Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Hugh
Irving ac Andrew Thomas Y Cynghorydd
Bobby Feeley (Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth) Nicola Stubbins –
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Gareth Davies gysylltiad personol ag eitemau 5 a 6 gan ei fod yn gweithio
i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 399 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cafodd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu. Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 eu
cyflwyno. Materion yn Codi – Tudalen 9, Eitem 5 Darpariaeth Gorfodaeth
Amgylcheddol – Dywedodd y Cadeirydd bod
dolen i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet fis Medi 2018 ar y ‘Dewisiadau ar
gyfer Gorfodi Rhag Troseddau Amgylcheddol’ wedi’i chynnwys ym Mriff Gwybodaeth
y Pwyllgor (a gylchredwyd ymlaen llaw). PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14
Chwefror 2019 fel cofnod cywir. |
|
YSBYTY DINBYCH Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cynlluniau ar
gyfer darparu gwasanaethau yn Inffyrmari Dinbych yn y dyfodol. 10.10 a.m. – 10.45 a.m. Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Gyfarwyddwr
Gwasanaethau Clinigol – Therapïau a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau
Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i drafod dyfodol
y gwasanaethau yn Ysbyty Dinbych. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyfarwyddwr Rhanbarth: Canol BIPBC (Bethan Jones). Wrth roi’r cyflwyniad darparodd Gyfarwyddwr
Cynorthwyol Gwasanaethau Cymunedol y Bwrdd Iechyd drosolwg bras o gefndir cau’r
ward yn Ysbyty Dinbych, gan gynnwys gwybodaeth am yr archwiliadau a’r arolygon
tân manwl, a’r canlyniadau a arweiniodd at gomisiynu gwaith i ganfod y costau
a’r raddfa amser ar gyfer gwneud y ward yn addas i’r diben eto. Nododd y gwaith hwn wyth dewis posibl ar gyfer dyfodol y gwasanaethau yn yr
ysbyty. Sef: ·
Ailwampio’r
llawr gwaelod a’r llawr cyntaf i ddarparu 14 gwely, a fydd yn costio rhwng £10
ac £11 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd ·
Dymchwel
ac ailgodi’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf i ddarparu 16 gwely, a fydd yn
costio rhwng £11 ac £12 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd ·
Symud
yr Adran Ffisiotherapi i ran arall o’r ysbyty er mwyn creu 4 bae gwely, a fydd
yn costio rhwng £1.2 ac £1.4 miliwn ac yn cymryd oddeutu dwy flynedd ·
Codi
ward 5 gwely newydd rhwng yr Ystafelloedd MacMillan ac adeilad y clinig, a fydd
yn costio rhwng £1.2 ac £1.3 miliwn ac yn cymryd oddeutu 2 flynedd ·
Codi ward
6 gwely newydd, a fydd yn costio rhwng £4.5 a £5 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3
blynedd ·
Dymchwel
y gegin a’r ward uchod a chreu ward 6 gwely newydd, a fydd yn costio rhwng £3.5
a £4 miliwn ac yn cymryd oddeutu 3 blynedd ·
Addasu’r
ystafell wydr wrth ymyl y ward MacMillan yn uned un ystafell wely heb ystafell
ymolchi, a fydd yn costio oddeutu £100,000 ac yn cymryd oddeutu 12 mis ·
Symud
yr ystafell mamolaeth i’r llawr gwaelod, a fydd yn costio rhwng £350,000 a
£400,000 ac yn cymryd oddeutu 12 mis Mae’r dewisiadau hyn yn destun gwaith pellach. Os gwneir penderfyniad, yn dilyn dadansoddiad
manwl o’r dewisiadau, i ail-ddarparu’r ward cyfan yna byddai angen cau’r ysbyty
i gyd er mwyn ymgymryd â’r gwaith. I sicrhau bod digon o
wlâu cymunedol yn yr ardal yn ystod cyfnod y gwaith adeiladu, ni fydd modd
cychwyn y gwaith tan y bydd Ysbyty Gogledd Sir Ddinbych wedi agor. Serch hynny, byddai modd ymgymryd â rhywfaint o waith ar y safle yn y
cyfamser. Mae cynghorwyr sir lleol a Chynghrair
Cyfeillion yr Ysbyty yn awyddus i sicrhau nad yw’r ward yn wag yn y cyfamser
oherwydd y byddai hynny yn lledaenu’r neges anghywir o ran dyfodol y safle.
Felly, mae’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Sir wedi cytuno i leoli aelodau o dîm
Adnoddau Cymunedol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Cyd Ardal Dinbych ar Ward
Lleweni tan y bydd unrhyw waith ailwampio yn barod i’w wneud. Byddai’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn symud i rywle arall cyn i’r gwaith
ddechrau. Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaethau
Cymunedol bod swyddogion y Bwrdd Iechyd wedi cwrdd â Grŵp Ardal Aelodau
Dinbych yn ddiweddar i drafod dyfodol yr ysbyty. Yn ystod y cyfarfod gofynnodd yr aelodau i’r Bwrdd Iechyd ystyried
dewisiadau ehangach ar gyfer y safle gyda Chyngor Sir Ddinbych a sefydliadau
partner eraill. Ers y cyfarfod hwnnw mae’r Bwrdd iechyd
wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o gyllid y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer
gwaith ymchwil i fapio gweledigaeth ar y cyd ar gyfer gwasanaethau iechyd, lles
a gofal cymdeithasol integredig yn ardal Dinbych. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaethpwyd y
sylwadau canlynol gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd – · Mae ystyriaeth wedi’i roi, pan gaewyd Ward Lleweni, i'r posibilrwydd o ail-ddarparu gwlâu ar sail ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AR BROSIECTAU CYFALAF Y BWRDD IECHYD Derbyn cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran cynnydd gyda
phrosiectau cyfalaf yn Sir Ddinbych sy’n ymwneud â Phrosiect Ysbyty Cymuned
Gogledd Sir Ddinbych, Canolfan Iechyd Corwen, Clinig Rhuthun a datblygu’r Timau
Adnoddau Cymunedol. 10.45 a.m. – 11.30 a.m. Cofnodion: Gwahoddwyd
cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i ddarparu’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar gynnydd prosiectau cyfalaf yn Sir
Ddinbych. Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Clinigol – Therapïau gyflwyniad ar gynnydd y gwaith i
ddatblygu Campws Iechyd a Lles ar gyfer gogledd Sir Ddinbych ar ac o gwmpas
safle’r hen Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl. Dywedodd fod Llywodraeth
Cymru wedi cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol y Bwrdd Iechyd ar gyfer y campws
ym mis Ionawr 2019 a bod y Bwrdd bellach yn cymryd y camau terfynol i ddatblygu
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect. Mae hyn yn cynnwys gwirio cadernid a
threfniadau dylunio a thendro'r adeilad a’r modelau gwasanaeth; gyda'r bwriad o
gyflwyno'r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth 2020. Yn
ystod y cyflwyniad disgrifiodd y model arfaethedig ar gyfer gwasanaethau a’i
fudd i’r ardal a’i phreswylwyr, sef – ·
Gwaith
integredig rhwng gofal sylfaenol a chymunedol i gefnogi gofal brys / yr un
diwrnod, a fyddai’n lleihau’r galw ar Adran Frys Ysbyty Glan Clwyd ·
Rhoi’r
gallu i bractisiau clwstwr reoli’r galw am ofal sylfaenol ·
Cynyddu’r
ddarpariaeth sydd ar gael ar ôl 5pm yn yr ardal ·
Gwella’r
cydweithio rhwng partneriaid iechyd, yr awdurdod lleol, y trydydd sector a’r
gymuned drwy wneud y mwyaf o’r adnoddau ac integreiddio a chydleoli timau
amlasiantaeth neu amlbroffesiwn a gwella’r broses o recriwtio a chadw staff ·
Campws
iechyd a lles ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy’n darparu ystod o lwybrau
gofal, o hunanreoli i wlâu gofal cleifion mewnol ·
Gwasanaethau
addysg, gwybodaeth ac atal ·
Ystod
o wasanaethau cleifion allanol symudol gyda phwyslais ar ofal yn agosach at y
cartref a darparu profiad gwell i'r cleifion a lleihau nifer y trosglwyddiadau
i'r ysbyty cyffredinol dosbarth ·
Dull
integredig i gwrdd ag anghenion corfforol ac iechyd meddwl pobl hŷn, gyda
golwg ar leihau’r effaith ar wardiau Ysbyty Glan Clwyd a phwyslais ar adferiad
ac ailalluogi i gynorthwyo annibyniaeth a lleihau’r angen am ofal mwy
sefydliadol ·
Cadw
ac ailwampio adeilad gwreiddiol Ysbyty Brenhinol Alexandra
Er bod hyn wedi
cynyddu costau’r prosiect ac yn gymhleth, roedd ei gynnwys yn y cynlluniau yn
cydnabod pwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol yr adeilad i’r dref. O’r £40
miliwn sydd wedi’i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r campws
cyfan, bydd oddeutu £7 i £8 miliwn yn cael ei wario ar yr adeilad gwreiddiol i
osod systemau gwresogi a thrydanol newydd, i adfer y tu allan ac i ailwampio
rhywfaint o’r tu mewn i wneud lle i staff cymorth a thimau amlasiantaeth megis
y Gwasanaethau Un Pwynt Mynediad a’r Gwasanaethau Iechyd Meddal Plant a’r
Glasoed (CAMHS). Mae statws rhestredig yr adeilad yn cyfyngu ar y dewisiadau ar
gyfer gwaith ailwampio mawr i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd modern yn yr
adeilad. Bydd y campws
newydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r canlynol – ·
Canolfan
ofal yr un diwrnod ·
Clinigau
cleifion allanol ·
Gwlâu
cleifion mewnol ·
Ystafell
therapi mewnwythiennol (ystafell IV) ·
Diagnosteg ·
Gwasanaethau
therapi ·
Gwasanaethau
Deintyddol Cymunedol ·
Gwasanaethau
Iechyd Rhywiol ·
Gwasanaeth
Cleifion Allanol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ·
Canolfan
gymunedol sy’n cynnwys caffi, darpariaeth trydydd sector ac ystafelloedd
cyfarfod i gefnogi’r gymuned leol Cynigiwyd y
dylai’r Bwrdd Prosiect ailffurfio yn y dyfodol agos i fwrw ymlaen â’r achos
busnes terfynol a’i fireinio yn barod ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
fis Mawrth 2020, gyda’r gobaith y bydd yn cael ei gymeradwyo fis Mehefin 2020
er mwyn agor yr adeilad newydd fis Ebrill 2022 a gorffen ailwampio’r hen ysbyty
cyn diwedd 2022. Dyma ymateb
cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i gwestiynau’r aelodau – ·
Bydd
yr achos busnes terfynol ar gyfer yr ysbyty yn cynnwys y gofynion o ran y
gweithlu a’r staffio Gan nad yw’r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 224 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi
ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r
diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.45 a.m. – 12 canol dydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol.
Yn ystod y
drafodaeth – ·
Dywedwyd
fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 23 Mai, sef diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop,
ac felly bydd yn rhaid aildrefnu’r cyfarfod os oes etholiad i fod yn y DU. ·
Cadarnhawyd
eitemau rhaglen cyfarfod mis Mai a chytunwyd i wahodd yr Aelodau Cabinet
perthnasol i’r cyfarfod; hefyd, cadarnhawyd y bydd cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bresennol ar gyfer yr eitem ar Wasanaethau Iechyd
Meddal Plant a’r Glasoed (CAMHS). ·
Gofynnodd
y Cydlynydd Craffu bod ffurflenni cynigion aelodau ar destunau craffu posibl yn
cael eu cyflwyno wythnos cyn cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Craffu ar 25 Ebrill – awgrymwyd y dylid gwahodd yr Heddlu i
gyfarfod craffu er mwyn trafod plismona yn y sir a chytunodd y Cynghorydd
Gareth Davies i gyflwyno ffurflen gynnig mewn perthynas â hynny. ·
Cadarnhawyd
y byddai diweddariad ar Ysbyty Dinbych a phrosiectau cyfalaf eraill y Bwrdd
iechyd, fel y gofynnwyd amdanynt gan y Pwyllgor dan eitemau rhaglen blaenorol, yn
cael eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer mis Rhagfyr. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith
i’r dyfodol fel y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12 canol dydd Cofnodion: Adroddodd y Cynghorydd Rhys Thomas ar Herio Gwasanaeth
Addysg a Gwasanaethau Plant a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol. Dywedodd fod y
cyfarfod yn un da gyda llawer o gwestiynau craff. Roedd y
drafodaeth yn canolbwyntio ar y gyllideb, plant sy'n derbyn gofal a
chyfrifoldebau rhianta’r Cyngor, materion diogelu a lleoedd ysgolion. Bydd cofnodion
manylach y cyfarfod yn cael eu hanfon at aelodau yn y modd arferol. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd Joan Butterfield, cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas bod
y gofyniad i ysgolion wneud arbedion o 2% wedi'i drafod yn y cyfarfod trywydd
ymholi a bod y cyfarfod herio yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfrifoldebau’r
gwasanaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr fod sicrwydd wedi’i roi o ran rheolaeth ariannol
gadarn cyllidebau ysgolion a bod cynlluniau adfer ariannol yn eu lle ar gyfer
yr ysgolion hynny mewn diffyg ariannol. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar. Daeth y cyfarfod i ben am 12.12 p.m. |