Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O WYBODAETH

Roedd ymddiheuriadau am absenoldeb wedi dod i law oddi wrth y Cadeirydd newydd, y Parchedig Martin Evans-Jones a oedd wedi methu dod i'r cyfarfod a aildrefnwyd.  Yn ei absenoldeb, ac absenoldeb yr Is-gadeirydd, cymerodd y Cynghorydd Dewi Owens y Gadair ar gyfer y cyfarfod.

 

MYFYRDOD TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig o funudau o fyfyrdod tawel.

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Margaret McCarroll, Bill Tasker ac Arwel Roberts ynghyd ag Ali Ballantyne, y Parchedig Martin Evans-Jones, Cate Harmsworth, y Parchedig Brian H Jones a Tania Ap Siôn

 

2.

PENODI’R IS-GADEIRYDD YN GADEIRYDD

Gwahoddir yr Is-Gadeirydd, y Parchedig Martin Evans Jones, i ddod yn Gadeirydd ar gyfer 2013-2015 yn unol â chyfansoddiad CYSAG.

 

Cofnodion:

Yn unol â chyfansoddiad CYSAG Sir Ddinbych penodwyd yr Is-Gadeirydd presennol, y Parchedig Martin Evans-Jones yn Gadeirydd ar gyfer 2013-2015.

               

PENDERFYNWYD penodi'r Parchedig Martin Evans-Jones yn Gadeirydd CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer 2013-2015.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD NEWYDD – UN O GYNRYCHIOLWYR YR AWDURDOD ADDYSG LLEOL

Enwebu ac ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2013-2015 (un o gynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg Lleol).

 

Cofnodion:

Yn unol â chyfansoddiad CYSAG Sir Ddinbych gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd ar gyfer 2013 - 2015 oddi wrth Gynrychiolwyr yr AALl.  Yn absenoldeb nifer o gynrychiolwyr yr AALl cytunwyd i ohirio penodi tan gyfarfod nesaf y Cyngor Ymgynghorol.

 

 PENDERFYNWYD gohirio penodi Is-Gadeirydd CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer 2013-15 tan gyfarfod nesaf y Cyngor Ymgynghorol.

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu gan unrhyw un.

 

5.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys i'w hystyried.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 154 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2013 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion pwyllgor Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2013 (wedi’u cylchredeg yn flaenorol).

 

Materion yn codi: -

 

Tudalen 6, eitem rhif 4 Cofnodion y cyfarfod diwethaf - Mark Ansawdd Addysg Grefyddol - Ar gais yr Arweinydd Systemau ar gyfer aelodau GwE (AS) cytunodd yr aelodau ohirio'r cyflwyniad ar y Marc Ansawdd Addysg Grefyddol tan gyfarfod nesaf y Cyngor Ymgynghorol ym mis Chwefror 2014.

 

Tudalen 7 - eitem rhif 5 Darpariaeth SMSC yn y Sector Addysg Bellach - Cadarnhaodd yr AS fod llythyr wedi cael ei anfon i Goleg Chweched Dosbarth y Rhyl fel y gofynnwyd gan y Cyngor Ymgynghorol ac roedd yr arwyddion cynnar yn gadarnhaol.  Cadarnhaodd y byddai'n parhau i symud y mater ymlaen a cheisio cael aelodaeth gyfetholedig.   Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd yr AS bod ystafell weddi wedi ei neilltuo ond heb ei defnyddio ac yn tueddu i gael ei defnyddio fel man storio.  Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cysylltu’n uniongyrchol â Chyfarwyddwr y Coleg, Celia Jones, ynglŷn â phryderon parhaus am y defnydd o'r ystafell.

 

Tudalen 9 - eitem rhif 6 Dadansoddiad o Adroddiadau Archwilio - Cadarnhaodd yr AS fod llythyrau wedi eu hanfon at yr ysgolion a arolygwyd yn eu llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2013 fel cofnod cywir.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2012/13 (DRAFFT) pdf eicon PDF 115 KB

Derbyn adroddiad gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn cyflwyno copi drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG 2012/13 er cymeradwyaeth. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Sir Ddinbych 2012/13 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i’w cymeradwyo a oedd yn rhoi manylion am weithgareddau CYSAG yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol gan gynnwys cyngor a roddwyd i'r awdurdod addysg lleol ynghyd â materion lleol a chenedlaethol eraill.

 

 Gofynnodd yr AS am gymeradwyaeth yr aelodau i’r adroddiad, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau, fel cofnod cywir i'w ddosbarthu i’r derbynwyr hynny a restrir yn yr adroddiad.  Roedd y diwygiadau canlynol wedi cael eu nodi -

 

-       tudalennau 17 a 18 - cyfeiriadau at 'Sir y Fflint’ yn cael ei newid i ‘Sir Ddinbych'

-       tudalen 21 – newid 'Arolygydd/ Ymgynghorydd' i 'Uwch Ymgynghorydd Dysgu'

 

Roedd yr aelodau’n hapus i dderbyn yr adroddiad fel cofnod cywir o waith CYSAG.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)       yn amodol ar y diwygiadau uchod bod Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer 2012 - 2013 yn cael ei gymeradwyo fel cofnod cywir o waith CYSAG, a

 

(b)       gofyn i'r Awdurdod Addysg Lleol drefnu cyfieithu, argraffu a dosbarthu’r adroddiad i'r holl ysgolion a cholegau yn Sir Ddinbych a derbynwyr eraill fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

8.

DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGIADAU pdf eicon PDF 90 KB

Derbyn adroddiad gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn darparu dadansoddiad o Adroddiadau Arolwg Estyn ar gyfer tair ysgol a arolygwyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2013.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dadansoddi canlyniadau arolygiadau diweddar Estyn o ran darpariaeth Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn tair ysgol rhwng mis Mawrth a mis Mai 2013. Roedd arolygiadau wedi'u gwneud yn Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn; Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy ac Ysgol Stryd y Rhos CP Rhuthun.

 

 Darparodd yr AS yr aelodau â chrynodeb byr o'r canfyddiadau'n ymwneud â phob ysgol ac roedd yr aelodau'n falch o nodi'r sylwadau cadarnhaol ar draws yr ysgolion heb i unrhyw sylwadau negyddol ddod i law.  Roedd Mr Gavin Craigen wedi synnu na chyfeiriwyd at weithio mewn partneriaeth ar draws y tair ysgol gan ei fod yn ystyried hyn i fod yn nodwedd gadarnhaol ac arfer da o fewn yr ysgolion hynny.   Cadarnhaodd yr AS nad oedd yn nodwedd y rhoddwyd sylwadau cyson arno.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)       Y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad.

 

(b)       Bod llythyr yn cael ei anfon i’r ysgolion a arolygwyd yn eu hysbysu bod eu Hadroddiad Arolwg wedi cael ei ystyried a’u llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd, a

 

(c)        gofyn i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau uchod.

 

9.

ADRODDIAD ESTYN AR ADDYSG GREFYDDOL MEWN YSGOLION UWCHRADD pdf eicon PDF 70 KB

Derbyn adroddiad gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn cyflwyno adroddiad Estyn ar safonau addysgu a dysgu Addysg Grefyddol o fewn ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2013.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau GwE (AS) adroddiad Estyn ar safonau addysgu a dysgu Addysg Grefyddol o fewn y sector ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2013 (dosbarthwyd yn flaenorol).   Adroddodd hefyd am fynychu Cynhadledd CCYSAGC Genedlaethol y diwrnod blaenorol lle trafodwyd negeseuon allweddol o'r Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer Addysg Grefyddol ynghyd â blaenoriaethau cenedlaethol Llythrennedd a Rhifedd trwy Addysg Grefyddol.  Y prif siaradwyr yn y Gynhadledd oedd -

 

-       Mark Campion, Estyn - Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer Addysg Grefyddol

-       Richard Roberts, CfBT - Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

 

Roedd sampl o 20 o ysgolion uwchradd wedi eu harolygu yng Nghymru fel rhan o'r astudiaeth (roedd Ofsted wedi ymweld â 70 o ysgolion yn Lloegr) ac roedd yr adroddiad yn cynnwys safonau yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, mae cyrhaeddiad mewn astudiaethau crefyddol TGAU a chyfranogiad ac ymgysylltu mewn dysgu.  Roedd hefyd yn cynnwys ffactorau sy'n effeithio ar safonau gan gynnwys cynllunio'r cwricwlwm, addysgu, asesu, arweinyddiaeth, gwella ansawdd a dylanwadau allanol.  Tynnwyd sylw’r Aelodau at y prif ganfyddiadau canlynol -

 

·        Roedd canlyniadau yng Nghymru wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda mwy o ddisgyblion yn ennill cymhwyster mewn AG nag mewn unrhyw bwnc di-graidd eraill

·        Mae’r niferoedd sy’n cymryd y cwrs TGAU llawn a byr mewn Astudiaethau Crefyddol wedi codi dros y pum mlynedd diwethaf, gydag ychydig dros chwarter y disgyblion wedi cofrestru ar y cwrs llawn ac ychydig dros hanner y disgyblion wedi cofrestru ar y cwrs byr

·        Mae cyrhaeddiad wedi codi'n gyson yn y cwrs llawn ac yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd ar gyfer pynciau eraill ac er bod cyrhaeddiad wedi disgyn yn y cwrs byr mae perfformiad wedi aros yn gyson well na'r DU

·        Roedd y bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched yn ehangach yng Nghymru ar gyfer y ddau gwrs nag ar draws y DU

·        roedd y safonau'n dda yn y mwyafrif o ysgolion yng Nghyfnod Allweddol 3, ond roedd ychydig o ysgolion lle'r oedd y safonau'n anfoddhaol ac roedd argymhelliad i sicrhau bod tasgau yn ddigon heriol i alluogi disgyblion mwy galluog i gyrraedd lefelau uwch - ers cyhoeddi'r adroddiad darparwyd hyfforddiant ar gyfer athrawon Sir Ddinbych er mwyn gwella cywirdeb asesiadau athrawon o lefelau disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3

·        Defnyddiwyd athrawon anarbenigol i addysgu AG a'r cwrs byr ond anaml y cânt yn eu defnyddio i addysgu'r cwrs llawn - nid oedd athrawon anarbenigol wedi cael effaith negyddol ar safonau yn y rhan fwyaf o ysgolion

·        Roedd hunan-arfarnu yn dda neu'n well mewn dim ond lleiafrif o adrannau AG ac roedd yn argymhelliad i gryfhau hunan-arfarnu a defnyddio data i nodi ble a beth i'w wella

·        Nodwyd bod diffyg cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhwydweithiau dysgu a oedd yn golygu nad oedd digon o rannu arfer da ac nad aethpwyd i'r afael â heriau yn effeithiol.

 

 Ymhelaethodd yr AS hefyd ar yr argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad.  O ran argymhelliad Llywodraeth Cymru (LlC) R7 y dylid trin data cyrhaeddiad ar gyfer Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol yn yr un modd â phynciau di-graidd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb na fyddai'n briodol i fwrw ymlaen â'r argymhelliad yng ngoleuni'r adolygiad cwricwlwm parhaus ar gyfer Cyfnod Allweddol 3. Yr argymhelliad olaf A8 oedd bod LlC yn gweithio gydag awdurdodau lleol a CYSAG i wella'r cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhwydweithiau cefnogi dysgu ar gyfer athrawon addysg grefyddol.  Roedd rhwydweithiau wedi diflannu yn Sir Ddinbych ar ôl cael gwared ar y swyddi ymgynghorydd dysgu ac er mwyn symud ymlaen yr argymhelliad hwnnw, cynigiwyd y dylid anfon llythyr at Bennaeth Addysg Sir Ddinbych, Karen Evans, yn holi am gyfleoedd a chefnogaeth i athrawon AG  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

CCYSAGC pdf eicon PDF 71 KB

(a)  Derbyn cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2013 yng Nghaernarfon (copi wedi ei amgáu)

 

(b)  Trafod pwy fydd yn mynychu’r cyfarfod nesaf a thrafod enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol (copi wedi ei amgáu)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(A) Cofnodion CCYSAGC - 19 Mehefin, 2013

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2013 yng Nghaernarfon (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i'r aelodau.   Soniodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) ar gyflwyniad a wnaeth yn y cyfarfod ar y Marc Ansawdd AG (REQM) mewn cyd-destun Cymreig penodol a oedd wedi cael ei dreialu yn ddiweddar mewn rhai ysgolion.   Mae'r ysgolion hynny wedi rhannu eu profiadau yn CCYSAGC a chadarnhaodd yr AS byddai hefyd yn eu gwahodd i'r cyfarfod CYSAG nesaf pan fydd y REQM ar y rhaglen.  Roedd CCYSAGC wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer cyfieithu'r dogfennau.  Mewn ymateb i gwestiynau, soniodd yr AS am y gwaith parhaus i newid y meini prawf Saesneg ar gyfer y REQM i'r cyd-destun Cymreig.  Y gost o wneud cais ar gyfer yr asesiad REQM fyddai £450.00 fesul ysgol ond byddai ysgolion yn cael eu hannog i edrych trwy'r deunyddiau hyd yn oed os nad oeddent yn gwneud cais am y marc ansawdd.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2013 a nodi’r adroddiad llafar gan yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE ar y Marc Ansawdd Addysg Grefyddol.

 

(B) cyfarfod CCYSAGC - 27 Mawrth, 2014

 

Dywedodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) y byddai cyfarfod nesaf CYSAG Cymru yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth 2014 yng Nghaerffili a gofynnodd am gadarnhad o gynrychiolwyr i fod yn bresennol.  Hefyd tynnodd sylw'r aelodau at enwebiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi gwybod bod dau enwebiad ar gyfer un swydd.

 

Trafododd yr Aelodau bresenoldeb yn y cyfarfod nesaf ac ystyried yr ymgeiswyr ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a -

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)       Bod y Cynghorydd Ann Davies a Philip Lord yn mynychu cyfarfod nesaf CCYSAGC ar 27 Mawrth 2014, ac

 

(b)       Bod y Cynghorydd Michael Gray, Caerffili yn derbyn pleidlais CYSAG Sir Ddinbych ar gyfer ei ethol ar Bwyllgor Gwaith CCYSAGC.

 

11.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Bydd cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych am 10am ar ddydd Gwener 14 Chwefror 2014 yn Siambr y Cyngor, Ffordd Nant Hall, Prestatyn.

 

Cofnodion:

Bydd cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych am 10am ar ddydd Gwener 14 Chwefror 2014 yn Siambr y Cyngor, Ffordd Nant Hall, Prestatyn.

                                                                      

Daeth y cyfarfod i ben am 3.20 pm.