Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Emrys Wynne y Cynghorydd Ellie Chard i barhau fel Cadeirydd.  Cytunodd holl aelodau’r Pwyllgor oedd yn bresennol yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD fod y Cynghorydd Ellie Chard yn parhau fel Cadeirydd CYSAG.

 

 

4.

Penodi Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Emrys Wynne Jennie Downes i fod yn Is-Gadeirydd.  Cytunodd holl aelodau’r Pwyllgor oedd yn bresennol yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD fod Jennie Downes yn Is-Gadeirydd CYSAG

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 279 KB

Cael a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Gofynnodd yr Ymgynghorydd AG os oedd gan Aelodau'r Pwyllgor unrhyw aelodau o'r gymuned o gredoau gwahanol a oedd yn dymuno cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac i gadarnhau’r manylion gydag ef.

 

Eglurodd Dominic Oakes mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, dylai ffydd gael ei nodi fel ffydd a chred.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 fel cofnod cywir.

 

 

7.

AGORED CYMRU DYFARNIAD LEFEL 2 MEWN ARCHWILIO BYDOLYGON pdf eicon PDF 23 KB

Cael cyflwyniad gan Libby Jones am y cymhwyster newydd a fydd yn cwrdd â disgwyliadau Maes Llafur Cytunedig yn CA4.

Ystyried y ffordd orau o hyrwyddo'r cymhwyster i Ysgolion Uwchradd lleol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Libby Jones gyflwyniad mewn perthynas â chymhwyster newydd a fyddai’n bodloni disgwyliadau maes llafur cytunedig yng nghyfnod allweddol 4. Roedd y cyflwyniad yn cael ei rannu i aelodau'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Roedd y cymhwyster ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed nad oedd wedi dewis astudiaethau crefyddol ar lefel TGAU.  Roedd yn hygyrch i ddysgwyr o bob gallu.   Roedd y cymhwyster yn unol â’r maes llafur cytunedig presennol.

 

Byddai’r dull byd-olygon yn fwy cynhwysol i bob dysgwr.

 

Cadarnhawyd y byddai Lefel 1 o'r cymhwyster yn dda ar gyfer ysgolion arbennig a dysgwyr gydag anghenion ychwanegol.  Mae wedi cael ei ddatblygu gydag anghenion dysgu ychwanegol dan sylw.

 

Y nod oedd dysgu am Dduw ac i ddysgu am werthoedd a moeseg grefyddol.  Roedd hon yn ffordd mwy cynhwysol o weithio gyda dysgwyr.

 

Yn ystod y drafodaeth, cadarnhaodd aelodau'r Pwyllgor eu cymeradwyaeth a chefnogaeth i’r cymhwyster.   Diolchodd pawb oedd yn bresennol i Libby Jones am ei chyflwyniad.

 

PENDERFYNWYD fod Aelodau CYSAG wedi cadarnhau eu cymeradwyaeth a chefnogaeth i’r cymhwyster.

 

 

 

8.

CYNRYCHIOLAETH DDYNEIDDIOL AR CYSAG pdf eicon PDF 22 KB

Cael cyflwyniad gan Kathy Riddick, Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru, ar Ddyneiddiaeth yng Nghymru. 

 

Cofnodion:

 

Yn anffodus, nid oedd Kathy Riddick, Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru ar Ddyneiddiaeth yng Nghymru, yn gallu mynychu yn sgil salwch.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2020/21 pdf eicon PDF 111 KB

Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol CYSAG 2020-21

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer CYSAG Sir Ddinbych 2021/2022 (wedi'i ddosbarthu eisoes) er cymeradwyaeth a oedd yn rhoi manylion am  weithgareddau CYSAG yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol yn cynnwys y cyngor a roddwyd i’r awdurdod addysg lleol a materion lleol a chenedlaethol eraill.

 

Atgoffodd yr Ymgynghorydd AG yr aelodau fod yr adroddiad blynyddol yn ddogfen hanesyddol a gofynnodd i’r aelodau ei chymeradwyo, yn amodol ar unrhyw gamgymeriadau i’w cywiro.  Rhoddodd grynodeb o’r adroddiad a thynnodd sylw penodol at y canlynol:

·         Cadarnhawyd mewn cofnodion yn y dyfodol, pan grybwyllir "ffydd” dylid nodi “ffydd a chred” a dylai “crefydd" fod yn “crefydd ac athroniaeth”

·         Mabwysiadodd CYSAG Sir Ddinbych y ‘Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer cyflwyno addysg grefyddol i ddysgwyr 3 i 19 ' fel y Maes Llafur Lleol Cytunedig ar gyfer y sir yn 2008.  Y fframwaith hwn yw sail y Maes Llafur cytunedig yn Sir Ddinbych o hyd.

Bydd y Maes Llafur Cytunedig yn cael ei adolygu unwaith i’r canllawiau ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ei gyhoeddi.     

·         Prif swyddogaeth CYSAG yw ‘........cynghori’r awdurdod ar y cyfryw faterion sy’n gysylltiedig ag addoli crefyddol mewn ysgolion sirol a'r addysg grefyddol sydd i'w rhoi  yn unol â maes llafur cytunedig  y bydd yr awdurdod yn ei gyfeirio i'r cyngor neu fel y gwêl y cyngor yn dda'. 

Deddf Diwygio Addysg 1988 a.11 (1) (a).

·         Daeth Estyn ag arolygiadau safon i ben o Fedi 2020-21 i alluogi amser i ysgolion baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yn dechrau ym Medi 2022. Hefyd yn sgil y pandemig, ni wnaeth Estyn gyflawni arolygiadau o fis Mawrth 2020. 

·         Cyfarfu aelodau CYSAG dair gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. 

Cynhaliwyd yr holl gyfarfodydd yn electronig yn sgil y pandemig.   

·         Cyhoeddodd Sir Ddinbych ei newyddlen CYSAG cyntaf ar y cyd â Chonwy, a oedd yn darparu ysgolion gyda newyddion mewn perthynas ag AG/CGM ac roedd yn hynod o bwysig wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. 

·         Roedd aelodau'r CYSAG a’r ALl yn cael eu cynrychioli yn nhri chyfarfod CCYSAGC, ac wedi derbyn rhai o'r cyflwyniadau yr oeddent wedi'u gwneud. 

Parhaodd CYSAG i dderbyn adroddiadau gan gynrychiolwyr a fynychodd gyfarfodydd y Gymdeithas.  Mae cofnodion a phapurau o CCYSAGC hefyd wedi cael eu cyflwyno mewn cyfarfodydd CYSAG.

 

Roedd yr aelodau yn hapus i dderbyn yr adroddiad fel cofnod cywir o waith CYSAG.

 

PENDERFYNWYD bod -

·         Bod Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych 2020/2021 yn cael ei gymeradwyo fel cofnod cywir o waith CYSAG, ac

·         Y dylid gofyn i’r Awdurdod Lleol drefnu bod yr adroddiad yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg a’i ddosbarthu i holl ysgolion a cholegau Sir Ddinbych ac i dderbynyddion eraill fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ac fel y'u dynodir yn yr adroddiad.

 

 

10.

CCYSAGC pdf eicon PDF 171 KB

Cael cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar-lein 16 Mehefin 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG, Phil Lord gofnodion CCYSAGC o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021 (dosbarthwyd yn flaenorol).

 

PENDERFYNWYD bod aelodau CYSAG yn derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGC ar 16 Mehefin 2021

 

 

11.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Gwanwyn ’22 - 1 Chwefror 2022

Haf ’22 - 23 Mehefin 2022

Hydref ’22 - 19 Hydref 2022

 

Cofnodion:

Dyddiad y cyfarfod nesaf fydd:

1 Chwefror 2022

23 Mehefin 2022

19 Hydref 2022

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.