Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

MYFYRIO TAWEL

Dechreuodd y cyfarfod gydag ychydig funudau o fyfyrdod tawel.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cynghorwyr Gill German ac Emrys Wynne ynghyd â’r Parchedig Brian H Jones, Dominic Oakes, Sarah Griffiths a Tania Ap Siôn

 

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd Jennie Downes gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 8 ar y rhaglen CCYSAGC  i'r graddau yr oedd yn ymwneud ag Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAGC oherwydd ei bod yn enwebai.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfynodd y Cadeirydd ei bwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo:-

 

Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CCYSAGC

 

Cytunwyd i ystyried yr eitem hon yn ystod eitem 8 ar y rhaglen gan ei fod yn ymwneud â CCYSAGC.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 371 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023 (copi wedi’i gynnwys).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CWRICWLWM I GYMRU pdf eicon PDF 116 KB

Derbyn cyflwyniad ynglŷn â Modiwl Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

·         Modiwl Cymraeg – https://hwb.gov.wales/repository/resource/eef7e399-93bb-4d7c-ab68-145c93f4c6d3

·         Modiwl Saesneg – https://hwb.gov.wales/repository/resource/eef7e399-93bb-4d7c-ab68-145c93f4c6d3

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gyflwyniad ynglŷn â Rhestr Chwarae Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, drwy gyswllt gwefan i wefan Hwb. 

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adnoddau dysgu proffesiynol yn ddiweddar i gefnogi athrawon ac uwch arweinyddion i ddeall a chynllunio ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) a diben y cyflwyniad oedd cynorthwyo dealltwriaeth aelodau o’r gofynion a goblygiadau cynllunio CGM ar ysgolion a chodi ymwybyddiaeth o’r adnoddau hynny o fewn ysgolion ac ati. 

 

Yn ystod y cyflwyniad dangoswyd i’r aelodau sut i gael mynediad i’r dudalen dysgu proffesiynol oedd yn canolbwyntio ar bump modiwl perthnasol i amrywiaeth o rhanddeiliaid:  (1) Blynyddoedd Cynnar, (2) Ysgolion Cynradd, (3) Lleoliadau Uwchradd, (4) Anghenion Dysgu Ychwanegol, a (5) Phenaethiaid.  At ddibenion y cyflwyniad, cafodd yr aelodau eu harwain drwy’r Rhestr Chwarae Penaethiaid.

 

Roedd meysydd wedi eu cynnwys fel rhan o’r Rhestr Chwarae Penaethiaid yn cynnwys -

 

·         Croeso - i ddarparu cefnogaeth gyda’r newidiadau i’r CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru a thrawsnewid i ffordd newydd o feddwl, cynllunio a darparu CGM.

·         Ymgysylltu Critigol - darparu astudiaethau achos ac enghreifftiau i gynnig ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer cynllunio i leoliadau ysgol unigol.

·         Nod - datblygu mwy o ddealltwriaeth o’r newidiadau i CGM i gefnogi’r dull i weithredu newidiadau  mewn lleoliadau ysgol penodol. 

·         manylu’r prif newidiadau yn codi o’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 gan ei fod yn ymwneud ag Addysg Grefyddol a CGM a beth oedd wedi aros yr un fath.

·         Hunanwerthuso - rhoi’r cyfle i gynnal hunanwerthusiad

·         Cwis - roedd aelodau wedi cymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol i brofi eu gwybodaeth.

·         Goblygiadau - manylu’r goblygiadau yn ymwneud â’r model dylunio’r cwricwlwm; staff; cyfathrebu gyda rhanddeiliaid a sgyrsiau gyda rhieni sydd o bosibl yn bryderus nad oedd yna hawl i dynnu eu plentyn allan o CGM.

·         Crynodeb - darparwyd crynodeb o’r prif bwyntiau a phethau i’w hystyried. 

 

Roedd aelodau yn croesawu’r deunydd adnodd cynhwysfawr a ddarparwyd a fyddai’n gefnogaeth werthfawr i ymarferwyr a chytunwyd bod llythyr canmoliaeth yn cael ei anfon at awduron y deunydd yn y cyswllt hwnnw.

 

Roedd yna drafodaeth bellach ar y sgyrsiau gyda rhieni oedd yn bryderus nad oedd yna unrhyw hawl i dynnu eu plant allan o CGM, a goblygiadau tynnu’r hawl i dynnu allan fesul cam, o ystyried y caiff plentyn ei dynnu allan o Addysg Grefyddol ond nid CGM.  Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ei fod eisoes wedi cael un ysgol yn cysylltu yn ceisio cyngor yn y cyswllt hwnnw a hefyd yn adrodd ar waith i’w wneud mewn cydweithrediad â CCYSAGC, NAPfRE a Llywodraeth Cymru ar lunio canllawiau ffurfiol yn y dyfodol.  Fodd bynnag, nodwyd bod y pryderon a thrafodaethau hynny yn gyfredol a chytunwyd i ganllawiau/pwyntiau bwled gael eu datblygu yn y cyfamser gyda’r bwriad i ddarparu cefnogaeth fuan i fynd i’r afael â’r materion a phryderon hynny.   Byddai unrhyw ganllawiau ffurfiol dilynol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn naturiol yn disodli’r canllawiau dros dro a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru.   I’r perwyl hwnnw, cytunwyd y byddai’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Prif Reolwr Addysg ynghyd â chynrychiolwyr o’r ddwy Esgobaeth a chynrychiolwyr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd i ystyried ffurfio’r canllawiau dros dro hynny i ysgolion Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       derbyn y cyflwyniad gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol;

 

(b)       aelodau i wneud ysgolion mae ganddynt gysylltiad â nhw yn ymwybodol o’r adnoddau dysgu proffesiynol;

 

(c)        anfon llythyr canmoliaeth at awduron yr adnoddau dysgu ar y deunydd ardderchog a ddarparwyd a’i werth i’r sector addysg, a

 

(d)       yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol i weithio gyda’r Prif Reolwr Addysg ynghyd â chynrychiolwyr Esgobeth  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNLLUNIO AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD pdf eicon PDF 162 KB

Derbyn cyflwyniad gan Ysgol y Santes  Ffraid, Dinbych, ar sut maent wedi cynllunio a chyflwyno Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Leah Crimes, Pennaeth Ysgol y Santes Ffraid, Dinbych gyflwyniad ar sut oedd yr ysgol wedi cynllunio a gweithredu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) o fewn y Cwricwlwm i Gymru hyd yma, ynghyd â’r camau nesaf. 

 

Rhoddodd Ms Crimes rhywfaint o gyd-destun i Ysgol y Santes Ffraid oedd yn ysgol grefydd 3-19 gwirfoddol a gynorthwyir gyda nod crefyddol dynodedig oedd yn Gatholig Rufeinig.    Roedd CGM yn statudol ar hyn o bryd hyd at flwyddyn 6 ac o fis Medi byddai’n statudol hyd at flwyddyn 8.   Roedd yr ysgol wedi mapio a threialu eu cynllun CGM cyfan o’r feithrinfa i Flwyddyn 7 oedd wedi bod yn gweithio’n dda. 

 

Roedd yr elfennau canlynol wedi eu cynnwys yn y cyflwyniad cynhwysfawr -

 

·         Gweledigaeth Cwricwlwm Ysgol y Santes Ffraid - yn darparu rhywfaint o hanes i’r ysgol, ethos a gwerthoedd a datganiad bwriad a gwaith i sicrhau bod yr ysgol wedi gallu bod yn blwraliaethol tra’n hybu dysgu’r Eglwys Gatholig.

·         yn cyfuno’r Proffil Pedwar Diben a Dysgu Catholig i greu’r Proffil Dysgwr Santes Ffraid yn sail i’r Cwricwlwm i Gymru.

·         gweledigaeth CGA ardderchog i gyflwyno dinasyddion byd-eang, meddylwyr beirniadol, unigolion empathetig, ymarferwyr hunan-fyfyriol yn ogystal ag arbenigwyr crefyddol. 

·         y siwrnai hyd yma - mapio drwy’r 7 lens yn unol â thestunau ehangach a chynnal yr ethos Catholig a ffordd Santes Ffraid ynghyd â’r cwricwlwm CGM.

·         darparwyd enghreifftiau manwl o’r mapio CGM Ysgol Isaf drwy dymhorau’r ysgol a thestunau ar gyfer Dosbarth Meithrin a Derbyn hyd at Flynyddoedd 1, 2, 3 a 4.

·         y camau nesaf i feddwl am ‘beth yw’r Llinyn Euraidd’ sy’n rhedeg drwy’r straeon i blant cysylltiedig â chysyniadau gyda mapio a gwaith archwilio pellach.

·         mapio’r cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 ac ystod o destunau wedi eu hystyried. 

·         ymdrechu i baratoi’r dysgwyr gyda’r sgiliau i benderfynu ar y gwir

·         disgyblion i astudio testunau yn archwilio amrywiaeth cred yn y byd modern

·         darparwyd adnoddau ‘blasu’ o’r gwersi Blwyddyn 7

·         eglurwyd nod cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Ysgol y Santes Ffraid i gyflawni deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, bodloni Proffil Dysgwyr Santes Ffraid, paratoi i archwilio Datganiad Beth sy’n Bwysig y Dyniaethau a chynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a llunio cysylltiadau gyda disgyblaethau eraill.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ms Crime am y cyflwyniad diddorol a llawn gwybodaeth a chafodd ymateb da gan yr aelodau oedd yn cydnabod gwaith caled a wnaed i gynllunio a gweithredu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn yr ysgol ynghyd â’r dull cydweithredol ar gyfer lles y disgyblion i gyd.    Roedd yn arbennig o ddiddorol gweld sut oedd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi’i weithredu fel ysgol ffydd ddynodedig.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd Ms Crimes gyfraniad Ymddiriedolwyr a Llywodraethwyr o fewn y broses oedd hyd yma wedi bodloni holl rhanddeiliaid a hefyd egluro sut oedd gwybodaeth wedi’i rhannu gyda rhieni, gyda diweddariadau rheolaidd ar weithgareddau drwy Seesaw a Google Classroom. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, diolchodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol, gan ddweud ei fod wedi gofyn i Ms Crimes roi’r cyflwyniad yng nghyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru ddydd Llun.   Roedd yn ddiddorol nodi fel Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir, nid oedd Ysgol y Santes Ffraid wedi’i chynnwys yn sgôp CYSAG a CCYSAGC o’r blaen. 

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

 

 

7.

DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGON pdf eicon PDF 164 KB

Derbyn adroddiad gan yr Ymgynghorydd AG (copi wedi’i gynnwys) sy’n dadansoddi Adroddiadau Arolygon Estyn ar gyfer deuddeg ysgol a gynhaliwyd rhwng Mai 2022 a Mai 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn dadansoddi canlyniadau arolygon diweddar Estyn o ran darpariaeth Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd mewn deuddeg ysgol rhwng Mai 2022 a Mai 2023.

 

Mae arolygon wedi eu cynnal yn Ysgol Gynradd Pentrecelyn; Ysgol Pendref; Ysgol Penmorfa; Ysgol Caer Drewyn; Ysgol Gynradd Carrog; Ysgol Castell, Ysgol Borthyn, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir, Ysgol Llewellyn; Ysgol Frongoch; Ysgol Uwchradd Prestatyn; Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. 

 

Roedd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wedi darparu crynodeb byr o’r canfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol a sylwadau oedd yn ymwneud â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.  Oherwydd newidiadau yn y broses arolwg, roedd y nifer o sylwadau sy’n ymwneud â darpariaeth Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd mewn ysgolion wedi gostwng ac o ganlyniad roedd adroddiadau i CYSAG wedi eu cyflwyno yn flynyddol yn hytrach na phob tymor fel mewn blynyddoedd blaenorol.   Nid oedd unrhyw arolygon wedi eu cynnal yn ystod y pandemig Covid ac roedd yr adroddiad yn manylu arolygon a gynhaliwyd ers hynny.    Roedd rhywfaint o wybodaeth cyd-destun yn ymwneud â phob ysgol hefyd wedi’i darparu fel y gofynnwyd yn flaenorol gan CYSAG.

 

Roedd Aelodau yn falch o nodi ailddechrau dadansoddiad blynyddol o adroddiadau arolwg yn dilyn y pandemig a’r sylwadau cadarnhaol a wnaed oedd yn rhoi cipolwg ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg o fewn ysgolion Sir Ddinbych a’r gwaith a wnaed. 

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am gyfarfod ar 14 Chwefror 2023 rhwng Estyn ac Aelodau Gweithredol CCYSAGC ynglŷn â monitro safonau a chynnydd (cofnodion CCYSAGC ar 21 Mawrth 2023 yn cyfeirio) oedd yn cynnwys testunau fel:  Monitro darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ysgolion ac ystyried y Maes Llafur a gytunwyd; monitro safonau a chynnydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg; Addoli ar y Cyd ac ymarfer effeithiol.  Nodwyd na fyddai ysgolion yn cael eu harolygu’n benodol mewn perthynas ag ansawdd darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ond sicrhau bod CGM yn cael ei addysgu a bodloni’r gofynion statudol.    O ran Addoli ar y Cyd, roedd canllawiau Estyn 2017 yn parhau’n berthnasol.    Roedd Estyn a CCYSAGC wedi ystyried bod y cyfarfod yn fuddiol a chytunwyd i gyfarfod ddwywaith y flwyddyn yn y dyfodol, gyda chydweithwyr Estyn yn derbyn gwahoddiad i roi diweddariadau ym mhrif gyfarfodydd CCYSAGC fel bo’r angen.   Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y byddai peilot Fframwaith Arolwg newydd Estyn ar gyfer 2024 yn debyg o gael ei gynnal o dymor y Gwanwyn ymlaen.   O ystyried perthnasedd y fframwaith arolwg newydd, byddai manylion pellach yn cael eu darparu mewn cyfarfod CYSAG yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       derbyn a nodi’r adroddiad.

 

(b)       Anfon llythyr i bob ysgol i roi gwybod iddyn nhw bod eu Hadroddiad Arolygu wedi ei ystyried, eu llongyfarch ar yr elfennau da a nodwyd, a’u hatgoffa o wasanaethau’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol a’r Swyddogion Gwella Ysgolion mewn perthynas ag unrhyw faes sydd angen ei ddatblygu neu unrhyw fater y mae angen mynd i’r afael ag ef.

 

(c)       y dylid gofyn i'r Awdurdod Lleol ddosbarthu'r llythyrau i’r ysgolion dan sylw.

 

 

8.

CCYSAGC pdf eicon PDF 173 KB

·         Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar 21 Mawrth 2023 (copi  wedi’i gynnwys)

 

·         Cytuno ar bresenoldeb ar gyfer cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 19 Mehefin 2023 (Sir Ddinbych sy’n cynnal cyfarfod haf y Gymdeithas)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cofnodion CCYSAGC - 21 Mawrth 2023

 

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) a gynhaliwyd drwy Microsoft Teams ar 21 Mawrth 2023 (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Arweiniodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yr aelodau drwy’r cofnodion.    Rhoddwyd sylw penodol i Gofnod Rhif 9 Sgyrsiau gyda chydweithwyr Lloegr (NASACRE, REC, Canolbwyntiau Addysg Grefyddol Rhanbarthol) o ystyried bod addysg yng Nghymru yn dod yn gynyddol wahanol i Loegr gyda chyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru newydd a sut yr oedd y sefydliadau hynny yn gweithio gyda’i gilydd.    Byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r sefydliadau hynny i ddatblygu’r berthynas rhwng NASACRE a CCYSAGC; yn galluogi cyfathrebu a chydweithio gwell gyda REC dros yr hirdymor ac o bosibl sefydlu fforwm REC Cymru, a mynd i’r afael â materion a godwyd ynglŷn â datblygu canolbwyntiau Addysg Grefyddol Rhanbarthol heb gyfathrebu uniongyrchol gyda CCYSAGC neu NAPfRE a’r ffordd ymlaen.    Hefyd, cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol at y Gynhadledd EFTRE ac anogodd aelodau i ymweld â gwefan EFTRE oedd yn rhoi cipolwg ar Addysg Grefyddol ar draws Ewrop. 

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023.

 

·         Cyfarfod CCYSAGC - 19 Mehefin 2023

 

Byddai’r cyfarfod CCYSAGC nesaf yn cael ei gynnal ar-lein drwy Zoom ar 19 Mehefin 2023 a chynhelir gan Sir Ddinbych.  Nodwyd y byddai’r Pennaeth Addysg, Geraint Davies yn rhoi araith groesawu.  Gofynnwyd i’r Aelodau gysylltu â naill ai’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol neu’r Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer dolen i’r cyfarfod os oeddent yn dymuno bod yn bresennol. 

 

·         Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CCYSAGC

 

[Ystyriwyd y mater hwn fel mater brys, a rhoddodd y Cadeirydd rybudd o hyn ar ddechrau’r cyfarfod].

 

Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd Jennie Downes y cyfarfod ar y pwynt hwn ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio. 

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am dri enwebiad a dderbyniwyd ar gyfer y ddwy swydd ar y Pwyllgor Gweithredol, yn benodol Jennie Downes, CYSAG Sir Ddinbych/CYS, y Cynghorydd Arfon Wyn, CYSAG Ynys Môn/CYS ynghyd â Marged Williams a Tyler Saunders, CYSAG/CYS Morgannwg (rhannu swydd), a gofynnwyd am farn aelodau ar yr ymgeiswyr hynny.  

 

Roedd Aelodau yn ystyried cefndir a phrofiad yr ymgeiswyr a chytunwyd fod gan bob un eu rhinweddau.   Yn dilyn trafodaeth fer -

 

PENDERFYNWYD bod Jennie Downes, Sir Ddinbych ac Arfon Wyn, Ynys Môn yn derbyn pleidlais CYSAG Sir Ddinbych i’w hethol i’r CCYSAGC/Pwyllgor Gweithredol.

 

 

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Hydref 2023 – 17 Hydref 2023

 

Cofnodion:

Byddai cyfarfod nesaf CYSAG Sir Ddinbych yn cael ei gynnal ar 17 Hydref 2023.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 am.