Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Katie Mason, Sarah Griffiths, Dominic Oakes a’r Cynghorydd Cheryl Williams.

 

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 293 KB

Derbyn a chymeradwyo -

 

(a)  cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 (copi ynghlwm), a

 

(b)  cofnodion Cynhadledd Maes Llafur Cytûn CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 ynghyd â chofnodion y Gynhadledd Maes Llafur a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol).

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022 ynghyd â chofnodion y Gynhadledd Maes Llafur a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 fel cofnod cywir.

 

 

 

5.

MABWYSIADU’R ARGYMHELLION Y CYTUNWYD ARNYNT O’R GYNHADLEDD MAES LLAFUR pdf eicon PDF 8 KB

I drafod y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni argymhellion Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yr eitem ar Fabwysiadu’r Argymhellion y Cytunwyd arnynt o’r Gynhadledd Maes Llafur. Eglurwyd ei bod yn debygol y byddai’r eitem yn dod gerbron y cyfarfod yn yr hydref i’w drafod ac i sicrhau bod ysgolion yn defnyddio'r cwricwlwm.

 

Amlygodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod y rhagair i’r ddogfen yn anghywir ac y byddai angen ei newid. Cytunwyd ymdrin â’r mater gyda’r cadeirydd y tu allan i’r cyfarfod. Eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod y maes llafur gyda’r gwasanaeth cyfieithu, a soniwyd y byddai angen cyhoeddi’r ddogfen ar y wefan pan fydd wedi ei chyfieithu. Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am farn y pwyllgor am wneud y ddogfen yn fwy apelgar cyn ei chyhoeddi, ac roedd y pwyllgor yn hapus i’r ddogfen gael ei newid i dynnu sylw’r darllenydd; ond byddent yn hoffi ei gweld cyn iddi gael ei chyhoeddi.

 

Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

  • Codwyd y mater o Addysg Grefyddol ar ôl 16 oed, dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y byddai myfyrwyr oedd mewn addysg ôl 16 ar hyn o bryd yn cael rhyw fath o Addysg Grefyddol, ond y byddai plant sydd ym mlwyddyn 6 yn cael dewis i barhau ag Addysg Grefyddol ar ôl 16 oed. 
  • Gofynnwyd am iaith Addysg Grefyddol, atebodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y byddai’r addysg ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ar Fabwysiadu’r Argymhellion y Cytunwyd arnynt o’r Gynhadledd Maes Llafur.

 

 

 

6.

YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AR DDATBLYGIAD PROFFESIYNOL pdf eicon PDF 162 KB

I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am restrau chwarae HwB LlC/ CCYSAGC ar CGM.  Hyfforddiant cysylltiedig â chynhadledd y Maes Llafur Cytunedig

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad proffesiynol, ochr yn ochr â’r Prif Reolwr Addysg.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth y pwyllgor nad oedd rhestrau chwarae Hwb Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (cyrsiau dysg ar-lein) ar gael i’w dangos i’r pwyllgor ar hyn o bryd; fodd bynnag, dywedodd fod safon y rhestrau chwarae yn dda.

 

Roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Prif Reolwr Addysg hefyd wedi trefnu hyfforddiant Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg/Addysg Grefyddol i dros 70 o athrawon a phenaethiaid, ac roedd wedi cael croeso positif. Roedd gan yr athrawon hefyd fynediad at ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg/Addysg Grefyddol, a diolchodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i Sir Ddinbych  am eu cymorth gyda’r sesiynau hyfforddi i athrawon. Wrth gloi, dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol bod bwriad i ddosbarthu holiadur i’r athrawon oedd wedi cael hyfforddiant i weld a oeddent yn credu ei fod yn fuddiol.

 

Rhoddodd Leah Crimes (cynrychiolydd athrawon) ddiweddariad i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol o gyfarfod penaethiaid diweddar, gan fod rhai athrawon ar ei hôl hi gyda hyfforddiant Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg/Addysg Grefyddol. Fodd bynnag, y gobaith oedd y byddai’r rhestrau chwarae Hwb yn helpu gyda’r hyfforddiant a chyflwyno’r deunydd.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar  gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol.

 

 

 

7.

CCYSAGC pdf eicon PDF 170 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2022.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol nad oedd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2022 ar gael i’w dosbarthu, ond bod rhan helaeth ohono wedi canolbwyntio ar restrau chwarae’r HWB.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod etholiad ar gyfer aelodau ar CCYSAGC, roedd tair swydd wag a phump o bobl yn ceisio lle ar y pwyllgor. Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gyflwyniadau byr gan bob ymgeisydd cyn i’r pwyllgor ddewis.

 

Cynigiodd y pwyllgor Vicky Barlow, Edward Evans a Dr Louise Brown yn aelodau gweithredol. Cytunodd pob aelod â’r cynigion.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth y pwyllgor fod enwebiadau ar gyfer is-gadeirydd hefyd; fodd bynnag, dim ond dau oedd wedi rhoi eu henwau ymlaen, sef Vicky Barlow ac Edward John Evans.

 

Cynigiodd y pwyllgor Edward John Evans ar gyfer y swydd is-gadeirydd, a chytunodd yr holl aelodau. 

 

PENDERFYNWYD cynnig Vicky Barlow, Edward John Evans a Dr Louise Brown fel aelodau gweithredol a chynnig Edward John Evans fel is-gadeirydd CCYSAGC.

 

 

 

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

·         19 Hydref 2022

 

 

Cofnodion:

Roedd cyfarfod nesaf CYSAG wedi’i drefnu ar gyfer 19 Hydref 2022.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.00am.