Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNTIAU Y TYNNWYD SYLW AELODAU IDDYNT

Clywodd Aelodau fod –

 

·         Cadeirydd CYSAG, Maxine Bradshaw wedi ymddiswyddo oherwydd ei hymrwymiadau eraill [Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd, y Parchedig Martin Evans-Jones], ac roedd

·         Mrs. Elaine Wright yn bresennol am ei chyfarfod CYSAG olaf cyn gadael ei sedd fel cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru.  Diolchodd y cadeirydd i Mrs. Wright am ei gwasanaeth ar y pwyllgor a dymunodd yn dda iddi ar gyfer y dyfodol

 

 

ADLEWYRCHIAD TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o adlewyrchu tawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Maxine Bradshaw, Dominic Oakes, Lt. Siân Radford a Gavin Craigen.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad hefyd gan Karen Evans, Pennaeth Addysg.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus ag unrhyw fusnes y bwriedir ei ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad personol neu ragfarnol.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Unrhyw eitem y dylid, ym marn y Cadeirydd, ei hystyried yn y cyfarfod fel mater brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi’u codi.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 174 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2013 (copi wedi ei amgáu) ac i ystyried materion yn codi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2013 (a gafodd eu cylchredeg yn flaenorol).

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 11 – Eitem Rhif 9 – Trefniadau i’r Dyfodol ar gyfer Monitro AG mewn ysgolion – Dywedodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) y byddai athrawon o’r ysgol beilot yn gwneud cyflwyniad ar y Marc Ansawdd AG i CCYSAGC ar 19 Mehefin 2013.Cytunodd yr Aelodau i dderbyn cyflwyniad gan yr AS ar y mater hwnnw yn eu cyfarfod nesaf ar 2 Hydref 2013.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2013 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DARPARIAETH YMCD YN Y SECTOR ADDYSG BELLACH (AB) pdf eicon PDF 91 KB

Derbyn cyflwyniad gan Toni Coulton ar ddarpariaeth YMCD yn y sector addysg bellach a thrafod sut gal CYSAG gefnogi  Chweched Dosbarth a Choleg Addysg Bellach y Rhyl.

 

Cofnodion:

Roedd yr angen am gaplaniaeth yn y sector addysg bellach wedi’i godi o’r blaen mewn cyfarfod CCYSAGC.  Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) Toni Coulton a oedd wedi ei gwahodd i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar ddarpariaeth YMCD ac er mwyn i CYSAG drafod sut y gallai gefnogi Coleg Chweched Dosbarth ac AB y Rhyl.  Roedd Ms Coulton yn gweithio gyda FESTIVE (Menter AB a Chweched Dosbarth), cynllun Cristnogol i gefnogi’r rhai oedd yn gweithio yn y sector addysg bellach.

 

Rhoddodd Ms. Coulton gyflwyniad PowerPoint i CYSAG dan y teitl ‘Addysg Bellach a Lles’.  Amlygodd y ffaith fod darpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd yn ofyniad statudol yn chweched dosbarth ysgolion ond nid mewn colegau AB.  Er ei bod yn cydnabod ei bod yn annhebygol y byddai darpariaeth AG yn cael ei wneud yn bwnc statudol ar gyfer pob person ifanc 16 – 19 oed, credai ei bod yn bosibl gwneud achos da dros AG anstatudol mewn addysg bellach.  Trafododd y cyflwyniad –

 

·         anghysonderau mewn darpariaeth AG ac Addoli ar y Cyd statudol ac anstatudol

·         y nifer o bobl ifanc 16 – 18 oed yn astudio mewn ysgolion a cholegau ynghyd â dadansoddiad pellach o'r rhai mewn addysg a chyflogaeth neu’r tu allan i addysg a chyflogaeth

·         sefydliadau sy’n cyfrannu at gefnogi gwaith cenedlaethol a chynhyrchu adnoddau gan gynnwys y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Ffydd a Chred mewn Addysg Bellach; Dare 2 Engage, Tiwtorialau Ffydd ac AFAN (All Faiths and None)

·         gwahaniaethau yn y canllawiau a gynhyrchir gan Ofsted yn Lloegr ac Estyn yng Nghymru gyda chyfeiriad penodol at YMCD yn Lloegr ond dim ond cyffredinoliad a diffyg arweiniad clir yng Nghymru

·         cyfeiriad at nifer o adnoddau a chyhoeddiadau, gyda rhai ohonynt ar gael yn y cyfarfod i fwrw golwg drostynt, gan gynnwys ‘Making Space for Faith’ a ‘Challenging Voices’

·         dyfyniadau o ddangosyddion ansawdd Estyn sy’n dangos fod canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer Lles yn lle’r pwyslais ar ddarpariaeth.

 

Wrth ystyried y ffordd ymlaen, awgrymodd Ms. Coulton –

 

·         rhywfaint o ymchwil – efallai gyda chaplaniaid colegau AB Cymru

·         ategu at ‘Challenging Voices’ (sut i gynnig caplaniaeth mewn coleg)

·         gofyn am ddisodli gwaith AB i fod yn rhan o’r CYSAG lleol

·         dangos i Estyn y gall ac y dylai ffydd / cred fod yn y canllawiau fel yn Lloegr

 

Yn olaf, tynnwyd sylw aelodau at waith Joseph George, Gweithiwr Prosiect (cylchredwyd y manylion yn y cyfarfod) a oedd wedi’i benodi i uno gwaith presennol yn seiliedig ar ffydd a chyflwyno gwaith newydd i ardaloedd mewn colegau lle nad oedd unrhyw Grwpiau Cristnogol ar hyn o bryd.  Roedd Joseph yn gweithio 16 awr yr wythnos: 8 yn Rhos, 4 yn Chweched y Rhyl a 4 ar bob safle arall.  Roedd y cyfleoedd a ddarparwyd yn Chweched y Rhyl yn cynnwys tiwtorialau, ystafell ffydd a chyfarfodydd staff a myfyrwyr.

 

Mae aelodau’n cefnogi’r ddarpariaeth yn y sector addysg bellach ac ymatebodd Ms. Coulton i gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn –

 

·         roedd ystafell ffydd wedi’i darparu yn Chweched y Rhyl ond roedd angen rhagor o waith i fewnoli ei ddefnydd yn y coleg

·         cydnabuwyd pwysigrwydd gwaith wedi’i gydgysylltu ac amlygwyd y perthnasau a ffurfiwyd gyda cholegau addysg bellach a chlerigwyr yn yr ardal

·         roedd angen codi ymwybyddiaeth am y ddarpariaeth / cefnogaeth sydd ar gael a rhoi cyfle i’r rhai oedd yn dymuno ymgysylltu mewn lleoliad addysgol

·         dywedodd er bod Coleg Llysfasi yn Sir Ddinbych roedd yn rhan o Goleg Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint lle'r oedd darpariaeth yn gyfyngedig iawn

·         cydnabuwyd pwysigrwydd darparu gwybodaeth a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac roedd cynnydd yn digwydd i’r perwyl hwnnw; yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGON pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu AG (copi wedi ei amgáu) sy’n dadansoddi canlyniadau arolygon a gynhaliwyd mewn pum ysgol rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Ionawr 2013.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn dadansoddi canlyniadau archwiliadau diweddar gan Estyn o safbwynt darpariaeth AG ac addoli ar y cyd mewn pum ysgol rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Ionawr 2013.  Cafwyd arolygiadau yn Ysgol Gymraeg y Gwernant, Llangollen; Ysgol Bryn Hedydd, y Rhyl; Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy; Ysgol Llywelyn, y Rhyl ac Ysgol y Llys, Prestatyn.

 

Rhoddodd yr AS grynodeb fer i aelodau o’r canfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol ac roedd aelodau’n falch i nodi fod sylwadau positif wedi’u gwneud ar draws yr ysgolion ac nad oedd unrhyw sylwadau negyddol wedi’u derbyn.  Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr AS nad oedd unrhyw reidrwydd dan y canllawiau i wneud sylw ar Addoli ar y Cyd felly roedd y sylw positif ar gyfer Ysgol Gwernant i’r perwyl hwnnw i’w groesawu’n fawr.  Nododd Aelodau’r gymysgedd o ysgolion a arolygwyd ar draws ardaloedd difreintiedig a mwy cefnog a chyfeiriodd yr AS at bwysigrwydd sicrhau fod ysgolion yn perfformio’n dda mewn datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol (YMCD) i sicrhau gwell addysg holistig.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       derbyn a nodi’r adroddiad;;

 

(b)       anfon llythyr at yr ysgolion a arolygwyd yn rhoi gwybod iddynt fod Adroddiad eu Harolwg wedi’i ystyried, eu llongyfarch ar y nodweddion da a nodwyd, a

 

(c)        gofyn i’r Awdurdod Lleol ddosbarthu’r llythyrau uchod.

 

 

7.

CYSTADLEUAETH LLYTHRENNEDD A RHIFEDD AG pdf eicon PDF 88 KB

Derbyn diweddariad llafar gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Addysg Grefyddol ar gystadleuaeth Llythrennedd a Rhifedd AG.

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) adroddiad llafar ar y Gystadleuaeth Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer ysgolion i gynhyrchu adnoddau a fyddai’n cynnwys Llythrennedd a Rhifedd mewn Addysg Grefyddol.

 

Derbyniwyd un ar bymtheg o gynigion yn y gystadleuaeth gan gynnwys cynigion gan dair ysgol o Sir Ddinbych - Clocaenog; Esgob Morgan a Threfnant.  Cytunwyd dyfarnu gwobr o £150 i bob ysgol a gymerodd ran yn ogystal â thystysgrif yn cadarnhau fod eu cynigion yn rai buddugol.  Er bod y diffyg cystadleuwyr yn siomedig roedd wedi caniatáu creu adnodd haws ei drin a oedd yn cael ei gasglu at ei gilydd ar hyn o bryd ac yn debygol o fod ar gael yn yr hydref.  Wrth ymateb i gwestiwn, dywedodd AS y byddai’r adnodd yn cael ei anfon at bob ysgol ac, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’i fodolaeth, anogodd y rhai oedd yn gysylltiedig ag ysgolion i dynnu sylw’r consortia ysgolion tuag ato.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad llafar ar y Gystadleuaeth Rifedd a Llythrennedd AG.

 

 

8.

TAITH NODDEDIG Y CYNGOR ADDYSG GREFYDDOL pdf eicon PDF 60 KB

Derbyn adroddiad llafar gan yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu Addysg Grefyddol ar Daith Noddedig y Cyngor Addysg Grefyddol. 

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) adroddiad llafar ar Daith Gerdded Noddedig y Cyngor Addysg Grefyddol (CAG) a gynhaliwyd ar 11 Mai 2013 yn Llangollen i gefnogi gwaith Cyngor Crefyddol Cymru a  Lloegr.  Rhoddodd fanylion pellach ar y digwyddiad a fu’n llwyddiant gydag oddeutu £500 yn cael ei godi hyd yn hyn.  Roedd modd derbyn rhagor o wybodaeth am y digwyddiad codi arian ar wefan Cyngor AG Cymru a Lloegr http://religiouseducationcouncil.org.uk/about/sponsored-walk ac roedd yn dal yn bosibl rhoi cyfraniad drwy Virgin Money Giving http://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-web/fundraiser/showFundraiserPage.action

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd yr AS fod y Daith Gerdded yn debygol o ddatblygu i fod yn daith gerdded AG flynyddol ond nid yn ddigwyddiad noddedig.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad llafar ar Daith Gerdded Noddedig CAG.

 

 

9.

CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU (CCYSAGC) pdf eicon PDF 72 KB

(a)  Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2013 yng Nghasnewydd (copi wedi ei amgáu), a

 

(b)  Penderfynu pwy fydd yn mynychu cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 19 Mehefin 2013 yng Nghaernarfon a thrafod enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol (copi yn amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(a) Cofnodion CCYSAGC – 22 Mawrth 2013

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ar 22 Mawrth 2013 (a gylchredwyd yn flaenorol) er gwybodaeth i aelodau.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion CCYSAGC a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2013.

 

(b) Cyfarfod CCYSAGC – 19 Mehefin 2013

 

Dywedodd yr Arweinydd Systemau ar gyfer GwE (AS) y byddai’r cyfarfod CCYSAGC yn cael ei gynnal ar 19 Mehefin 2013 yng Nghaernarfon a gofynnodd am gadarnhad am y cynrychiolwyr fyddai’n bresennol.  Tynnodd sylw aelodau hefyd at yr enwebiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith (a gylchredwyd yn flaenorol) yn nodi fod wyth enwebiad wedi’u derbyn ar gyfer y tair swydd.

 

Trafododd Aelodau bresenoldeb yn y cyfarfod nesaf a rhoddwyd ystyriaeth i gefndir a phrofiad yr ymgeiswyr a –

 

PENDERFYNWYD y dylai’r –

 

(a)       Parchedig Martin Evans-Jones, y Cynghorydd Arwel Roberts (sesiwn y bore) a Philip Lord fynd i gyfarfod nesaf CCYSAGC ar 19 Mehefin, a bod

 

(b)       Mark Brown, Mary Parry a Judy Harris yn derbyn pleidlais CYSAG Sir Ddinbych i’w hethol i Bwyllgor Gwaith CCYSAGC.

 

Dywedodd yr AS ei bod yn bryd cael adolygiad o’r Maes Llafur Cytûn, ond yn sgil yr Adolygiad Cwricwlwm oedd ar fin cael ei gyhoeddi, roedd CCYSAGC wedi rhyddhau datganiad yn argymell ‘fod CYSAGau yn dechrau proses adolygu’r maes llafur cytûn a fyddai’n parhau am yr ychydig flynyddoedd nesaf ac y dylai weithredu newidiadau i’r maes llafur cytûn mewn ymateb i’r trefniadau i adolygu’r cwricwlwm ar ôl mis Medi 2014’.  Gan ystyried effaith yr adolygiad cwricwlwm ac argymhelliad CCYSAGC -

 

PENDERFYNWYD gohirio’r adolygiad o’r Maes Llafur Cytûn nes derbyn canfyddiadau’r adolygiad cwricwlwm.

 

 

10.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Bydd y cyfarfod nesaf am 10.00 a.m. dydd Mercher, 2 Hydref 2013 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun. 

 

Cofnodion:

Byddai cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych yn cael ei gynnal am 10.00 a.m. ddydd Mercher 2 Hydref 2013 yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m.