Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

MYFYRIO TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o fyfyrdod tawel.

 

 

PWYNT SYLW

Croesawyd Susan Williams fel aelod newydd o’r Cyngor Ymgynghorol – yn cynrychioli cymdeithasau athrawon – a chyflwynwyd pawb a oedd yn bresennol.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Leah Crimes, Jennie Downes a Tania ap Siôn

 

James Brown, Prif Reolwr Addysg

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chard gysylltiad personol â'r eitem hon fel Llywodraethwr Ysgol Tir Morfa.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 286 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 8 – Eitem 7 Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2020/21 – Yr oedd yr ail newyddlen wedi ei dosbarthu i ysgolion ac yr oedd hefyd ar gael ar rwydwaith lleol athrawon CGM Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CWRICWLWM I GYMRU pdf eicon PDF 96 KB

Derbyn cyflwyniad ar y Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gyflwyniad am Ganllawiau a deunydd hyfforddiant Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) y gall athrawon eu defnyddio i’w cynorthwyo i ddeall a chynllunio cwricwlwm CGM priodol yn seiliedig ar Faes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych.

 

Darparwyd hyfforddiant i athrawon Conwy yn ystod tymor yr hydref, a chafodd ei groesawu, a’r bwriad oedd recordio sesiwn tebyg ar gyfer ei ddosbarthu wedi hynny i athrawon Sir Ddinbych.

 

Yr oedd y meysydd a gwmpaswyd yn y cyflwyniad cynhwysfawr yn cynnwys –

 

·         defnyddio delweddau, gyda llawer o ddarnau jig-so’n cynrychioli’r gwahanol ddarnau i’w rhoi at ei gilydd i gynrychioli’r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd

·         defnyddio’r pedwar diben fel man cychwyn – dysgwyr uchelgeisiol a galluog; cyfranwyr mentrus a chreadigol; dinasyddion egwyddorol, gwybodus; unigolion iach a hyderus – a sut maent yn gysylltiedig â CGM

·         dolenni i Faes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau, y ceir mynediad iddo drwy Hwb a chanllawiau pellach, gan gynnwys Adran 5, Dylunio eich Cwricwlwm, ac ystyriaeth benodol ar gyfer y maes hwn, gan annog dull holistaidd o ddysgu

·         statws cyfreithiol canllaw CGM y cytunwyd arno gan Sir Ddinbych i fod yn Faes Llafur Cytunedig.  Yr oedd CGM yn elfen fandadol o’r pwnc ac yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru; a dolenni i feysydd cefnogaeth eraill ar Hwb

·         prif agweddau yn cwmpasu cynnwys argyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol anghrefyddol; peidio â chaniatáu i blant gael eu tynnu o CGM; rhoi ystyriaeth a newidiadau yn yr iaith, a’r dysgu’n gorfod adlewyrchu’r ffaith bod traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn Gristnogol yn bennaf, gan ystyried y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, a bod ystod o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn cael eu harddel yng Nghymru

·         yr oedd Canllawiau Ategol Sir Ddinbych ar gyfer CGM, sydd ar gael i ysgolion, yn cwmpasu Disgyblaethau CGM, Datblygiad Ysbrydol, CGM a’r pedwar diben, Cysyniadau CGM, lens CGM, a Dilyniant Dysgwyr a Siwrneiau Dysgu CGM

·         wedi hwyluso gêm eiriau (‘wordle’) fel ffordd o ysgogi’r meddwl a thrafodaeth

·         nodau ac amcanion cyffredinol AG yn ôl Polisïau AG

·         cyffredinedd rhwng MDPh y Dyniaethau ac enghreifftiau’n ymwneud ag ystyr Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig

·         Disgyblaethau CGM, gan gynnwys astudiaethau crefyddol, athroniaeth, diwinyddiaeth, cymdeithaseg, seicoleg ac anthropoleg, a chwestiynau mawrion gydag enghreifftiau a fyddai’n ddefnyddiol i’w hymgorffori i’r canllawiau

·         Cysyniadau CGM a sut oeddynt yn ymddangos yn y Maes Llafur Cytunedig ynghyd â nifer o themâu allweddol i’w hystyried fel rhan o’r cwricwlwm hwnnw

·         Lensys CGM a sut oeddynt yn ymddangos yn y Maes Llafur Cytunedig ynghyd â chrynodeb o’r saith lens a datganiadau cysylltiedig ‘Mae’n ymwneud â hyn’

·         enghreifftiau o Siwrneiau Dysgu CGM, gan gynnwys disgwyliad a chynnydd

·         cysyniadau’r Maes Llafur Cytunedig wedi eu croesgyfeirio â’r cysyniadau a nodir yn Natganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig a Disgrifiadau Dysgu MDPh y Dyniaethau

·         cysyniadau a nodir yn y Maes Llafur Cytunedig ond nas cyfeirir atynt yn y Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig na’r Disgrifiadau Dysgu

·         fframweithiau ac enghreifftiau o ddatblygiad ysbrydol

·         manylion pellach am weithgareddau ac adnoddau y gellid eu defnyddio.

 

Diolchodd yr aelodau i’r Ymgynghorydd AG am ei gyflwyniad diddorol, llawn gwybodaeth.

 

Cafwyd ychydig o drafodaeth am y newidiadau sylweddol i ddysgu’r maes pwnc er mwyn darparu cwricwlwm sy’n gyfredol, sy’n addas ar gyfer cymdeithas fodern, ac i adlewyrchu’r gwahanol ddiwylliannau a chredoau mewn cymdeithas ddemocrataidd.  Soniwyd am gymariaethau rhwng y gorffennol a’r presennol, a gwerthoedd a chredoau gwahanol ddiwylliannau a chenedlaethau, sy’n newid dros amser.  Cafwyd ychydig o drafodaeth am faterion proffil uchel ehangach yn y cyfryngau yn ymwneud â phriodasau o’r un rhyw a hunaniaeth rhywedd, a hefyd sut y cefnogir plant mewn ysgolion.  Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd AG at Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) fel elfen fandadol  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CCYSAGC pdf eicon PDF 174 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas, a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022 (copi’n amgaeedig).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd drwy Microsoft Teams ar 16 Tachwedd 2022 (dosbarthwyd ymlaen llaw)

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol –

 

·         Modiwlau Dysgu Proffesiynol – parheid i ddisgwyl am y 5 modiwl cyntaf o adnoddau Llywodraeth Cymru, ond yr oeddynt wedi bod trwy’r broses sicrhau ansawdd.  Er bod siom am yr oedi, yr oedd ansawdd yr adnoddau’n uchel iawn a byddent yn hynod werthfawr i ysgolion.  Disgwylid y byddai’r adnoddau’n cael eu cyhoeddi’n fuan, a gellid eu hystyried gan CYSAG mewn cyfarfod yn y dyfodol.  Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Emrys Wynne, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd AG, er y crybwyllwyd y posibilrwydd o gyhoeddi’r fersiynau Saesneg cyn y rhai Cymraeg, eglurwyd y byddai gwneud hynny yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru a CCYSAGC, ac felly byddai fersiynau’r ddwy iaith yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.

·         Y Wybodaeth Ddiweddaraf ynglŷn ag Estyn – rhannwyd adroddiad am feysydd yn y fframwaith arolygu cyfredol a oedd yn cyfeirio at agweddau o CGM.  Yr oedd Estyn wedi ailddechrau ymweliadau ag ysgolion, a deuid ag adroddiadau arolygu am yr ysgolion hynny a gwmpaswyd yn y ddau dymor blaenorol i gyfarfod nesaf CYSAG ym mis Mehefin 2023, a byddai’r Ymgynghorydd AG hefyd yn rhoi cyflwyniad ar fframwaith arolygu CGM Estyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.

 

 

7.

DYDDIAD Y CYFARFODYDD NESAF

·         Haf – 15 Mehefin 2023

·         Hydref – 17 Hydref 2023

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd dyddiadau cyfarfodydd CYSAG 2023 fel a ganlyn:

 

15 Mehefin (dydd Iau) ac 17 Hydref (dydd Mawrth)

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am.