Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

MYFYRDOD TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o fyfyrdod tawel. 

 

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Dominic Oakes, y Parchedig Brian Huw Jones, Tania Ap Siôn, Collette Owen, Leah Crimes a’r Cynghorydd Gill German

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 308 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023 (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Materion cywirdeb – Tudalen 10 - Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu – Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne fod ‘Ysgol Gynradd Carrog’ wedi’i gamsillafu yn y cofnodion Saesneg. 

 

Materion yn codi – Tudalen 11 - Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu – Gofynnodd yr Aelodau a oedd llythyrau wedi cael eu hanfon at yr ysgolion a oedd wedi cael  arolwg. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod llythyrau wedi cael eu hanfon at bob ysgol a oedd wedi cael arolwg.   

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023 fel cofnod cywir.

 

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y CWRICWLWM I GYMRU pdf eicon PDF 111 KB

Derbyn diweddariad ar lafar am gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, Maes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r Canllawiau Ategol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yr adroddiad i’r Aelodau. Fe hysbyswyd yr Aelodau nad oedd llawer o wybodaeth newydd i’w rhannu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Atgoffodd yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi cytuno ar y maes llafur cytunedig yn 2022 a’i fod ar gael i bob ysgol yn Sir Ddinbych. Roedd cydweithio agos yn parhau rhwng yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Prif Reolwr Addysg, gan gynnwys yr holl ysgolion a staff addysgu ar gyfer cyflwyno’r maes llafur. 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth yr Aelodau ei fod wedi darparu hyfforddiant i ysgolion ar y maes llafur cytunedig ar gyfer egluro ac ateb unrhyw faterion. 

 

Roedd rhaid i ysgolion fod yn ymwybodol o’r 4 elfen newidiol sy’n gysylltiedig â’r maes llafur cytunedig. Unwaith y byddai ysgolion wedi dod i arfer ag iaith a geiriad y maes llafur, byddai’n fwy eglur, a byddai ganddynt well dealltwriaeth. Bob tro y caiff cwricwlwm newydd ei gyflwyno yng Nghymru, mae’n cymryd amser i ymgyfarwyddo â chysyniadau’r newidiadau.  

Awgrymwyd y dylid cynnwys yr eitem fel eitem reolaidd ar raglenni yn y dyfodol, er mwyn hysbysu’r Aelodau am y gwaith cyflwyno ac unrhyw feysydd y mae angen eu trafod ymhellach. Eglurwyd wrth yr Aelodau ei bod yn orfodol i bob ysgol uwchradd gyflwyno’r maes llafur cytunedig newydd i ddisgyblion blwyddyn 8.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau fod cynhadledd ddyniaethau yn cael ei threfnu ym mis Tachwedd ar gyfer bob athro dyniaethau, er mwyn rhannu arferion newydd o ran cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.  Roedd nifer o gyflwyniadau wedi cael eu trefnu ar gyfer y diwrnod. Y gobaith oedd bod rhwydwaith o bell yn cael ei sefydlu ar draws y rhanbarth ar gyfer ysgolion yn dilyn y gynhadledd, er mwyn cysylltu, rhannu arferion da a chymorth â’r dyniaethau.  

 

Dywedodd yr Aelod, Jennie Downes, fod Ysgol Pant Pastynog, Prion wedi rhoi cyflwyniad trwy gyfrwng y Gymraeg i grŵp o benaethiaid yng Nghaernarfon am y gwaith a wnaed ganddynt ar gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwaith a wnaed ar y cam cynllunio a sut y byddai’r newidiadau yn digwydd yn yr ysgol.

Rhoddodd Ysgol Borthyn yn Rhuthun, ysgol arall yn Sir Ddinbych, gyflwyniad trwy gyfrwng y Gymraeg ar y gwaith a gyflawnwyd, gan gynnwys astudiaeth achos o ethos y Cwricwlwm.

Ysgol Esgob Morgan oedd yr ysgol gynradd gyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn achrediad Ysgolion Noddfa. Roedd y wobr yn achrediad pwysig a oedd yn edrych ar ddysgu, yn ymgorffori a rhannu gwybodaeth ynghylch pwysigrwydd goddefgarwch, cydnabod gwahaniaeth a derbyniad, gan sicrhau bod eu hysgol yn ddeniadol a chroesawgar i bawb. Pwysleisiwyd pa mor dda y bu i’r disgyblion siarad. 

 

Diolchodd y Prif Reolwr Addysg i’r Aelod am yr adborth o gyflwyniadau’r ysgol ac roedd yn falch o glywed y bu’n fuddiol iawn. Roedd yr Awdurdod wedi cael gwybod am y gwaith da oedd yn cael ei gynnig yn yr ysgolion. 

Rhannodd y wybodaeth ddiweddaraf â’r Aelodau am y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion uwchradd yn Sir Ddinbych. Roedd Ysgol Glan Clwyd wedi dechrau cyflwyno’r cwricwlwm i flwyddyn 7, 12 mis yn ôl. Roedd pob ysgol uwchradd arall wedi dechrau ei gyflwyno y flwyddyn ysgol hon, ym mis Medi 2023 ar gyfer pob disgybl blwyddyn 7 ac 8.

 

Eglurwyd wrth yr Aelodau fod meithrinfeydd mewn ysgolion yn feithrinfeydd a gynhelir. Mae’r cwricwlwm nas cynhelir yn cyfeirio at y meithrinfeydd eraill a’r Meithrin. Mae canllaw ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir ar wefan Gymraeg y Cwricwlwm i Gymru.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cwricwlwm i Gymru.

 

  

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2022-23 pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG 2022-23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau eu harwain trwy’r Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23 (dosbarthwyd ymlaen llaw) gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol. 

 

Arweiniwyd yr Aelodau drwy bob adran yn yr adroddiad. Roedd adran flaen adroddiad CYSAG Sir Ddinbych yn cynnwys prif swyddogaethau’r CYSAG. 

 

Roedd y penawdau ar y dudalen gynnwys wedi cael eu defnyddio yn flaenorol ac roeddent wedi’u cymryd o hen ddogfen a oedd yn arwain pwyllgorau trwy’r maes llafur cytunedig a’r hyn yr oedd angen adrodd arno. Nid oedd rhai o’r gofynion blaenorol hynny mor berthnasol erbyn hyn. Byddai sut roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn gweithio gyda’r Awdurdod Lleol yn dra gwahanol pan gafodd y penawdau eu creu am y tro cyntaf. Dywedodd wrth yr Aelodau fod CCYSAGC wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gofynion sydd eu hangen yn yr adroddiad blynyddol. Roedd cais wedi’i gyflwyno am arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. 

 

Cadarnhaodd Jennie Downes, sy’n aelod o’r CCYSAGC fod llawer o waith cefndirol yn cael ei wneud o ran sut y caiff CCYSAGC ac felly pwyllgorau CYSAG eu cynnal.  Roedd y cyfan yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn eglur o ran beth yw rôl y CYSAG a sut mae’r cyfan yn cyd-fynd â’r darlun ehangach. Cadarnhaodd y byddai’n rhoi gwybod i’r pwyllgor pe bai unrhyw ddatblygiadau pellach yn cael eu datgelu. 

 

Ar hyn o bryd, roedd yna ddwy ffrwd waith, CYSAG ar gyfer Addysg Grefyddol a CYSAG ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod popeth yn cael ei gadw a’i drafod gyda’i gilydd, yn yr un fforwm. Teimlwyd bod y ddau faes yn cael eu cadw ar wahân yn yr adroddiad blynyddol. Pwysleisiwyd bod yna wahaniaeth rhwng y ddau faes pwnc. 

 

Roedd yr adroddiad blynyddol yn dal i fod o dan y teitl Adroddiad Blynyddol y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol, ond roedd rhywfaint o’r cynnwys yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a rhywfaint yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. 

Awgrymwyd y gellid newid y teitl i gynnwys y ‘Cyngor Ymgynghorol Sefydlog’.  Roedd yr Aelodau yn cytuno â’r newid a awgrymwyd. 

 

Cafodd y crynodeb gweithredol ei gyflwyno cyn yr adroddiad blynyddol yn y pecyn.  Roedd yn cynnwys llawer o fanylion ynghylch y maes llafur cytunedig, ac roedd y maes llafur cytunedig ar gyfer Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn amlwg ar wahân. 

Fel y gwnaed yn flaenorol, roedd canlyniadau arholiadau wedi cael eu cynnwys. Pe bai ysgolion yn gofyn am unrhyw gefnogaeth gydag Addysg Grefyddol neu Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, byddai’r Prif Reolwr Addysg a’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn fodlon iddynt gysylltu â nhw a chynnig cefnogaeth fel y bo’n briodol.  

Nid oedd adroddiadau arolygu Estyn yn barnu pynciau. Cafodd sylwadau eu gwneud mewn perthynas â’r agweddau Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. 

Roedd yr argymhellion gan Estyn yn berthnasol o hyd, ac roeddent ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at yr adnoddau a oedd ar gael i ysgolion. Roedd hyn yn cynnwys fideo yn trafod y maes llafur cytunedig a rhan Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y cwricwlwm newydd, yn ogystal â dolenni i ganllawiau ategol yn canolbwyntio ar gysyniadau, lensys a’r teithiau. 

Roedd GwE wedi trefnu digwyddiadau dan y teitl ‘Dadbacio a Deall MDaPh y Dyniaethau’. Roedd 2 sesiwn wedi’u trefnu. Roedd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar ddeall yr elfennau gorfodol a’r ail yn canolbwyntio ar ddulliau cynllunio ac asesu.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys dolenni i’r cyflwyniadau a’r dogfennau hynny. 

Roedd yr holl adnoddau a oedd ar gael i ysgolion yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYFLEOEDD AC ADNODDAU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG AC ADDYSG GREFYDDOL pdf eicon PDF 109 KB

Derbyn cyflwyniad ar yr ystod o ddeunydd sydd ar gael i gefnogi athrawon Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addysg Grefyddol. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i’r Aelodau a phwysleisiodd fod y rhan fwyaf o adnoddau wedi cael eu trafod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem flaenorol.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod yr eitem wedi’i chynnwys yn ystod y drafodaeth ar eitem rhif 6 ar y rhaglen. Yn ychwanegol i’r hyn a drafodwyd yn flaenorol, dywedodd fod Modiwlau Llywodraeth Cymru ar Ddysgu Proffesiynol wedi cael eu cyhoeddi. Yn y cyfarfod diwethaf, rhoddwyd cyflwyniad i’r Aelodau ar ddeunyddiau’r modiwl. Roedd y deunyddiau yn darparu sawl enghraifft o sut i’w gynnwys yn yr ystafell ddosbarth a sut i gyflwyno pynciau i ddisgyblion. Roedd o’r farn bod cydbwysedd rhwng y ddamcaniaeth a’r ymarfer yn y deunyddiau a ddarparwyd.  

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y byddai’n cynnwys manylion am yr adnoddau trwy’r modiwlau ar ddysgu proffesiynol yn yr adroddiad blynyddol. 

 

Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a oedd yr Aelodau’n ymwybodol o unrhyw ddeunyddiau ychwanegol a ddefnyddir gan ysgolion i gefnogi Addysg Grefyddol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ysgolion. Os oedd yr Aelodau’n ymwybodol o unrhyw adnoddau, gofynnodd iddynt eu rhannu gyda’r pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi’r cyflwyniad a’u bod yn rhannu unrhyw gyfleoedd neu ddeunyddiau ychwanegol y maent yn ymwybodol ohonynt, er mwyn eu rhannu ag ysgolion Sir Ddinbych.

 

 

8.

CCYSAGC pdf eicon PDF 172 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar-lein 19 Mehefin 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cofnodion CCYSAGC – 19 Mehefin 2023

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd dros Microsoft Teams ar 19 Mehefin 2023 (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd Jennie Downes yn bresennol yn y cyfarfod CCYSAGC.  

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn flaenorol fod yr eitem hon yn caniatáu i’r cynrychiolydd yn CCYSAGC adrodd am unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion i’r pwyllgor, yr oeddent yn credu y dylai’r Aelodau gael gwybod amdanynt.

 

Fe hysbyswyd yr Aelodau bod CCYSAGC yn ymwybodol iawn o hyrwyddo gwerth a manteision hynny i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’r diwylliant o fewn addysg.  Fe ystyriwyd rôl y CYSAG a’r gwaith maent yn ei wneud yn hanfodol. 

Roedd grŵp bach o CCYSAGC yn cwrdd i drafod sut i hyrwyddo gwaith y CYSAG a CCYSAGC ar-lein. 

 

Roedd cynhadledd CCYSAGC yn cael ei threfnu ar gyfer addysgwyr, gan gynnwys y Gweinidog Addysg ac ysgolion i drafod yr arferion da o ran cyflwyno’r elfen Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. 

 

Gofynnodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf, mewn perthynas â’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cwricwlwm i Gymru, roi gwybod i’r pwyllgor am y gwaith sy’n cael ei wneud yn yr ysgolion y mae ganddynt gysylltiadau â nhw. Cytunodd y Cadeirydd y byddai hynny o fudd i’r trafodaethau yn y maes pwnc hwn. 

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023.

 

 

9.

DYDDIADAU'R CYFARFODYDD NESAF

Gwanwyn - 22/2/24

Haf - 26/6/24

Hydref - 15/10/24

 

Cofnodion:

Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych ar 22 Chwefror 2024.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.05am.