Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 322 KB Derbyn Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 02 Mawrth 2017
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 02
Mawrth 2017. PENDERFYNWYD cymeradwyo
a derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 02 Mawrth
2017 fel cofnod cywir. |
|
DATBLYGU CYLLIDEBAU CYFUN IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL. PDF 224 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect – Tîm Cydweithio Rhanbarthol (copi ynghlwm) i
roi diweddariad o’r gwaith Rhanbarthol sydd ar y gweill i ddatblygu
integreiddio a chyllidebau cyfun ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd. 9.35 a.m. -10.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r
adroddiad (a gylchredwyd eisoes) dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau (Cyfarwyddwr Statudol y
Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth y Pwyllgor fod y gwaith o ddatblygu cyllidebau
cyfun rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, o dan gyfarwyddyd Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWRPB), ond megis cychwyn. Er bod Adran 33 Deddf Y Gwasanaeth Iechyd
Gwladol (Cymru) 2006 wedi creu fframwaith deddfwriaethol er mwyn hwyluso’r dasg
o greu cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol cyfun, nid oedd y darpariaethau
hyn wedi eu defnyddio’n eang. O ganlyniad, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau yn Adran 9
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol
i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau penodol, sef: ·
Llety cartref gofal ·
Swyddogaethau cefnogi teuluoedd; a ·
Swyddogaethau a arferir ar y cyd o ganlyniad i asesiad a
gynhaliwyd o dan Adran 14 Ddeddf 2014, neu unrhyw gynllun a baratoir o dan
adran 14A yr un Ddeddf. Os yn addas
gellid sefydlu cyllidebau cyfun hefyd er mwyn cwrdd costau darparu gwasanaethau
iechyd a gofal cymdeithasol eraill ar y cyd. Tra bo'r angen i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau cefnogi teuluoedd
a swyddogaethau a arferir ar y cyd wedi dod i ryw o 6 Ebrill 2016, ni fyddai
cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau llety cartref gofal yn dod yn orfodol
tan 1 Ebrill 2018. Mae cytundebau eisoes yn eu lle er mwyn hwyluso darpariaeth
gwasanaethau cyfun mewn meysydd fel Gwasanaethau Cefnogaeth Integredig I
Deuluoedd, roedd gwasanaeth (Canolog) Gogledd Cymru yn cynnwys Conwy a Sir
Ddinbych. Byddai angen ffurfioli’r arfer hwn mewn cytundeb
cyfreithiol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod gwaith yn
mynd rhagddo ar hyn o bryd i sefydlu pa wasanaethau, y tu allan i’r
gwasanaethau cyllidebau cyfun gorfodol, allai o bosib elwa o ddull gweithredu
cyllidebau cyfun. Tra fo gofyn cyfreithiol ar y Bwrdd Iechyd ac
awdurdodau lleol i ddatblygu cyllidebau cyfun ar gyfer meysydd gwasanaeth
penodol, nid yw sefydliadau eraill yn cael eu heithrio rhag bod yn bartneriaid
mewn cyllideb gyfun. Fodd bynnag, dylid nodi’r gyrrwr ar gyfer
integreiddio a chyllidebau cyfun fel anghenion o fewn Asesiadau Anghenion
Poblogaeth lleol. Mae’r NWRPB wedi sefydlu Grŵp Prosiect
Cyllidebau Cyfun Rhanbarthol i ddatblygu Cytundeb Integreiddio Gogledd Cymru ar
gyfer cymeradwyo’r chwe awdurdod lleol yn y rhanbarth a’r Bwrdd Iechyd. Ar hyn o bryd,
mae’r Grŵp Prosiect a gadeirir gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Sir Ddinbych ac a gefnogir gan swyddog Adran 151 y Cyngor a’r Dirprwy Swyddog
Monitro, yn archwilio nifer o feysydd am eu haddasrwydd ar gyfer trefniadau
cyllidebau cyfun, yn ogystal â hyfywedd cynnwys cyllidebau cyfun cyfredol o
fewn trefniadau ffurfiol yn y dyfodol h.y. storfeydd offer ayb. Roedd opsiynau ar y ffordd orau i gyflawni a llywodraethu 'cyllidebau cyfun’ yn cael eu profi ar hyn o bryd a’u sicrhau o ran safon drwy eu defnyddio gyda meysydd ymrwymo cyllideb llai. Byddai canlyniad yr arfarniad opsiynau hwn yn cael ei gyflwyno i’r NWRPB yn ei gyfarfod ym Mehefin 2017, er mwyn iddo benderfynu ar y ffordd orau i fwrw ymlaen. Byddai angen asesu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol unigolion drwy'r un prosesau â’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd at ddiben cyllidebau cyfun llety cartref gofal. Roedd prosiect peilot ar fin cael ei gynnal yng Ngwynedd er mwyn profi agweddau cyfreithiol trefniadau cyllidebau cyfun llety cartref gofal. Byddai agweddau cyfreithiol yn cael eu profi’n drwyadl er mwyn sicrhau nad oedd un neu fwy o bartneriaid yn gallu gor-ddefnyddio'r gyllideb gyfun er mwyn lliniaru eu pwysau cyllidol eu hunain. Byddai angen sefydlu a rhoi trefniadau llywodraethu cadarn ar waith er mwyn diogelu rhag arferion o’r fath os oedd cyllidebau cyfun i gwrdd eu llawn botensial. Er bod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
BYRDDAU DIOGELU GOGLEDD CYMRU Ystyried
diweddariad ar lafar ar y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma gyda datblygu’r
byrddau diogelu rhanbarthol, a’u gwaith i ddiogelu plant ac oedolion
diamddiffyn yn Sir Ddinbych. 10.30 a.m. – 11.15 a.m. Cofnodion: Yn dilyn
ymholiad y Pwyllgor wedi ystyried
Adroddiad Blynyddol cyntaf y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng nghanol 2016,
rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau adroddiad cynnydd ar lafar ar
nifer o faterion a godwyd gan y Pwyllgor bryd hynny. Dywedodd fod yr adroddiad blynyddol
cyntaf, ers i ddiogelu oedolion gael ei roi ar yr un sail statudol â diogelu
plant, wedi ei gynhyrchu ar y cyd rhwng Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru
(NWSCB) a Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru (NWSAB) a’u gyhoeddi fel un
adroddiad. Fodd bynnag,
yn y dyfodol bydd gofyn ar y ddau fwrdd i gyhoeddi adroddiadau ar wahân. Yn ystod ei
chyflwyniad dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth y Pwyllgor: ·
mai Sir Ddinbych yw’r awdurdod cynnal bellach ar gyfer
swyddogaethau busnes y ddau Fwrdd Diogelu yn ogystal â chyd brosiectau
rhanbarthol gwasanaethau cymdeithasol eraill. ·
Roedd ymgyrch recriwtio wedi bod ar gyfer pob swydd wag. Fodd bynnag,
byddai swyddi gwag wastad yn bodoli ar ryw adeg oherwydd bod staff yn symud
ymlaen. Roedd y casgliad o ymgeiswyr posib yn llai gan fod
swyddi Diogelu yn swyddi arbenigol rhanbarthol a bod angen sgiliau iaith
Gymraeg yn ogystal â sgiliau arbenigol eraill ar eu cyfer. Gallai
recriwtio ar gyfer un swydd arwain o bosib at swydd wag yn rhywle arall. Ar hyn o bryd,
wedi i’r Rheolwr Busnes adael i swydd arall, mae Rheolwr Busnes dros dro mewn
lle nes i ddeiliad swydd barhaol gael ei benodi; roedd cyllid ar gyfer gwaith y
ddau Fwrdd ar gyfer 2016/17 a 2017/18 wedi ei gytuno arno. Fodd bynnag,
mae peth ansicrwydd o safbwynt ariannu yn y dyfodol gan fod gan y Bwrdd beth
arian wrth gefn er mwyn gofalu am unrhyw ddiffygion posib. O 2018 ymlaen
bydd cyfraniadau ariannol sefydliadau partner tuag at gyllid y Byrddau yn cael
eu gosod yn unol â fformiwla a nodir yn y Rheoliadau; ·
Mae gan yr holl grwpiau rhanbarthol ac isranbarthol ayb a
sefydlwyd gan y Byrddau Diogelu gylch gorchwyl penodol. Roedd aelodaeth y
grwpiau hynny yn ddarostyngedig i newid yn seiliedig ar natur y gwaith yr
oeddynt i’w wneud ar unrhyw amser penodol; ·
Gweithiwr gwirfoddol o’r trydydd sector oedd cadeirydd
annibynnol y Grŵp Adolygiad Ymarfer Plant. Gan bod yr unigolyn hwnnw wedi ymddeol yn ddiweddar
byddai rôl y cadeirydd yn cael ei hadolygu; ·
O safbwynt safoni polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau o
ran dewis addysgu yn y cartref roedd y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol o'r farn
nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o gefnogaeth i awdurdodau lleol ac
i'r Byrddau yn y maes penodol hwn o waith. Nid oedd gan y NWSCB bryderon am y plant hynny oedd wedi
eu cofrestru fel ‘disgyblion y dewisir eu haddysgu gartref', roeddynt yn
pryderu am y rheiny nad oedd yn hysbys i'r awdurdodau. Gan sôn am achos trasig
diweddar yn Sir Benfro, gofynnwyd i aelodau adrodd i'r Gwasanaethau
Cymdeithasol am unrhyw achosion yr oeddynt yn pryderu amdanynt, fel rhan o'u
rôl cyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol; ·
Roedd Prif Weithredwr Sir Ddinbych wedi ei benodi fel
Cadeirydd Grŵp Gweithredol Camfanteisio'n Rhywiol Ar Blant; ·
Nid oedd gan NWSAB bwerau i adrodd ar faterion diffyg
cydymffurfio mewn cartrefi gofal i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru (CSSIW) ·
Darparwyd hyfforddiant rheolaidd ar ymwybyddiaeth
gwarchod plant ac oedolion i’r holl staff sy'n dod i gyswllt â
chleifion/cleientiaid, boed yn staff gofal, iechyd, Heddlu neu staff eraill. Darparwyd hyfforddiant
penodol i’r rheiny oedd angen sgiliau penodol mewn maes arbennig; · Nid oedd aelodau Bwrdd yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol am eu rôl ar y Bwrdd, roeddynt yn cael cyflog am eu dyletswyddau cyflogaeth arferol. Dim ond staff Uned Fusnes y Byrddau oedd yn derbyn cyflog. Roedd rhai Aelodau o’r ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn (10.50 a.m.) cafwyd egwyl o 15
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.05 a.m. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 225 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion
perthnasol. 11.15 a.m. – 11.25 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac yn darparu diweddariad ar y materion perthnasol,
wedi ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Roedd copi o
demplad “ffurflen cynnig Aelodau” wedi ei chynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen
Gwaith I'r Dyfodol y Cabinet wedi ei gynnwys fel Atodiad 3, a thabl yn crynhoi
penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac yn cynghori ar gynnydd o safbwynt eu rhoi
ar waith wedi ei atodi yn Atodiad 4. Cadarnhaodd y Pwyllgor ddrafft ei Raglen Gwaith I'r
Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol a chytunwyd ar yr ychwanegiadau
canlynol:- 14 Medi 2017- Trefniadau lleol ar gyfer Cyllidebau Cyfun cyfredol. 02 Tachwedd 2017- Cyllidebau Cyfun Rhanbarthol PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 11.25 a.m. – 11.30 a.m. Cofnodion: Dim adborth Gan taw’r
cyfarfod hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor cyn yr etholiadau llywodraeth leol,
diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu cyfraniad at waith y Pwyllgor yn ystod
ei chyfnod yn y rôl. Dymunodd yn dda i’r
holl aelodau oedd yn ceisio cael eu hail-ethol yn yr etholiadau nesaf a
diolchodd ar ran y Pwyllgor i swyddogion oedd wedi cefnogi gwaith y Pwyllgor
drwy gydol y cyfnod uchod. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m. |