Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Rachel Flynn

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 289 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021 (copi’n amgaeedig).

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Materion yn Codi -

 

Tudalen 1 - Yn Bresennol - roedd Cynrychiolydd Dyneiddiol wedi cael ei benodi i’r CYSAG a chytunwyd i newid y rhestr o aelodau presennol i “Yn Cynrychioli Enwadau Crefyddol a Chredoau Athronyddol Anghrefyddol” yn y dyfodol.

 

Tudalen 9 - Eitem 9: Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2020-21 - roedd yr adroddiad wedi cael ei gwblhau a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG wybod am yr angen i CYSAG ddiwygio ei gyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau i gynnwys cynrychiolaeth Credoau Athronyddol Anghrefyddol ac hefyd mewn perthynas â’r Cwricwlwm i Gymru a’r Maes Llafur Cytunedig.   Gofynnodd y Cadeirydd i’r mater gael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2022.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CWRICWLWM CYMRU pdf eicon PDF 97 KB

Cael cyflwyniad ar Ganllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac i drafod y posibilrwydd o ddefnyddio'r Canllawiau fel Maes Llafur Cytunedig.  [Mae’r canllawiau ar gael trwy’r canlynol dolen  (gweler adroddiad eitem 5 ynghlwm) ynghyd â Chrynodeb o'r Ddeddfwriaeth

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Prif Reolwr Addysg i’w gyfarfod cyntaf o’r CYSAG.

 

Cyflwynodd y Prif Reolwr Addysg yr eitem ar Gwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru a fydd yn dod i rym ym mis Medi 2022.   Roedd yn ddiolchgar i’r Ymgynghorydd AG am ei gyflwyniad a’i eglurhad o’r canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) sydd wedi cael eu rhyddhau’n ddiweddar.

 

Eglurodd yr Ymgynghorydd AG bod angen cynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig er mwyn paratoi Maes Llafur Cytunedig i’w fabwysiadu gan yr awdurdod addysg lleol.   Y bwriad oedd cofnodi a rhannu’r cyflwyniad gyda chyfranogwyr er mwyn llywio’r broses honno.   Yn ogystal â chynrychiolwyr CYSAG, gobeithiwyd y byddai gymaint o athrawon a phosibl yn gallu mynychu’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a oedd wedi’i threfnu ar gyfer 14 Mawrth 2022.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG gyflwyniad a oedd yn cynnig trosolwg o’r Cwricwlwm i Gymru ac eglurhad o’r canllawiau CGM.

 

Roedd y meysydd a oedd wedi’u cynnwys yn y cyflwyniad cynhwysfawr yn cynnwys -

 

·         gofynion y ddeddfwriaeth cwricwlwm ac asesu

·         cyflwyniad i’r chwe maes dysgu a phrofiad a manylion pellach am yr iaith a ddefnyddir - ‘datganiadau o’r hyn sy’n bwysig’, ‘egwyddorion cynnydd’, disgrifiadau dysgu’ a ‘chynllunio eich cwricwlwm’

·         cyfeiriadau penodol at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer y maes Dyniaethau a oedd yn cynnwys cyd-destun, sgiliau, gwybodaeth a chysyniadau i’w datblygu

·         dolenni i dudalennau we gan gynnwys crynodeb o ddeddfwriaeth gyda deddfwriaeth benodol yn ymwneud â chanllawiau CGM a sut y gellid eu  mabwysiadu mewn Maes Llafur Cytunedig

·         y newid o addysg grefyddol i grefydd, gwerthoedd a moeseg er mwyn adlewyrchu’r cwmpas ehangach a chynnwys credoau anghrefyddol gan gynnwys dyneiddiaeth, anffyddiaeth a seciwlariaeth

·         newidiadau deddfwriaethol sy’n llywodraethu’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a CYSAG i adlewyrchu credoau crefyddol a chredoau athronyddol anghrefyddol

·         nodau’r Maes Llafur Cytunedig a’r canllawiau CGM a gafodd eu hysgrifennu fel sail i’r Maes Llafur Cytunedig drwy weithio ar y cyd

·         gofynion cyfreithiol ar gyfer Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig a chwestiynau i’w hystyried ganddyn nhw a CYSAG.

·         gwaredu’r hawl i dynnu’n ôl o CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

·         pwrpas y canllawiau CGM sef darparu cefnogaeth ychwanegol ar sut y gellid dysgu CGM yn y maes Dyniaethau a’r meysydd perthnasol eraill

·         y cyd-destun datblygiad ysbrydol o fewn CGM a oedd yn parhau i fod yn agwedd allweddol

·         cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer CGM, gan gynnwys: themâu trawsbleidiol, sgiliau trawsbynciol, sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben, datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, cysyniadau CGM a’r lens CGM. 

·         dilyniant dysgwyr a siwrneiau dysgu mewn perthynas â CGM gydag enghreifftiau dangosol, a

·         phwyntiau i ysgolion/lleoliadau eu hystyried wrth gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer CGM.

 

Wrth gloi, fe wnaeth yr Ymgynghorydd AG gydnabod ei fod wedi cyflwyno cyfoeth o wybodaeth yn y cyflwyniad, ond amlygodd bod y Cwricwlwm i Gymru a’r canllawiau CGM yn llawer mwy cynhwysfawr.  Byddai’r cyflwyniad a’r sleidiau PowerPoint yn cael eu rhannu gydag aelodau CYSAG ac ysgolion er mwyn rhoi cyfle i bawb ystyried y cynnwys yn eu hamser eu hunain.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         roedd y canllawiau CGM yn ddogfen gynhwysfawr ac roedd dolen i’r wefan berthnasol wedi cael ei chynnwys ar y rhaglen er mwyn rhoi cyfle i aelodau gael golwg dros y wybodaeth yn eu hamser eu hunain; er bod y cyflwyniad yn hir, llwyddwyd i grynhoi elfennau o’r canllawiau er hwylustod.

·         cadarnhawyd mai’r cyfieithiad Cymraeg swyddogol ar gyfer ‘Religion, Vales and Ethics Guidance’ oedd ‘Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg’ fel y nodwyd yn y cyflwyniad.

·         cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at yr ymgynghoriad DU a oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar wahardd yr hawl i broselytio a’r goblygiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CEFNOGI’R AWDURDOD LLEOL I FABWYSIADU MAES LLAFUR CYTUNEDIG pdf eicon PDF 147 KB

Ystyried y gefnogaeth a ddarperir i’r awdurdod lleol i fabwysiadu Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac argymhelliad i gynghori’r awdurdod lleol i alw Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig.

Cofnodion:

Eglurodd yr Ymgynghorydd AG, yn dilyn ymlaen o’r eitem ddiwethaf, bod gofyn i awdurdod lleol Sir Ddinbych fabwysiadu Maes Llafur Cytunedig, ac er mwyn cefnogi’r awdurdod lleol gyda hynny, argymhellwyd y dylai CYSAG gynghori’r awdurdod lleol i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig.

 

Rhoddwyd gwybod i CYSAG bod trefniadau dros dro wedi’u gwneud i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig am 10.00am ddydd Llun, 14 Mawrth 2022 a gobeithiwyd y byddai gymaint o athrawon â phosibl yn gallu mynychu yn ogystal ag aelodau CYSAG; byddai recordiad o’r cyflwyniad yn cael ei rannu gydag ysgolion ymlaen llaw.   Roedd yr Ymgynghorydd AG yn credu y byddai’r canllawiau CGM presennol yn bodloni’r cwricwlwm newydd ac y byddai modd eu mabwysiadu fel y Maes Llafur Cytunedig.   Rhybuddiodd hefyd yn erbyn gwneud gormod o addasiadau i’r canllawiau CGM o ystyried yr hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar y canllawiau a fyddai fel arall yn gyfrifoldeb ar yr awdurdod lleol; camau cyfreithiol posibl o ystyried bod y canllawiau CGM wedi bod drwy’r prosesau sicrhau ansawdd, ac roedd y canllawiau hefyd yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru  gan gymryd i ystyriaeth y Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill a chamau cynnydd.   Roedd yn credu y dylid ystyried y pwyntiau hynny’n ofalus yn y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig wrth benderfynu ar sut i gynghori’r awdurdod lleol o ran y Maes Llafur Cytunedig.

 

Roedd CYSAG yn cynnwys tri phwyllgor gwahanol ac yn cynrychioli (1) Enwadau Crefyddol a Chredoau Athronyddol Anghrefyddol (2) Cymdeithasau Athrawon, a (3) yr Awdurdod Lleol, a chyfeiriodd yr Ymgynghorydd AG at y gofyniad i bob pwyllgor bleidleisio ar wahân ar argymhellion yr adroddiad.   Pleidleisiodd y pwyllgor yn unfrydol -

 

O BLAID cynghori’r awdurdod lleol i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig.

 

 

7.

CCYSAGC pdf eicon PDF 171 KB

(a)  Derbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas, a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021, a

 

Cytuno pwy fydd yn bresennol yng nghyfarfod nesaf CCYSAGC – y dyddiad i’w gadarnhau.  

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG wybod nad oedd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 ar gael i’w rhannu eto, ond noddodd bod y cyfarfod wedi canolbwyntio ar y canllawiau CGM yn bennaf.   Cyfeiriodd aelodau at wefan Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGC) https://wasacre.org.uk/ a oedd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys rhaglenni a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol, yn ogystal â llawlyfr ar gyfer aelodau CYSAG sy’n adlewyrchu newidiadau a gwybodaeth deddfwriaethol ddiweddar mewn perthynas â gwaith CYSAG a CCYSAGC.  Nodwyd bod dyddiad cyfarfod nesaf CCYSAGC i’w gadarnhau.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad ar lafar  gan yr Ymgynghorydd AG.

 

 

8.

DYDDIAD CYFARFODYDD NESAF

·         23 Mehefin 2021

19 Hydref 2022

Cofnodion:

Cadarnhawyd dyddiadau cyfarfodydd CYSAG 2022 fel a ganlyn:

 

23 Mehefin (dydd Iau) a 19 Hydref (dydd Mercher).

 

I gloi diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd AD am ei waith caled yn cefnogi’r CYSAG a diolchodd hefyd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 am.