 10.45am
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Diogel, y Cynghorydd
Mark Young yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i gael sylwadau’r Pwyllgor
ar weithgaredd y Cydbartneriaethau Diogelwch Cymuned yn 2018-19 a’r Cynllun
Gweithgaredd Lleol a Rhanbarthol 2019-20.
Roedd y Cynghorydd Young hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel
Gogledd Cymru rhanbarthol hefyd. Dywedodd y
Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 12 mlynedd yn ôl, unwyd Partneriaethau
Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) a Chyngor Sir
Ddinbych (CSDd), gyda CBSC yn gweithredu fel y prif gyflogwr. Roedd yr Adran Gwella Busnes a Moderneiddio
yn arwain o ran rheoli’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn Sir Ddinbych. Rhoddodd y
Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol eglurhad o’r ystadegau yn yr
adroddiad. Roedd trefn
cyfarfod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynnwys: ·
Grŵp
Llywio Strategol - cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ·
Grŵp
Tasg Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - a gynhelir yn fisol ·
Grwpiau
Tasg a Gorffen – cynhelir fel bo’r angen Roedd y tair blaenoriaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 2018-2019 fel a
ganlyn: ·
Blaenoriaeth
1 - lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal leol a rhanbarthol ·
Blaenoriaeth
2 - lleihau aildroseddu – blaenoriaeth genedlaethol/ranbarthol ·
Blaenoriaeth
3 – blaenoriaethau lleol Roedd gan bob
maes blaenoriaeth nifer o ddangosyddion perfformiad i fonitro cynnydd a
thueddiadau troseddau. Adolygwyd yr
ystadegau yn chwarterol yng nghyfarfodydd y Grŵp Llywio Strategol, gan
weithredu ar unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg. Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol: ·
Ailddioddefwyr
trosedd – oedd yna dueddiad arbennig? Cadarnhaodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol y byddai’n casglu
manylion ac yn dosbarthu i aelodau, ond roedd dulliau newydd o adrodd a chyfrif
digwyddiadau wedi cael effaith ar y ffigyrau hyn. ·
Oedd
ystadegau ar gael ar gyfer trosedd gwledig – dywedodd y Rheolwr Partneriaeth
Diogelwch Cymunedol nad oedd ganddi'r ystadegau wrth law ond bu'n gweithio
gyda'r tîm trosedd gwledig. Byddai’n casglu’r wybodaeth a’i dosbarthu i aelodau. ·
Roedd
yna ychydig o feirniadaeth ynglŷn â’r heddlu ac nad oeddent yn ymchwilio
bwrgleriaeth preswyl. Roedd rhif trosedd at ddibenion yswiriant yn cael ei roi allan ond ddim yn
arfer cael ei ymchwilio. Fodd bynnag,
roeddent yn gweithredu nifer o fentrau a anelwyd at helpu trigolion i leihau'r
risg o fod yn darged trosedd e.e. y fenter 'Sbarduno’ oedd yn defnyddio
cyfryngau cymdeithasol at ddiben atgoffa pobl i gau a chloi pob drws a ffenestr
i geisio osgoi bwrglariaid sy’n bachu cyfle.
·
Problem
pobl ifanc heb oruchwyliaeth rhiant rhwng 3.00pm (diwedd y diwrnod ysgol) a rhieni yn dychwelyd o’r gwaith fel arfer tua
5.00pm Gallai hyn achosi
problemau. ·
Cadarnhawyd
y byddai'r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Mark Young yn cwrdd â'r Prif Arolygydd
ac y byddai’n codi’r pryderon gydag ef ac yn gofyn iddo amlygu’r meysydd hyn yn
ei gyflwyniad i sesiwn Briffio’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019. ·
Eglurwyd bod nifer
fawr o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu wedi mynychu’r cyfarfodydd CSP a’u
bod yn hynod ragweithiol. ·
Roedd
llinellau cyffuriau yn bryder mawr a chadarnhaodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol fod holl asiantaethau ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i
gilydd i liniaru’r mater hwn. ·
Roedd
meddiannu cartrefi hefyd wedi’i grybwyll ar gynnydd, ac eto roedd pob
asiantaeth yn gweithio gyda’i gilydd mewn perthynas â’r mater hwn. ·
Roedd
trosedd casineb wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ond roedd yn ymddangos fel
petai mewn lleoliadau penodol e.e. ysbytai, gorsafoedd heddlu a’r Ganolfan
Ddiwylliannol yn y Rhyl. Byddai’r cydlynwyr rhanbarthol newydd arfaethedig yn canolbwyntio'n fawr ar
eu gwaith o amgylch yr agwedd arbennig hon o ymddygiad gwrthgymdeithasol. ·
Roedd
pobl yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus fel yr
adroddwyd, adroddir ar y canlyniadau mwy cadarnhaol. · Roedd gwerthu adeilad Neuadd Morfa yn y Rhyl ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2018 – 31 MAWRTH 2019 PDF 222 KB Ystyried
adroddiad gan Reolwr Tîm Gwasanaethau Diogelu Gweithredol (copi ynghlwm) sydd
am i’r Pwyllgor adolygu cynnydd y Cyngor o ran trefniadau ac arferion diogelu
lleol yn ystod y cyfnod uchod, a’u heffaith ar oedolion diamddiffyn yn y sir. 10.45am – 11.30am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley yr Adroddiad
Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych 1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2019
(dosbarthwyd yn flaenorol). Dros y 12 mis
diwethaf, bu ffocws parhaus ar wella cysondeb ac ansawdd gwaith diogelu. Roedd cryn dipyn o waith wedi’i wneud i wella
perfformiad yn erbyn dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru o ymholiadau a
gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith. Er
hynny, nid oedd ac ni fyddai’r Awdurdod yn llaesu dwylo yn y maes hwn. Cafodd Deddf
Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 gydsyniad brenhinol ym mis Mai 2019, oedd yn
diwygio Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (“MCA”).
Roedd y diwygiadau’n cyflwyno’r Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd (LPS). Nod y Ddeddf yw lleihau’r straen ar y system
trefniadau diogelu rhag colli rhyddid ers dyfarniad Gorllewin Swydd Gaer a
adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor Craffu.
Roedd prif
gyflawniadau yn 2018-19 fel a ganlyn: ·
Dyddiau
penodol wedi eu sefydlu ar gyfer cyfarfodydd strategaeth cychwynnol yn dilyn
cynllun peilot llwyddiannus. ·
Archwiliadau
chwarterol ar sampl o achosion diogelu er mwyn sicrhau ansawdd a chysondeb
gwaith. ·
Cynllun
peilot i sefydlu proses rhwng CSDd a'r bwrdd iechyd yn ymwneud ag adborth ar yr
argymhellion a nodwyd o ganlyniad i’r broses ddiogelu. Roedd y cynllun peilot yn canolbwyntio ar ddiogelu adroddiadau/nodweddion
yn ymwneud ag Uned Ablett. Bydd trosolwg
o’r cynlluniau gweithredu diogelu hyn yn parhau’n gyfrifoldeb Craffu Diogelu
Corfforaethol o fewn BIPBC. Cytunir ar
adolygiadau a rhan arweinwyr diogelu'r awdurdod lleol yn y cyfarfod strategaeth
terfynol. ·
Peilota
dull o fynd i’r afael ag adroddiadau diogelu yn ymwneud â briwiau pwyso. Nod y cynllun peilot oedd sefydlu proses agosach a mwy effeithiol rhwng
BIPBC a’r awdurdod lleol. ·
Adolygu
systemau i reoli ceisiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a
dderbyniwyd. Cadarnhaodd y
Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Arbenigol bod atgyfeiriadau yn parhau ar
gynnydd gyda 9.5% o gynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd 21% o atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn
mynd i gyfarfodydd Strategaeth. Esgeulustod a
cham-drin corfforol oedd y mathau mwyaf cyffredin o gamdriniaeth a nodwyd, a
oedd yn debyg i dueddiadau cenedlaethol. Wrth drafod,
codwyd y materion canlynol: ·
Gofal
priodol, yn arbennig amser prydau, os nad oedd person diamddiffyn yn gallu agor
y bocsys brechdanau a ddarparwyd. Roedd hwn yn bryder a godwyd gan aelodau.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynnal Cymunedol y byddai’n codi’r
pryder hwn gyda BIPBC ·
Symud
preswylydd i le diogel pan oedd problem gyda lleoliad wedi’i nodi yn ystod
archwiliad – oedd yna amserlen? Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cynnal Cymunedol os oedd unigolyn yn
gallu, gallent ddewis aros yn y lleoliad.
Os nad oeddent yn gallu yna cysylltir â’r Atwrneiaeth os oedd yna un,
neu cynhelir Cyfarfod Penderfyniad Budd Pennaf. Roedd Gweithwyr Cymdeithasol Arbenigol,
Seiciatryddion a Seicolegwyr yn asesu pa un a oedd gan unigolyn gapasiti ai peidio ·
Roedd
swyddogion yn amlinellu’r broses a ddilynir ar ôl derbyn honiad o gamdriniaeth ·
Roedd
perfformiad Sir Ddinbych o ran delio gyda cham-drin honedig yn cymharu ag
awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn yr un modd â’i berthynas gyda’r
Bwrdd Iechyd Lleol. Roedd dau dîm adnodd cymunedol iechyd a gofal cymdeithasol wedi eu sefydlu
yn Sir Ddinbych hyd yma. Roedd y
berthynas gyda’r timau hyn yn dda yn gyffredinol, gyda staff yn gweithio tuag
at gyflawni nodau cyffredin; ·
Cadarnhaodd
Swyddogion bod y posibilrwydd o gyflwyno achrediad ‘dyfarniad’ i gartrefi gofal
yn cael ei ystyried fel rhan o drefn rheoliad cenedlaethol ar gyfer sefydliadau
o’r fath. ·
uchelgais
y Gwasanaeth oedd cyflawni canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth, tra’n
lleihau’r nifer o achosion o gam-drin honedig.
Fodd bynnag, roedd y ffaith bod honiadau o gam-drin yn cael eu cofrestru yn ei hun yn gadarnhaol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL PLANT A PHOBL IFANC A GWASANAETHAU NIWRO-DDATBLYGIAD Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn Sir Ddinbych, a Gwasanaethau Niwro-Ddatblygiad 11.40am – 12.30pm Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7 (Gwasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad) gan ei fod yn
gweithio i BIPBC. Roedd y
Cynghorydd Rachel Flynn (arsylwr) yn datgan cysylltiad personol yn Eitem 7
(Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a Gwasanaethau Niwroddatblygiad)
gan fod ei mab wedi'i atgyfeirio ar gyfer niwroddatblygiad gan CAMHS. Yn bresennol i
gyflwyno’r adroddiad ar lafar ar Wasanaethau Arbenigol Iechyd Meddwl Plant a
Glasoed (CAMHS) a Gwasanaethau Niwroddatblygiad o BIPBC oedd: Bethan Jones,
Cyfarwyddwr Ardal Canolog Sue Wynne, Rheolwr Gwasanaeth
Clinigol, Ardal Ganolog, a Sara Hammond-Rowley, Pennaeth
Seicoleg Plant a Therapïau Seicolegol Cyflwynodd Bethan
Jones, Cyfarwyddwr Ardal, Canolog y cyflwyniad ac amlinellodd yr amcanion sef: ·
Rhoi
trosolwg o Wasanaethau Arbenigol CAMHS a Niwroddatblygiad i blant a phobl ifanc
yn Sir Ddinbych wedi’i gysylltu â dull rhanbarthol BIPBC; ·
Amlinellu’r
weledigaeth – dull systemau cyfan – ac amlygu gwaith partneriaeth / cydbrosiectau.
Amlinelliad o’r
sylw presennol i iechyd meddwl yn y cyfryngau - y budd a'r canlyniadau posibl
nas fwriadwyd: Manteision - Ø
Mwy o
ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymhlith y cyhoedd Ø
Mwy o
ymgyrchu Ø
Llai
o stigma, a Ø
Mwy o
bobl yn dod ymlaen i ofyn am gymorth Canlyniadau
posibl nas fwriadwyd - Ø
Mwy o
bobl yn gofyn am gymorth ar gyfer trallod ‘arferol’ oedd yn arwain at gynnydd
yn y galw ar gyfer problemau nad oedd bob amser angen cymorth arbenigol Ø
Gall
y sawl â phroblemau iechyd meddwl sylweddol / salwch meddwl deimlo eu bod yn
cael eu heithrio, roedd rhai yn teimlo bod y ffocws cynyddol ar “les” yn
tanseilio difrifoldeb y problemau iechyd meddwl “gwirioneddol” a gallai yn
anfwriadol leihau mynediad i’r sawl oedd ei angen fwyaf Ø
Roedd
mwy o wasanaethau yn disgrifio eu hunain yn canolbwyntio ar iechyd meddwl o
bosibl yn arwain at ormod o wasanaethau yn gorgyffwrdd a dryswch. Roeddent yn
egluro’r gwahaniaeth rhwng Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd. Prif
swyddogaethau CAMHS oedd: ·
Integreiddio ü
Timau
Amlddisgyblaethol ü
Swyddogaethau
·
Un
Pwynt Mynediad ·
Asesiad
a Thriniaeth ·
Argyfwng
·
Gweithio
gyda phartneriaid - Ymyrraeth Gynnar ac Ataliad Roedd dull system
gyfan nawr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau CAMHS gan y teimlwyd bod
angen canolbwyntio ar bob agwedd o CAMHS i sicrhau fod popeth yn cael ei gymryd
i ystyriaeth. Byddai canolbwyntio’n
benodol ar gyflawni targedau yn gwneud anghymwynas â phlant a phobl ifanc oedd
angen cymorth mewn argyfwng. Bu heriau yn
ystod y 3 blynedd ddiwethaf o ran recriwtio staff o ganlyniad i’r cynnydd yn y
galw. Roedd hon yn broblem
genedlaethol. Roedd ymgyrch
recriwtio wedi'i gynnal yn ystod y 12 mis diwethaf a datblygwyd swyddi
hyfforddiant newydd i ddenu gweithwyr proffesiynol i CAMHS. Roedd yr ymgyrch recriwtio hwn wedi bod yn
llwyddiannus gyda 30% ychwanegol o staff yn ymuno â’r tîm oedd yn dechrau yn eu
swyddi ar hyn o bryd. Byddai’r staff
ychwanegol yn galluogi cyrraedd y 4 wythnos ar draws holl amseroedd aros ac
asesiadau arferol. Roedd ymgyrchoedd
recriwtio ychwanegol yn creu diddordeb mewn swyddi a rhagwelir y sefydlir yn
llawn erbyn diwedd Mawrth 2020. Yn ystod
trafodaeth fanwl, codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Os
oedd yna argyfwng, cadarnhawyd y byddai’r unigolyn yn derbyn cymorth a thriniaeth
ar unwaith ac ni ddisgwylir iddynt aros.
Byddai atgyfeiriadau nad ydynt yn argyfwng yn amodol ar gael eu rhoi ar
restr aros, ond y nod oedd lleihau'r amser yr oedd unigolion yn dreulio ar
restr aros. ·
Ar
gyfer gofal sylfaenol, roedd yna nod i leihau’r rhestrau aros. Roedd galw ar gynnydd oedd wedi’i gydnabod gan Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru. · Roedd gwaith ar y gweill gyda chlwstwr ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r
Aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. 7 Tachwedd 2019 –
4 eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fyddai nawr yn aros fel y nodwyd. Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cadeirydd i’r cyfarfod ddod i ben am 1.00pm i ganiatáu digon o
amser ar gyfer pob eitem. Cadarnhaodd y Cydlynydd
Craffu bod ffurflen cynnig wedi’i hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu ynglŷn â defnyddio chwynladdwr ar draws y sir. Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Craffu wedi gofyn i’r eitem gael ei chynnwys yn yr eitem ‘Polisïau Cynnal Llain Las a Gwrychoedd Priffyrdd a
Chefnffyrdd y Cyngor ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y pwyllgor ar gyfer y
cyfarfod ar 13 Chwefror 2020. Hefyd
gofynnwyd i’r eitem hon gael ei rhestru fel yr eitem gyntaf ar y Rhaglen. Roedd angen dau
gynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau i fynychu’r Grŵp Monitro
Safonau Ysgol. Cytunwyd mai’r
Cynghorwyr Hugh Irving a Peter Scott fyddai’r cynrychiolwyr. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn
Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm. |