Agenda and draft minutes
Lleoliad: VIA VIDEO CONFERENCE
Cyswllt: Committee Administrator E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r
gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws,
cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor
i’r cyhoedd. |
|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 35 KB Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 291 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod CYSAG Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 2 Chwefror
2021. (copi ynghlwm) Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Ymgynghorol
Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021 (wedi’u
cylchredeg yn flaenorol). PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021 fel cofnod cywir. |
|
CADARNHAU’R CADEIRYDD A'R IS-GADEIRYDD Cadarnhau
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y tymor presennol.
Cofnodion: Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG wybod i Aelodau y
byddai’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn newid yn nhymor yr hydref. Ni
fyddai’r Is-gadeirydd presennol, Dominic Oakes yn gallu cymryd rôl y Cadeirydd
oherwydd ymrwymiadau gwaith. Felly, gofynnodd yr Ymgynghorydd AG am i
enwebiadau gael eu hanfon ato cyn cyfarfod mis Hydref. PENDERFYNWYD anfon
enwebiadau ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd at yr Ymgynghorydd AG cyn
cyfarfod CYSAG mis Hydref. |
|
CWRICWLWM CYMRU: CANLLAWIAU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG PDF 14 KB Cytuno ar ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
ar gyhoeddi canllawiau Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg. Mae’r cyfnod
ymgynghori yn dod i ben ar 16 Gorffennaf 2021. (copi ynghlwm) a) Dogfennau Ymgynghori: https://gov.wales/guidance-design-and-delivery-mandatory-religion-values-and-ethics-rve b) Dogfen Ganllawiau: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG adroddiad ar Ganllawiau Cwricwlwm Cymru:
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Rhoddodd yr Ymgynghorydd AG wybod i Aelodau fod
Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyhoeddi canllawiau Crefydd, Gwerthoedd a
Moeseg. Mae’n bosib y bydd y
canllawiau’n rhan sylweddol o Faes Llafur Cytunedig Sir Ddinbych. Cyn y cyfarfod, roedd dolenni wedi eu hanfon at bob aelod o’r CYSAG, sef y
ddogfennaeth ymgynghori a’r arweiniad i’r ymgynghoriad. Roedd Eglwys San Silyn, Wrecsam wedi creu fideo oedd yn rhoi trosolwg clir
o’r ymgynghoriad. Roedd y fideo ymgynghoriad yn cynnwys saith lens: ·
Chwilio
am ystyr a phwrpas ·
Y byd
naturiol a phethau byw ·
Adnabod
a pherthyn ·
Awdurdod
a dylanwad ·
Perthnasoedd
a chyfrifoldebau ·
Gwerthoedd
a moeseg ·
Taith
bywyd Aeth yr Ymgynghorydd AG drwy’r holiadur oedd yn
cynnwys 10 cwestiwn, a dywedodd, pe gallai Aelodau gymryd amser i ail-wylio'r
fideo eto a mynd drwy'r ddogfen ymgynghori, gallent anfon cwestiynau neu
ddatganiadau ato cyn yr wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf. Ymatebodd Aelodau i’r gwahanol gwestiynau a
chadarnhau y byddent yn craffu ar y ddogfen ymgynghori ac ymateb i’r
Ymgynghorydd AG cyn yr wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf. PENDERFYNWYD y byddai Aelodau'r CYSAG yn trafod ac yn
cytuno ar ymatebion i’r ddogfen ymgynghori. |
|
ANNOG AMRYWIAETH O GYNRYCHIOLAETH AR Y CYSAG PDF 146 KB Trafod sut y
gallai’r gynrychiolaeth o’r credoau amrywiol yn Sir Ddinbych gefnogi gwaith
CYSAG wrth iddo barhau i gynghori’r Awdurdod Lleol a chefnogi ysgolion. (copi
ynghlwm) Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG yr adroddiad Annog Amrywiaeth o
Gynrychiolaeth ar y CYSAG. Yn y cyfarfod blaenorol, nododd yr aelodau’r diffyg amrywiaeth o
gynrychiolaeth ar y CYSAG. Trafododd yr Aelodau sut y gallai’r gynrychiolaeth o gredoau amrywiol gan
drigolion Sir Ddinbych gefnogi gwaith CYSAG wrth iddo barhau i gynghori’r
Awdurdod Lleol a chefnogi ysgolion. Cadarnhawyd bod newid wedi’i wneud mewn llawer o
ysgolion i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gredoau. Roedd
wedi bod yn anodd cael cynrychiolaeth o rai credoau ar y CYSAG, e.e.: Mwslim a
dyneiddwyr. Byddai bod yn gynrychiolydd ar CYSAG yn gyfle i aelodau o gredoau
gwahanol gael dweud eu barn. Gan fod Cynghorwyr yn ymwybodol o’r credoau
gwahanol yn eu cymunedau, gellid creu rhestr o gysylltiadau ar gyfer
cynrychiolwyr y credoau gwahanol. Gellid cysylltu â Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned i ddarganfod pa grwpiau oedd yn defnyddio eu canolfannau
cymunedol. Cadarnhawyd y byddai cynllun gweithredu yn cael ei
greu yn ystod yr haf ac y byddai’n cael ei ddefnyddio fel dogfen fyw yn y
dyfodol. PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn trafod sut y gallai
CYSAG dynnu ar y safbwyntiau amrywiol e.e. cynrychiolaeth neu gyflwyniadau gan
Aelodau. Cynllun Gweithredu i gael ei roi at ei gilydd a’i gyflwyno i aelodau
yn yr hydref. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Gwanwyn ar 23 Mawrth a diweddariad ar lafar o
gyfarfod yr Haf ar 16 Mehefin 2021. (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd AG, Phil Lord ei fod
wedi mynychu cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg
Grefyddol Cymru yr wythnos flaenorol. Roedd cofnodion cyfarfod y gwanwyn a gynhaliwyd ar
23 Mawrth wedi cael eu cylchredeg yn flaenorol i Aelodau er gwybodaeth. PENDERFYNWYD, y bydd aelodau’r CYSAG yn: ·
Derbyn cofnodion cyfarfod y
Gwanwyn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth. ·
Derbyn diweddariad ar lafar o
gyfarfod yr Haf a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf 20 Hydref 2021 Cofnodion: Dyddiad cyfarfod
nesaf y CYSAG fyddai 20 Hydref 2021. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:03 p.m. |