Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Tony Thomas a'r Parchedig Martin Evans-Jones.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd Cynghorwyr eu bod yn lywodraethwyr ysgol.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol gydag Eitem 6 ar y Rhaglen. Eglurodd ei fod yn adnabod aelodau o adran Addysg Grefyddol Ysgol Dinas Brân yn dda iawn. 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Roedd gan Dominic Oakes bryderon o ran sut y dosbarthwyd ei becyn iddo.  Eglurodd o ystyried y pryderon ynglŷn â'r amgylchedd, roedd yn teimlo nad oedd angen y pecyn plastig a byddai amlen bapur yn ddigon y tro nesaf.  Yn dilyn ymlaen o’i bryderon, nododd hefyd faint o bapur oedd yn y pecynnau, gan godi’r cwestiwn a oedd copïau papur yn ofynnol. 

 

Gofynnir i’r holl aelodau fynegi eu dull a ffefrir o dderbyn y Pecyn, naill ai drwy'r post neu dros e-bost.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 366 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2019 (copi’n amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2019 (wedi’u dosbarthu yn flaenorol).

 

Materion yn codi:-

 

Tudalen 9 – Mynychodd y Cynghorydd Ellie Chard CCYSAGC ar 26 Mawrth ac roedd wedi rhannu ei hadroddiad gyda’r aelodau. 

 

Tudalen 12 – Byddai trefniadau Asesu'r Cwricwlwm newydd yn cael eu dosbarthu.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar y cwricwlwm newydd oedd mis Gorffennaf. 

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2019 fel cofnod cywir.

 

5.

ADOLYGIAD ESTYN O ADDYSG GREFYDDOL pdf eicon PDF 113 KB

(a) Ystyried argymhellion o adroddiad Estyn (copi’n amgaeedig), a

 

 (b) sut y bydd CYSAG yn monitro cynnydd ysgolion yn erbyn argymhellion Estyn? (copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych ac Arolygydd Cyfoedion Estyn (HTDHS) Adolygiad Estyn o Addysg Grefyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Gwahoddwyd yr HTDHS i gymryd rhan mewn astudiaeth thematig gyda chylch gwaith i edrych ar ddarpariaeth ac ansawdd Addysg Grefyddol ar draws Cyfnod Allweddol 3. 

 

Yn ystod yr ymweliadau, roedd gan yr arolygwyr gyfle i gyfarfod gyda’r Penaethiaid i ofyn cyfres o gwestiynau, ac yna roedd cyfle i gyfarfod â’r myfyrwyr ac adolygu enghreifftiau o’u gwaith.

 

Safonau – daeth y panel o arolygwyr i'r casgliad bod gan nifer o'r ysgolion safon dda o Addysg Grefyddol.   O ran pontio rhwng Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, roedd ailadrodd yn y gwaith, cafwyd y wybodaeth hon o ddatganiadau'r myfyrwyr. 

Nododd y myfyrwyr bod Addysg Grefyddol yn gymorth iddynt ddeall y gwrthdaro yn y Byd, ac yn gymorth i ddeall pam fod gan wahanol bobl safbwyntiau gwahanol.  Eglurodd HTDHS ei bod yn amlwg yng Nghyfnod Allweddol 3 bod athrawon dosbarth yn galluogi trafodaeth gyda phynciau megis perthnasau ac ati. 

 

Roedd yn amlwg bod Addysg Grefyddol yn dda iawn am ddatblygu sgiliau myfyrwyr, yn enwedig llythrennedd, meddwl a rhesymu. Nid oedd gan Addysg Grefyddol mewn ysgolion bwynt yn diffinio beth y gellir ei astudio. 

 

Darpariaeth – Roedd gan nifer o'r ysgolion staff cymwys i gyflwyno'r pwnc, yng nghyfnod Allweddol 2 a 3.  Ond roedd diffyg gwaith pontio yn golygu bod testunau’n cael eu hailadrodd. 

 

Nododd yr adroddiad bod yr adran mewn ysgolion uwchradd yn aml yn cael eu harwain gan arbenigwr pwnc a oedd â chymhwyster lefel gradd.  Roedd cefnogaeth darpariaeth yn amrywio ar draws yr ysgolion, roedd gan rai ysgolion ddull systematig o ddysgu gyda'r holl adnoddau ar gael ac roedd gan eraill gyfarfodydd wythnosol gydag arbenigwr i sicrhau bod y cwricwlwm yn gywir ac i ofyn am unrhyw ddarpariaethau oedd yn ofynnol. 

 

Cysylltiadau – roedd gan bron yr holl ysgolion cynradd gysylltiadau da gyda sefydliadau ond dim ond lleiafswm o ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 oedd yn ymweld â man crefyddol nad oedd yn Gristnogol.  Codwyd y cwestiwn pa mor aml yr oedd cynrychiolwyr crefyddol yn ymweld ag ysgolion. 

 

 Holodd Dominic Oakes ai llai o gynrychiolwyr crefyddol oedd yn cysylltu â’r ysgolion i ymweld neu ddiffyg gwahoddiadau gan yr ysgolion.  Cadarnhaodd HTDHS mai cyfuniad o'r ddau ydoedd.  Roedd lleoliad yn elfen bwysig, eglurodd bod ysgol uwchradd wedi ymweld â Mosg ym Manceinion unwaith, ond nad ydynt yn gwneud hynny bellach oherwydd rhesymau ymarferol.  Cynigodd y cadeirydd syniad o greu rhestr o leoliadau addoli cymeradwy y gallai ysgolion ymweld â nhw, teimlai y byddai hyn yn annog yr ysgolion i drefnu'r ymweliadau.

 

 

Ansawdd Adborth Athrawon – eglurwyd i’r aelodau bod y wybodaeth yn amrywio ar draws Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Ond roedd yr adborth yn drylwyr. 

 

Aelodaeth – roedd cwricwlwm nifer o’r ysgolion cynradd a bron yr holl ysgolion uwchradd yn cael ei fonitro.  Roedd gan nifer o’r ysgolion uwchradd broses hunanwerthuso o fewn Addysg Grefyddol, byddai gwybodaeth yn cael ei adrodd i’r Pennaeth a fyddai yna’n adrodd i’r Cyrff Llywodraethu. 

 

Dysgu Proffesiynol - Roedd gan nifer o ysgolion fynediad cyfyngedig at hyfforddiant ar gyfer athrawon.  Roedd nifer o’r ysgolion yn ymwybodol o CYSAG ond yn ansicr ynglŷn â’i rôl. 

Roedd llai o gyfleoedd i athrawon Cyfnod Allweddol 3 i gyfarfod â'u cyd arbenigwyr pwnc, ac roedd llai o achosion lle roedd athrawon o Gyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn cyfathrebu i sicrhau pontio da. 

 

Dywedodd Ali Ballantyne gan fod Addysg Grefyddol yn orfodol yng Nghyfnod Allweddol 3, pam nad oedd myfyrwyr yn derbyn lefel, roedd yn teimlo bod y pwnc yn dod yn llai pwysig o  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOL DINAS BRÂN pdf eicon PDF 110 KB

(a)  Ystyried darpariaeth addysg grefyddol yn Ysgol Dinas Bran, ac

 

(b)  Adolygu cynnydd a wnaed gan ddisgyblion yn Ysgol Dinas Bran

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwella Ysgolion (SSIO) adroddiad ar Addysg Grefyddol yn Ysgol Dinas Brân gan y derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Bennaeth a oedd am fynychu'r cyfarfod.

 

Dechreuodd yr SSIO gyda diweddariad byr ar hanes Addysg Grefyddol yn Ysgol Dinas Brân.  Roedd gan Addysg Grefyddol hanes da yn yr ysgol, gyda’r myfyrwyr ym mhob blwyddyn yn derbyn un wers yr wythnos.  Ar ôl hyn, byddai myfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 yn dewis pa lefel o Addysg Grefyddol y maent eisiau ei astudio.

 

Aeth ymlaen i egluro ar hyn o bryd, roedd gan Dinas Brân 59 o fyfyrwyr ar y cwrs TGAU llawn a 145 ar y cwrs TGAU byr, gyda 73 o fyfyrwyr ychwanegol yn astudio'r Arholiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.  Canmolodd yr Adran Addysg Grefyddol gan nodi ei bod yn anffodus nad oedd myfyrwyr eisiau astudio'r pwnc ar gyfer lefel A.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r SSIO am eglurder ynglŷn â'r ffigyrau, holodd a oedd diffyg diddordeb gan unrhyw fyfyriwr ar gyfer y cwrs lefel A neu ai dim ond llond llaw oedd wedi mynegi diddordeb ond na allai'r ysgol gyflawni eu cais. 

Mewn ymateb cadarnhaodd y SSIO y byddai’r cwrs yn derbyn diddordeb gan un neu ddau o fyfyrwyr bob blwyddyn.

 

 Eglurodd y SSIO na fyddent yn gallu derbyn unrhyw ffigyrau o ran nifer y myfyrwyr oedd wedi astudio’r cwrs ac yn parhau i astudio’r cwrs tan tymor yr Hydref, ond eglurodd y byddai’n ceisio ffigyrau dangosol ar gyfer y cyfarfod nesaf.  

 

O safbwynt yr Awdurdod Lleol nododd y SSIO nad oedd unrhyw faterion o ran Addysg Grefyddol yn Ysgol Dinas Brân. 

 

PENDERFYNWYD:  - Bod y pwyllgor yn nodi darpariaeth addysg grefyddol yn Ysgol Dinas Brân. 

 

 

7.

YMGYNGHORIAD AR GWRICWLWM CYMRU pdf eicon PDF 97 KB

Ystyried sut y bydd y cwricwlwm Addysg Grefyddol newydd yn cael ei ddatblygu yn Sir Ddinbych (copi'n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Dominic Oakes bod y grŵp wedi trafod Ymgynghoriad ar Gwricwlwm Cymru yn flaenorol ac fe gynigodd nad oedd y grŵp yn adolygu’r ddogfen gyfan, ond yn derbyn diweddariad wedi’i grynhoi gan SSIO.  

 

Eglurodd y SSIO nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio’n uniongyrchol at Addysg Grefyddol fel pwnc unigol ond yn cyfeirio at y Dyniaethau, y mae Addysg Grefyddol yn un ohonynt.  Eglurodd bod yr awdurdod eisiau edrych ar y cwricwlwm sy'n dehongli hawliau dynol, gwerthoedd a safbwyntiau crefyddol i sicrhau datblygiad cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc.     

 

Roedd y camau cynnydd yn yr adroddiad yn nodi sut roedd y deilliannau cyflawniad yn cael eu datblygu.  Roedd y camau cynnydd yn berthnasol i blant rhwng 4 ac 16 oed. 

 

PENDERFYNWYD:  - Bod y pwyllgor wedi ystyried ac yn nodi sut byddai’r cwricwlwm Addysg Grefyddol newydd yn cael ei ddatblygu yn Sir Ddinbych. 

 

 

8.

SIARTER CONWY pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried bod yr holl ddatganiadau o fewn y siarter yn briodol i ysgolion eu mabwysiadau (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eitem wedi’i thynnu'n ôl.

 

 

9.

Y BERTHYNAS RHWNG CREFYDD A RHYFEL A HEDDWCH MEWN GWERSI ADDYSG GREFYDDOL pdf eicon PDF 110 KB

I ystyried adroddiad ar lafar gan Gadeirydd CYSAG ar rôl ymweliadau’r lluoedd arfog i ysgolion.

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd ei fod eisiau i'r pwyllgor ystyried a oedd materion a godwyd o fewn siarter heddwch arfaethedig y Crynwyr y dylid eu hargymell i ysgolion i'w defnyddio mewn gwersi Addysg Grefyddol.  Yn benodol, nododd a ddylai’r lluoedd arfog gael mynediad at blant mewn ysgolion. 

 

Eglurodd y DEO bod yn rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'r effaith bosibl ar les pobl ifanc o deuluoedd y lluoedd arfog.  Roedd yn teimlo pe trafodir y mater, dylid gwneud hynny gyda gofal. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor i'r cadeirydd am godi mater y lluoedd arfog, gan nodi nad yw'r testun yn cael ei drafod ddigon fel awdurdod. 

Roedd yn teimlo wedi’i ysbrydoli gan hyn a byddai’n codi’r mater mewn pwyllgorau eraill. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bryderon bod CYSAG yn cymryd rôl i hyrwyddo’r siarter heddwch gan nad oedd y rôl o fewn cylch gorchwyl CYSAG ac roedd geiriad rhai rhannau o’r siarter yn ddadleuol.   

 

Gofynnodd y cadeirydd i'r aelodau am eu safbwyntiau ar yr eitem.

 

Nododd y Cynghorydd Tony Flynn fod ganddo gysylltiad personol, roedd wedi ystyried sylwadau’r aelodau ac nid oedd yn teimlo bod y testun yn briodol. 

 

Nid oedd y Cynghorydd Cheryl Williams yn cytuno â hyn chwaith.  Datganodd gysylltiad gan fod aelod o’i theulu yn aelod o'r RAF. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Ellie Chard pe bai'n rhaid gwneud penderfyniad ynglŷn â hyrwyddo’r siarter heddiw, byddai’n pleidleisio’ n ei erbyn.

 

Roedd y Parchedig Brian H Jones yn teimlo pe bai’r eitem yn rhan o’r drafodaeth a’r sgwrs, byddai angen cyflwyno'r ddwy ochr i’r ddadl.

 

Nododd y cadeirydd y datganiadau a wnaed gan yr aelodau.   Cytunodd fod ganddo bryderon ynglŷn ag iaith y siarter heddwch a’i fod yn deall bod angen mwy o waith ar gyfer y drafodaeth. 

 

Nododd y Cynghorydd Emrys Wynne, wrth adolygu'r ddogfen, y byddai'n anodd i CYSAG argymell y siarter heddwch.  Ond nododd bod posibilrwydd ar gyfer sgyrsiau pellach o fewn y Cyngor. 

 

Nododd y cadeirydd safbwyntiau'r aelod ar y testun.

 

PENDERFYNWYD:  - Bod yr aelodau’n nodi’r adroddiad llafar. 

 

 

10.

CCYSAGC pdf eicon PDF 110 KB


(a) Ystyried yr adborth llafar a chofnodion cyfarfod CCYSAGauC Mawrth 2019 i benderfynu ar ffrydiau gwaith CYSAG Sir Ddinbych yn y dyfodol. a;

 

(b) aytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Ellie Chard wedi mynychu cyfarfod CCYSAGC yng Nghaerdydd, nododd ei bod wedi llwyr fwynhau’r diwrnod. 

 

Diolchodd y cadeirydd i’r Cynghorydd Chard am fynychu. 

 

Awgrymodd Ali Ballantyne y byddai’n mynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC .

 

 

11.

RHAGLEN AR GYFER 2020 pdf eicon PDF 8 KB

Bod y CYSAG yn ystyried ac yn cytuno ar ddyddiadau cyfarfod arfaethedig ar gyfer 2019-20.

Cofnodion:

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r dyddiadau ar gyfer holl gyfarfodydd 2020 yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn i’w cymeradwyo ar  2 Gorffennaf.  Ar ôl eu cymeradwyo byddai’n eu dosbarthu i’r aelodau er gwybodaeth.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.57am