Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

MYFYRIO TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Meirick Davies, Dominic Oakes a Katie Mason

 

Byddai’r Cynghorydd Emrys Wynne a Sarah Griffiths yn cyrraedd y cyfarfod yn hwyr.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

CYFLWYNIAD AR BWRPAS CYNHADLEDD MAES LLAFUR CYTUNEDIG pdf eicon PDF 164 KB

Derbyn cyflwyniad ar bwrpas cynhadledd maes llafur cytunedig.

 

Cofnodion:

Eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y gofyn i’r awdurdod lleol gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig i drafod mabwysiadu Maes Llafur Cytunedig yn ffurfiol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg bob pum mlynedd.   Rhoddodd gyflwyniad byr ar bwrpas Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig, a oedd yn ymwneud â’r canlynol –

 

·         Roedd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE) yn bwnc a benderfynwyd arno’n lleol, ac roedd y Maes Llafur Cytunedig yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn RVE o fewn pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer yr ysgolion a oedd yn dysgu’r Maes Llafur Cytunedig.

·         Roedd y Canllawiau wedi’u cyfeirio at y rhai sy’n gyfrifol am baratoi Maes Llafur Cytunedig y mae’n rhaid iddynt roi sylw iddo, gan gynnwys y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a’r awdurdod lleol, oedd â swyddogaeth i fabwysiadu’r Maes Llafur Cytunedig.

·         Roedd y Maes Llafur Cytunedig yn ofyniad cyfreithiol i adolygu’r maes llafur ac argymell maes llafur priodol i’r awdurdod ei fabwysiadu.

·         Yn dilyn mabwysiadu Maes Llafur Cytunedig, roedd yn rhaid i bob ysgol a lleoliad a gynhelir roi sylw iddo, gan gynnwys ysgolion o gymeriad crefyddol, wrth fynd ati i gynllunio’r elfen maes llafur cytunedig eu darpariaeth RVE

·         Gallai awdurdod lleol fabwysiadu neu addasu’r Canllawiau fel eu Maes Llafur Cytunedig

·         Mae’r rhaid i’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig sicrhau bod y maes llafur yn adlewyrchu’r ffaith mai (a) traddodiadau Cristnogol yw’r prif draddodiadau crefyddol yng Nghymru, gan hefyd roi ystyriaeth i ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, a (b) bod ystod o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol gan bobl yng Nghymru.

·         Manylu ar gyfansoddiad y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ynghyd â hawliau pleidleisio a gofynnwyd am gytundeb unfrydol ar y maes llafur RVE a argymhellir.

·         Cael gwared â’r hawl i dynnu’n ôl o’r RVE yn y Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022 ar gyfer pob dysgwr hyd at a chan gynnwys blwyddyn 6; o fis Medi 2023 ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8, ac wrth barhau â’r dull graddol o roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul Cam, ar gyfer blwyddyn 9 o fis Medi 2024, ar gyfer blwyddyn 10 o fis Medi 2025 ac ar gyfer blwyddyn 11 o fis Medi 2026.

 

Gan nad oedd unrhyw gwestiynau yn codi gan yr aelodau o’r cyflwyniad –

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ynghylch pwrpas Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig.

 

 

4.

Y MAES LLAFUR CYTUNEDIG NEWYDD pdf eicon PDF 219 KB

Trafod y cyngor fydd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn ei ddarparu’n ffurfiol i’r awdurdod lleol ar fabwysiadu Maes Llafur Cytunedig newydd Sir Ddinbych ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac i roi cyngor ffurfiol i’r awdurdod lleol ar fabwysiadu’r Maes Llafur cytunedig newydd ar gyfer Crefydd, gwerthoedd a Moeseg.

 

Cofnodion:

Fe hwylusodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol drafodaeth ar y cyngor y byddai’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn ei roi’n ffurfiol i’r awdurdod lleol ynghylch mabwysiadu Maes Llafur Cytunedig newydd Sir Ddinbych ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan roi ystyriaeth benodol i fabwysiadu’r Canllawiau RVE fel Maes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych o fis Medi 2022 i fis Medi 2027.

 

Nododd yr aelodau fanteision mabwysiadu’r Canllawiau RVE yn eu cyfanrwydd, fel y Maes Llafur Cytunedig, gan gynnwys: byddai’r hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn berthnasol i’r Canllawiau RVE; byddai cysondeb ar draws llawer o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wrth weithio ar yr un cwricwlwm; cynlluniwyd y Canllawiau RVE i gyd-fynd yn dda â’r cwricwlwm newydd fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ac mae’r Canllawiau RVE eisoes wedi bod drwy’r ymgynghoriadau perthnasol â rhanddeiliaid a phrosesau sicrhau ansawdd, sy’n golygu mae’n debyg na fyddai rhaid cynnal ymgyfreitha posib.   Fe soniodd  yr athrawon a oedd yn bresennol am  ddatblygiad Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau o fewn eu hysgolion ac roeddent yn credu bod y Canllawiau RVE yn cysylltu’n dda o fewn y cwricwlwm ac yn cefnogi’r awgrym y dylid ei fabwysiadu fel y Maes Llafur Cytunedig, a bod cefnogaeth hefyd yn cael ei hadleisio gan aelodau eraill.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Tony Flynn y dylid cynghori’r awdurdod lleol i fabwysiadu’r Canllawiau RVE yn ei gyfanrwydd, fel ei Faes Llafur Cytunedig ac fe’i heiliwyd gan Collette Owen.

 

Roedd y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn cynnwys tri phwyllgor ar wahân, yn cynrychioli (1) Enwadau Crefyddol ac Argyhoeddiadau Athronyddol Anghrefyddol, (2) Cymdeithasau Athrawon, ac (3) yr Awdurdod Lleol, a chyfeiriodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol at y gofyniad i bob pwyllgor bleidleisio ar wahân ar y cynnig.   Yn seiliedig ar bleidlais bob pwyllgor, yn unfrydol –

 

PENDERFYNWYD cynghori awdurdod lleol Sir Ddinbych i fabwysiadu’r Canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel Maes Llafur Cytunedig o fis Medi 2022 i fis Medi 2027.

 

Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i’r aelodau hefyd ystyried y canlynol –

 

·         Roedd CYSAG Conwy wedi nodi’r diffyg cyfeiriad at ôl-16 yn y canllawiau RVE, ond bod cyfeiriad at ôl-16 wedi’i gynnwys fel rhan o’r crynodeb o’r ddeddfwriaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru, yn benodol ar gyfer RVE gan nad oedd bellach yn berthnasol i bob disgybl ôl-16 ddilyn cwricwlwm RVE.   Fodd bynnag, pe bai plentyn yn dymuno, byddai hawl ganddynt o hyd i dderbyn darpariaeth ar gyfer RVE ac awgrymwyd y dylai hawl fod yn amlwg yn y cyngor a roddir i’r awdurdod lleol.   Nodwyd bod CYSAG Conwy wedi cynnig atodiad i’r Maes Llafur Cytunedig, yn ymgorffori’r cyfeiriad at ôl-16 yn y crynodeb o’r ddeddfwriaeth fel canllaw o ran hynny.   Cynigodd y Cadeirydd bod yr un agwedd yn cael ei mabwysiadu yn Sir Ddinbych, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cheryl Williams

 

·         O ystyried y dull graddol o roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul cam, awgrymwyd bod yr awdurdod lleol yn parhau â’r Maes Llafur Cytunedig presennol yn unol â’r dull graddol a hysbysu’r awdurdod lleol fel bo’n briodol.   Cynigodd y Cynghorydd Cheryl Williams y dull hwnnw, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Rachel Flynn.   Oherwydd yr angen i’r Maes Llafur Cytunedig presennol a’r un newydd fod yn hygyrch, y bwriad oedd sicrhau fod modd cael mynediad ato ar wefan Sir Ddinbych ar y dudalen sy’n cynnwys agendâu CYSAG ac ati.

 

Pleidleisiodd pob un o’r tri phwyllgor ar wahân ar y ddau gynnig uchod ac yn unfrydol -

 

PENDERFYNWYD cynghori awdurdod lleol Sir Ddinbych ymhellach i –

 

(a)       gynnwys atodiad i’r Maes Llafur Cytunedig yn ymgorffori’r cyfeiriad at ddarpariaeth RVE ôl-16 fel y manylir yn y crynodeb o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 4.