Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, FFORDD LLYS NANT, PRESTATYN LL19 9LG

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 163 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd 22 Hydref 2014 (copi ynghlwm). Ac ystyried unrhyw faterion yn codi.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2014 (wedi’u dosbarthu yn flaenorol).

 

Cywirdeb -

 

Tudalen 6, 5. Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2013/14 - Eglurodd Ms M Ludenbach fod absenoldeb data arholiadau ar gyfer Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones o ran 2013 yn ymwneud â Chanlyniadau TGAU yn unig ac nid Canlyniadau Safon Uwch.

 

Materion yn codi -

 

Tudalen 6, 5. Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2013/14 - Cadarnhaodd Ymgynghorydd Her GwE (SL) fod yr Adroddiad Blynyddol wedi'i anfon at CCYSAGC ac roedd wedi ei gynnwys ar eu gwefan.

 

Tudalen 7, 6. Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu - Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her fod llythyrau wedi eu hanfon at yr ysgolion yn eu llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd yn eu Hadroddiadau Arolygu Estyn.

 

Tudalen 9, 8. Addysg Grefyddol a Chymunedau Lleol - Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her fod dyddiadau wedi eu cytuno erbyn hyn i gyfarfod i drafod agweddau ymarferol o drefnu sesiynau ar gyfer Cydlynwyr Addysg Grefyddol.

 

PENDERFYNWYD y dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo Cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2014  fel cofnod cywir.

 

 

5.

DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU pdf eicon PDF 73 KB

Derbyn dadansoddiad o Adroddiad Arolwg diweddar gan Estyn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Her adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dadansoddi canlyniadau'r Arolygon Estyn diweddar o ran darpariaeth Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn pedair ysgol rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2014.  Roedd arolygon wedi eu cynnal yn Ysgol Uwchradd Prestatyn; Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Borthyn; Ysgol Penmorfa ac Ysgol Pendref.

 

Rhoddwyd crynodeb byr i’r aelodau o'r canfyddiadau'n ymwneud â phob ysgol a nododd yr aelodau y sylwadau a’r deilliannau cadarnhaol.  Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her yn benodol at y canlynol:-

 

  • Roedd cyfeiriad pendant o dan ofal, cymorth ac arweiniad at addysg grefyddol a gweithio ar y cyd a oedd wedi bod yn gadarnhaol iawn.
  • Roedd dadansoddiad wedi ei gynnal gan CCYSAGC ar y sylwadau ar gyfer darpariaeth Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol (YMCD), addoli ar y cyd ac addysg grefyddol ar draws y 22 Awdurdod.  Amlinellwyd manylion y canrannau a ddarparwyd ac eglurwyd bod llythyr wedi ei anfon oddi wrth CYSAG yn y De at Estyn gan gyfeirio at ddyletswydd CYSAG i roi sylwadau ar ansawdd, nid dim ond y ddarpariaeth ar gyfer YMCD.   Roedd Estyn wedi hynny wedi dosbarthu llythyr cryf i Arolygwyr yn amlygu pwysigrwydd YMCD yn y cwricwlwm, a theimlwyd bod hyn yn ganlyniad cadarnhaol.  Tynnwyd sylw at arwyddocâd y system ar gyfer adrodd ar addoli ar y cyd pan nad oedd yn cael sylw hefyd.
  • Cyfeiriwyd at weithio mewn partneriaeth, gan gyfeirio'n benodol at y berthynas rhwng Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Borthyn a'r Eglwys leol.  Eglurwyd y byddai cais yn cael ei wneud i Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Borthyn roi cyfraniad tuag at yr astudiaeth achos.
  • Atgoffodd yr Ymgynghorydd Her yr Aelodau fod y ddogfen astudiaeth achos wedi ei chreu ar gyfer yr eglwys a sefydliadau grwpiau ffydd eraill, yn ogystal ag ysgolion, i annog a hyrwyddo perthnasoedd gyda'r cymunedau lleol.        

 

PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

6.

CANLYNIADAU ARHOLIADAU 2013 pdf eicon PDF 63 KB

Ystyried adroddiad yn dadansoddi canlyniadau arholiadau ar gyfer 2013.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Her yr Adroddiad Crynodeb o Ganlyniadau Arholiadau 2013-14 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn cynnwys manylion am:-

 

-        TGAU Astudiaethau Crefyddol - Cwrs Llawn.

 

Ymatebodd Ms M. Ludenbach i gwestiwn gan Mr D. Oakes a chadarnhaodd fod gan Ysgol y Bendigaid Edward Jones Ganlyniadau Cwrs Llawn.  Eglurodd yr Ymgynghorydd Her ei fod wedi cynnwys yr holl ganlyniadau a ddarparwyd gan Ysgol y Bendigaid Edward Jones, a chytunodd i gysylltu â'r ysgol i ofyn am ragor o wybodaeth.

 

Mynegodd Mr Oakes bryder ynghylch y gostyngiad yn y niferoedd yn Ysgol Brynhyfryd.  Eglurodd yr Ymgynghorydd Her nad oedd unrhyw wybodaeth bellach wedi dod i law oddi wrth yr ysgol.

 

Eglurodd Mr G. Craigen ei fod wedi ei arwain i gredu bod y cofrestriad cyfrwng Cymraeg wedi cael problemau o ganlyniad i faterion staffio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Ms M. Ludenbach, amlinellodd yr Ymgynghorydd Her y broses ar gyfer cael data a thynnodd sylw at y problemau a gafwyd wrth gasglu gwybodaeth, oedd wedi arwain at anawsterau wrth gasglu ystadegau.  Roedd Ysgolion a’r Awdurdod Lleol yn defnyddio “Fischer Family Trust” er mwyn gallu dadansoddi’r data ymhellach yn yr ysgolion ac ar draws yr ysgolion.

 

-        TGAU Astudiaethau Crefyddol - Cwrs Byr.

 

Mynegodd Mr D. Oakes bryder ynghylch y gwahaniaeth rhwng ffigurau mynediad yr Awdurdod Lleol a ffigurau mynediad Cymru gyfan ar gyfer disgyblion.  Eglurodd yr Ymgynghorydd Her fod y data a ddarparwyd gan CBAC wedi amlygu cynnydd sylweddol mewn Cyrsiau Llawn dros y tair blynedd diwethaf.  Rhoddodd hefyd fanylion y canfyddiad yn y gwahaniaeth o ran gwerth Cwrs Llawn a Chwrs Byr yng Nghymru a Lloegr, o ran achrediad gan Brifysgol.

 

Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd, awgrymodd Mr Oakes y dylid cyflwyno sylwadau ynghylch y pryderon a godwyd gan Aelodau CYSAG ynghylch statws Addysg Grefyddol Statudol.  Amlygodd yr Arweinydd Systemau y symudiad yn ôl at ddysgu seiliedig ar wybodaeth, a fabwysiadwyd yn Lloegr, heb unrhyw gyfeiriad at faterion megis gwneud penderfyniadau moesol.  Cadarnhaodd fod y dull gweithredu gan CBAC yng Nghymru wedi bod yn fwy ffafriol mewn perthynas â chynnwys y cyrsiau, ac roedd proses ymgynghori wedi digwydd.

 

-        TAG Astudiaethau Crefyddol – Safon Uwch.

 

Cytunodd yr Ymgynghorydd Her i archwilio cywirdeb y canlyniadau Safon Uwch a ddarparwyd mewn perthynas ag Ysgol y Santes Ffraid.

 

Dywedwyd wrth Aelodau CYSAG nad oes gan Ysgol y Bendigaid Edward Jones chweched dosbarth mwyach.  Fodd bynnag, mae cyrsiau Addysg Grefyddol yn cael eu darparu yn Ysgol Uwchradd Prestatyn gydag opsiwn hefyd yng Ngholeg y Rhyl.

 

-        Cymariaethau Canlyniadau â Chyfartaledd Cenedlaethol (Cwrs Llawn A * - C) (Cwrs Byr A * - C).

-        Cymariaethau Canlyniadau â Chyfartaledd Cenedlaethol – Safon Uwch.

-        Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol.

-        Canlyniadau TGAU 2014:  Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol.

-        Canlyniadau TGAU 2013:  Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol.

-        Canlyniadau TGAU 2014:  Pob Cwrs Byr Addysg Grefyddol.

-        Canlyniadau TGAU 2013:  Pob Cwrs Byr Addysg Grefyddol.

-        Canlyniadau TAG Safon Uwch 2014: Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol.

-        Canlyniadau TAG Safon Uwch 2013: Pob cwrs Astudiaethau Crefyddol.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn derbyn a nodi’r adroddiad Crynodeb o Ganlyniadau Arholiadau 2013-14 yn amodol ar yr uchod.

 

7.

GWYBODAETH DATA pdf eicon PDF 74 KB

Derbyn cyflwyniad PowerPoint a grëwyd gan CBAC ar gyfer cyfarfod CCYSAGC yr Hydref.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Her y cyflwyniad PowerPoint a grëwyd gan CBAC, Astudiaethau Crefyddol: Adborth Data, ar gyfer y cyfarfod CCYSAGC ar 26 Tachwedd 2014.  Roedd y cyflwyniad wedi ystyried newidiadau pwysig yn y tueddiadau o ran arholiadau Astudiaethau Crefyddol, a chyfeiriwyd yn arbennig at yr anghysondebau rhwng y ddarpariaeth yng Nghymru a Lloegr.

 

Darparodd yr Ymgynghorydd Her grynodeb manwl o gynnwys y cyflwyniad oedd yn cynnwys y materion canlynol, a materion a godwyd gan aelodau CYSAG:-

 

  • Astudiaethau Crefyddol TGAU: Manyleb A a Manyleb B.
  • Adborth TGAU ar y 3 blynedd diwethaf.
  • Proffil lefel mynediad cyfunol UG/Safon Uwch y 3 blynedd diwethaf.

Cyfeiriodd Aelodau CYSAG at y ffaith fod y rhaniad cyfartalog, ar lefel UG/Safon Uwch, â gogwydd at ferched yn bennaf. 

  • Adborth TAG Lefel UG ar y 3 blynedd diwethaf.

Cyfeiriodd Mr D. Oakes at y ffigyrau lefel Safon Uwch ar gyfer Cristnogaeth a ddarparwyd ar Dudalen 46 a gofynnodd a oedd myfyrwyr yn cael Addysg Grefyddol o ffynonellau neu ddarparwyr eraill.  Awgrymodd yr Ymgynghorydd Her y gallai fod rhagfarn gan yr athro wrth ddewis unedau i gael eu haddysgu mewn ysgolion, a chyfeiriwyd at argaeledd darpariaeth mewn rhai ysgolion Sir Ddinbych. 

 

Awgrymodd Mr Oakes fod sylwadau yn cael eu gwneud gan CYSAG yn mynegi’r farn y teimlwyd bod Crefydd a Moeseg ac Athroniaeth Crefydd yn parhau fel unedau ar wahân.  Eglurodd yr Ymgynghorydd Her fod y broses ymgynghori wedi dod i ben yn Lloegr.  Fodd bynnag, gallai'r cyfle godi o hyd yng Nghymru drwy CBAC a chytunodd i ddarparu ymateb i annog eu cadw fel unedau ar wahân.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr Craigen ynglŷn â dilysrwydd cyrsiau yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol, eglurodd yr Ymgynghorydd Her ei fod ar ddeall y byddai dyletswyddau statudol gwahanol iawn yng Nghymru a Lloegr gyda CBAC yn cynnig y dyletswyddau hynny yng Nghymru.   

  • TAG Safon Uwch.
  • Unrhyw Gwestiynau?

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)  derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys, a

(b)  bod Arweinydd Systemau GwE yn darparu ymateb gan CYSAG er mwyn annog cadw Crefydd a Moeseg ac Athroniaeth Crefydd fel unedau ar wahân.

 

 

8.

TREFNIADAU CYSAG A CHONSORTIA pdf eicon PDF 75 KB

Derbyn adborth gan CCYSAGC ar sut gallai Aelodau gefnogi gwaith CYSAG.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd yr Ymgynghorydd Her fod CCYSAGC wedi adrodd yn ôl ar ganlyniadau trafodaethau Aelodau ar sut y gallant fod yn fwy o ran yn rôl CYSAGau lleol.  Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu rhai o’r ymatebion a chanfyddiadau ar sut i gefnogi CYSAGau wrth iddynt geisio cefnogi a monitro Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd yn eu hysgolion lleol.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Systemau grynodeb manwl o'r cyflwyniad PowerPoint a ddosbarthwyd gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod, gan grynhoi’r cwestiynau, fel y nodir isod, a'r ymatebion a gafwyd:-

 

·       Sut gall aelodau gyfrannu at waith CYSAGau?

·       Sut gallwn sicrhau presenoldeb rheolaidd o bob grŵp?

·       Sut gallech chi berswadio pobl i ddod yn aelod o CYSAG?

           Awgrymodd Ms S. Harris benodi Swyddog y Wasg.

·       Sut gallwn fonitro Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd?

·       Sut gallwn ni gefnogi ysgolion i gyflwyno Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd da?

·       Sut gallwn ni sicrhau bod ALl yn cefnogi CYSAGau?

Cyfeiriodd Mr D. Oakes at ystyriaeth sy’n cael ei rhoi i gyfarfodydd CYSAG yn cael eu cynnal mewn ysgolion.  Cytunodd yr Ymgynghorydd Her i gysylltu â'r ysgolion perthnasol ynglŷn â'r awgrym.  Awgrymodd Mr G. Craigen fod Adran Addysg Grefyddol yr ysgol letyol yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad yng nghyfarfod CYSAG.  Dywedodd Ms H. Pearson wrth yr Aelodau y byddai Ysgol Llewellyn, y Rhyl yn hapus i gynnal cyfarfod CYSAG.  Eglurodd y Cadeirydd y byddai'r amserlen ar gyfer holl gyfarfodydd y Cyngor sydd ar ddod yn cael eu hystyried yn y Cyngor Sir.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)  y bydd yr Ymgynghorydd Her yn ysgrifennu at ysgolion gyda'r bwriad o gynnal cyfarfodydd CYSAG ar y safle yn yr ysgolion, a

(b)  derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

9.

AG A CHYMUNEDAU LLEOL pdf eicon PDF 61 KB

Derbyn diweddariad ar lafar ynghylch y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her ddiweddariad ar lafar ar y prosiect i gefnogi ysgolion sy’n gweithio gyda'u cymunedau crefyddol lleol, ac eglurodd, er nad oedd nifer yr ymatebion a gafwyd mor uchel â'r disgwyl, roedd nifer digonol wedi ei sicrhau.  Roedd y rhan fwyaf o astudiaethau achos a gafwyd wedi bod yn seiliedig ar Gristnogaeth ac roedd neges e-bost pellach wedi ei dosbarthu yn gofyn am fanylion a gwybodaeth bellach yn ymwneud â chymunedau ffydd eraill yn yr ardal.  Dywedwyd wrth yr Aelodau fod niferoedd digonol wedi eu cael i'w cynnwys yn yr astudiaethau achos.

 

Cyfeiriwyd at ymatebion a gafwyd mewn perthynas â gweithgarwch Ysgolion Uwchradd a oedd yn golygu teithio i ardaloedd fel Manceinion a Lerpwl, a theimlwyd bod gweithgarwch o'r fath wedi eu cynnwys yn y prosiect gan ei fod yn adlewyrchu gweithgarwch yn y Gogledd.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her at gyfarfod CCYSAGC sydd ar ddod, i gael ei gynnal gan Sir y Fflint, a fyddai'n cynnwys eitem ar y rhaglen ar gyflwyno'r achos ar gyfer gweithio gyda chymunedau lleol, ar y cyd â San Silyn Wrecsam a’u darpariaeth ar gyfer ysgolion lleol.  Tynnodd yr Ymgynghorydd Her sylw at y gwahaniaeth yn y ddarpariaeth rhwng y Gogledd a'r De, ac roedd yn teimlo y byddai'r cyflwyniad yn gofyn am gyd-destun ehangach o’r gwahanol grefyddau.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, eglurodd yr Ymgynghorydd Her y dylai'r ddogfen gael ei chwblhau a'i dosbarthu i ysgolion ar ddechrau tymor yr haf, ac yna ei chyflwyno i gyfarfod CCYSAGC yn Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar lafar ar y prosiect Addysg Grefyddol a Chymunedau Lleol, a nodi’r sefyllfa.

 

 

10.

CCYSAGC pdf eicon PDF 75 KB

(a)  Derbyn cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014 (copi ynghlwm)

(b)  Cytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC ar 6 Mawrth, 2015 yn Sir Benfro.

(c)  Er Gwybodaeth - 25 Mehefin, 2015 Sir y Fflint yn cynnal CCYSAGC a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a) Cofnodion CCYSAGC – 2 Gorffennaf 2014

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ym Mhont-y-pŵl ar 26 Tachwedd 2014 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau.

 

PENDERFYNWYD - derbyn cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014.

 

(b) Cyfarfod CCYSAGC - 6 Mawrth 2015

 

Dywedodd yr Arweinydd Systemau y bydd cyfarfod nesaf CCYSAGC yn cael ei gynnal ar 6 Mawrth 2015 ym Mhont-y-pŵl a chadarnhaodd y byddai ef yn mynychu ar ran CYSAG Sir Ddinbych. 

 

(c) CCYSAGC a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC - 25 Mehefin 2015

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her y byddai Sir y Fflint yn cynnal CCYSAGC a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CCYSAGC ar 25 Mehefin 2015, a chadarnhaodd y byddai'n mynychu.  Cytunodd yr Aelodau y bydd Mr Dominic Oakes hefyd yn bresennol yn y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD - bod yr Ymgynghorydd Her a Mr Dominic Oakes yn mynychu CCYSAGC a chyfarfod cyffredinol blynyddol CCYSAGC nesaf ar 25 Mehefin 2015.

 

 

11.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nodi amser a dyddiad cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych ar y 29 Mehefin 2015. Lleoliad i'w gadarnhau.

 

 

Cofnodion:

29 Mehefin 2015 mewn lleoliad i'w gadarnhau.     

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am.