Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, FFORDD CHURTON, Y RHYL LL18 3DP
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O WYBODAETH Yn absenoldeb y
Cadeirydd - Y Parchedig Martin Evans-Jones, llywyddodd yr Is-Gadeirydd - y
Cynghorydd Arwel Roberts yn ystod y cyfarfod. |
|
MYFYRDOD TAWEL Dechreuodd y
cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Parchedig
Martin Evans-Jones (Cadeirydd), Ms Ali Ballantyne, Mrs Cate Harmsworth, Mr
Dominic Oakes a'r Cynghorydd Dewi Owens. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 108 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 14 Chwefror
2014 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd
ar 14 Chwefror 2014 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol). Materion yn Codi - Tudalen 7 - Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu,
penderfyniad (c) - Dywedodd yr Arweinydd Systemau GwE fod yr holiadur i
ysgolion ynghylch cysylltiadau i eglwysi wedi cael ei ohirio tra'n aros
canlyniad y ddadl ar y posibilrwydd o greu adnodd i annog cysylltiadau agosach
rhwng ysgolion a grwpiau ffydd dan eitem 7 ar y rhaglen. Y gobaith oedd y
gallai'r mater hwn gael ei ddatblygu ar y cyd ag awdurdodau lleol Conwy a Sir y
Fflint. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror,
2014 fel cofnod cywir. |
|
ARAITH GAN HUW LEWIS I’R CYNGOR ADDYSG GREFYDDOL (CAG) PDF 87 KB Derbyn y
trawsgrifiad o araith a roddwyd i'r CAG yn y Gynhadledd Flynyddol yng
Nghaerdydd gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis (copi wedi ei amgáu). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Systemau GwE y trawsgrifiad o araith a roddwyd i'r Cyngor Addysg
Grefyddol (REC) yn y Gynhadledd Flynyddol yng Nghaerdydd ar 7 Mai 2014 gan y
Gweinidog Addysg Huw Lewis. Roedd y Gweinidog Addysg wedi noddi'r
digwyddiad a rhoddodd araith agoriadol a oedd yn darparu mewnwelediad pwysig i
ddealltwriaeth y Gweinidog a’i ystyriaeth ar gyfer Addysg Grefyddol. Croesawodd yr
Arweinydd Systemau yr araith a’r sylwadau cadarnhaol roedd y Gweinidog wedi’u
gwneud mewn perthynas ag Addysg Grefyddol. Roedd
rhan gyntaf yr araith wedi canolbwyntio ar bolisi addysg ac wedyn cyfeiriwyd at
sut gwelodd y Gweinidog Addysg Grefyddol fel rhan o'r rhaglen ddiwygio. Roedd
llawer o'r sylwadau a gafwyd yn adroddiad Estyn ar Addysg Grefyddol ym Mehefin
2013 hefyd wedi eu hadlewyrchu yn araith y Gweinidog. Soniwyd
yn benodol am bwysigrwydd Addysg Grefyddol a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i
gwricwlwm yr ysgol. Byddai Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGC)
yn gwneud defnydd o rai o sylwadau'r Gweinidog i gefnogi eu gwaith ac roeddent
wedi diolch iddo am ei araith. Roedd Mr Gavin
Craigen yn bresennol yn ystod yr araith yn y REC a chadarnhaodd ei fod wedi bod
yn gyflwyniad cadarnhaol iawn â datganiadau penodol wedi’u gwneud am Addysg
Grefyddol. Roedd y Gweinidog hefyd wedi gwahodd ymatebion i’r
adolygiad o'r cwricwlwm sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru a byddai'r REC
yn cynnwys Cymdeithas CYSAGau Cymru yn yr ymateb hwnnw er mwyn sicrhau ei bod
yn briodol i Gymru hefyd. Roedd yr Athro Graham Donaldson wedi cael
ei benodi i arwain adolygiad a oedd yn cynnwys y Cwricwlwm Sylfaenol, a oedd yn
cynnwys Addysg Grefyddol. Roedd yr Athro Donaldson yn y broses o
gwrdd â'r gymuned AG yng Nghymru ar gyfer ymgynghori penodol. Roedd y Cyngor
Ymgynghorol yn falch o dderbyn a nodi'r araith a oedd yn cydnabod pwysigrwydd
Addysg Grefyddol a'i gyfraniad mewn ysgolion a chymdeithas. Roedd
yr aelodau hefyd yn falch o nodi’r cyfleoedd i'r gymuned Addysg Grefyddol i
ymateb i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad o'r cwricwlwm. PENDERFYNWYD:- (i)
derbyn y trawsgrifiad o’r araith a'i nodi,
a (ii)
Diolch i'r gweinidog am noddi'r digwyddiad ac
am baratoi a chyflwyno’r araith. |
|
AG A CHYSYLLTIADAU CYMUNEDOL DA PDF 79 KB Derbyn adroddiad
a gomisiynwyd gan 'Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar AG’ San Steffan ynghylch
Addysg Grefyddol a chysylltiadau cymunedol da (copi wedi ei amgáu). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau GwE adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) a gomisiynwyd gan 'Grŵp Seneddol Hollbleidiol
ar Addysg Grefyddol’ o San Steffan ynghylch Addysg Grefyddol a chysylltiadau
cymunedol da. Roedd ffocws y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Addysg Grefyddol ar
ddiogelu darpariaeth AG mewn ysgolion ac yn archwilio sut y gall y pwnc barhau
i ddarparu dimensiwn gwerthfawr i addysg pob plentyn a pherson ifanc. Dywedodd yr Arweinydd Systemau fod yr adroddiad yn
gadarnhaol iawn ac yn amlygu’r themâu a drafodwyd gan CYSAG Sir Ddinbych. Tynnodd sylw arbennig yr aelodau at
dudalennau 24 a 25 o'r adroddiad yn ymwneud â thystiolaeth a chanlyniadau
dymunol a chyfranogiad CYSAGau wrth gefnogi dysgu y tu allan i'r ystafell
ddosbarth a chefnogi ysgolion yn y defnydd o ymwelwyr i ystafelloedd dosbarth. Cyfeiriwyd hefyd at y gwahaniaethau yng
Nghymru a Lloegr gyda Chymru yn mabwysiadu dull mwy rhagweithiol yn y ffordd
mae CYSAGau yn gweithio gyda'i gilydd i rannu syniadau, cyflwyniadau a hyrwyddo
arfer gorau. Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei aelodaeth o Grŵp Monitro Safonau Ysgolion
Sir Ddinbych ac roedd yn falch o ddweud bod y mwyafrif o ysgolion yn sôn am
ymweliadau a wnaed i eglwysi a chapeli. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. |
|
GWEITHIO GYDA CHYMUNEDAU CREFYDDOL PDF 88 KB Trafod y
posibilrwydd o CYSAG yn creu adnodd i annog cysylltiadau cymunedol agosach
rhwng ysgolion a grwpiau ffydd. Cofnodion: Hwylusodd yr Arweinydd Systemau GwE drafodaeth ar y posibilrwydd o CYSAG yn
creu adnodd i annog cysylltiadau cymunedol agosach rhwng ysgolion a grwpiau
ffydd. Er ei fod wedi awgrymu i ddechrau cael 'grŵp
llai' i ddatblygu'r adnodd hwn, yn hytrach roedd CYSAG Sir y Fflint wedi
penderfynu llunio astudiaeth achos o arfer da o ran roedd ysgolion a'r gymuned
grefyddol yn rhyngweithio â'i gilydd.
Cytunwyd i gysylltu ag
ysgolion a chyrff crefyddol i ofyn am astudiaeth achos ac i ddewis yr
enghreifftiau gorau i rannu arfer da ar draws yr ysgolion a'r gymuned
grefyddol. Teimlwyd y byddai'r opsiwn hwn yn gwneud gwell
defnydd o adnoddau a byddai'n haws i’w hwyluso na 'grŵp llai'. Y gobaith
oedd cyfuno astudiaethau achos o Gonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint mewn un
adnodd. Os cytunwyd ar yr opsiwn hwn byddai costau
cyfieithu tua £400 - £500 ac awgrymwyd gofyn i sefydliadau eglwysig ar draws y
tri awdurdod am gyfraniad ariannol i gwrdd â'r gost. Rhoddodd yr
Aelodau enghreifftiau o arfer da presennol a rhyngweithio rhwng ysgolion, cyrff
crefyddol a'r gymuned ehangach, gan roi sylwadau fel a ganlyn - ·
Cadarnhaodd
Mrs Sylvia Harris bod ymweliadau â’r eglwys gadeiriol yn parhau gan ysgolion a
bod llawer yn manteisio ar hyn. Cyfeiriodd hefyd at Brosiect Drysau Cysegredig a oedd yn fenter dwristiaeth
yn gweithio gydag eglwysi a chapeli ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint
gyda llwybrau i’w harchwilio ·
Cyfeiriodd
y Cadeirydd at ymweliadau ysgol i Eglwys Llanasa pan oedd yn Bennaeth a oedd yn
rhoi cyfle i blant i ymweld â lle cysegredig a defnyddio’r adnoddau oedd ar
gael yn yr eglwys - roedd yn teimlo bod rhyngweithio rhwng ysgolion ac eglwysi
yn dibynnu i raddau helaeth ar y ficeriaid a’r gweinidogion a oedd yn gofalu
amdanynt ·
Pwysleisiodd
y Cynghorydd Joe Welch y manteision o gysylltiadau traws gwricwlaidd gyda'r
rhan fwyaf o bynciau eraill ac adroddodd ar brosiect hanner tymor a oedd yn
cynnwys taith gerdded natur o gwmpas pentref Nantglyn gan orffen yn eglwys
Nantglyn – cytunodd i gysylltu â'r ysgol dan sylw gyda’r bwriad iddynt gyfrannu
at astudiaeth achos ·
Soniodd
Mr Simon Cameron am y gwaith ar y gweill mewn ysgolion eglwys a menter i gasglu
arfer da ac astudiaethau achos mewn Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd a
fyddai ar gael i ysgolion eu defnyddio ar y wefan stasaph.churchinwales.org.uk/. Cyfeiriodd hefyd at Ymddiriedolaeth Elusennol yr Archesgob Rice Jones a
oedd yn darparu grantiau i ysgolion i brynu adnoddau ar gyfer Addysg Grefyddol
ac Addoli ar y Cyd ·
Teimlai'r
Cynghorydd Ann Davies fod ymweliadau ysgolion yn tueddu i ganolbwyntio ar
achlysuron arbennig fel y Nadolig ac y gellid annog plant i gymryd rhan mewn
gwasanaethau ar y Sul. Awgrymodd y Cynghorydd Margaret McCarroll y gellid cynnal cyflwyniadau
cofnodi cyrhaeddiad ysgolion mewn eglwysi fel mater o arfer da ·
Roedd
Ms Mary Ludenbach yn falch o adrodd ar y cysylltiadau niferus oedd gan Ysgol
Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones gyda'r gymuned grefyddol, a dywedodd
fod grwpiau o'r ysgol yn mynychu gwasanaethau yn ystod yr wythnos. Wrth nodi manteision cysylltiadau traws
gwricwlaidd pwysleisiodd bwysigrwydd rhywbeth mwy dwys, sef rhoi cyfle i blant
fod mewn, amsugno a myfyrio mewn lle sanctaidd. Yng ngoleuni'r enghreifftiau ardderchog o arfer da presennol, holodd y Cadeirydd a oedd angen ar gyfer adnodd ychwanegol. Trafododd yr aelodau y manteision o ddarparu astudiaeth achos ar gyfer cynhyrchu syniadau ac ysbrydoliaeth i wella a hyrwyddo cysylltiadau cryf ymhellach, ac ar gyfer adfywio'r ddarpariaeth bresennol. Ychwanegodd yr Arweinydd Systemau y gellid cyfeirio yn yr adnodd at y ddarpariaeth bresennol. Y gobaith oedd y byddai'r astudiaethau achos yn ysbrydoli ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CYMDEITHAS CYSAG CYMRU (CCYSAGC) PDF 70 KB (a) Derbyn cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a
gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2014 (copi wedi’i amgáu), a (b) chytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod
nesaf CCYSAGC i'w gynnal ym Mhowys ar 2 Gorffennaf 2014. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (a) Cofnodion
CCYSAGC - 27 Mehefin, 2014 Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru
(CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2014 yng Nghaernarfon (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau. Soniodd yr Arweinydd Systemau GwE am gyflwyniad ar RE
Quest a oedd yn darparu adnoddau ar gyfer addysgu am Gristnogaeth mewn Addysg
Grefyddol a oedd yn addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 - 4. Soniodd am y
buddsoddiad diweddar a’r adnoddau ardderchog a ddarperir ac anogodd aelodau i
ymweld â'r wefan a oedd wedi ei ailadeiladu a'i lansio fel www.request.org.uk.
Byddai
rhai adnoddau Cymraeg ar y wefan newydd yn ogystal â'r hen wefan. Holodd y Cadeirydd am gysylltiad Coleg y Rhyl
a chadarnhaodd yr Arweinydd Systemau bod gwahoddiad wedi cael ei roi ar gyfer
aelodaeth gyfetholedig i'r Coleg ac nid oedd neb wedi cymryd y cyfle. Fodd bynnag, byddai adnodd hwn yn hynod ddefnyddiol
iddynt. Cynigiodd y Cadeirydd i fynd â’r mater o aelodaeth
gyfetholedig at y Pennaeth. Dywedodd Mr Gavin Craigen bod
Coleg y Rhyl â chynrychiolaeth yn y Rhwydwaith Gweddi, Y Rhyl a oedd â
chysylltiadau gydag eglwysi lleol. PENDERFYNWYD derbyn a nodi cofnodion
CCYSAGC a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2014. (b) cyfarfod CCYSAGauC- 2 Gorffennaf 2014 Dywedodd Arweinydd
Systemau GwE y bydd cyfarfod nesaf CCYSAGauC yn cael ei gynnal ar 2 Gorffennaf 2014 ym Mhowys ac y bydd
ef yn mynychu ar ran CYSAG Sir Ddinbych. Gofynnodd
hefyd i ddau gynrychiolydd arall fynychu gydag ef. Dywedodd
Mr Gavin Craigen mai ef fydd Cadeirydd y cyfarfod hwnnw ac nad oedd yn
siŵr y gallai ef gynrychioli CYSAG Sir Ddinbych a chadeirio’r cyfarfod.
Dywedodd y Cadeirydd y gallai ef fynychu a gofynnodd i’r Arweinydd
Systemau gysylltu ag ef pe na allai lenwi’r lleoedd sy'n weddill. Tynnodd yr
Arweinydd Systemau sylw'r aelodau at enwebiadau a dderbyniwyd ar gyfer y
Pwyllgor Gwaith (a gylchredwyd yn flaenorol) gan roi gwybod iddynt fod saith o
enwebiadau wedi dod i law ar gyfer y ddwy swydd. Ystyriodd
yr Aelodau gefndir a phrofiad yr ymgeiswyr - PENDERFYNWYD bod Wyn Myles Meredith, CYSAG Gwynedd a Vicky Thomas, CYSAG Torfaen yn
derbyn pleidlais CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer eu hethol i Bwyllgor Gwaith CCYSAGauC. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir y
cyfarfod nesaf am 10.00 am ddydd Mercher 22 Hydref 2014 yn Siambr y Cyngor,
Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Roedd cyfarfod
nesaf CYSAG Sir Ddinbych wedi'i drefnu ar gyfer 10:00am ddydd Mercher 22
Hydref, 2014 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun. Awgrymodd
y Cynghorydd Joe Welch, gan fod y rhan fwyaf o aelodau CYSAG yn byw yng
ngogledd y sir, i gynnal cyfarfodydd yn y dyfodol naill ai yn y Rhyl neu
Brestatyn. Cytunodd yr Aelodau byddai’r cyfarfod nesaf yn
cael ei symud o Ruthun i'r Rhyl a bod cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu
trefnu ar gyfer y Rhyl neu Brestatyn. Hefyd ystyriodd
yr Aelodau sut y gallent annog pobl i gymryd y seddi sydd ar gael ar CYSAG a
chydnabuwyd y nifer o seddi gwag hirsefydlog. Nodwyd
bod dwy swydd wag ar gyfer cynghorwyr, un o’r Grŵp Annibynnol a’r llall
o’r Grŵp Llafur. Cytunodd y cynghorwyr a oedd yn bresennol
i fynd â’r mater yn o i’w grwpiau gwleidyddol priodol. Daeth y cyfarfod i ben am 10.50 a.m. |