Agenda and draft minutes
Lleoliad: by video conference
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Kelly
Clewett. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfanu ynglŷn ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 481 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022.
Materion yn codi: Darpariaeth Contract Gwasanaethau Gorfodi Amgylcheddol
(argymhelliad ii tudalen 8) – Gofynnodd y Cadeirydd a
oedd yr argymhelliad wedi’i weithredu? Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y
Gwasanaeth wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â’r Tîm Cyfathrebu, gyda’r
bwriad o lunio cynllun cyfathrebu i hysbysu preswylwyr, busnesau, cynghorau
dinas, tref a chymuned am y newidiadau arfaethedig. Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 fel cofnod cywir o’r trafodion. |
|
Cyn
dechrau trafod yr eitem fusnes ganlynol, dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y byddai’r Pwyllgor yn trafod eitem fusnes 5, yn ei swyddogaeth fel
Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn dynodedig y Cyngor, yn unol â Deddf yr
Heddlu a Chyfiawnder 2006, adrannau 19 a 20. |
|
PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL PDF 230 KB Ystyried adroddiad gan Reolwr
y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm), sy’n manylu ar gyflawniad y
Bartneriaeth o ran cyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2021/22 a’i
chynnydd hyd yma o ran cyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr
adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Atgoffodd y Pwyllgor mai dyma adroddiad
blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol - mis Ebrill 2021 i fis Mawrth
2022. Eglurodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio
bod Diogelwch Cymunedol yn cael ei reoli o fewn y gwasanaeth Gwella Busnes a
Moderneiddio, ond eu bod yn gweithio’n agos â nifer o adrannau eraill, gan
gynnwys Gwasanaethau Ieuenctid, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Diogelu ac
ati. Roedd cynllun gweithredu Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn rhan o gynllun rhanbarthol a ddatblygwyd ar
draws Gogledd Cymru, dan arweiniad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Lluniwyd
cynllun ar sail dadansoddiadau blynyddol. Yn lleol, roedd y cynllun yn cael ei
reoli gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych. Cyfeiriodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol at yr
Adroddiad Cryno Perfformiad (atodiad 1), gan amlygu: Blaenoriaeth 1: Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir
Ddinbych trwy weithio mewn Partneriaeth - roedd y statws perfformiad ar ddiwedd
2021/22 yn dderbyniol; Blaenoriaeth 2: Lleihau
aildroseddu - roedd y statws perfformiad ar ddiwedd 2021/22 yn dderbyniol; a Blaenoriaeth 3: Blaenoriaethau
Lleol – roedd y statws perfformiad ar ddiwedd 2021/22 yn dda. Gwelwyd newid ers y
cyfnod adrodd blaenorol yn sgil y cynnydd mewn troseddu ieuenctid a cham-drin/stelcian domestig. Roedd Blaenoriaeth 1 yn
ymwneud â chydweithio â phartneriaid e.e. Awdurdod Gwasanaethau Tân ac Achub
Gogledd Cymru, yr Heddlu, Gwasanaethau Prawf, Iechyd, gyda’r nod o: ·
Lleihau troseddau sy’n
seiliedig ar y dioddefwr; ·
Lleihau Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol; ·
Lleihau cam–drin
domestig a thrais rhywiol a · gweithio gyda chydweithwyr ar gynadleddau ac asesiadau
risg aml asiantaeth i reoli troseddwyr ailadroddus. Blaenoriaeth 2 – y
nod oedd lleihau aildroseddu trwy weithio gyda’r: ·
Gwasanaeth Prawf (oedolion yn aildroseddu); ·
Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc / Gwasanaethau
Ieuenctid; a ·
chydweithio i atal troseddau cyfundrefnol. Blaenoriaeth 3 - Tynnwyd sylw at flaenoriaethau
Lleol a Rhanbarthol yn aml gan aelodau etholedig neu Heddlu
Gogledd Cymru, wrth iddynt dderbyn nifer o alwadau e.e. yn ymwneud ag eiddo
trwyddedig, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ati. Blaenoriaeth 1 – Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir
Ddinbych trwy weithio mewn Partneriaeth. Yn gyffredinol, roedd perfformiad y Bartneriaeth yn
dderbyniol oherwydd y cynnydd
parhaus yn y nifer o ddioddefwyr cam-drin, stelcian
ac aflonyddu domestig a adroddodd am ddigwyddiadau o’r fath. Er bod y cynnydd
canrannol yn ymddangos yn uchel, roedd yr union niferoedd yn isel. Roedd
enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth ar gyfer ymdrin â’r flaenoriaeth hon
yn cynnwys ymgymryd â’r mesurau canlynol: ·
Codi ymwybyddiaeth am
droseddau sy’n seiliedig ar y dioddefwr trwy’r cyfryngau cymdeithasol, mynychu
digwyddiadau a sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar wefannau partner. ·
Arolygon cartref a
busnes a gynhelir gan gynghorwyr lleihau trosedd a Swyddogion Cymorth Cymunedol
yr Heddlu er mwyn helpu atal lladradau. ·
Darparu offer gwella
diogelwch a chyngor atal trosedd (Cloeon/barrau drysau ac ati). ·
Cymryd rhan yng
nghyfarfodydd Cynhadledd misol Asesiad Risg Amlasiantaeth,
gan adolygu achosion dioddefwyr cam-drin domestig a gweithredu cynlluniau
gweithredu. ·
Anfonodd Sir Ddinbych
nifer o ddatganiadau i’r wasg ynghylch cam-drin domestig trwy gydol y flwyddyn
a newidiwyd lliw Pont y Ddraig i ddynodi cefnogaeth yr Awdurdod Lleol ar gyfer
Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2021. Cynhaliwyd gwylnos gyda phartneriaid
yn yr arena ddigwyddiadau yn y Rhyl i ddangos cefnogaeth o ran atal trais. · Hyrwyddwyd llinell gymorth Byw Heb Ofn Cymru Gyfan, a
dderbyniodd 192 galwad gan breswylwyr Sir Ddinbych. Roedd cyfarfodydd gweithgarwch prosiect gydag
asiantaethau partner yn trafod: ·
Caethwasiaeth Fodern; ·
Llinellau Sirol; ·
Rheoli Troseddwyr
Integredig; ·
Cam-Drin Domestig;
ac · Ymgyrchoedd Drinkaware. Blaenoriaeth 2 – Lleihau achosion o aildroseddu. Gwelwyd gostyngiad mewn pobl dros 18 oed yn troseddu, ond cynnydd o ran pobl ifanc. Bu ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL SIR DDINBYCH (CGGSDD) Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf
â’r Pwyllgor ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gwireddu gweledigaeth CGGSDd,
gan wella ei berthynas waith â’r Cyngor a sefydliadau gwirfoddol yn Sir
Ddinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a
Strategaeth Gorfforaethol, Tom Barham, Prif Swyddog
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd),
gan wneud sylwadau ar bwysigrwydd y gefnogaeth a’r berthynas waith gyda
phartneriaid Trydydd Sector er mwyn cyflawni amcanion ar y cyd. Cyflwynodd y Prif Swyddogion adroddiad diweddaru ar waith
CGGSDd dros y 12 mis diwethaf, wrth iddo symud ymlaen
yn dilyn heriau Pandemig y Covid a’r Argyfwng Costau
Byw. Yn ddiweddar, lluniodd CGGSDd
ddatganiad i egluro pwrpas cynghorau gwirfoddol: ‘Mae CGGSDd yn galluogi elusennau a grwpiau cymunedol (Trydydd
Sector) i fod yn fwy effeithiol a chysylltu’n well, gan gydweithio i ddatblygu
Sir Ddinbych sy’n gryf a bywiog’. Dywedodd bod CGGSDd yn elusen
annibynnol sy’n gweithio orau mewn partneriaeth â’r Trydydd Sector a Chyngor
Sir Ddinbych (CSDd), i wella cymunedau Sir Ddinbych
fel galluogwyr sy’n cynghori, hwyluso, ariannu a hyrwyddo’r sector
gwirfoddol. Roedd gan breswylwyr Sir Ddinbych ystod o anghenion a
gafodd eu diwallu yn rhannol gan weithgareddau’r Trydydd Sector. Cefnogodd CGGSDd grwpiau cymunedol ag anghenion o ran: ·
sefydlu, ·
twf, ·
llywodraethu da,
·
partneriaeth,
·
rhwydweithio a dylanwadu, ·
recriwtio staff a gwirfoddolwyr, ·
cael gafael ar gyllid, ·
sgiliau a ·
gallu ymateb yn effeithiol i newid. Roedd y CGGSDd yn rhan o
rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gydag
ystod o adnoddau ar-lein sy’n annog gwaith ar draws y 4 piler: gwirfoddoli,
llywodraethu da, cyllid cynaliadwy ac ymgysylltu a dylanwadu. Canolbwyntir o’r
newydd ar wirfoddoli dros y misoedd nesaf. Caiff y gwaith o asesu a dyrannu rhaglenni grant gyda CSDd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Llywodraeth Cymru
a’r Bwrdd Iechyd hefyd ei reoli gan CGGSDd. Cafodd
bron i 0.25 miliwn o bunnoedd o gyllid, 87 grant eu dyrannu yn Sir Ddinbych y
llynedd. Roedd Llywodraethu yn elfen bwysig o rôl CGGSDd, wrth iddo ddarparu hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chyngor uniongyrchol i grwpiau Trydydd
Sector, gan helpu ffurfio 18 menter gymdeithasol newydd yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Gyda chymorth cyllid gan CSDd,
cyflawnwyd prosiect gan CGGSDd yn 2022 i ganfod
gwytnwch sefydliadau Trydydd Sector ar ôl y Covid. Roedd Adroddiad Ymchwil y Trydydd Sector, Ebrill
2022 yn amlygu: ·
bod 2450 sefydliad Trydydd Sector yn Sir Ddinbych ·
bod 10% o’r holl swyddi yn Sir Ddinbych yn y
Trydydd Sector ·
mai Sir Ddinbych oedd â’r drydedd lefel gwirfoddoli
uchaf yng Nghymru, sy’n cynrychioli 4,700,000 o oriau gwirfoddol ·
bod y sefydliadau hyn wedi dangos gwytnwch yn ystod
Covid, ond eu bod bellach o dan fygythiad oherwydd
cynnydd yn y galw, cyllid tymor byr a chostau gweithredu uwch ·
bod problemau o ran recriwtio, bylchau mewn
sgiliau, technoleg a data. Roedd 52% yn credu y byddai eu sefydliad yn ehangu,
ond dim ond 54% oedd o’r farn eu bod nhw’n gynaliadwy. Gweithiodd CGGSDd gydag ystod o
sefydliadau (tua 250), yn bennaf sefydliadau bach, newydd a rhai sy’n ehangu.
Gellid darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb neu trwy eu cyfeirio at adnoddau
cenedlaethol ynghylch ariannu ac ati. Roedd CGGSDd yn gweithio gyda CSDd yn ôl y Gronfa Ffyniant Gyffredin i wella sut mae
awdurdodau lleol yn comisiynu a chaffael gwasanaethau o’r Trydydd Sector, a
cheisio lleihau rhwystrau caffael sy’n pryderu sefydliadau llai, gan
ganolbwyntio ar yr elfen gwerth cymdeithasol. Roedd ymchwil CGGSDd yn dangos:
·
posibilrwydd o ran gwella perthynas waith â Chyngor
Sir Ddinbych ac ·
awydd ar bob ochr am bartneriaeth, rhwydweithio a
phontio’r bwlch, yn enwedig o ran yr argyfwng costau byw. Dyma enghreifftiau ymarferol o CGGSDd
yn gweithio gyda CSDd: ·
Sefydlu Grŵp Cyswllt Trydydd Sector newydd. ·
Menter Croeso Cynnes / Warm
Welcome a · Cydweithio ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin / Cyfleoedd Trydydd Sector, gan greu rhwydweithiau cymorth ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 235 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (dosbarthwyd
ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor. Dywedwyd
wrth yr Aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd adolygu gwaith y Pwyllgor yn y
dyfodol, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl eitemau a ofynnwyd amdanynt
gan yr Aelodau. Atgoffwyd y Pwyllgor bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau wedi’i drefnu ar gyfer 9 Chwefror 2023. Cyflwynwyd dwy
eitem allweddol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
I.
Gweithio mewn Partneriaeth mewn perthynas ag Iechyd
Meddwl
II.
Prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych. Roedd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 19 Ionawr 2023. Atgoffwyd Aelodau
i lenwi’r Ffurflen Cynnig Testun Craffu (atodiad 2), os oedd ganddynt unrhyw
eitemau i’w cyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu i’w
hadolygu ac/neu eu dyrannu ar gyfer rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor
craffu. Gofynnodd y Pwyllgor i nodyn atgoffa gael ei ddosbarthu i
aelodau ynghylch sut i gynnig eitemau craffu. Penderfynodd y
Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod (i)
gadarnhau ei raglen gwaith i’r dyfodol fel y nodir
yn Atodiad 1 yn yr adroddiad; a (ii) gofynnodd
bod yr holl gynghorwyr yn cael eu hatgoffa o’r broses i’w dilyn ar gyfer cynnig
eitem ar gyfer craffu yn y dyfodol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mynychodd y Cynghorydd Bobby Feeley gyfarfod cyntaf Bwrdd
Prosiect Bwthyn y Ddôl, prif fenter canolfan asesu plant mewn partneriaeth â
Chyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr. Yn anffodus, roedd y prosiect yn cael ei gynnal o lety
dros dro ym Mae Colwyn oherwydd bod y contractwr a benodwyd yn wreiddiol wedi
mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Yn dilyn trafodaeth faith, cafodd contractwr dibynadwy
ei nodi, rhagwelwyd y byddent yn cael eu penodi, wrth aros am gasgliad
gwerthusiad llwyddiannus, ddiwedd yr wythnos ac y byddai’r gwaith adeiladu’n
cychwyn yn y flwyddyn newydd. Penderfynodd y Pwyllgor: dderbyn yr adroddiad ar lafar a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Bobby Feeley ynghylch y trafodaethau a gafwyd yng nghyfarfod
diweddar Bwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl. Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm |